Teitl Casgliad: Dydd

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Cambrian News Ltd.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 2 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
5 erthygl ar y dudalen hon
BETH AM WARSAW

BETH AM WARSAW? Mae yr hyn aysgrifenwyd yn y llythyr yr wythnos ddiweddaf ynglyn a Warsaw wedi cael ei wireddu. Ceisio enill y ddwy rheilffordd, y naill i'r gogledd a'r Hall i'r deheu o Warsaw, y mae Byddinoedd Ger- mani. Er pan ysgrifenwyd y llythyr di- weddaf enillodd Mackensen ran o reilffordd sy'n rhedeg o Warsaw drwy Lublin a Cholm. Pan ddaeth y newydd, gwan- haodd gobaith llu. Credent fod tynged Warsaw wedi cael ei selio, a disgwylient bob dydd glywed y newydd trist fod Warsaw wedi cwympo. Croesodd Mackensen y rheilffordd rhwng Lublin a Cholm,—ond methodd er pob ymdrech fyned ymhellach. Trodd y i Rwsiaid arno yno, ac ar waethaf pob ym- drech galed a beiddgar o'i eiddo, rhwystr- asant ef i fyned ymlaen. Rhywbeth tebyg a fu gyda rheilffordd y gogledd, o Warsaw i Bielostock. Nid yw'r Ger- maniaid wedi cyrhaedd o fewn 20 milltir i'r rheilffordd honno hyd yn hyn. Yn wir gyrrwyd eu byddinoedd yn ol mewn rhai manau pwysig, gyda cholledion dir- fawr, ar ol tridiau o ymladd caled iawn. Dywedir fod un fyddin gyfan o Germaniaid wedi cael ei llwyr prchfygu. 4 Yn awr golyga hyn un o ddau beth 1. Mae yr Archdduc Nicholas yn ym- ladd yn galed i ddal y Germaniaid ynol tra caffo yntau gyfle ac amser i symud corff mawr ei fyddin a'i holl gyfarpar o Warsaw i le mwy diogel; neu 2. Mae wedi penderfynu sefyll yn Warsaw, ac ymladd yno hyd farw. Os hyn a wna rhaid ei fod yn teimlo, yn ber- ffaith hyderus am y canlyniad, canys nid gwr i ymladd brwvdr ddiobaith yw Nicholas. Gannad pa un bynag or ddau beth hyn sydd wir, argoela yn ddrwg ar Germani a'i hamcanion uniongyrchol.

II CWYMP WARSAW

I CWYMP WARSAW. Wedi ysgrifenu yr uchod, daeth y new- ydd am gwymp Warsaw. Nid wyf am fychanu gwerth uaiongyrchol enill y ddinas i Germani. Mae yn ergyd trwm ar y goreu i Rwsia-ac i ninnau. Bydd yn sicr o ychwanegu rhai misoedd at barhad y rhyfel. Yr wythnos nesaf ceisir myned i mewn yn llawnach i'r mater a'i ganlyniadau. Ond yn y cyfamser, da fydd cadw dalf neu dri o bethau pwysig mewn cof, sef:— 1. Yr oedd yr Archdduc Nicholas t?? gweled er's tair wythnos yn ol y rhaid iddo gilio yn ol o Warsaw. 2. Gwnaeth felly fel y gwnaeth yn Lemberg—symudodd ei fyddin a'i gyfar- par oddiyno mewn pryd. Dyna paham yr ymladdai mor ffyrnig yn erbyn Mack- ensen ar v deheu, ac yn erbyn Buelow ar y gogledd. Pan dnaeth v Germaniaid i'r ddinas nid oedd )oo ysbail rhyfel o fath yn v bvd yn eu haros. 3. Llithrodd yr Archdduc a'i fyddin yn ddihangol o'r trap cyn iddo gau. Torwyd y pontvdd dros yr afon cyn encilio. FEr cysur i'r darllenydd, darllcried yn oialus y paragraff nesaf eto fel rhagymad- rodd i'r hyn a fydd genyf i'w ddweyd yr -wythnos'nesf.

YMHA LE Y TERY GERMANI NESAF i

YMHA LE Y TERY GERMANI NESAF ? Cwestiwn arall a ofynir yn ami y dydd- iau hyn yw: Ymha le y tery Germani nesaf ? Cwestiwn sy'n blino llawer yw. Mewn dychymyg gwelant Warsaw wedi cwympo, a Byddin fawr Rwsia wedi cael ei chornelu, neu ei gwneud yn ddiniwed, a chanoedd o filoedd o filwyr Germani yn rhydd i ddod yn ol i'r gorllewin, i ruthro drwy ein Byddin ni yn Ffraiuc i fedd- ianu Calais a'r arfordir ac oddiyno i ymosod ar longau a glannau Lloegr. Pobl rhwydd eu dychrynu gan fwganod o'u creadigaeth hwy eu hunain yw'r bobl hyn. Nodaf ychydig ffeithiau syml i symud eu hofnau a'u pryderon. j Ceisiodd Germani wneud y rhuthr ym mis Hydref llynedd. Y pryd hwnw yr 1 I oedd gan y Gaidar fwy o nerth mewn dynion ac mewn cyflegrau mewn cymhariaeth i nerth byddinoedd Prydain a Ffrainc nag y sydd ganddo yn awr. Os methodd y 'I pryd hwnw, pa obaith sydd ganddo y llwydda yn awr pan mae byddinoedd Ffrainc a Phrydain mewn cymhariaeth I yn gryfach na'i eiddo ef ? j Dyledswydd ac amcan cyntaf pob Maes- lywydd yw cymeryd rhagofal am y man He mae'r perygl yn fwyaf. Nid yn Ffrainc y mae hyny ar hyn o bryd. Mae i llawer mwy o berygl i Germani o'r Eidal I ar hyn o bryd nag sydd iddi yn Ffrainc. Os gweithia Byddin yr Eidal ei ffordd yin mlaen ychydig eto bydd y perygl i Germani drwy Awstria yn ddifrifol. Ynfydrwydd fuasai gwastraffu nerth i ymosod arnom yn Ffrainc a gadael drws y cefn yn agored i Fyddin yr Eidal. Ond mae perygl mwy i Germani na hyd yn oed yr Eidal. Y perygl mwyaf i Germani heddyw yw y Dardanels. Pe syrthiai Warsaw i ddwylo'r Caisar yfory, I a phe enillem ninnau'r Dardanels tranoeth byddai enill Warsaw yn hollol ddifudd iddo. Mae enill y Dardanels yn golygu Cwymp Caer Cystenyn. Pan syrthia I Caer Cystenyn, rhaid i Bwlgaria a Rumania ymuno a ni. Eu rhwystro i wneud hyny I yw un amcan mawr yr ymosodiad presenol ar Warsaw. Heblaw hyny bydd enill y Dardariels yn golygu arfogi miliynau eraill milwyr Rwsia yn erbyn Germani. Os ca'r Caisar filwyr yn rhydd i ymosod yn rhywle heblaw ar Rwsia, tua'r Dardanels y try ei wyneb gyntaf, ac yna tua'r Eidal, cyn troi at Ffrainc. A

I i IIYN Y DARDANELS I

YN Y DARDANELS. Er mai araf y symudir ymlaen yn y Dardanels, dengys y llythyrau preifat a geir oddiyno, yn o-ystal a'r adroddiadau -iillwyr vno yn cyf- swyddogol, fod ein milwyr yno yn cyf- lawni gorchestion o dan anfanteision ac anhawsterau digymar. Ceir llg i feddl I fod gallu'r gelyn i wrthsefyll cyd-ymosod- | iad Ffrainc a Phrydain yno yn gwanhau,— a hyny am ddau reswm,sef 1. Mae cm suddlongau ni ym Mor Marmora, a llynges Rwsia yn y Mor Du, yn ei gwneud yn fwy-fwv anhawdd o'r naill ddydd i'r llall i gludo cyfarpar ae adgyfnerthion i Fyddin y Twrc sydd yn ein gwrthsefyll. Llwyddodd sudd-longau. Prydain eto yrwvtl-inos ddiweddaf i ddi- j fetha llawer o gyfarpar Tyrcaidd ar dir a mor. Yr oedd clud -longau Tyrcaidd yn dwyn gynnau mawrion a'u cyfarpar dros- odd i Gallipoli o Asia Leiaf, ac er nad oedd ganddynt ond ychydig filltiroedd o for- daith, ymosodwyd arnynt gan sudd-longau Prydeinig, a suddwyd hwynt a'u llwythi. Mae Llynges Rwsia yn y Mor Du, hithau wedi suddo o fewn y pythefnos diweddaf dros gant o glud-longau y Tyrciaid oeddent yn cario cyfarpar i'r fyddin. Dyna un rheswm dros fod Germani yn ymosod mor ffyrnig yn Poland, gan obeithio y geill yn fuan, ar ol rhoi dyrnod i Rwsia, ruthro ar Serbia, a chael llwybr rhydd i gludo milwyr a chyfarpar i gynorthwyo Twrci i'n gwrth- sefyll. Rhedegfa yw hi rhyngom ni yn y Dardanels a'r Germaniaid yn Poland. 2. Gwyddis fod milwyr Twrci wedi blino ar y rhyfel, ac yn awyddus i ildio. Ond rhagwelodd y Caisar y perygl. Myn- odd osod swyddogion Germanaidd ar Fyddin Twrci, a rhoddwyd gorchymyn caeth allan i saethu unrhyw filwr a geisia ddianc o'r frwydr, ac i droi cyflegrau Twrci i danio ar unrhyw adran o unrhyw gatrawd a welir am daflu eu harfau i lawr.—Enver Pasha yw'r Twrc sydd yn gwneuthur ewyllys y Caisar yn Llywodraeth Twrci, a dywedir fod y Caisar am ei wneud yn Sultan (neu Frenin) Twrci yn lie yr etifedd, mab y Sultan, yr hwn sydd am wneud heddwch a Phrydain..

Ikl1 YR EIDAL ETO

kl.1 YR EIDAL ETO. Pan ysgrifenir hanes y Rhyfel yn 11 awn ceir gweled fod yr Eidal wedi dangos gwr- hydri liafal i'r goreu o neb a fu'n brwydro. Anhawdd yw' rhoddi disgrifiad clir o'r hyn sydd wedi; ac yn cymeryd lie yno. Cyn dechreil y Rhyfel yr oedd y cyffindir rhwng Teyrnas yr Eidal ac Ymherodraeth Awstria gan mwyaf yn wastadedd. Gynt yr oedd y cyffindir yn y Mynydd-dir tu hwnt i'r gwastadedd. Ond meddianwyd y Myn- ydd-dir hwnw, a rhan o'r gwastadedd flwyddi lawer yn ol adeg rhyfel y ddwy wlad, gan Awstria, fel y meddianodd Ger- mani Alsace a Lorraine oddiar Ffrainc yn 1870. Wedi meddianu'r mynydd dir hwnw gwnaeth Awstria nifer o gaerfeydd a chadarnfeydd ynddynt i wrthsefyll unrhyw ymosodiad. Gwelir felly pan dorodd y Rhyfel hwn allan mai ar ochr Awstria yn unig y gellid cau a bolltio'r drws. Caffai A wstria ddrws agored i'w Byddin hi i ymosod ar yr Eidal. Ond drws cauedig wedi ei gloi a'i folltio oedd yn gwynebu Byddin yr Eidal pan yn ymosod ar Awstria. Ceisio agor y drws hwnw y mae Cadorno, Maeslywydd yr Eidal, wedi bod yn wneud hyd yn hyn. Ac os meddylir nid am un drws, ond am ddwsin ohonynt, ac yn ami ddau neu dri drws ar yr un ffordd fawr, ceir gwell syniad fyth o anhawsterau yr Eidal. Gwaith cyntaf Cadorno ar ol gwthio un drws yn agored yw gosod y clo a'r bollt ar ochr vr Eidal yn lie ar ochr Awstria i'r drws, fel pan geisia'r Awstriaid a'r German- iaid ymosod ar yr Eidal y cant hwytliau ddrysau cauedig ac wedi eu bolltio, yn lie drysau agored i'w Byddinoedd. Brwydrau i enill y drysau yn unig a fu brwydrau yr Eidal hyd yn hyn. Brwydrau ofnadwy a fuont. Enillwyd drws ar ol drws a phan enillir y drws olaf, bydd Byddin yr Eidal yn ei chyfangorff, yn. rhydd i weithredu lie y mynno., Mae'r dydd yn agoshau. I