Teitl Casgliad: Dydd

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Cambrian News Ltd.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 3 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
5 erthygl ar y dudalen hon
AT OLYCYDD Y DYDD

AT OLYCYDD Y DYDD." Mr. Gol. I Da genyf ddweyd wrth ddarllenwyr I y Dydd fod cyflwr y ffordd sydd yn myned heibio Aberneint yn dra boddhaol erbyn hyn. Dymunaf alw eich sylw yn neillduol at y gwragedd a'r merched ieuainc sydd yn I arfer golchi cerryg eu drysau ar foreuau Sabbath. Dymunaf arnoch beidio o hyn allan os gwelaf hyn eto, enw y strydoedd lie y gwneir hyn a wneir yn hysbys, ond ataliaf rhag hyny y tro yma. Yr wyf-I yn gweled un hen lane yn gwneud hyn yn gyson bob Sabbath; cynghoraf hwn i I chwilio am wraig dda, a wna hyn gyda ] phethau eraill yn brydlon dydd Sadwrn. II Os oes angen dysgu y wers o Ostyng- j eiddrwydd ar rywun, eled i fyny Wtra y Vron, i gyfeiriad Penybanc. Da fyddai I cael gwell golwg ar y lie prydferth hwn nag y sydd. Wedi darllen ac ystyried yr hyn ym- ddanghosodd yn y rhifyn diweddaf o'r Dydd parthed Cyfarfod Ysgol Rhiw- spardyn,—a mi yn crwydro y dydd o'r blaen yn yr ardal, ymholais ai gwir oedd yr helynt honedig, a hyn a ffeindiais, yn ol y tystiolaethau, fod dwy glust eich Gohebydd yn ymdebygu i glustiau y cre- adur bychan ystyfnig hwnw a welais am- bell waith gan tinsmiths Coed Ffridd- arw, a bod rhy ychydig cydrhwng y ddwy glust i allu profi pethau sydd a gwa- haniaeth rhyngddynt. Gyda phriodol- deb gellir dweyd, Y meddyg, iacha dy hun." Nid oes ball ar ganu clodydd i'r Parch. W. Pari Huws, a Mr. R. Guthrie Jones, am eu gwroldeb yn sefyll yn gadarn dros egwyddorion iachus Rhyddfrydiaeth.— Gofid i lawer oedd gweled ambell un oedd yn proffesu eu cofleidio, yn eu hanghofio. Digalon i'r eithaf ydyw sylwi ar y parch I neu yn hytrach yr anmharch a gaiff y dydd Sabbath, hyd yn oed yn Nolgellau. Ai tybed, mewn gwirionedd, fod dyhead pobloedd yn fwy angerddol am bapurau newydd nag am gysegredigrwydd y di- wrnod ? Beth yw dylanwad hyn ar y byd tuallan i'r eglwys, ac yn enwedig ar fywydau yr hogiau bach sydd yn eu gwerthu ar hyd yr heolydd, 'does ond y nefoedd a wyr. Disgwyliwn yn fawr y bydd i'r gwartlmod hwn sydd ar enw da ein tref, gael ei symud yn fuan, yn ogystal a'r chwilota tomenau lludw sydd yn myned ymlaen ar yr un dydd. Credaf iod galw sylw at hyn drwy gyfrwng eich I newyddiadur yn dra phriodol. Y tro nesaf, gwnaf ychydig sylwadau j ar y Pwyllgor newydd-anedig-y Fly- j Committee," yr hyn o'i gyfieithu yw Pwyllgor y Gwybed," ynghyd a rhoi I 7chydig o recipes i'r aelodau, a fyddo yn I aatais iddynt eu dala. CRWYDRYN.' 000 ) Mae y Brenin wedi rhoddi bathodyn ar- iai am achub bywydau i Leslie N. Norton afoseph Parry, dau o griw y Lusitania.

PENNAL I

PENNAL. I Edrychid yn mlaen at ddydd Mercher diweddaf gyda gradd helaeth o ddyddordeb yn v lie hwn, yn gymaint mai dyna'r dydd yr unid mewn glan briodas Mr. John j Evans, Tycapel, Soar, ger Machynlleth, gyda Miss Mary Evans, Tower Road, ( Pennal, wyres i'r diweddar Mr. Richard Evans, Maesyrhelmau, ger Dolgellau. ( Cymerodd y seremoni le yn nghapel yr Annibynwyr, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. E. Wnion Evans, yn cael ei gyn- orthwyo gan y Parch. 0. Davies, gweinidog newydd yr eglwys, ac yn mhresenoldeb y Cofrestrydd, Mr. William Jones, Aber- dyfi. Yr oedd tyrfa dda wedi ymgasglu i'r capel i fod yn llygad-dyst o'r amgylch- iad, am fod y naill a'r Hall yn adnabyddus yn y lie. Wedi i'r gwasanaeth fyned heibio, aed i Tower Road, trigle tad a mam y ferch ieuanc i fwynhau gwledd ardderch- og oedd wedi cael ei darparu a chafwyd cwrdd ar ol hyny i ddymuno yn dda i'r I par ieuanc, pa rai sydd wedi derbyn an- rhegion lawer a chostus. Yn mysg y siaradwyr yr oedd y ddau Weinidog, ac adroddodd Wnion y llinellau canlynol ar yr achlysur:- I Gwened heulwen ar eu modrwy,— Llonder lanwo'u bryd Na ddoed croesau i deyrnasu. Nac i chwerwi'u byd; Bywyd yn ei lawn felusder Fyddo'u bywyd mwy, N es y gwelir ei rinweddau Yn eu harddu hwy.. Yn yr Undeb ordeiniedig ¡ Dalient yn eu serch, Nid oes dim ond cariad cyson, Una mab a merch; Dyma'r hyn sy'n gwneud priodas Yn un anwyl iawn,- Dyma'r hyn sy'n meddu'n hyfryd Ei fendithion llawn. Cwlwm serch yn ngwenau Cariad I: Wnaed yn gryf a glan; Tannau serch eu telyn swynol A wynfyda'u can; Ffawd ddilyno'u llwybrau'n amlwg 1 Drwy eu hoes i gyd; Ac a lanwo'u cartref newydd Ar eu haelwyd glyd. 000 J

I I I 111ICANLLWYD II

I 1 11 CANLLWYD. Nos Fercher, y 4ydd cyfisol, cynhaliwyd Cyfarfod Cyhoeddus ar yr achlysur o j ymadawiad y Parch. Owen Davies a'r teulu i ymsefydlu yn Pennal, Machynlleth. Treuliwyd y rhan gyntaf o'r cyfarfod ar ffurf cwrdd gweddio. A tharawiadol iawn j oedd mai y tri ddarfu weinyddu yn y rhan flaenaf oedd y tad a'r ddau fab,-Mri. R. O. Davies a T*. Samuel Davies. Yna cafwyd gair gan amryw o'r brodyr, yn j datgan eu dymuniadau da i Mr. Davies j a'r teulu yn eu maes newydd. Ar y terfyn, cyftwynwyd pwrs, pa un oedd yn cynwys swm sylweddol o aur, i Mr. Davies. Y teimlad cyffredinol yw, y bydd y golled a achbsir trwy ymadawiad Mr. Davies o'r < cylch yn ffaith ofidus, fydd yn cael ei syl- j weddoli fwy-fwy am flynyddoedd i ddod. Gohebydd I V 1 1 1 ? 1,

ER COF CU f

ER COF CU f Am fy Nith, Miss Lowry R. Jones. Arran House, Dolgellau, a hunodd Awst lleg, 1914. Bhv) ddyn o alar prudd-lethol i ni, Ond dechreu tragwyddol Nefoedd i ti Crogi ein telyn mewn hiraeth a wnawn, Tithau'n telynu canigau yr lawn. Ond derfydd yr hiraeth, ni phery o hyd, Cawn uno a Lowry mewn mil gwynach byd; Lie na ddaw un gwendid lesteiria ein hoen, Ond Nefoedd ddigwmwl, heb swmbwl na phoen. Nid wyf am ffarwelio, dof finau cyn hir, O'r cystudd a'r hiraeth, i wynfyd Nef, bur, A phan byddwy'n croesi'n llaw Ceidwad y gwan, Disgwyliaf y deui i'm cwrdd at y lan. Corns. H. R. WILLIAMS (Llwydrudd). 000

I iOWN MAWR DUNKIRK

I OWN MAWR DUNKIRK. Yn yr Eisteddfod ym Mangor, ceisiodd un o'n Beirdd Cadeiriol mwyaf adnabyddus gennyf osod nodyn yn y Dydd yr wythnos hon yn egluro dirgelwch y gwn mawr sydd wedi bod yn tanio o wersyll Germani ar Dunkirk, 20 milltir o bellter. Ebe'r cyfaill Bwriwch fod y Germaniaid yn gallu cyrhaedd i gyffiniau glan y mor yn Ffrainc, a'r gynnau mawr hyn ganddynt. Beth fuasai'r canlyniad ? Dro yn ol aeth llong- au rhyfel Prydain yn ddigon agos i'r lan i danio ar fyddin Germani. Yr oedd cyf- legrau'r llongau rhyfel yn saethu ymhellach na'r gynnau oedd gan y Germaniaid y pryd hwnw. Ond sut buasai hi yn awr gyda'r gwn mawr yma ? A feiddiai llongau- rhyfel ddod yn ddigon agos i rwystro bydd- in Germani ar y tir gerllaw y mor ?" Dyna gwestiwn sydd, o bosibl, yn blino meddyliau rhai heblaw y Cadeirfardd hwn. Ceisiaf ateb .— Nid yw yn debyg y gwna bodolaeth y gynnau mawr sydd yn gallu saethu peleni dros 20 milltir o ffordd nemawr ddim gwa- haniaeth i longau rhyfel Prydain rhagor nag a wnaeth y cyflegrau llai oedd gan Germani o'r blaen. Gwyr pob saethwr ei bod yn fwy an- hawdd taro a bwled pan yn saethu os bydd y gwrthrych yr anelir ato yn symud. Dyna anhawster y suddlongai. Os bydd Hong yn symud yn gyflym an ami iawn y medrir ei tharo a torpedo os na bydd y suddlong yn agosiawri.ati. Pe b a e' r Hong rhyi-el yn a.ros yn ei hunfan rhwydd fuasai ei tharo gan y gwn mawr ar y tir neu gan y suddlong yn y dyfnderl Eithr nid felly os bydd hi yn symud yn gyflym ac yn newid ei chyfeiriad yn ami. Ar y llaw arall gwaith cymharol hawdd a fyddai i'r llortg rhyfel er ei hun ym morio yn gyflym, i daro gwrthrych sefydlog ar y tir. Mae dyfais ddiweddar wedi galluogi ein morwyr i wybod cyn tanio ymka le, o fewn ychydig iawn o latheni, y disgyna'r belen a danir oddiar y llong. Gellir hefyd newid cyfeiriad taith y llong mor ami ag y mynir heb ddyrysu dim ar gywirdeb y man He y disgyna'r belen, pa un bynag ai morio yn araf ai yn gyflym a fydd y llong. ?-