Teitl Casgliad: Dydd

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Cambrian News Ltd.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 3 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
5 erthygl ar y dudalen hon
I Y SEFYLLFA Ytt FFRAINC

(Parhad o tudalen 2.) 1 Dyna paham y mae Germani yn gwario ei milwyr wrth yr ugain mil yn Rwsia yn y gobaith y geill drwy hyny ddifa Byddin I Rwsia, ac felly dwyn y Rhyfel i derfyn. Gyda phob ymosodiad o'i heiddo yn Ger- j mani, mae yn colli ei nerth i wrthsefyll Byddinoedd Ffrainc a Phrydain pan ddaw yr ymosodiad mawr oddiwrthynt hwy. I Gwelir felly y gwahaniaeth rhwng rhaid I a brys Germani, a rhaid ac arafwch Prydain a Ffrainc. Mae fel pe bae dau ddyn, I eill inewn angen o'r un neu gyffelyb bethau. Mae y cyntaf yn gwybod os na fedr efe ei gael o fewn ychydig amser y cyll efe y cyfle fw gael am byth. Boddlona felly i dalu llawer mwy na'i werth am dano er mwyn ei gael ar unwaith. Tybier fod y peth ynddo ei hun yn werth can' punt. Boddlon fydd y cyntaf i dalu deucant neu dri er mwyn ei gael yn ddioed rhag ei golli am byth. Mae ar y Hall Ilawn gymaint o angen y peth a'r cyntaf. Ond gwyr efe os gall aros am chwe' mis hebddo, y gall efe ei gael y pryd hwnw am haner canpunt yn lie cant, a gan y gall efe fforddio aros, byddai yn ffol iawn i dalu cant am yr hyn y gall efe ei gael ymhen tipyn am haner cant. Dyna yn hollol y gwahaniaeth rhwng Germani yn Rwsia, a ni yn Ffrainc. Rhaid yw i Germani, nid yn unig enill y fuddugol- iaeth ar Rwsia, ond ei henill yn ddioed neu golli pob gobaith am dani. Dyna paham y gwaria efe ei wyr mor afradlon. Gwel fod y gaeaf yn agoshau, ac y bydd hwnw yn elyn gwaeth iddo ef a'i fyddin- oedd na holl lu Rwsia. Os na fedr efe ddifodi Byddin Rwsia cyn daw'r gaeaf ar ei warthaf ar y gwastadeddau ofnadwy hyny, druan o hono. Bydd y Rwsiaid yn eu gwlad eu hun. Maent hwy yn gynefin a'r gaeaf caled a'i beryglon. Bydd y Germaniaid mewn gwlad ddyeithr, ynghanol gelynion yn barod i ymosod ar- nynt beunydd,-a hwythau heb foddion priodol i wrthsefyll erchylldra'r tywydd. Nid felly ni yn Ffrainc. Gallwn fforddio aros dri neu chwe' mis arall, gan wybod fod pob dydd o oedi yn golygu talu llai mewn bywydau Prydeinwyr am y fuddug- oliaeth fawr pan ddaw'r amser.

i BETH AM Y DARDANELLES

BETH AM Y DARDANELLES? Ond yn y Dardanels yr ydym ninau rywbeth yn debyg i'r hyn yw Germani yn ¡ Rwsia. Rhaid yw i ninau enill yn y Dardanels yn fuan neu golli pob gobaith am enill yno o gwbl. Dyna paham y gwneir ymosodiadau mor ffyrnig ac y collir cynifer o fywydau ein dewrion yno. Mae lie i ofni y bydd brwydro caletach a choll- edion trymach yn fuan eto yno. Gwyddis erbyn hyn maint ein colledion c fewn y pythefnos diweddaf yno. Glan- iodd dwy fyddin newydd o Brydeinwyr mewn dau fau gwahanol, gan geisio, fel y ceisiai y Germaniaid yn Riga, fyned yn wrthgefn i'r gelyn. Llwyddwyd i lanio yn y ddau le, sef Ariburnu a Suvla Bay. Yr oedd mynydd-dir yn gwynebu y ddwy fyddin ar ol glanio, a'r mynydd-dir hwnw o'r fath natur fel y rhaid cario yn y ddau le, neu buasai safle y fyddin a enillai un o'r ddau yn beryglus os na enillid y Hall hefyd. A dyna, yn anffodus, sut y bu. Enillwyd y mynydd o flaen Ariburnu, ond wedi cyr- haedd copa'r bryniau yno, cafwyd nad oedd y fyddin o Suvla Bay wedi gallu gwneud cystal gwaith. Ymddengys fod byddin gref o'r Tyrciaid wedi ymgasglu y noson gynt gyda'r bwriad o ymosod ar ein gwersyll ni, ond heb wybod am y fyddin newydd oedd ar lanio genym. Collodd y Tyrciaid y cyfle i ymosod ar ein gwersyll, ond yr oeddent yn gyfleus i wrthsefyll ein byddin ni yn Suvla Bay. Y canlyn- iad oedd methu cyrhaedd y nod genym yn Suvla Bay, a thrwy hyny orfodi ein byddin oedd wedi enill copa'r mynydd yn Ariburnu i gilio ychydig yn ol o ben y mynydd. Gwneir yr ymdrech eto yn fuan yn y ddau le, a brwydr waedlyd ofnadwy a fydd. éVéVéV

iAT OLYCYDD Y DYDD

AT OLYCYDD Y DYDD." Mr. Gol., Gwelaf fy mod trwy fy nodyn yr wyth- nos x'r blaen yn y Dydd wedi cynhyrfu hen ardal dawel Penycefn i'w gwaelodion, fel ag i achosi iddi ymbersonoli ac anfon llythyr o brotest i'ch newyddiadur am fy mod wedi meiddio dweyd y gwir. Nid wyf, Mr. Gol., yn chwenychu dadleu a Penycefn ar y mater llosgawl o Orfod- aeth Filwrol; gan fy mod yn ddigon rhyddfrydig fy ysbryd i ganiatau i arall fel i mi fy hunan ryddid barn ar gwestiynau o'r fath. Ond ai tybed a yw Penycefn wedi ystyried y1 cwestiwn yn ddifrifol a gonest arfi eiliad ? Prin, mi gredaf. Onid yw Penycefn wedi dysgu hyny eto,-mai Militariaeth Germani sydd yn gyfrifol am y Rhyfel echrydus hwn ? Ac i ladd yr ysbryd hwn yn y Germaniaid, yn ogystal ag i amddiffyn Belgium a ni ein hunain, yr ydym allan heddyw yn ymladd. Ac eto, dyma Penycefn am gael gan Brydain fynwesu y sarff ag sydd yn peri cymaint o ddifrod ar ein byd. Ac nid yn unig hyny. Beth sydd gan Penycefn yn erbyn y gyfundrefn Wir- foddol ? A ydyw yn fethiant ? Os gall brofi hyny, fe wna beth nad all Lord Northcliffe mo'i wneud, er ceisio. Mae rhyddid gwerin Prydain wedi costio yn ddrud i'n tadau, a thybed ein bod ni y plant yn foddlon i ambell grac o Lordyn a'i gynffonwyr i fyned a'n rhyddid oddi- arnom, ac i ryw caste i lywio y werin fel y mynont hwy ? Choelia'i fawr. Eto, dyma un o fendithion (?) Gorfodaeth Filwr- ol. Ac onid yw y gyfundrefn Wirfoddol yn eyflenwi nifer mwy o ddynion, nag mae diwydianau y wlad yn gallu darparu ar eu cyfer ? Nid oes tystiolaeth i'r gwrth- wyneb i'w gael a wnaiff argyhoeddi un— rhyw feddwl di-ragfarn. A mwy na hyny, Pwy yw Penycefn i sefyll i fyny ac i ddweyd wrth yr awdurdodau milwrol yn ein gwlad beth yw eu dyledswydd, os oes diffyg ar y gyfundrefn hono ? Ac hwyrach mai newydd i "Penycefn" druan i'w clywed fod yna filoedd lawer o ddynion cryfion, ac yn barod i wasanaethu ar yr Home Defence," yn perthyn i'r Volunteer Corps," ac eto mor gyndyn ac amharod yw y Swyddfa Rhyfel fod angen eu gwasanaeth. Ac nid ydynt wedi I symud cam yn mlaen i'w cyflenwi ag arfau I hyd nes gwneir y defnydd priodol o'r ffyn- f onellau sydd eisoes at eu gwasanaeth. j A gwaeth na hyny ydyw siarad am Or- fodaeth Filwrol, wrth i Penycefn" I ddweyd mai llwfriaid yw y dosbarth gweithiol, a'u bod yn cadw yn ol rhag ym- uno. Siara la yn y tywyllwch. Beth wnai Prydain heddyw hebddynt ? Onid hwy yw cadernid Prydain ymhob ystyr ? Ie, a mwy na hyny, Pwy sydd yn aberthu mwyaf heddyw dros eu gwlad ? Fe ddy- I wedodd y Cadfridog Owen Thomas yn Llandudno, ychydig amser yn ol, mewn I cyfarfod cyhoeddus, Fod y dosbarth gweithiol wedi ateb galwad eu gwlad yn anrhydeddus, ond fod y dosbarth canol ar ol." Felly, yn ol y Cadfridog Owen Thomas, y middle class" sydd ar ol, ac nid y dosbarth gweithiol fel y jtybia I "Penycefn" druan, yn ei anwybodaeth. Nid wyf yn credu y gwnaiff Epistol Penycefn nemawr les i neb o ddarllen- wyr goleuedig y Dydd," felly cynghora Crwydryn iddo anfon ei lythyr a'i enw i Lord Northcliffe, gan ei fod ef ar hyn o bryd mewn angen llenyddiaeth o'r fath. CRWYDRYN."

i CORCHEST AWYROL I

&&& CORCHEST AWYROL. Fore Iau gwnaed gorchest na fu ei thej>yg cyn hyn er cymaint y gorchestion digyffel- j yb sydd wedi eu cyflawni yn y rhyfel presenol. Yr orchest wnaeth Squadron-Comman- der Arthur W. Bigsworth, oedd dinistrio a suddo un o suddlongau Germani, trwy ollwng pelenau ffrwydrol arni o'i beiriant ehedeg. Gwnaeth yr orchest ei hunan, heb y cymorth lleiaf o unrhyw gyfeinad, ac y mae ei anturiaeth, ei wroldeb a'i Iwydd wedi peri i'w glod gael ei seinio trwy'r gwledydd oil. Peth arall wna ei weithred yn nodedig yw iddi gael ei gwneud ger glannau Bel- gium sydd yn meddiant y gelyn. Er y perygl i gyd, mentrodd yr awyrenwr ieuanc allan a mentrodd ymosod ar y suddlong elynol yn nannedd y Germaniaid i gyd. Gwelwyd fod y suddlong wedi ei dryllio yn ddiadfer cyn iddi suddo gerllaw Ostend. I j (ý)(ý)(ý)

I CAIR AWCRYMIADOL Y MORLYS I

I CAIR AWCRYMIADOL Y MORLYS. I Yn ei adroddiad swyddogol am orchest Squadron-Commander Arthur W. Bigs- worth, dywed y Morlys air awgrymiadol iawn,—gair y deallir ei ystyr yn dda gan liaws mawr yn y wlad, er na cheir mynd i fanylion wrth ei adrodd a son am dano. Dyma'r gair,—" Nid yw'n arferiad gan y Morlys i gyhoeddi adroddiadau ynghylch colledion suddlongau Germani, er mot bwysig y maent wedi bod, mewn achosion am y rhai na fedd y gelyn unrhyw foddion eraill i wybod yr amser a'r lie y cymerodd y colledion hyny le. Yn yr achos yma, fodd bynag, gwnaed gorchest ddisglair Squadron-Commander Bigsworth yn yrayl y traeth sydd yn meddiant y gelyn, ac y mae safle y suddlong wedi ei ffeindio gan un o 'destroyers' Germani." Ni chafwyd o'r blaen adroddiad swydd- ogol fod yr un suddlong elynol wedi ei cholli; ond yr oedd rhai o'r colledion pwysig y sonir yn awr am danynt yn hen hysbys i lawer, yn enwedig i breswylwyr glannau'r môr.