Teitl Casgliad: Dydd

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Cambrian News Ltd.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 3 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
10 erthygl ar y dudalen hon
YMWELIAD Y ZEPPELINS A LLUNDAIN

YMWELIAD Y ZEPPELINS A LLUNDAIN. Lladd 56, a Chlwyfo 155. Dydd Iau, cyhoeddodd y Swyddfa Ryfel y mynegiad canlynol:— Nos Fercher, ymwelodd niter o awyrenau gelynol a rhanau o Lundain a'r siroedd dwyreiniol, a gollyngasant ffrwydbelenau. Ymosodwyd arnynt gan ynau per- thynol i'r R.F.A. Sylwyd ar un o'r awyrenau gelynolyn myned ar ei hochr, ac yn disgyn yn is. Aeth pump o awyrenau Prydeinig fyny, ond, oherwydd y niwl, etc., nii lwyddodd ond un ohonynt i leoli yr awyrenau gelynol. Nis gallodd yr awyren hon, ychwaith, ymosod ar y gelynion, gan iddynt allu dianc yn y niwl. Niweidiwyd rhai tai, ac achoswyd nifer o danau. Ni wnaed niwed difrifol i ddefnyddiau milwrol. Rhoddwyd yr holl danau allan yn fuan gan y tan- ddiffoddwyr. Wele fanylion am y lladdedigion a'r clwyfedigion- Milwyr.—Lladdwyd, 15; clwyf- wyd, 13. Rhai heb fod yn filwyr.—Lladdwyd, 41 anafwyd, 101. Lladdwyd 15 o filwyr 27 o ddyn- ion (heb fod yn filwyr), 9 o ferched, a 5 o blant. Clwyfwyd 13 o filwyr, 64 o ddynion (heb fod yn filwyr), 30 o ferched, a 7 o blant. Allan o'r nifer uchod, lladdwyd 32 ac anafwyd 95 yn LIundain." &??

HUNANLADDIAD MAB I AMAETHWR

HUNANLADDIAD MAB I AMAETHWR. Poeni ynghylch Ymrestru. Yn Rhosnessney, ger Wrecsam, nos Wener, cynhaliwyd ymchwiliad i achos marwolaeth dyn ieuanc o'r enw Joseph Da vies, 19 mlwydd oed, unig fab i am- aethwr driga yn Woodbine Cottage, Rhos- nessney. Tystiwyd i Davies ddweyd wrth was ar y fferm, y byddai iddo saethn ei hunan os byddai i berson neillduol (yr hwn a enwodd) ei boeni ynghylch ymrestru i'r Fyddin. Nos Iau, tra yr oedd y gwas dan sylw yn ) gwisgo am dano mewn Ilofft, clywodd swn saethu, a phan aeth i'r iard gwelodd Davies yn gorwedd mewn Uvn o waed, ac yn farw. Sylwodd y Trengholydd nas gellid gweled bai ar neb am geisio perswadio dynio.n ieuainc i ymuno a'r Fyddin, ond dylid gwneuthur hyny yn y tfordd ddoethaf a mwyaf didramgwydd. Cyn gwneuthur gwawd am ben y sawl na ymunai dylid gwybod ei amgylchiadau i ddechreu. Dychwelwyd rheithfarn i Davies ladd ei hun tra o'i bwyll.

ITRETHI SIR CAERNARFON

TRETHI SIR CAERNARFON. Y mae Pwyllgor Arianol y Cyngor Sir yn awgrymu rhoddi tear bonus i weithwyr v ffyrdd o £1,000. Gobeithir, fodd bynag, allu cadw y dreth heb ei chodi, g an fod treuliau y Pwyllgor Addysg wedi eu gostwng £ 1,000.

I i CUDDIO MILWR

I CUDDIO MILWR. i A nfon tad i gar char. Mewn Llys arbenig gynhaliwyd yng Nghaernarfon, ddydd Mercher yr wythnos ddiweddaf, cyhuddwvd Private Thomas I Parry, milwr, genedigol o'r dref, o absenoli ei hunan o'i Gatrawd (21st Batt. Welsli Regiment) yn Llanelwy, heb ganiatad. Plediodd y diffynydd yn euog. Dywedodd yr Uch-Arolygydd Edward Williams (yr hwn a erlynai) mai dyma y pedwerydd tro i'r diffynydd ddianc oddi- wrth ei Gatrawd er Awst 20fed. Cyflwynwyd ef drosodd i'r awdurdodau milwrol. Yna cyhuddwyd ei dad, William Parry I (64, Mountain Street) o guddio ei fab oddi wrth yr heddlu a'r awdurdodau milwrol.— Plediodd y diffynydd yn ddieuog, gan ddyweyd iddo gadw ei fab yn ei dy er mwyn i'r Heddlu ei ddal yno. Profwyd yr achos gan y Rhingyll J. P. Owen a'r Heddwas George Jones (32), yr hwn a ddywedodd iddo gael y milwr yn ei wely gyda'i dad (y diffynydd). Pan aeth ef (y tyst) i'r ystafell wely cuddiodd William Parry ei fab (Thomas Parry) a ¡ dillad y gwely rhag i'r heddwas ei weled. Anfonwyd y tad i garchar am fis. I (Oc5QGJ

I I iDIWEDD CENETH 0 LANCOLLEN

I DIWEDD CENETH 0 LANCOLLEN. I Gwenwyno ei hun. I Nos Fercher, yr wythnos ddiweddaf, cynhaliwyd trengholiad yn Llangollen i achos marwolaeth Myfanwy Corke, 20 mlwydd oed, yr hon a wenwynodd ei hun gyda carbolic acid. Dywcdodd ei brawd (oedd yn bnod) fod y drancedig yn byw, gydag ef a'i wraig yn Aberaddu terrace Llangollen. Nos Sul, ymddangosai yn bur galonog, ac aeth allan i gyfarfod ei chariad, oedd yn treulio ei wyliau yn Llan- gollen. Yn ddiweddarach clywodd y tyst ruddfan yn y gegin, a chanfyddodd ei chwaer yn anymwybodol, a chwpan o wenwyn gerllaw iddi. Cymerwyd hi i Ysbyty, lie y bu farw y dydd canlynol. Tystiodd David Roberts, Lerpwl, iddo weled Miss Corke, a holodd hi ynghylch straeon daenid am dani. Rhoddodd hi i fyny. Gwadai hi y straeon, ac ym- ddangosai yn llawen. Dychwelwyd rheithfarn iddi gymcryd gwenwyn tra allan o'i phwyll, &J6?Jc5Q

TAN DINYSTRIOL

TAN DINYSTRIOL. Liosgi 11 Fam a'i fihedwar bleniyn. j Y dydd o'r blaen torodd tan allan mewn j ty yn Burnmeen, ger Rathfriland, Swydd I Down, Iwerddon. Credir i< tan gael ei achosi trwy i lusern ffrwydro. Llosgwyd y .ty i'r llawr. Collodd f fam a'i phedwar ple ntyn eu bywydau. Yr oedd ei gwr yn yr eglwys ar y pryd. Oedran y plant I oedd o 16 mis i bedair blynedd. ( Prydnawn Sadwrn caiifyddwyd I ieuanc wedi ei thrywanu mewn heoi allan o Three Colt Street, Llundain. Cymcrwyd Chincaid i'r ddalfa ar y cyhuddiad o'i lladd.

1 MEDDWJN A CHYBYDDION

1 MEDDWJN A CHYBYDDION. Y dydd o'r blaen yr oedd y Parch. Joint Williams, Brynsiencyn, yn ei wisg filwrdt fel caplan y Fyddin Gymreig, yn pregetha yng Ngholwyn Bay. Dywedodd y buasai yn well ganddo ef bregethu i gynulliad » feddwon nag i gynulleidfa o gybyddion. Y mae gobaith," meddai, am iach- awdwriaeth y meddwyn, ond am droed- igaeth y cybydd nid oes dim." Gwel- wyd ami i feddwyn yn dod yn ddyn sabr, ond pwy welodd gybydd yn dod yn ddya hael ? Y mae genym lu o gybyddion ya ein heglwysi, ond tra y goddefir y rhai hya ac y dangosir rhyw gymaint o barcit iddynt, esgymunir y meddwyn, er y gall fod yn llawer gonestach dyn yn ei ym- wneud a i gyd-ddynion na'r cybydd, j crefydd yr hwn nid yw ddim ond rhagrith.

J BARCYFREITHWYR CYMREIG YN Y RHYFEL I

BARCYFREITHWYR CYMREIG YN Y RHYFEL^ I Cymerodd tri bargyfreithiwr Cymretg, ran yn y brwydro yn Suvla Bay, yn Gaifi- poli. Un oedd Mr. T. H. Parry, A.S., yr hwn a glwyfwyd. Y lleill ydyw Mr., Hamlet Roberts, mab y diweddar Ddr. Roberts, Penygroes, a brawd Cyrnol JanIS Roberts a Mr. W. H. Williams, yr hvm. sy'n gwella'n raddol o salwch. Mr. Hamlet Roberts oedd yr ymgeisydd Tori- I aidd aflwyddianus ym Mwrdeisdrefi Ffiittfe yn erbyn Mr. T. H. Parry a Mr. W. fL Williams sydd i fod yn ymgeisydd TorlaiM yng Ngorllewin Dinbych yn erbyn Syr Herbert Roberts yn yr etholiad nesaf., Y mae Mr. T. H. Parry wedi gwella, ac ar fedr dychwelyd i faes y gad. @?@

IYR YMOSODIAD AR Y CADFRIDOC SMUT YR YM0S0DIAD AR Y CADFRIDOC SMUm

I YR YMOSODIAD AR Y CADFRIDOC SMUT& ? YR YM0S0DIAD AR Y CADFRIDOC SMUm Y n Johannesburg, De Affrica, cyhudd- J wyd deg o ddynion ac un ferch o geisio- t anafu neu lofruddio y Cadfridog Smuls j (aelod o'r Weinyddiaeth yno). Tra yr oedd y Cadfridog yn anerch cyfarfod in Newlands o blaid y rhyfel, gwaeddodd am o'r cyhuddedigion, Lladder ef." Netd- iodd eraill ar y bwrdd gan ddangos. a chusanu darluniau o Fourie a Beyers. Dau rebel oedd Fourie a Beyers. Saeth- wyd Fourie fel rebel ar Rhagfyr 20fed, 1914 Bn Beyers foddi wrth geisio croesi vr Afea Vaal ym mis Rhagfyr diweddaf. Traddodwyd yr oil i sefvll eu prawf.

I ADCOFFA TROSEDD I

I ADCOFFA TROSEDD. I I Cofnodir marwolaeth Mrs. M. A. Phillip? yn Nhlotty Caerdydd, yn 78 mlwydd oed.. ■ Bu ideli hanes rhyfedd. Yn 1888 dedfrvd- wyd hi i farwolaeth am ladd ei gwr. PaI/t roddwyd dydd y dienyddiad, aeth y sirydi o'i swydd a phan ddaeth y sirydd newyddl i'w swydd gwrthododd wneuthur dim yffif nglyn a'r dienyddiad. Yn y cyfamser.. t darfu i'r Y sgrifenydd Cartrefol newid ? ddedfryd i un am benyd-wasanaetlj., Bu y wraig am 17 mlynedd yng N gharchar Aylesbury. Y mae gan Mrs. E. Sawkins, 17, H'rts Lane, wyth o feibion yn y fyddin.