Teitl Casgliad: Dydd

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Cambrian News Ltd.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 5 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
9 erthygl ar y dudalen hon
CYHOEDDIADAU SABBATHOL I

ac eiliad gan Mr. M. Edwards, terfynwyd trwy ganu Duw Gadwo'r Brenin." Mae clod yn ddyledus i Mr. Cadr. Jones, yr hwn yn fwy na neb arall fu yn offeryn i drefnu y Cyngerdd llwyddianus hwn.- ,Goheb. PYSGOTA.—Cynhaliwyd cyfarfod o Gymdeithas y Pysgodwyr, a phasiwyd fod y Gymdeithas yn gwerthu tocynau i bysgota o'r dydd cyntaf o Fawrth ymlaen. Tocynau, 5/- am y season, i'w cael gan Mr. T. H. Roberts, Parliament House, neu yr Ysgrifenydd. fÐ6ô&J

COSTAUg RHYFEL

COSTAU'g RHYFEL. Nos Lun, gofynodd Mr. Asquith am ragor o arian gan Dy y Cyffredin at gario'r Rhyfel ymlaen,—yr wythfed a'r nawfed cais er dechreu'r Rhyfel. Mae y symiau y soniai Mr. Asquith am danynt mor Thwydd yn ei .araith mor aruthrol fel mai anodd yw i neb sylweddoli pa mor bwysig i Loegr yn arianoL yw y Rhyfel. Gofynai yn awr am £ 120,000,000 i gario'r Rhyfel ymlaen hyd ddiwedd y flwyddyn arianol hon, a £ 300,000,000 at ddechreu'r flwydd- yn arianol nesaf. Mae y ddau swm yna yn -codi treuliau'r Rhyfel i 2,082 o filiwn- i au o bunau, ac o'r swm hwn benthyciwyd i'r Cynghreiriaid £ 168,900,000. Costia'r Rhyfel yn awr i'r wlad hon tua phedair miliwn a haner y dydd! < s &)Ç?¡

GWN MAWR I OGLEDD CYMRU

GWN MAWR I OGLEDD CYMRU. Ceisiodd amryw odrefi yng Ngogledd Cymru yn ddiweddar gael gan y Swyddfa Ryfel anfon un o'r gynau mawr gymerwyd -oddiar y Germaniaid, i'w arddangos. Aflwyddianus fu y cais. Y n awr, hysbysir fod y Llywodraeth am anfon un gwn mawr (a gymerwyd oddiar y Germaniaid gan gatrawd Gymreig), i'w arddangos trwy yr oil o Ogledd Cymru. Dechreuir ei ddangos yng Ngwrecsam ar y 25ain cyfisol. Daw i Fon, Arfon a Meirion yn ei dro. III OR &J&J&J

v I I TROSEDD MEWN LLE UCHEL j

v I TROSEDD MEWN LLE UCHEL. j Yn Llys Canolog Troseddol Llundain, dydd Gwener, cafwyd John M'Pherson Mitchell Dallas (clerc yn y Swyddfa 'Gartrefol), a Noi J. Altani, canwr, yn euog o geisio cael arian trwy dwyll oddiar elyn- ion tramorol sydd yn y wlad hon. Addef- j odd Altani iddo dderbyn £ 100 y dydd oddi- wrth luddewon Tyrciaidd er cario ei am- canion ymlaen. Anfonwyd Dallas i benydwasanaeth am dair blynedd, ac Altani i garchar am ddeuddeng mis, ac ar ol hyny i gael ei anfon allan o'r wlad hon. j I

V BELGIUMI I a

V BELGIUM. I I. a 17 1 Y mae Prydain Fawr, Ffrainc, a I Rwsia, wedi adnewyddu eu haddewid i Belgium na fydd iddynt fwrw arfau yn y rhyfel hyd nes y bydd annibyniaeth Belgium, yn wleidyddol ac yn drefnidiol, < "Wedi ei sicrhau.

I DIM EISIEU PARDWN

I DIM EISIEU PARDWN. Ym Mrawdlys Manceinion, dydd Gwener diweddaf, dedfrydwyd dyn o'r enw Regin- ald Haslan, 25 mlwydd oed, llafurwr, i farwolaeth am iddo lofruddio dynes yr oedd yn cydfyw A hi, o'r enw Isabella Conway, yn Burnley. Ar ol cweryl, [ darfu iddo lindagu y ddynes. Darfu i'r ] ( rheithwyr ei argymell i drugaredd. Dy- wedodd y carcharor ei fod yn diolch am y j prawf teg a gafodd, y ceisiai anghofio ei I elynion, ac nad oedd yn dymuno cael pardwn! • I

I EWYLLYS RYFEDD CLERIGWR j j

I EWYLLYS RYFEDD CLERIGWR. j Gadawodd y Parch. G. C. Dikenson, Worcester Park, y swm o £ 34,280 ar ei ol. Yn ei ewyllys archodd fod i'w gorff gael ei losgi. Hefyd i'w gorff gael ei wisgo mewn siwt ddu, ac am ben hono ei ddillad clerigol Yr oedd £5 i'w dalu i ficer y plwyf am wasanaethu yn y llosgiad, a swm o arian i'w dalu i feddyg am iddo agor ei brif wythien. Yr oedd yr angladd i fod yn gyfrinachol, ac yr oedd ciniaw i'w ddarparu i'r ychydig fyddai yn bresenol. Yr oedd ei geffyl i'w ladd gan wr cyfarwydd, ac yr oedd yr ymddiriedolwr fyddai yn bres- enol,ac yn gweled fod hyn yn cael ei gario allan' yn briodol i gael £ 10. Yr oedd ei was, S. Wilkins, i gael defnyddio ei dy a'r dodrefn hyd nes y gwerthid hwy. Gadaw- odd gymunroddion mawrion i'w gyfeillion, I gweision, ac i amcanion elusenol. I I

I INEWYDDION II

I NEWYDDION. I. I Y mae Sweden wedi gwahardd i coffi II gael ei allforio o'r wlad. Cofrestrwyd drosodd i 1,700,000 o geir .motor yn Unol Dalaethau'r America yn 1915. Gohiriwyd llenwi y gadair Geltaidd yn Rhydychain, aeth yn wag drwy farwolaeth Syr John Rhys, hyd y 15fed o Fawrth. j « Dydd Sadwrn, cyrhaeddodd Cronfa'r Frenhines er cynorthwyo merched di. waith, ylswm o £ 168,454 lis. 10c. j —— Cwynir fod merched gweini yn brin iawn {I yn Lloegr, am eu bod yn cael gwaith a ) chyflogau da mewn gweithfeydd cyfarpar rl Y mae hen bapur mor brin yn Sir Gaer- ¡ hirfryn, fel y mae y cigyddion yn gofyn ) i'w cwsmeriaid ddyfod a phapur gyda I hwy i ddal y cig. I Credir fod yr Is-Gadben Clifford Probert I (17), o Tredegar, Sir Fynwy, a roddwyd fel ar goll o Ysbyty er Chwefror 7fed, wedi colli ei got. ? Dydd Sadwrn, cafodd Thomas Allen, un dr National Reserve, ei ladd gan dren cyflym yn Long Sandall, ger Doncaster. Gwyliai bont ar y pryd. Oherwydd fod cynifer o ddynion ieuainc yn ymuno a'r fyddin, y mae yr eillwyr, mewn rhai manau o'r deyrnas, yn dioddef yn erwin, a chauir llawer o fasnachdai. Dirwywyd James Gibroy, Priory Lane, Roehampton, i £ 5 am i dri ci o'i eiddo ladd carw d6f ym Mharc Richmond, Surrey. Derbyniodd y carw driniaeth greulon gan. y cWn. Adroddir fod y Germaniaid wedi enill tir oddiar y Ffrancod yn ymyl Verdun. Hawliant iddynt gymeryd rhai miloedd f) garcharorion. Bu ymladd caled yno, ac y mae'r ddwy ochr wedi cael colledon trwm Y mae agerlongau Rheilffordd y Great- We stern wedi ail-ddechreu mordwyo o Aberdaugleddyf i'r Iwerddon. Caed digon o forwyr i weithio am y cyfiog gynygid- 45/- yr wythnos. 0 flaen llys cyfarpar Lerpwl, ddydd Sad- wrn, cafodd tri o weithwyr yn iard gyfar- par y Mri Cammell Laird, Birkenhead, eu dirwyo am adael y gwaith drwy le gwa- harddedig. Dylasent fod wedi myned allan drwy y brii-fynedfa.. Gadawodd hen wraig o'r enw Miss Jane Fee, fu yn gwerthu diodydd anfeddwol a thraed moch yn Belfast, yn agos i 0,000 ar ei hoi. Gadawodd y rhan fwyaf o'i harian i ddau ringyll heddgeidwadol fu yn garedig wrthi yn ei hafiechyd diweddaf. Y mae newydd farw y crach-feddyg en- wog Sequah." Oddeutu 30 mlynedd yn 01 yr oedd yn anterth ei boblogrwydd yn y wlad hon. 'Dywedid iddo wneuthur ffort- iwn o £ 1,000,000, ond bu farw heb yr un ddimai ar ei elw mewn ysbyty yn Johan- nesburg. <2><$><$>

Family Notices

MARWOLAETHAU. Brown.—Chwefror 16eg, yn 53 mlwydd oed, yn 121 Willow Street, Croesoswallt, bu farw Mr. William Brown, gynt o'r dref hon. Yr oedd yr ymadawedig yn frawd i Mr. Rd. Brown, Maestalaran; Mrs. Evans, Islwyn Terrace, a Mrs. Evans, Henllan. Claddwyd y dydd Sadwrn dilynol, ac yr oedd yr angladd parchus a Iluosog a gafodd yn profi fod iddo le uchel ac anwyl yn syniadau ei gyd-drefwyr yng Nghroesoswallt. Gedy briod a chwech o blant i alaru ar ei ol. Jones.-Chwefror Meg, yn 68 mlwydd oed, bu farw Mr. Ellis Jones, Ty'nyffridd, Llanuwchllyn. Jones.-Chwefror 22ain, yn 35 mlwydd oed, yn 2 Cambrian Terrace, Dolgellau, ar ol hir waeledd, bu farw Miss Laura Jones. Gedy fam a chwaer a pherthyn- asau mewn hiraeth ar ei hoi. Cleddir ddydd Sadwrn, yn y Cemetery, cychwynir oddiwrth y ty am 1-30. Roberts.—Chwefror 17eg, yn y Memorial Hospital, Caernarfon, bu farw Miss Mary Ellen Roberts, yn 26ain mlwydd oed. Merch hynaf ydoedd i Mrs. Ellen Roberts a'r diweddar Mr. Wm. Roberts, teiliwr, Marian Road, Dolgellau. Yr oedd wedi mynd i Sir Gaemarfon er cael adferiad iechyd, ond daeth y diwedd yn annisgwyl- iadwy. Claddwyd ddydd Llun, ym Mynwent Eglwys Dolgellau. Gwasan- aethwyd wrth y tý gan ei gweihidog, y Parch. Conway Pritchard (W.), ac yn yr Eglwys a'r fynwent gan y Parch. John Lloyd, Rheithor. Cydymdeimlir yn gyff- redinol a'i mham, ei chwaer, a'i brodyr, yn eu hiraeth am dani.