Teitl Casgliad: Dydd

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Cambrian News Ltd.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 2 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
3 erthygl ar y dudalen hon
YR YMLADD YN VERDUN

YR YMLADD YN VERDUN. ) IMechreu yr wythnos, hysbyswyd fod yjmladd caled yn cymeryd lie i'r gogledd o Verdun. Yr oedd y canlyniadau yn jRafriol i'r Ffrancod. Llwyddasant, hefyd, iyru y gelynion o Goedwig Cailette, ac i adfeddianu ochr orllewinol pentref Vaux. rr gorllewin o'r Meuse cafodd y German- laid beth dychryn. Darfu i'r gelynion grynhoi eu tan i'r gogledd o ffrwd Forges acr-safle Ffrengig (yn ol eu tyb hwy), ond yr oedd y Ffrancod wedi cymeryd i fyny safleoedd newyddion, ac wedi amgylchynu y Germaniaid ar un ochr, gan achosi difrod mawr yn eu mysg. Yn llythyrenol, medwyd y Germaniaid i lawr gan dan difeol y Ffrancod. Gorfodwyd hwy i en- cflio yn ol mewn anrhefn. Bu tawelwch ar ol hyn hyd ddydd Mercher. Dydd Iau, llwyddodd y Ffrancod, trwy gyfres o ymladdfeydd, i gymeryd 500 o laiheni oddiar y gelynion. Nos Fercher, ymosododd y Germaniaid yn chwyrn i'r gorllewin o'r Meuse, a llwyddasant, ar ol aberthu llawer o'u Jmiyr, i gael eu troed i lawr ym mhentref Haucourt.—Llwyddodd y Ffrancod, fodd feynag, i enill safleoedd pwysig yn Avocourt a'r amgylchoedd. Y mae ymladd ffyrnig yn cymeryd lie fJ gyfch Verdun yr wythnos hon eto, a'r Germaniaid yn gwneud pob ymdrechion i dori llinell y Ffrancod, a chymeryd tref Yerdun, ond methiant hollol y profa eu holi aberth costfawr. Daeth manylion i law am y gurfa enbyd a gafodd y Germaniaid yng nghymydog- aeih Douamont a Vaux. Yn eu rhengau eyrrtaf yr oedd milwyr annisgybledig ac ail-raddol, y rhai a fedwyd i lawr wrth y iniiloedd. Yn dilyn yr oedd catrodau o well ymladdwyr. Yr amcan oedd aberthu Hiilwyr sal er cadw rhai gwell. Dyma eegraifft fyw eto o farbareiddiwch Germani ,I KUT-EL-AMARA. i Cymerir cryn ddyddordeb yn y Fyddin Brydeinig sydd yn ceisio gwneud ei ffordd iwaredu y Cadfridog Townshend a'i filwyr dtewr sydd wedi eu cau yn Kut-el-Amara. -Y,I- c#L-dd y sefy If a yn edrych yn ddigon du, Gnd caed gwell newyddion yr wythnos ddi- weddaf. Ofnid mai ychydig o fwyd oedd gan y Cadfridog Townshend yn Kut, ac nas gallai ddal allan lawer yn hwy. Yr ac-rld y Cadfridog Prydeinig Aylmer ar y ffordd i'w waredu, ond ataliwyd ef gan Mogydd a thywydd mawr. Trwy golli ainser fel hyn galluogwyd y Tyrciaid, yn cael eu cynorthwyo gan beirianwyr Ger manaidd, i godi dwy gaerfa gref cydrhwng y Fyddin yn Kut a'u gwaredwyr. Yr wythnos ddiweddaf cyrhaeddodd newydd i'r wlad hon fod un o'r caerfeydd uchod, elwir Ummel-Hannah, yn cael ymosod arni gan yFyddin Brydeinig waredigol. Erbyn hyn yr oedd y fyddin ddiweddaf dan lywyddiaeth y Cadfridog Lake. Ar ol brwydro caled enillodd y Prydeinwyr y gaerfa. Cymerodd hyn le ar doriad gwawr. Disgwylir yn ddyddiol am newyddion da lie hwn, er y cydnabyddir fod llawer o fvvvstrau i'w gorchfygu cyn cyrhaedd Kut. Y CYCHOD TANSUDDAWL GELYNOL Ddechreu yr wythnos ddiweddaf sudd- wyd yr ysbyty-long Rwsiaidd Portugal' gan gwch tan-suddawl gelynol. Tarawyd hi gan ddau torpedo. Suddodd mewn llai na munyd o amser. Yr oedd 273 o ber- sonau ar ei bwrdd, ac achubwyd 158 ohonynt. Cymerodd hyn le yn y Mor Du. Yr oedd croesau Cymdeithas y Groes Goch wedi eu paentio yn eglur ar ochrau y Portugal." Felly, yr oedd y German- iaid yn ddiesgus yn eu herchyllwaith. Yn ddilynol i hyn adroddwyd fod rhagor na deuddeg o longau wedi eu suddo mewn modd cyffelyb. Yn eu mysg yr oedd y llongau Prydeinig Achilles,' y Kent (gyda cholled o haner cant o fywydau), y Clan Campbell,' a'r P. & O. Simla." Darfu i longau Ffrengig suddo cwch tan- suddawl Germanaidd, yr wythnos ddi- weddaf. Achubwyd y dwylaw, a chym- erwyd hwy yn garcharorion. Rhaid cydnabod, er hyny, fod cychod tansuddawl gelynol yn gwneuthur cryn ddifrod i longau masnachol y deyrnas hon, a llongau masnachol ein Cyngreirwyr, ac hefyd suddir llawer o longau perthynol i l wledydd amhleidiol. I YMWELIADAU Y ZEPPELINS. Yr wythnos ddiweddaf, am chwe nos- waith yn olynol, ymwelodd Zeppelins Germanaidd ag arfordir Lloegr a'r Alban. Daethont yma am y waith gyntaf, y tro hwn, ar nos Wener (wythnos i'r diweddaf), Gollyngasant yn agos i ddau gant o ffrwydbelenau. Mewn canlyniad i hyn, lladdwyd 43 o bersonau, ac anafwyd 36. Fel yr hysbyswyd yn ein rhifyn diweddaf, gorfodwyd un Zeppelin i ddisgyn yng ngenau yr Afon Dafwys. Cymerwyd y caplen a'r dwylaw yn garcharorion. Yn yr ail ymweliad (dydd Sadwrn) cyr- haeddodd dwy awyren fawr i arfordir Lloegr. Gorfodwyd un ohonynt i ddych- welyd, ond gallodd y Hall ladd 16 o berson- au ac anafu cant. Cymerodd y trydydd ymweliad le dydd Sul, pryd yr ymwelodd chwech o Zeppelins ag arfordir dwyreiniol' Lloegr a'r Alban (Scotland). Darfu i'r tair gyrhaeddasant y siroedd gogleddol ollwng 53 o ffrwyd- belenau, gan achosi marwolaeth deg o bersonau, ac anafu unarddeg. Ni wnaeth y Zeppelins eraill fawr o niwed. Er i Zepp :lins eraill ymweled a'r deyrnas hon ddyddiau Mercher ac fau, ni wnaeth- ant unrhyw niwed o bwys. Nid yn unig gyrwyd hwy yn ol gan ein gynau ni, ond fe darawyd o leiaf un ohonynt. Nid yw y dychrynfeydd ami hyn yn achosi unrhyw fraw i'r deyrnas hon, eithr yn hytrach yn ei gwneuthur yn fwy pender- fynol i fod yn feistres yr awyr megis ag y mae yn feistres y mor. I > i I v LLWYDDIANT YN NWYRAIN AFFRICA. Parha y Cadfridog Smuts i roi cyfrif da ohono'i nun yn yr ymgyrch yn Nwyrain Affica. Ar un o ddyddiau cyntaf Ebrill, da^thpwyd yn sydyn ar draov-, cwmni o Germaniaid, gyda'r rhai yr 'oedd nifer o filwyr brodorol, yn y mynyddoedd yn nos- barth Arusha. Amgylchwyd y cwmni, ac yn fuan bu raid iddynt ildio. Nid cwmni bychan iawn ydoedd, fel y gwelir oddiwrth adroddiad diweddarach. Mae'n amlwg fod ymladd ffyrnig wedi cymeryd lie, a dywedir fod y gelyn wedi dioddef colledion trymion. Eisoes mae 17 o filwyr Ewrop- eaidd a 404 o'r milwyr brodorol wedi rhoi eu hunain i fyny, a nifer o'r gynnau wedi eu cymeryd gyda hwy. Hysbysir fod ychwaneg eto o garcharorion yn cael eu disgwyl i fewn. COLLEDION Y GERMANIAID. Yn ol y Germaniaid eu hunain y mae eu colledion yn awr fel y canlyn:- Lladdwyd a bu farw o'u clwyfau 642,531 Marw o afiechydon 38,906 Carcharorion Rhyfel. 129,801 Ar goll 203,596 Anafwyd yn ddifrifol. 372,585 Anafwyd 251,110 Anafwyd yn ysgafn 983,827 Anafwyd a chyda'r fyddin. 108,470 Cyfanrif 2,730,917 I MANION. Ceisiodd y gelynion ymosod ar y Rwsiaid yn Galicia, ond gyrwyd hwy yn ol.— Gwnaed hyny gyda'r bidog.—Gadawodd y gelynion nifer fawr o feirwon a chlwyfedig- ion yn ymyl gwifrau pigog y Rwsiaid. Adroddir, hefyd, y canfyddwyd llongau rhyfel Germanaidd yn y Baltic. Clywyd swn magnelau, a chesglir fod y gelynion yn ceisio tori eu ffordd trwy gulfor Riga. Y mae cryn ymladd yn myned ymlaen y dyddiau diweddaf hyn cydrhwng y Pryd- einiaid a'r Germaniaid o gylch St. Eloi. Llwyddodd y Prydeiniaid i gymeryd rhai o safleoedd y gelynion oddiarnynt, ac er ymdrechion caled y gelynion i'w cymeryd yn ol drachefn, mae y Prydeiniaid yn dal eu gafael ynddynt hyd yn hyn. &J&J&J

IAMDDIFFYN GERMANIAID

AMDDIFFYN GERMANIAID. DIRWY 0 £ 50. Yn Llys Ynadol Eddisbury, Sir Gaer, dirwywyd dyn o'r enw Eric Massey Lings i £50 am wneuthur mynegiadau yn erbyn y wlad hon.—Tystiwyd iddo, mewn llyth- yrdv neillduol, ddweyd Cawn farw yn hapus pe enillai y Germaniaid." Galwodd y Prydeiniaid yn "foch budron." cSVc5Q{V

MARW ANWR ADNABYDDUS I

MARW ANWR ADNABYDDUS. Cofnodir marwolaeth Mr. John Bardsley, y tenor adnabyddus, yn yr oedran cynar o 33 mlwydd oed. Brodor ydoedd o Walk- den, yn Sir Gaerhirfryn, a 13 mlynedd yn ol gweithiai wrth fainc yr asiedydd. Ym mis Medi, 1913, penodwydlef yn brif tenor yng Nghwmni Opera Syr Joseph Beecham, Efrog Newydd, am gyflog oft £ 2000 yn y flwyddyn.