Teitl Casgliad: Dydd

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Cambrian News Ltd.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 6 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
7 erthygl ar y dudalen hon
Y GYLLIDEB

Y GYLLIDEB. Yr wythnos ddiweddaf, yn Nhy'r Cyff- redin, cyflwynodd Mr. McKenna (Cang- hellydd y Trysorlys) ei Gyllideb am y flwyddyn hon. Ar y cyfan, y mae y tollau wedi eu rhanu yn bur gyfartal, ac wedi disgyn yn ysgafn ar y dosbarth gweithiol. Yr unig wir angenrhaid doll- wyd yw siwgr, yr hwn godwyd Jc. y pwys. Cafodd te, blawd, etc., lonydd. Fe godwyd toll drom ar cocoa, coffi, a chicory. Ond nid yw y dosbarth gweithiol yn dibynu llawer ar y nwyddau uchod. Rhaid fod yn gynilach gyda matches, canys rhodd- wyd toll ysgafn arnynt. Rhoddwyd toll, hefyd, ar docynau teithio ar y rheilffordd, tocynau y chwareudai a'r darluniau byw, &c., a diodydd anfeddwol. Rhoddwyd toll ychwanegol ar incwm, ac ofnir y bydd I iddi gael ei dyblu yn fuan. Cyflwynir Cyllideb arall ar y Slain o Orphenaf nesaf. Gwneir hyn yn angenrheidiol gan y gofyn- ion mawr sydd arnom ynglyn a'r rhyfel. Codwyd £ 500,000,000 o arian o'r newydd, ac y mae y Canghellydd galluog i'w lon- gyfarch yn fawr ar y modd effeithiol a didramgwydd y daeth o hyd i'r arian. Nid yw wahaniaeth beth a dollir, y mae rhywrai yn sicr o gwyno. Cwyna gwneu- thurwyr matsus oherwydd y doll a roddir ar fatsus, a sonir eu bod yn bwriadu mynd ar streic. ond nis gellir gweled ystyr yn eu hymddygiad yn gymaint ag mai y prynwr ac nid y gwneuthurwr fydd laid dalu'r doll. I Rhaid cael arian i ddwyn y rhyfel ymlaen ond cred llawer mai camgymeriad yw I, gosod toll ar docynau, teithio ar y rheil- ffordd, am y rheswm y gwna hyny niwed i drefi glanau'r moroedd, y rhai sydd yn dioddef llawer oddiwrth y rhyfel. Eisoes y mae'r Llywodraeth a chwmmau y rheil- ffyrdd wedi cyfyngu ar gyfleusterau teithio y bobl, ac os y bydd yn rhaid iddynt dalu mwy am eu tocynau ceir gweled llawer llai o ymwelwyr yn y trefi y cyfeiriwyd atynt. Ymhellach, amcangyfrifir na cheir ond £ 3,000,000 oddiwrth y doll hon, ac yn sicr nid yw yn werth y drafferth a'r helynt a bery. i

IIHERIO Y GYLLIDEBI

HERIO Y GYLLIDEB. I Gwrthod Cyflenwi Matsus. Er ceisio cael gan y Llywodraeth dynu I yn ol y doll ar fatsus (matches), y mae gwneuthurwyr y cyfryw yn gwrthod cyf- lenwi y siopwyr a hwy. Gwrthwynebir y cam hwn yn fawr gan y masnachwyr, ac ofnir y bydd pris matsus wedi dyblu yn fuan. Dywedodd ysgrifenydd Cwmni Bryant & May, y gwneuthurwyr matsus adna- byddus, y byddai codi'r doll yn gam difrifol âhwy. Er gallu cyfarfod y tollau rhaid fyddai iddynt ddyblu y prisiau. Nid oeddynt, fodd bynag, yn myned i gau eu gweithfeydd, ond gweithio fel arfer, gan gadw yr oil mewn ystoc. Ni chredent y gallai hyn barhau ynl hir. Gan mai y prynwr raid dalu y doll, yn y pen draw, methir a gweled fod gan y cwmniau hyn dir o gwbl i sefyll arno. Cafodd Mr. A. Leigh, cyfrifydd ar Linell Rheilffordd y Great Central, £ 600 o iawn ddiar y Railway Clerk," am e athrodi. ■■■■ 'I

11 11 ENGLYNION

11 11 ENGLYNION. I Ar Briodas Mr. William Lewis, Bronwion, a Miss Gwen Jane Jones, Tyddyn- llwyn, Brithdir. Elem ca'dd Henlancyddiaeth-arw siom, Mae rhyw si marwolaeth Yn dilyn y frawdoliaeth ;— Ei llu yn wir lleihau wnaeth. Diau gwelodd y brawd gwiwlan-nad da Yw bod dyn ei hunan Gyda'u gilydd mwy dyddan Yw mab a merch ym mhob man. A'i fynwesol fwyn asen-ymunodd, Am hyny mae'n llawen Rhodio'n hyfryd gyd a Gwen-gaiff ar goedd; I ddyn mun ydoedd yn em yn Eden. Gwilym a fo o'i galon—i'w feinir Yn fwynaidd a thirion; Hithau mewn bri, lili Ion I'w gwr a fyddo'n goron. Boed i'r ddau bethau y byd-digonedd I gynal dedwyddyd; A chyfoeth purach hefyd Yn elw i fyw mewn eilfyd. Minau bellach i'm mynwes-a geisiaf Gu asen heb rodres Rhaid cymeryd cymhares, Ac i hen lane hi wna les. Ebrill 12fed, 1916. HEN LANC. I E6? 12?, 1916. I

1 ANRHYDEDD I DDEWRDDYN

1 ANRHYDEDD I DDEWRDDYN. Cafodd y Flight Commander R. J. Bone, R.N., yr anrhydedd o D.S.O. Efe yw y j gwr a wnaeth i'r Zeppelin ddyfod i lawr 1 yn ddiweddar yng ngenau yr afon Tafwys. i Yn ol yr adroddiad swyddogol yr oedd y Zeppelin yn y golwg pan adawodd Bone yr adeilad lie y cadwa ei awyren. Ar ol ehedeg am oddeutu 30 milltir esgynodd Bone uchter o 9000 o droedfeddi. Yr oedd y Zeppelin 2000 o droedfeddi oddi- tano. Ceisiodd redeg eL awyren i .eiddo un y gelyn. Yr un amser saethodd ati. I Atebodd y gelyn y tan yn barhaus. O'r diwedd llwyddodd Bone i fyned o fewn 15 i 20 troedfedd i'r Zeppelin. Syl- wodd fod y gwyliwr yn gorwedd yn ei le naill ai yn farw neu wedi ei glwyfo yn ddifrifol. Saethodd chwech o rounds at y Zeppelin, yr hon a ddisgynodd i'r dwfr. Cymerwyd o dwylaw ohoni.

No title

Terfynodd yr anghydfod yn Nociau Lerpwl a Birkenhead. Gadawodd Mr. Thomas Rowlands, Hen- dy, Llanfair I P.G., Mon, eiddo; gwerth £ 10,175 ar ei ol. Gadawodd £ 300 yr un i Robert Pritchard ac Annie Williams, £ 500 a chyfranddaliadau neillduol i Maggie Rowlands (ei nith), ac ystad yi Hendy i'w neiod, Richard a Thomas Pritchard, gweddill, ag eithrio ychydig gymun- roddion i'w berthynas agosaf, ond ei frawd Richard a'i ddisgynyddion. ■ ■ j

BRWYDR YN YR AWYR

BRWYDR YN YR AWYR. Llwyddiant yr Eidalwyr. I < Y mae gan yr Eidal le i fod yn falch o- wroldeb ei hawyrenwyr. Ceir yr adrodd- iad swyddogol canlynol am ymosodiad di- weddar o eiddo yr Awstriad ar Ancona yn yr Eidal. Darfu i bump o awyrenau Awstriadd geisio ymosod ar y dref. Yr oedd yn nawnddydd praf pan ganfyddwyd yr awyrenau yn dyfod at y dref. Rhodd- wyd yr arwydd i'r trigolion rhag blaen, a. chymerasant gysgod. Yna ymosododd. y milwyr a'r morwyr ar yr awyrenau gelyn- ol. Yr oedd ganddynt at eu gwasanaeth drenau arfog a phob math o ynau ynddynt. Gellid rhedeg y trenau hyn i bob cyfeiriad. Ceisiai yr Awstraid ymosod ar 500 milltir o arfordir agored. Cyn fod yr awyrenau gelynol wedi cyrhaedd Ancona saethwyd atynt o bob cyfeiriad. Cyn hir yr oedd brwydr boeth yn myned ymlaen. Er llawenydd anrhaethadwy i drigolion y dref sylwid ar un awyren, oedd wrth ben y dref,. yn troi ar ei hadenydd mawrion ac yn dis- gyn ar ei phen i'r mor. Daeth chwech 0' awyrenau Eidalaidd i'r lie a gorfodwyd yr awyrenau gelynol i gadw o fewn cylch ar- benig. Yn y cyfamser saethwyd at yr awyrenau Awstraidd gan ynau o'r tir ac o'r mor. Ymunodd cwch tansuddawl Eidalaidd, oedd yn y porthladd yn y frwydr, gan saethu yn barhaus at yr awyrenau Awstraidd. Ym mhen haner awr fyned heibio yr. oedd y frwydr yn ei hanterth. Y sgydwal y ddaear gan rym yr ergydion. Gallodd un o'r awyrenau gelynol ollwng ffrwyd- belenau wrth ben y dref, ond ymosodwyd mor drwm arni gan fagnelau o'r tir fel y trodd ac y gollyngodd ei ffrwydbelenau i'r mor. Erbyn hyn yr oeddis yn rhidyUia yr awyrenau gelynol a bwledi. Syrthiodd un arall ohonynt i'r mor gan ddiflanu o dan y dwfr. Syrthiodd Un wedyn i gyfeiriad y mor, ond gallodd ymunioni cyn disgyn a dianc. Yr adeg yma ceisiodd un o'r awyrenau oedd yn aros ollwng ffrwydbelenau ar y cwch tansuddawl er ei suddo, ond yn oier t disgynai yr holl ffrwydbelenau i'r mor yn ddieffaith. Ceisiodd awyren arall wneu- thur yr un peth, ond tarawyd hi gan fagnel a suddodd. Dyna y modd y mae yr Eid- aliaid yn trin awyrenau gelynol.

AR OL EI FABI

AR OL EI FAB. Cario ei gorff o'r ffosydd. Oddeutu deuddeng mlynedd yn ol ym- fudodd Mr. a Mrs. Heather, gyda'u tri plentyn, o Islington, Llundain, i Canada. Pan dorodd y rhyfel allan ymunodd Jim, y mab ieuengaf, a'r Fyddin Ganadaidd. Aeth i Ffrainc gyda'r adran gyntaf, a bu am beth amser yn cludo y cleifion a'r meirw o faes y gad. Bu galw am ragor o filwyr Canadaidd, ao ymunodd tad Jim a chatrawd Ganadaidd Pan aeth y Tad i Ffrainc, y milwr cyritaf y cymerodd ei le ydoedd ei fab Jim. Cyn- ghorodd Jim ei dad i fod yn ofalus i beidio dangos ei hunan i'r gelynion, etc. Nid I hoffai, ebai, gario corff ei dad o'r ffosydd. Fodd bynag cafodd Jim ei ladd a chanwyd i ei gorff gan ei dad. Y mae mab arall wedi ymuno.