Teitl Casgliad: Dydd

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Cambrian News Ltd.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 8 o 8
Full Screen
7 erthygl ar y dudalen hon
Parhad o tudalen 5

(Parhad o tudalen 5) reu yr wythnos hon, gan y Caplan a wein- yddai yn y sefydliad y bu farw ynddo, ac yr oedd yn hyfrydwch i'n teimlad gael ar ddeall ei fod wedi derbyn pob gofal a thriniaeth briodol dan yr amgylchiadau, tra y bu yn y sefydliad hwnw. Yr oedd yn llanc ieuanc a hoffid ac a berchid gan bawb o'i gydnabod, tlws ei gymeriad, ac yn aelod ffyddlawn a dilychwin yn eglwys y Ffrwd, a chyn iddo ymuno yn ysgrifen- ydd yr Ysgol Sabbathol, ac yn ysgrifenydd Cymdeithas Ddiwylliadol Llanfachreth. Chwith yw genym feddwl fod ei gorff tal a lluniaidd yn gorwedd mewn gwlad es- I tronol. Cydymdeimlir yn fawr a'i rieni trallodus yn eu profedigaeth lem. Nerth oddiuchod a gaffont i'w dal. Mil gwell yw marw'n fachgen dewr, Na byw yn fachgen llwfr." I E. J. eee E. J. I

ARTHOG IIIII

ARTHOG. I Er's amser bellach mae yn wybyddus I fod Miss Lewis, Glanywern, dan rybudd I i ymadael a'i hen gartref, gan fod y perch- ) enog wedi cyflwyno y ty drosodd at was- j anaeth y ficer. Yr oedd y ty wedi bod yn enwog fel lie y cyfrenid caredigrwydd I yn llawen tra yr oedd y tad a'r fam yn fyw, ac wedi i Miss Lewis gael ei gadael yn amddifad ni phallodd y caredigrwydd. Oherwydd hyny, ac ar lawer cyfrif, chwith gan laweroedd yn yr ardaloedd ydyw ei cholli o'u plith. Teimlodd y dbsbarth I y perthynai iddo yn Ysgol Sul Seion yr hoffent wneud rhywbeth i ddangos eu I teimlad tuag ati, a threfnwyd i gael darlun o'r dosbarth (un-ar-bymtheg o nifer) ac i gyflwyno enlarged copy mewn I frame hardd i Miss Lewis. Cynhaliwyd j cyfarfod arbenig nos Lun diweddaf i gyflwyno yr anrheg. Mwynhaodd yr aelodau, ynghyda rhai cyfeillion, arlwy ragorol, ac yna cyflwynwyd y darlun gan yr athraw, Mr. William Williams, y Llyth- yrdy, a chaed ychydig eiriau ganddo ef a chan Mrs. Thomas, Mrs. Lewis, a'r Parch. E. Jones Edwards. Amlygwyd teimlad o ddiolchgarwch am y caredig- rwydd parod a ddangoswyd yn Glany- wern, a gwerthfawrogiad o'u gwasanaeth a'u ffyddlondeb ynglyn a'r achos yn Seion, a datganwyd dymuniadau am i Raglun- iaeth agor drws iddi eto ddychwelyd i'r ardal. Cydnabyddwyd ar ran Miss Lewis gan Mri. W. Lewis a D. Caradog Evans.

i GYDAR 37th RWF YN OSWESTRY j

GYDA'R 3/7th R.W.F. YN OSWESTRY. Ychydig o Hanes Bechgyn Dolgellau. Anwyl Mr. Golygydd, Efallai y buasai gair bach o hanes bechgyn Dolgellau sydd yn y 3/7th R.W.F. yn y Gwersyll yma yn dderbyniol gan ddarllenwyr hynaws y DYDD. Y mae llawer o fechgyn yr hen dref yma, a sicr genym y bydd eu cyfeillion yn falch o gael clywed ychydig o'u hanes. Dymunwn longyfarch Sergt. Ted Row- lands ar ei ddyrchafiad yn Sergt.-Major yn y Gwynedd Battalion, 22nd R.W.F. Mae wedi gadael Croesoswallt am Kinmel Park, lie mae ei gatrawd newydd yn V gwersyllu ar hyn o bryd. Bu Sergt. Rowlands allan yn Gallipoli gyda'r 1 /7th R.W.F., ond daeth gartref wedi ei glwyfo. Bu yn dysgu yr adran fu yn aros ym Mlaenau Ffestiniog am y gaeaf. Yn ystod yr amser hwn gwnaeth ei hun yn hynod boblogaidd gyda'r bechgyn a phobl y dref yn gyffredinol. Eiddunwn iddo lwyddiant a hwyl gyda'i Fataliwn newydd" Da genym gael y tyfle i longyfarch Sergt. Richard Jones, Dolgellau a Thraws- fynydd, ar ei ddyrchafiad yn Coy.-Quarter- master Sergeant. NM oes llawer o amser er pan yr ymunodd a'r 3/7th, a llwyddiant ydyw hanes yr amser yma. Well done, Dick! Yr Instructor yn y Divisional School of Musketry ydyw Sergt. Evan W. Owen, Dolgellau. Y mae y bechgyn i gyd yn hoff o Sergt. Owen, ac yn falch o'i weled mewn swydd mor bwysig. Hwyl eto iddo ydyw ein dymuniad gwresocaf. Pleser genym weled un o fechgyn Dol- gellau gyda'r 3/7th R.W.F. Silver Band. S6n yr ydym am y milwr Richard Roberts, Riverside." Gobeithiwn y caiff Dick hwyl gyda'r Bass Trombone, ac y dyga glod i enw Seindorf Dolgellau. I Cofion caredig at bawb. W. W. I &&6b I

NEWYDDION I iI NEWYDDION I

NEWYDDION. I iI NEWYDDION. Dywedodd Swyddog Iechydol Sir Gaer- narfon fod plant milwyr yn cael eu dilladu a'u bwydo yn well yn awr nag erioed. Y mae Mr. Asquith yn Brif Weinidog er's wyth mlynedd. Rhaid myned yn ol i ddyddiau Arglwydd Liverpool cyn ygellir cael un wedi dal y swydd cyhyd. Ddoe (Mercher), bu farw Dr. Ellis T. Evans, Abersoch, gyfarfyddodd a damwain pan yn myn'd ar ei motor-bicycle ger Llan- or. Yn y Senedd, neithiwr, hysbysodd Mr. McKenna nad oedd y Llywodraeth yn bwriadu mynd ymlaen a'r cyngyiad i osod toll ar docynau teithio gyda'r trenau. Yn ystod yr ychydig wythnosau di- weddaf bu ptimp o bersonau farw ym mhlwyf Selatyn,' ar ystad Arglwydd Har- lech yng Nghroesoswallt. Yr oeddynt yn 90 mlwydd oed ar gyfartaledd. Yroeddyr ieuengaf ohonynt yn 85, a'r hynaf yn 96. Gwnaed y Gwir Anrhydeddus John Gordon, K.C., A.S., yn Farnwr i'r Iwerdd- on, a'r Gwir Anrhydeddus James Campbell, A.S., i fod yn Gyfreithiwr Cyffredinol yr Iwerddon yn lie y Gwir Anrhydeddus John Gordon, K.C. Yr wythnos ddiweddaf claddwyd yr olaf o wneuthurwyr clociau. Llanrwst,—Mr. Pierce Davies, yn 80 mlwydd oed. Clwyd- fardd oedd y nesaf i'r olaf. Erbyn hyn mae'r gelfyddyd o wneud clociau wedi marw yn Llanrwst, ac yn wir ymhob.tref arall yn y Gogledd. Mae Mr. W. O. Roberts, Corwen, Uchel- Sirydd Meirionydd, wedi penodi ei fugail y Parch. H. H. Hughes, B.A., B.D., Princes Road, Liverpool, yn gaplanV

I ANWYBYDDUR GYMRAEG

I ANWYBYDDU'R GYMRAEG. Bu Mr. Towyn Jones, A.S., yn dyweyd pethau go blaen, ys dywedir, mewn cyfar- fod yng Nghaerfyrddin o berthynas i'r prif ysgol-ion a'r Gymraeg. Dywedodd fod cyfundrefn addysg yng Nghymru yn bwdr o'r pen i'r gwaelod. Yr oedd wedi methu creu awyrgylch Gymreig yn yr ysgolion, ac os oedd wedi methu gwneud hyny dylai fyned. Gwelodd lawer o- ysbryd gwrth-Gymreig yn y gyfundrefn addysg ail-raddol, a bu iddo unwaith alw y Bwrdd Canol Cymreig yn Fwrdd Canol Ffrengig. Ychwanegodd na ddylai'r rhat a gymerent ddyddordeb yn vr iaith Gym- raeg fod yn foddlawn hyd nes y gwneid y Gymraeg yn bwnc gorfodol yn y colegau a'r ysgolion ac fe gytuna pob Cymra gwladgarol a'r hyn a ddywedodd Towyn. éVéVéV Yr wythnos ddiweddaf, yn un o dreft arfordir dwyreiniol Lloegr, yr oeddis yn claddu tri person laddwyd gan Zeppelins. Yr oedd drosodd i fil o bobl yn yr angladd.. Yn Llandudno gofynai amaethwr am gael cadw dau fab rhag mynd i'r rhyfel. Mae rhent y fferm yn £ 251, ac arni 700 o ddefaid. Dywedai Lieut. Caradog Davies fod gan yr amaethwr wyth o blant ac nad oes yr un ohonynt wedi ymuno a'r fyddin. Mewn cwest ar gorff baban newydd ei eni, gafwyd mewn siafft hen bwll copr ar Ben Gogarth, Llandudno, dychwelwyd rheithfarn i'r baban farw oherwydd (Hffvg sylw yn ystod yr ened gaeth. Ii. 6)&;6) J

CYFARFOD CYNHYRFUSIIli I

CYFARFOD CYNHYRFUS. Il I Dydd Sul, ceisiodd adran o Gyrndeithas Merched Llundain gynal cyfarfod yn Nhrafalgar Square, Llun ain, er gwrtb- dystio yn erbyn gorfodaeth filwrol. Blaen. orid yr orymdaith gan semdorf a cherid baneri. Y foment y cyrhaeddodd y dorf i'r Square, rhuthrwyd arnynt gan filoedd o wyr a gwragedd. Maluriwycl y baneri. Gallodd Miss Pankhurst ac ychydig ferche4 eraill esgyn i'r llwyfan, ond ni chafodd siarad ond gair neu ddau. Llucliiwyd powdwr coch atynt, a'r diwedd fu iddynt. gael eu clirio o'r llwyfan gan filwyrk Rhanodd y milwyr y. baneri cydrhyng- ddynt i gofio yr amgylchiad. éVéV&J 1

Family Notices

I GENEDIGAETH. s Tippett.-Ebrill 2il, priod Sergeant E. Tippett, 3 Baker Street, Dolgellau,-air- ferch. x MARWOLAETH. Richards.—Ebrill lleg, yn 64 mlwvdd oed, bu farw Mrs. Richards, Llwynsarn; mereh i'r diweddar Mr. Lewis Jones; Llwyniarth. Priod ydoedd i Mr. John Richards, Llwynsarn. Cafoddgystudd. trwm, ond dioddefodd y cwbl yn dawel a dirwgnach.