Teitl Casgliad: Dydd

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Cambrian News Ltd.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 2 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
7 erthygl ar y dudalen hon
OR LLOFFT FACH

O'R LLOFFT FACH. Mr. Gol.,— Hen fangre anwyl yw yr uchod. Gwelir yma yn ami gyfarfyddiad hapus o gymeriadau difyr yr hen dref. Yn wir, Mr. Gol., os ydyw fy nghof yn gywir, credaf fy mod wedi eich gweled chwi yma rai troion er's llawer dydd. Ymdrinir yma a phrif bynciau'r dydd ac yn ystod y dyddiau presenol buwyd yn s6n am y Rhyfel, y Tribunals, y Daylight Saving, a'r Cymanfaoedd Ysgolion. Cawsom hwyl anarferol gyda throi y Clociau yn mlaen. Yr oedd un hen lane -mynychydd o'r Llofft-yn cwyno yn enbyd.. Ymddengys ei fod wedi myned i-orphwys ar ol troi ei oriawr awr yn mlaen nos Sadwrn, tua deg o'r gloch yn 01 yr amser newydd, ond wele ni chafodd enyd o seibiant hyd rywbryd yn y bore gan swn enbyd plant y cymydogion yn rhedeg ac yn chwareu ar hyd yr heol. Dywedodd un arall o'r cwmni mai yn debyg mai dyna ydyw y rheswm fod plant y dref yn cael enw drwg gan bobl ddicithr,-eu bod yn hwyr yn codi yn y boreu, am eu bod yn hwyr yn myned i'r gwely y nos. Yr oedd rhyw drafaeliwr wedi dwevd wrtho mai o bob man lie bydd yn mynd, mai plant Dolgellau ydyw y rhai hwyraf yn myned i'r ysgol yn y bore. Ei fod wedi bod lawer tro ar y Bont Fawr a Phont yr Aran tua deg o'r gloch, a phob tro ei fod wedi sylwi ar Want yn mynd i'r ysgol y pryd hyny. Yr oedd y cwmni yn protestio yn erbyn hyn ond os ydyw'n wir, bydd raid cael enwau y mamau yn y DYDD os na cheir diwygiad rhag blaen. Bu yma siarad am y Gymanfa, ond gadawn hanes y drafodaeth fu ar hon hyd yr wythnos nesaf. MYNYCHYDD." It II &" e &

0 BLAID RHYFEL I

0 BLAID RHYFEL. Deithlu Penblwydd Suddiad y ( Lttsitanitl.' 1 Nos Wener, yn Neuadd Carnegie, Efrog Newydd, cynhaliwyd cyfarfod i ddathlu penblwydd suddiad y Lusitania. Galwodd pob siaradwr am i'r Unol Dalaethau ddyfod i'r maes yn fuan i gymeryd plaid y Cyd- fyddinoedd. Dywedodd Mr. Pitman, a lywyddai, na fyddai i'r gwledydd sydd yn awr yn rhyfela, pan yn setlo telerau heddwch, byth wrando ar wlad anmhleid- iol, lwfriaidd, nad oedd ganddi ddim i ddangos ond ei bod wedi gwneuthur arian aruthrol wrth wneuthur cyfarpar i'r gwled- ydd rhyfelgar." Pasiwyd penderfyniad v blaid uno a'r Cydfyddinoedd yn unol a chyda brwdfrydedd mawr. @@@

DYDDIAU OLAF KUT

DYDDIAU OLAF KUT. Rhydd swyddogion a milwyr Prydeinig hanesion torcalonus'am ddyddiau diweddaf y rhai warchaewyd yn Kut. Yr oedd y milwyr Prydeinig mor wan yn ystod pym- thegnos olaf y gwarchae fel nad allent gario eu Iiarfau, etc. Ar y 18fed o fis Mawrth, disgynodd ffrwydbelen Dyrciaidd ar ys- by tv yn Kut, gan ladd chwech ac anafu 26 ü filwyr. Bu pedwar o'r rhai diweddaf iarw yn ddilynót

I TYNYCOED j

I TYNYCOED. j Cyd-gyfarfyddiad hapus.—Dydd Mawrth j Mai 16eg, yr oedd yr anedd-dy uchod yn I llawn prysurdeb a llawenydd o herwydd cyd-gyfarfyddiad hapus o bersonau sydd yn flaenllaw gyda'r achos goreu. Gwa- J hoddodd Mr. a Mrs. Griffith Griffiths weinidogion yr Abermaw a Dolgellau, ynghyd a'u gwragedd, i Tynycoed i dreulio prydnawn. Ni ellid cyfarfod mewn llecyn prydferthach-mae natur a dyn wedi cyd- weithio i wneuthur yr anedd-dy hwn a'i amgylchoedd yn baradwys. Eisteddwyd i lawr wrth fyrddau orlawn o ddanteithion amrywiol, a theimlid fod yna galonau cynes y tu cefn i'r oil. Cyn gadael y byrddau, o dan lywyddiaeth y Parch. J. Gwynoro Davies, Abermaw, cafwyd cyfle i ddatgan ein teimladau. Dywedodd Mr. I Davies am gysylltiad agos Mr. Griffith Griffiths ag ef am flynyddau, ac awgrymai mai yng nghysgod bataliwn y Bermo y cafodd bataliwn Dolgellau y wledd hon. Mewn araeth ddyddorol cynhygiodd y Parch. Z. Mather, Abermaw, ddiolch gwresog i Mr. a Mrs. Griffith am eu gwa- hoddiad a'u croesaw ac eiliodd v Parch, Henry Rees, Dolgellau. Gofidiai ef nad oedd yn y dref hon gyfarfod gweinidogion fel sydd yn y Bermo, a gobeithiai mai un ffrwyth i'r cyfarfyddiad hwn fyddai sef- ydlu un. Ategwyd y cynhygiad o ddiolch gan Mr. Edward Griffith, mewn araeth ddifyr ac addysgiadol fel arfer. Yn sicr prydnawn dedwydd oedd hwn ac fe erys yr adgof am dano'n hir. Diolch am deulu fel hyn sydd yn ei theimlo'n fraint o gael croesa*u gweision Duw o dan eu cronglwyd [ garedig. Ymgystadlai Mr. a Mrs. a Miss .Griffiths a'u gilydd yn eu croesaw, a theimlem fod yr wyr bychan, Master Edward Jones, yn taflu'i hunan i'r croesaw ac yn helpu'i daid a'i nain i wneuthur y lie yn ddifyr i'r gwahoddedigion. Taled yr j Arglwydd iddynt oil am eu meddylgarwch a'u sirioldeb, ac arhosed yn Dduw yn y teulu hyd genhedlaeth a chenhedlaeth. P. H. L. I (V(VW I

PWYSIG I BERCHENOGION TIR

PWYSIG I BERCHENOGION TIR. Yn Llys Bettwsycoed, gwnaeth Mr. R. ( E. Thomas, trethgasglydd, ar ran overseers Dolyddelen, gais am archeb yn erbyn Mr. John Evans, Ty Isa, Dolyddelen, am y swm o £ 9 5s. 5c., ddywedwyd oedd yn ddyledus fel treth am sporting rights ar Berthios, Dolyddelen. Gwrthwyneb- wyd y cais gan Mr. David Thomas, Llan- rwst, ar ran, y diffynydd, yr hwn a anerch- odd y llys i-brofi nad oedd gan yr overseers I hawl i drethu y perchenog. Dyfynodd I Mr. Thomas adran o ddeddf a basiwyd yn 1874, ac wedi i'r ynadon ystyried y mater am beth amser gwrthodwyd cais yr over- seers, a thaflwyd yr achos allan. Y mae Lady Howard wedi cydsynio i fod yn Faeres Llanelli er gorphen tymor ei diweddar wr. I Heddyw (lau) cyflwynir rhyddfreimad I dinas Lerpwl i Mr. W. M. Hughes, Prif- j Weinidog Awstralia.

GYRU YR AWRLAIS AWR YMLAEN

GYRU YR AWRLAIS AWR YMLAEN. Nos Sadwrn a boreu Sul diweddaf, gyrwyd bob awrlais ac oriawr yn y deyrnas hon awr ymlaen. Dau o'r gloch foreu Sul oedd yr awr ben- odedig i yru yr awrleisiau, etc., awr ymlaen, ac ar yr awr hono y darfu i awdurdodau y llythyrdy, y rheilffyrdd, etc., yru eu hawr- leisiau ymlaen. Yr oedd gan un ffirm o Lundain-Mri. Dent & Co.—gynifer a 2000 o awrleisiau i'w gyru. Yr awrlais mwyaf a'r cywiraf yn y byd yw Big Ben," sydd ar ben y Senedd-dai. Bu raid cael tri o ddynion i symud y bysedd awr ymlaen. Gan nad yw clociau Llundain yn taro'r awr oherwydd y rhyfel, collodd y newid amser lawer o'i swyn.' Bydd i'r holl drenau redeg yn ol yr amser newydd, a rhaid anfon llythyrau yn ol yr un amser. Ni ellir dirwyo neb am beidio cadw at yr amser newydd, ond fe gosba ei hun. Adroddir fod bron holl weithwyr y wlad o blaid y Mesur. Y mae dau gant o awrleisiau yn y Ritz Hotel, Llundain. Ar nos Sadwrn, Medi 30, neu boreu Sul, Hydref 1, bydd raid symud yr awrleisiau yn ol awr. Adroddir y bydd i'r mesur newydd arbed £ 20,000 i Gorfforaeth Sheffield mewn olew a thrydan yn unig. Edrydd cwmni nwy o Sheffield yr arbedant 8,000 o dunelli o lo trwy'r mesur. Arbedir punoedd lawer o arian i'r gweithfeydd cyfarpar. Fel gyda phob diwygiad arall, ceir fod rhai yn gwrthwynebu y drefn hon. Yn Llundain, er engraifft, ysgrifenodd gwrth- wynebydd a ganlyn ar le neillduol: Dydd yr Holl Ffyliaid, Mai 20ain, 1916. Codwch o'ch gwely awr yng nghynt, a chymerwch arnoch na ddarfuch." Y mae un awrlais yn Lloegr y tuallan i'r drefn newydd, sef yr awrlais mawr yn Ar- syllfa Greenwich. Rhaid i hwn gadw at yr hen amser, canys efe yw safon holl awrleis- iau y byd. Felly, pan bydd yn ddau o'r gloch y prydnawn ar yr awrleisiau ereill, Nil o'r gloch fydd ar awrlais Greenwich.

Advertising

iiiiiiiiiitiiiiiiiiiiHWteiiiii THE REALWELSHCURE ? t ??*??? HAYWS f BALSAM 1 WELLHA B BESWCH?cANWVD ? A 11'hrisiadwy gy-?? ,6 It I a,, i,    G-AN OLL"?"'FERYLLWYRAGROSfi'.t? ??.