Teitl Casgliad: Dydd

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Cambrian News Ltd.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 2 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
4 erthygl ar y dudalen hon
Y RHYFEL

Y RHYFEL. Y frwydr fawr yn Ffrainc yn myned yn mlaen yn rhagorol Yn ol y newyddion o'r Pencadlys Pryd- einig, dydd Sadwrn, yr oedd popeth yn myned yn mlaen yn dda gyda'r Prydein- wyr. Gorfodwyd y gelynion i syrthio yn ol ar eu trydydd linell o amddiffyn- feydd, yr hyn sydd yn awgrymiadol iawn. Gorfodwyd y gelynion i syrth o yn ol bedair milltir o ffordd y tu ol i Fricourt a Mametz. Yn ystod y 24 awr diweddaf cymerodd y Prydeinwyr 2,000 o garcharorion, yn cynnwys Cadfridog. Dydd Gwener, llwyddodd y Prydeinwyr i enill dwy iilltir o dir. I fyny i Mehefin laf lladdwyd 92 o'u cadfridogion yn unig, archollwyd 98, ac y mae pedwar ar goll. MEIRCH-FILWYR PRYDEINIG YN YMOSOD. Newyddion cysurlawn ddaeth i'r wlad I oddiwrth y Cadfridog Syr Douglas Haig i ddydd Sadwrn. Dywed ddarfod i lgr Prydeinwyr ymosod ar y drydedd linell I o amddiffynfeydd y gelyn a'u meddianu am beth amser. Bu iddynt gilio yn ol drachefn er cryfhau y safleoedd enillwyd yn flaenorol. Am y waith gyntaf er 1914 cafodd y meirch filwyr Prydeinig gyfle i ymosod ar yr Ellmyn. Bu y Pryd- einwyr yn hynod o lwyddianus i'r gogledd o Bazentin-le-Grand, ac hefyd yng nghy- ffiriau gorllewinbarth Bazentin-le- Peti it. Rhifa'r carcharorion gymerwyd gan y Prydeinwyr yn awr 10,000 ac yn eu mysg y mae fcwyddogion pwysig perthynol i'r fyddin Ellmynig. Mae nifer ychwanegol o fagnelau a gynau mawrion hefyd ym meddiant y Prydeinwyr. Yn ystod nos Lun, mae y Prydeinwyr wedi myned yn mlaen ar ffrynt o 1,000 o latheni. Cymerasant nifer o safleoedd pwysig, rhai carcharorion a 6 machine gun. Mae niwl a gwlawogydd yn atal ychydig ar y symudiadau yn mlaen yn ardal yr afon Somme. VERDUN. I Yr oedd disgwyliad pur gyffredinol y byddai i'r ymosodiad llwyddianus yn I erbyn Germani yn Picardy lacio'r pwysau t ar Verdun, a bu egwyl yr wythnos o'r blaen a awgrymai fod y straen yn cael J ei theimlo. Fodd b'ynag adnewyddwyd I yr ymosodiad ar yr amddiffynfeydd yn I ystod yr wythnos, a cheir 11awer yn synnu gweld Germani yn parhau i aberthu ei milwyr yn yr, ymgyrch gostus hon, pan y mae mewn angen am ddynion i atal v rhuthr Ffrengig a Phrydeinig. Bar nai rhai nad yw'r ymosodiadau diweddar ar Verdun ond cais i roi argraff nad oes milwyr yn cael eu tynnu oddiyno, tebyg i'r hyn gymerodd Ie yn Galipoli pan encil- iodd ein milwyr o'r orynys. Nis gwyddom t pa mor gywir yw'r syniad hwn. Mae son yn yr awel fod Germani vn cludo milwyr yn lluoedd trwy Belgium i'r ffrynt yn nes i'r de yn Ffrainc; ond gall y rheiny bod yn dyfod o'rgwersyllfaoedd yn German ei hun. Yn ol a allwn gasglu, rhydd Germani bwys mawr ar enill Verdun, am y gwelant y byddai o fantais fawr iddvnt allu ymsefydlu ar y bryniau o gylch y Meuse hyd yn oed pe y collent lawer o dir sydd vn awr yn eu meddiant yn Ffrainc a Bel num.

n Y RWSIAID

< Y RWSIAID. Ymddengys fod y Rwsiaid yn parhau yn eu hymdaith fuddugoliaethus tua Kovel. Nid oeddynt ond deunaw milltir oddiwrth y dref bwysig hon o un cyfeiriad. Yn ystod y pedwar diwrnod o ymladd cymerodd y Rwsiaid 35,000 o garcharorion. O'r nifer yna yr oedd 2.1,145 heb eu hanafu. Yn nghymdogaeth Kimpolung, lie yr oedd yr Awstria d wedi ymgynull yn llu mawr, gyrrwyd hwy yn ol gyda'r bidog gan y Rwsiaid. Cymerodd Brussiloff yn yr ymgyrch yma 266,000 yn garchar- orion, ynghyda 312 o ynau mawr a 860 o rai llai. Mae y Rwsiaid eto wedi enill buddugol- iaeth fawr ar y Germaniaid yn Volhyma ddydd Sul, pryd y cymerwyd ganddynt 13,000 o garcharorion a 30 o ynau, maent yn clirio y gelyn yn llwyr oddiar lan isaf yr afon Lepa. A barnu oddiwrth nifer y gynnau a nwyddau rhyfel adawyd ar ol, mae yn amlwg fod y Germaniaid wedi dianc yn bendramwnwgl. Mae y carchar- orion yn gwisgo dilladau gwahanol, yr hyn a ddengys fod darnau o catrodau yn cael eu lunio er mwyn gwneud catrawd. Enillwyd 31 milltir o dir oddiar y gelyn, a chredir fod y rhwystr pennaf ar y ffordd i gymeryd Lemberg yn awr wedi ei symud. 000000

j LLYTHYR 0 MALTAI

j LLYTHYR 0 MALTA. I Derbyniodd Mr. W. Allen y llythyr canlynol oddiwrth Mr. John Jones, mab Mr. Wm. Jones, Bontyraran. Anwyl Mr. Allen. Dyma fi yn cael y fraint a'r pleser mawr o ysgrifennu gair bach atoch, gan obeithio eich bod chwi ar teulu yn mwyn- hau iechyd da. Pwrpas mwyaf fy llythyr ydyw dweud hanes y Garden Party a gynhaliwyd ddoe i holl filwyr Cymraeg ag sydd yn yr Ynys (Malta) trwy garedig- I rwydd Mr. Morris Casal Lia, boneddiges I Gymraeg o Sir Drefaldwyn. Yr oedd o gant i gant a haner o honom wedi derbyn I y gwahoddiad, ac yr wyf yn sicr nad aeth neb gartref i'w gwersyll leoedd heb fwyn- hau ei hunan. Oedd cael. bod yn mysg nifer o Gymry, a chlywed yr hen iaith, I yn prysur weithio, yn ddigon o wobr am fyned yno, heb son am y te ardderchog. Yr oedd y grounds yn agored i ni, ac yr oedd y lie yn llawn o goedydd Lemon a grapes. Yr oeddpiano wedi ei osod yn y grounds o dan un o'r Coed Grapes, a medraf fentro dweud wrthoch, nad oeddym yn hir iawn cyn cael hyd iddo. ac mi gawsom awr ddifyr yn canu hen donau Cytnreig bendigedig, Aberystwyth, Huddersfield, Handon, Dduw Mawr pa beth a welaf draw, St. Catherine, ac amryw o donau eraill, ac yn wir mi genais nes fedrwn i ddim canu rnwy (os wyddoch chwi beth ydyw hynny) ac yn siarad fel merch. Ar ol mwvnhau ein hunain wrth y piano, mi aethom i gael te, yr hwn oedd yn dderbyniol iawn gan fod yr hen gorn yn sych wedi canu. Un peth oedd ar ol, y te yn boeth, ac felly yn methu ei roddi i lawr yn ddigon buan i foddloni yr hen gorn. Yr oedd yno ddigon o bob peth da arall yno. Tra yr oeddwn yn eistedd yn mwynhau y te, daeth boneddwr ataf ag oedd yn perthyn i'r R. A. M. c., ac wrth ymddiddan gyda'n gilydd, mi —-r-~ S a ddeuais i wybod ei fod yn adnabod chwi a Willie yn dda, ac wedi mwynhau ei hun gyda Willie wrth y Piano lawer gwaith, hefyd yr oedd yn gofyn yn arw j am Mr. Corbett Williams, Mr. Ernest Davies, Miles & Williams, a Mr. Mills. Pwy feddyliech chwi oedd o, Mr. Evans, ( Traveller Blawd, Appleby & Co., ar ol cael gwybod y pethau yma yr oedd yn j naturiol iawn yn ein tynu yn nes at ein gilydd. Rhyfedd oedd hefyd i mi wybod mai o dan ofal Mr. Evans, yr oedd Willie Owen, Joiner, pan yn gorwedd yn wael iawn yn Malta. Yr oedd yn dweud fod yn syndod fod Willie druan wedi dod drwyddi hi. Ond diolch am ofal a thru- garedd ein Tad Nefol ei fod wedi y cwbl yn gwella ac wedi dod o fewn cyraedd ei anwyl rieni a'i berthynasau. Hefyd cyfarfyddasom a boneddiges o Bangor, sef Miss Lewis, merch Sir Henry Lewis, yr hon sydd yma yn gweini ar y cleifion. Yr oedd hithau hefyd yn interested yn Dolgellau, am fod ganddi berthynasau yno, sef teulu Argoed. Nid oesdd ond saith o honom yn y wledd o North Wales, ac fe gawsom dynu ein lluniau gyda'n gilydd cyn ymadael. Wel i fyned ymlaen, ar ol y te fe gynhaliwyd cyngherdd byr ag fe gawsom amser reit ddifyr, ac i ddi- weddu y prydnawn, fe aethom oil i gael tynu ein lluniau. Yr oedd hefyd ym mysg y dorf, boneddwr ieuanc ag oedd wedi bod yn pregethu unwaith neu ddwy yn Capel Saesneg Caetanws, ac mae yn awr yn gofalu am y Y. M. C. A. yn un o'r Camps. Nid wyf yn sicr o'r enw, rhywbeth tebyg i Mr. Mendus. Wwel, pryn bynnag, fe aeth pawb adref wedi mwynhau ei hunan yn drwyadl. Mi gefais lythyr oddiwrth Willie o Rwsia ychydig ddiwrnodau cyn i mi gychwyn o'r Hospital i'r llong, ac mi ysgrifennais ateb iddo. Yr oedd yn meddwl ei fod yn symud i'r Balkans. Mi fydd yn dda gan fy nghalon i i'r cwbl orphen, i ni oil gael dod unwaith eto i'r Hen Wlad. Mae hi yn boeth ddychrynllyd ar yr Ynys yma, ac yn ddigon o test i ddynion cryiion heb son am invalids. Yr ydym ni yn mhen pellaf yr Ynys, a" fawr o ddim i weled ond creigiau a mor, ac o'r ddau y mor yw y goreu. Nid oes genyf ond gobeithio v cawn yn fuan weled yr hen wynebau, a bod yn eu mysg. Yr ydwyf wedi cael digoa o experience yn mysg yr Arabiaid, Aipht- iaid, a Groegiaid, Tyres, a Maltese, a gwa- hanol bobl eraill, ac nid oes yr un lie yn de byg i'r Hen Gymry. Y lie tebycaf ydyw Groeg ac i gyfeiriad Serbia, ond y mae yn yn fwy mynyddig na Chymru. Mi der- fynaf gan ewyllysio pob da i chwi a'r teulu a'r hen dre i gyd. a'r hen dre 1 g 6b6b& JOHN JONES.

LLEW MOR YN YMLID GWRAIG

LLEW MOR YN YMLID GWRAIG '■ Adroddir hanesyn rhyfedd gan Mrs. Delia Wright sydd yn aros yn Bull Bay, ger Amlwch. Ebai:—"Dydd Gwener diweddaf yr oeddwn yn nofio yn hapus ymhell yn y mor pryd yr aroglais rhyw- beth. Gwelwn y bobl ar y lan yn edrych arnaf. Pan droais gwelais rywbeth du anferth yn fy nilyn. Adnabyddais ef fel Hew mor. Yr oedd ganddo ddanedd miiiiog. Edrychasom ar ein gilydd am foment ac yna nofiiais am fy mywyd. Llwyddais i gael gafael mewn craig, .Edrychodd y pysgodyn arnaf ac yna c!i "nnodd. I