Teitl Casgliad: Dydd

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Cambrian News Ltd.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 3 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
2 erthygl ar y dudalen hon
CYMRU AR FYDDIN I

CYMRU A'R FYDDIN. YR AELODAU CYMREIG AC ENW DA CYMRU. Esiampl yr Iwerddon. Mae rhai o'r aelodau Cymreig wedi ffromi yn aruthr am ysgwyd o honwyf hwynt o'u cysgadrwydd bythefnos yn ol. Nid wyf yn synu dim. Gwelais ami un sy'n ddigon hynaws ei natur yn myned dipyn yn groes ei raen pan ysgydwid ef yn sydyn o drwmgwsg i'w adgoffa fod gwaith pwysig yn aros ganddo heb ei gyflawni. Mae fy nghyfaill Mr. Ellis Davies, yr aelod dros ran ddeheuol o Sir Gaernarfon wedi rhoddi amlygiad i'r teimlad hwnw mewn llythyr i'r wasg. Dyledswydd Mr. Ellis Davies fel chwip y Blaid Gymreig oedd dweyd ygoreu fedrai dros ei gydaelodau. Ond ymddengys mai gwael yw y goreu hwnw yn yr amgylchiad presenol. Dyma ddywed—"Nid oedd yn bosibl i ni alw sylw y Senedd at y mater (achos y Cad- fridog Owen Thomas) oherwydd nid yn unig ni anfonwyd unrhyw fanylion i ni, ond er i mt*l ac un aelod arall wneud cais am y manylion at gyfeillion y Cadfridog, meth- athsom a'u cael, tra mae yn amlwg, fod rhywun wedi eu cyflenwi i Syr Arthur Markman." Dyna'r amddiffyniad goreu fedrai Chwip y Blaid Gymreig ei roi dros ddistaw- rwydd difater 33 Aelod Cymru yngwyneb yr anfri a'r enllib swyddogol a daflwyd gan swyddogion cyflogedig y Swyddfa Ryfel ar y wlad a'r genedl a ddanfonodd y 34 aelod hynny i'r Senedd i amddiffyn ei hawliau a'i henw da. Swm a sylwedd amddiffyniad Mr. Ellis Davies yw:— 1. Na fedrai yr Aelodau Cymreig godi r mater yn y Ty, am na wyddent ddigon yn eigykh. 2. lEi fod ef ac un aelod ???M, sef dau allan o'r 34, wedi gwneud cais rywbryd at rywun yn rhywle am y manylion, ac wedi methu eu cael. Yr oedd pob papyr newydd yn Nghymru wedi codi'r mater i'r gwynt, yr oedd Cyng- horau Cyhoeddus Cymru, a'r Cynhadledd- au Enwadol oil yn gwybod digon am y mater i'w gymeryd i fyny yn gyhoeddus ac yn swyddogol, ond yr oedd, medd Mr. Ellis Davies, yr aelodau Cymreig yn cysgu mor drwm fel na welsant ac na chlywsant ddigon am y mater i'w galluogi i gymaint a gofyn cwestiwn yn yTy.! Gwyr Mr. Ellis Davies, cystal a minnau, y medrai yn rhwydd weithredu yn y Senedd ar sail penderfyniadau a basiwyd ym mhob rhan o Gymru, gwyr hefyd y medrai fod wedi dod o hyd i bob manylion angen- rheidiol pe y dewisai chwilio o ddifrif am danynt. Gwyr ef a gwn inau, fod yr achos wedi bod o dan sylw mewn cyfarfod o'r Aelodau Cymreig, ac mai nid am na fedreat gael manylion y peidiasant symud, ond am eu bod yn barotach i wrando ar storiau celwyddog swyddogion cyflogedig y Lly- wodraeth nag i wynebu gwg pobl mwen awdurdod drwy godi row yn y Senedd er my mwyn amddiffyn cam y Cymry. Rhaid pwysleisio eto'r ffaith mai nid cwestiwn o swydd i'r Cadfridog Owen Thomas, nid cwestiwn o'r cam personol a wnaed ag ef, ydyw hwn, eithr cwestiwn o amddjffyn anrhydedd a buddianau byddin Cymru, a mynnu gweled fod ymrwymiadau V Mr. Lloyd George iddynt hwy yn awr yn cael eu cadw. v • r Y Werddon a Chymrii. I Nos Fercher cyhoeddodd Mr. Redmond, I ar ran yr aelodau Gwyddelig, manifesto ynglyn ag ymgais y Cabinet drwy eiiau Arglwydd Lansdowne, i dalu llai i'r Wer- ddon nag a addawyd iddi gan Mr. Lloyd George yn yr ymdrafodaeth ddiweddar. Dywedodd ef fod araeth Arglwydd Lans- downe fel y sarhad mwyaf ar y Werddon, i fel yn gyfystyr a chyhoeddi rhyfel yn j erbyn pobl y Werddon, ac yn amlygiad o bolisi o orfodaeth. Pe cymerem yr araeth hon fel yn safle ac ysbryd y Llywodraeth tuagat y Werddon, yna byddai drosodd ar bob gob- aith ddyfod i gytundeb. Buasai yn dorr-amod gwarthus. Dy- munaf hysbysu fy mod yn dal at lythyren y telerau a osodwyd ger ein bron gan Mr. Lloyd George, ac a osodwyd wedi hynny gennym ninnau ger bron y Cenedl- aetholwyr y Werddon, yna byddai drosodd yr holl ymdrafodaeth am setlo achos y Werddon, mor bell ag y mae a fynnom ni a'r cyfryw, yn terfynu yn hollol pe y gwneid fel yr awgryma Arglwydd Lans- downe. Nid oes unrhyw ystyriaethau eraill, na I pherygl wrthryfel yn y Werddon, nac argyfwng ofnadwy y rhyfel, nac ofn ad- gyfodi ysbryd a chyfundrefn Sinn Fein, I wedi atal yr Aelodau Gwyddelig i siarad yn glir, ac yn groew, lie bo buddianau ac anrhydedd eu gwlad hwy yn y cwestiwn. I Ond beth am Gymru, a'i Haelodau, an _I rhydedd gwlad, enw da cenedl, a pharch 1 ymrwymiadau difrHol? Rhwydd fuasai i Aelod Cymreig aralleirio Manifesto Red- mond, a dweud:— "Ystyriaf atebiad Mr. Tennant, ac eiddo Mr. Foster fel y sarhad mwyaf ar Gymru, fel yn athrod arnom fel cenedl, ¡ ac fel amlygiad o bolisi swyddogol i ddi- raddio ac i waradwyddo popeth Cymreig yn y Fyddin. Mae yn dorr-amod gwarth- us. A yw ymrwymiad difrifol i Gymru yn llai cy-segredig nag ymrwymiad i'r Wer- ddon? Os rhaid cadw addewid Mr. Lloyd George i Redmond, ai ni raid cadw add- ewid Arglwydd Kitchener i Owen Thomas? A yw anrhydedd ac enw da Cymro yn llai eu gwerth nag eiddo Gwyddel? Mae gwaith Mr. Forster, fel cynrychiol- ydd Swyddfa Rhyfel, yn ateb fel y gwnaeth I ofyniad Syr Arthur Markham yn gosod angenrhaid ar 1 YR AELODAU CYMREIG. i gymeryd y mater i fyny yn swyddogol. Gwnaeth ddau gyhuddiad difrifol sydd I yn cyffwrdd ag anrhydedd cenedl y Cymry. Dvdwedai:- 1. Nad oes sail o gwbl i fynegiad Owen Thomas a wnaed yn gyhoeddus dro ar ol tro trwy Gymru benbaladr ddarfod i | Arglwydd Kitchener, a hynny yn mhres- enoldeb Mr. Lloyd George, addaw i Owen Thomas y caffai Byddin Cymru fod yn Fyddin Gymreig mewn ffaith yn ogystal ag mewn enw, a thuagat ei gwneud felly { y cawsai fel ei swyddogion Gymry glan gloew mewn iaith. I 2. Fod nifer o swyddogion Cymreig ym Myddin Cymru wedi cael eu symud o'u swyddi am nad oeddynt gyinhaws i'w swydd. j 1 Gwnaed y ddau iiaenad yna ar goedd 1 gwlad yn y Senedd, gyda holl awdurdod | y Swyddfa Rhyfel, ar yr hon y mae Mr. Lloyd George yn awr yn ben tu cefn i'r cyhuddiadau. Mae y cyhuddiadau hyn naill ai yn wir, neu yn anwiredd. Os gwir, mae Owen Thomas ers blwyddyn a hanner ymhob rhan o Gymru wedi bod yn dweud anwir- edd wrth ei gyd-genedl er mwyn enill milwyr Cymreig i'r Fyddin, ac mae y swyddogion Cymreig a ddiswyddwyd, ac Owen Thomas yn eu plith, wedi cael eu diswyddo yn gyfiawn. Os NAD gwir cyhuddiadau Tennant a Forster, dyma'r SCANDAL fwyaf ynglyn a'r Fyddin er dechreu y Rhyfel, a'r cam mwyaf a wnaed erioed a dynion da. Mae gan Gvmru hawl i ofvn AI GWIR AI GAU Y CYHUDDIADAU? Lie, a dyledswydd bendant ddiamhettol yr Aelodau Cymreig fel cyfangorff yw MYNU CAEL YMCHWILIAD SWYDDOGOL I'R HOLL FATER. Gellir casglu oddiwrth eiriad cwestiwn y rhoddodd Syr Herbert Roberts rybudd o hono yn y Ty fod y Cadfridog Owen Thomas wedi hawlio. YMCHWILIAD SWYDDOGOL. Dyledswydd amlwg yr Aelodau Cymreig yw MYNU CAEL y cyfryw ymchwiliad YN DDIOED. Dywedir fod pethau rhyfedd o'r tu ol i'r holl hanes, a bod personau mewn safleoedd urddasol a'u bysedd yn y fusnes. Ond na foed i safle neb mewn cymdeithas na swydd filwrol na gwjadol fod yn gc-chl mewn mater "el hwn. Mae gan Werin Gwlad ei hawlir a yn ogystal ag urddasolion mewn lleoedd T chel. MYNWN FELLY GAEL YR HOLL FFITHIAU ALLAN I OLEUM DYDD. N-id vw Cymru heddyw yn gofyn am fwy na lyn, ac ni foddlona Cymru ar lai. G W AS AN AETH YR AELODAU CYMREIG. Hyd y gwelais i, ar wahan i gwestiynau. Syr Herbert oberts, tri Aelod Cymreig yn unig St /edi codi i sylw'r wlad yn ,y Senf, wri a wnaed a: bechgyn Cyril 'r Fyddin, sef Mr. ).1 Williams ynglyn agacoos Nai T; Mr. Ellis J. Griffith ynglyn ag achos Cymry uniaith a anfonid i Fataliynau Seisnig lie na fedrent iaith eu swyddogion a v Mr. Ellis Davies, yr hwn a sicrhaodd ymchwiliad i achos un o'i etholwyr a yrwyd ar gam i'r Fyddin. Gwir fod Mr. Haydn Jones, Mr. E. T. 5 John, a Mr. John Hinds wedi gwneud gwasanaeth drwy ymweliad a'r Swyddfa Ryfel. Gyrrwyd yr achosion hyn oil i'r Aelodau hyn naill ai gennyf fi fy lain neu gan eraill ar fy nghais i. Dyma eto iddynt achos a ddanfonwyd i mi hedayw Bythefnos yn ol gyrrwyd deg o Gyirzy, wyth o honynt na fedrant ond ychydig,. os dim, Saesneg, i'r 14th Chester Battaaon er ceisio o honynt gael myned i gatrawd Gymreig. Maent yn awr ar gael eu symud i Lincolnshire. Gall y darllenydd ddvrh- mygu pa beth a olyga hynny iddynt. Galwed Cymru yn unllais am Lys Ym- chwiliad i achos Owen Thomas, a myneged yr Aelodau Cymreig hynny 'yn groew yr, y Senedd. .0..0..0.

www BONTDDU

www BONTDDU. Mae Miss Iris R. Pugh, merch ieuaisgaf Mr. R. Jones Pugh wedi bod yn llwydfi- ianus yn arholiad yr Intermediate, am y gradd o B.A,, ym Mhrifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Cafodd Miss Pugh ei haddysg yn Ysgol Ganolraddol, Abermaw-