Teitl Casgliad: Dydd

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Cambrian News Ltd.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 3 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
1 erthygl ar y dudalen hon
CYMRU AR FYDDIN

CYMRU A'R FYDDIN. Y DIWYGIAD MAWR. GWEGWRTHRYFEL A BUDDUGOLIAETH Y GYMREIG. GWRONWAITH Y WELSH FUSIL- IERS YN FFRAINC. Aelodau a Milwyr Cymru yn Ateb Athrod y Sais. (Can Beriah G. Evans.) Bum mor llym fy meirniadaeth o'r Aelodau Cymreig yn ddiweddar fel mai pleser gwirioneddol yw imi allu yr wythnos hon wneud trawsgyweiriad o'r lleddf i'r lion Yn lie galarnad canaf fi a Chymru heddyw folawd i'n Haelodau Seneddol. Yr wythnos ddiweddaf (nos Fercher) yn y Senedd cyflawnasant wronwaith na welwyd mo'i gyffelyb o'r dydd yr aeth Mr. Lloyd George yn aelod o'r Cabinet. Codasant mewn gwrthryfel yn erbyn y Llywodraeth ar gwestiwn cenedlaethol. Mynasant rannu'r Ty arno-a gorchfyg- asant y Llywodraeth. Dyma beth na lwyddodd —ymron gallesid dweud na cheisiodd-yr un Blaid arall yn y Senedd ei wneud er pan y unodd y Ceidwadwyr a'r Rhyddfrydwyr i ffurfio un Cabinet cymysgryw. Am y Blaid Gymreig gellir dweud yn llythrenol yn awr: "Eraill a weithiasant yn rymus, ond ti a ragoraist arnynt oil!" Ac nid ffigiwr o ymadrodd, ond gwirionedd syml yw y frawddeg yn y cysylltiad presennol. Ynglyn a'r Fyddin y cododd y ddadl. Hysbys yw fod ym mryd y Llywodraeth i sefydlu nifer mawr o Ddaliadau Bychain at wasanaeth y milwyr ar ol y rhyfel. Bydd miloedd lawer o'n bechgyn dewrion allan o waith ac heb fodd i enill eu bywol- iaeth pan elo'r rhyfel heibio. Bwriad y Llywodraeth yw mynnu tir i'w rannu yn dyddynod bychain, neu yn allotments, at wasanaeth y milwyr. Mesur digon anig- onol ac anfoddhaol yw ar y goreu. Ond mae haner torth yn well na bod heb ddim. Rhyw chwe mil (6,000) o aceri a fwriadai y Llywodraeth .sicrhau ar gyfer holl anghen- ion ein milwyr. Ac, mor bell ag oedd Mesur y Llywodraeth yn myned, gallasai yr oil fod yn Lloegr. Teimlai'r Aelodau Cymreig y dylid gwneud LJarpariaeth A rbenig i Gymru. I Ceisiasant yn wylaidd am chwareu teg II i'r Cymro. Cawsant yr ateb ystrydebol a geir fel rheiol gan Swyddog o Sais, sef nad oedd dim yn galw am wneuthur gwahan- iaeth rhwng Cymru a Lloegr, ac y dylai Cymro fod yn ddiolchgar am unrhyw friw- sion a ddigwyddant ddisgyn oddiar fwrdd ei arglwydd y Sais. Gwrthododd y Llyw- odraeth yn bendant roddi unrhyw fath o ystyriaeth i gais Cymru. I Cododd yr ymddygiad sarhaus hyn I wrych yr Aelodau Cymreig-. Manner Gwrthrytel Cymru.. Neidiodd Mr. E. T. John, yr aelod dros Ddwyrain Dinbych i'r bwlch gan gyhwfanu yn hollol fel yr arferai Mr. Lloyd George wneuthur cyn cael ei lyffetheirio gan swydd. Mynnai Mr. John nid yn unig gael ystyr- iaeth arbennig i'r milwr Cymraeg, ond mynnai gael darpariaeth arbenig iddo yng f Nghymru. Dywedodd mewn effaith- f "Parod f fwyddus iawn oeddech i gael bechgyn Cymru i'r fyddin. Atebodd Cymru eich apel. wnaeth yrfun rhan o'r deyrnas cystal ag a wnaeth Cymru ewn codi byddin, cydnabod teyrngarwch parod Cymru trwy I sefydlu cyfran deg o'r Tyddynod bychain hyn yng Nghymru ar gyfer y milwyr Cymreig." I Cynygiodd Mr. John welliant i'r Mesur, sef fod dwy fil (2,000) o aceri yn cael eu neillduo yng Nghymru at wasanaeth milwyr Cymru. Gwnaed y Llywo draehu ebe fe, fel y mynnai, ai cyfrif y ddwy fil hyn fel rhan o'r chwe mil i'r deyrnas ai peidio, neu rhoi y ddwy fil i Gymru yn Gymru yn ychwanegol at y chwe mil acer i'r deyrnas. Ond mynnai ef gael dwy fil o aceri i Gymru ar ei phen ei hun. Daeth ereill o'r aelodau Cymreig yn mlaen i sefyll wrth ei ochr, pob un a'i gleddyf noeth yn ei law. Wele Mr. Haydn Jones, o Feirion, Mr. John Hinds, o Gaer- fyrddin, Syr Herbert Roberts, Cadeirydd y Blaid, Mr. Ellis Davies, o Eifion, a hyd yn, oed Mr. Caradog Rees o Arfon, un ac oil yn ysgwyd dwrn yngwyneb y Llywod- raeth. Hyd y gwelais i eto I Y Chwech aelod Cymreig hyn yn unig I gymerodd ran yn y ddadl, ond rhaid fod rhai o honynt wedi pleidleisio. Dylesid cyhoeddi enwau yr Aelodau Cymreig a » gefnogasant drwy bleislais hawliau Cymru, I modd y gallai'r etholwyr weled pwy o'r aelodau sy'n meddu asgwrn cefn. Ond gellir dweud mai y cyfrifwyr (tellers) dros Gymru oedd Mr. F. T. John. a Mr. John Hinds. Diwedd yr ymladd fu i'r Aelodau Cymreig orchfygu'r Llywodraeth. Dyna bluen yng nghap y Blaid Gymreig, pluen na enillwyd hyd yma gan unrhyw Blaid yn y Senedd hon. Dyma'r i Tro cyntaf i weinyddiaeth Asquith gael ei I gorchfygu. I 0 .dan amgylchiadau cynredin golyga I peth fel hyn ymddiswyddiad y Weinydd- iaeth. Ond o dan amgylchiadau eithriadol y rhyfel ni wneir hynny yn awr. Ond cyfnewidir Mesur y Llywodraeth yn unol I a phleidlais Ty'r Cyffredin. Canlyniadau Pwysig. I Dywed y papurau dyddiol y rhaid i fuddugoliaeth y Cymry ddylanwadu ar holl gwrs dyfodol y Weinyddiaeth yn ei pherthynas a Thy'r Cyffredin. Mae'r Cabinet wedi arfer cymeryd gormod yn I ganiataol, ac wedi ymddwyn yn unben- aethdl, os nad ar adegau yn sarhaus, at y Ty fel cyfangorff. Dywed papur mor gymedrol, ac fel rheol .mor ffafriol i'r Weinyddiaeth ag ydyw y "Manchester Guardian," y rhaid i'r Llywodraeth yng ngwyneb y gorchfygiad hwn, newid ei dull o ymddwyn at y Senedd. Y Wers i'r Blaid Gymraeg. I Ceir yn hyn wers pwysig i'r Blaid Gym- reig, sef mai trwy sefyll yn gryf a didder wyneb dros hawliau cenedlaethol eu gwlad y mae iddynt nid yn unig barhau i deilyngu cefnogaeth y wlad, ond mae felly yn unig yr enillent barch yn y Senedd a chan y Llywodraeth. Gwronwaith y Welsh Fusiliers yn Ffainc. i Ar gein budaugoiiaeth y -Blaid Gymreig yn y Senedd, wele hanes i law am wron- waith a buddugoliaeth adran o Fyddin Cymru yn Ffrainc. Ni chyhoeddwyd yr hanes hyd yn hyn yn y papurau Seisnig, ond mae yn wir. Dyma'r hanes:— I Yr oedd sefyllfa neilltuol ym meddiant y Germaniaid yn y brwydro diweddar yn Ffrainc yr oedd yn rhaid i ni ei enill, costied a gostio. Ymddibynai diogelwch ein holl Fyddin ar ei enill. Yr oedd safle'r gelyn yno yn neilltuol o gadarn. Gwnaed I mwy nag un ymosodiad gan gatrodau .Seisnig ar y lie—ond yn ofer. Gyrrwyd hwynt yn ol gyda cholledion trymion bob tro. O'r diwedd dyma'r Cadfridog yn galw am "The Welsh Brigade." Yr oedd pedair bataliwn o'r Royal Welsh Fusiliers yn ffurfio'r brigade hon. Cawsant orch- ymyn i ymosod ar ac enill y lie y methoccl pawb o'u blaen. Gan waeddi "Cymru am Byth!" ruthrasant ymlaen; ac ar I waethaf holl ymdrechion y gelyn, enillas- ant y lie, gan ladd neu gymeryd yn gar- charorion yr holl Germaniaid yn y lle hwnnw. I Uisgybhon Owen Thomas. 'I oedd holl aelodau'r pedair bataliwn t Dyna fechgyn Cymru ar faes y ?wa?ed. f wedi ateb athrod Mr. Tennant a Mr. Forster yn Nhy'r Cyffredin pan feiddient awgrymu fod "effeithiolrwydd milwrol" yn galw am ddiaswyddiad swyddogioin Cymreig, —cymered yr Aelodau Cymreg hyn eto at eu calon, "Gwregyswch eich lwynau ac ymwrolwch" dros anrhydedd eich gwlad. Y gwir yw fod, nid yn unig y Blaid GymjJ reig, ond ei y Senedd ei hun, ac, oherwydd hynny y wlad ei hun, wedi bod yn rhy wasaidd i'r Llywodraeth, a'r Llywodraeth hithau wedi bod yn rhy ddifater, neu es- geulus, neu dyner, o rai swyddogion mil- wrol mewn lleoedd uchel. Pan gronidir ar ol .llaw holl fanylion hanes y rhyfel, gwelir pa beth a gostiodd gorthrech ac unbennaeth milwrol o dan law ami i swyddog anghymwys, mewn arian, meWil gwaed, ac mewn rhyddid. Diolch i'r Aelodau Cymreig. I- Diolch meddaf eto o galon i'r Aelodau Cymreig am sefyll o'r diwedd mor gryf ac mor benderfynol. Agorasant lygaid Senedd, a Phlaid, a Gwlad, i'r ffaith fod hawliau gwerin, a chenedl, a dynoliaeth, yn ddengwaith pwysicach na phlesio p:b "Jack-in-Office, ac ymgrymu o hyd i ddedfryd y Llywodraeth. Dengys yr hyn a wnaethant yn awr dros hawliau'r Cymro ynglyn a'r tir gymaint allasent fod wedi ei wneud dros Gymru, Cymro, a Chymraeg o'r blaen yn erbyn trawsawdurdod swyddogion y Fyddin a'r Llywodraeth. Dywedir fod yr Aelodau Gwyddelig wedi pleidleisio gyda'r Cymry. Gellid disgwyl hynny. Dichon fod rhyw gyd- ddealltwriaeth rhwng yr Aelodau Cymreig a'r Aelodau Gwyddelig ar y mater. Goreu oil os ydoedd. Dylai'r naill gynorthwyo'r Hall ar bob cwestiwn lie mae hawliau cenedl yn cael eu hanwybyddu. Ond dysgwyd i'r Llywodraeth wers bwysig yr oedd angen ei dysgu iddynt er ys talm. Ac i'r Aelodau Cymreig o bawb y rhaid diolch am hyn. Mawr hydera'r wlad mai'r cyntaf yn unig o ami wrthryiel- yn erbyn trawsawdurdod a sarhad swydd ogol a'r Gymru a'i hawliau ydoedd y tro lnvn.