Teitl Casgliad: Dydd

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Cambrian News Ltd.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 5 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
4 erthygl ar y dudalen hon
DIWEDDARAF OR RHYFEL j

DIWEDDARAF O'R RHYFEL. j Mae y newyddion o'r rhyfel eto heddyw (Iau) yn dra chalonogol. Hysbysir fod y Rwsiaid wedi cymeryd Erzingan oddiar y Twrc, golyga hyn fod yr oil o Armenia yn nwylaw y Rwsiaid. Ar eu ffrynt yn Ewrop maent yn parhau i enill tir yn agos i Lutsk ac wedi cymeryd 4,000 yn rhagor o garcharorion. Mae y Rwsiaid yn awr yn agos i Brody. Yn mrwydr y Somme yn Ffrainc hys- bysir fod Pozieres yr olaf o bump o ben- trefydd oedd wedi eu gwneud yn gaer- feydd, yn ail linell y Germaniaid 1 i r I

COFIO CAREDIGRWYDDI

COFIO CAREDIGRWYDD. I Yn y ddau rifyn diweddaf o'r "Faner," ( "Y mddangosodd ysgrif ar y Proffeswr I James Sauvage, y cantwr enwog, gan | "Granviilefab" wedi ei ddifynnu allan I o'r "Drych." Yr wythnos hon derbyn- iodd Golygydd y "Faner" lythyr oddi- wrth y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd George, A.S., yn ei lawysgrifen ei hun, I ac y mae'n bleser gennym ei gyhoeddi. Dyma ef:— "War Office, Gorffenaf 14, 1916. Annwyl Syr, ¡ Darllenais gyda diddordeb yn y Faner ,ddiweddaf am daith Proff. James Sauvage i Lanau y Mor Tawelog. Yr ydwyf wedi bod er ys 35ain mlynedd yn un o edmyg- wyr mwyaf James Sauvage, nid yn unig am ei lais peraidd, nid ychwaith yn gwbl am y dull trydanol y taflai ei enaid i'r gan, ond am weithred o garedigrwydd ddatguddiodd i mi unwaith ei ysbryd I llariaidd. Tua phymtheg mlynedd ar hugain ( yn ol, ef oedd y prif ganwr yn Eisteddfod Criccieth. Ar ol swyno y miloedd ddaeth ,o'r mynyddoedd i wrandaw arno, daeth gyda mi am gwpanaid o de. Pan ddeall- odd nas gallai fy mam dd'od i'r Eisteddfod yn herwydd afiechyd, canodd iddi holl ganeudn y rhaglen, gyda'r encores,-ie, canodd hwy gyda'r un egni ac awch a phe buasai torfeydd yn ei wrandaw. Y fath bleser roddodd hyn i fy hen fam ¡ annwyl. Byth er hynny y mae gennyf I gongl gynnes yn fy nghalon i'r cerddor enwog. Hir oes iddo yn y dyffrynoedd euraidd ar lannau'r Mor Tawelog ydyw dymuniad Eich ffvddlawn. D. LLOYD GEORGE. 0 woo 00

SAETHU MEDDYG I

SAETHU MEDDYG. I Cymeryd Mab Fferm i'r Ddalfa. I Dydd Sadwrn, cyn y diweddaf, cafodd Dr. Glyn Jones, Llansawel, ei saethu yn farw, tra ar ei daith i ymweled a chiaf. Ymddengys ei fod ar ei ffordd i fferm Blaenrhysglog, i weini ar y tennant, pryd y cyfarfyddwyd David Davies, mab y ffermwr-dyn ieuanc oddeutu 34ain mlwydd oed. Dywedir ddarfoed i Davies I ?nnelu gwn ato, gan ei saethu yn farwol. ?chydig ddyddiau yn flaenorol dywedir I ddarfocl i Davies fygwth meddyg: arall. Daethpwyd o hyd i Dr. Jones gan ei was, yn gorwedd wrth ochr clawdd yn ymyl y fferm, ac wedi ei saethu yn ei ben, e ysgwydd, a'i arffed. Bu Davies ar i ffo, a gwnaed ymchwil am dano gan yr heddgeidwaid ac eraill. Yr oedd Dr. Jones yn 55ain mlwydd oed, ac yn briod. Symudodd i'r cylch hwn o Aberdar, oddeutu dwy flynedd yn ol. Saif Blaenrhysglog yn agos i Cwrtycadno le a fynychir gan liaws o ymwelwyr yn ystod yr haf. Ymddengys i Dr. Jones adael ei fodur yn mhentref Farmers, gan gerdded i'r ffermdy-pellter o tua milltir. Gan ei fod yn ei weled yn hir yn dychwelyd aeth ei was i chwilio am y meddyg, a chyfarfu a dyn oedd ar ei ffordd i'w hys- bysu o'r hyn ddigwyddodd. Galwyd am Dr. Griffiths Llanbedr, yno, ac "hefyd am yr heddgeidwaid. BETH WELODD Y FFERMWRAIG.. Dywedir i Mrs. Davies, priod y ffermwr, glywed ergyd yn cael ei gollwng yn mu- arth y fferm, a phan aeth i'r drws gwelodd ymladdfa yh myned yn miaen rhwng ei mab a'r meddyg. Rh edodd atynt, a cheisiodd eu gwahanu. Yr oedd y ddau yn gafael yn y gwn, ac yn ymladd am dano. Yr oedd y meddyg yn gafael j yn maril y gwn. Yn yr i ymladdfa aeth yer ergyd allan, a tharawyd y meddyg. Syrthiodd y ddau ar lawr, a cheisiodd 1 Mrs. Davies gael ei mab yn rhydd. Cod- odd y ddau ar eu traed, gan ddechreu ymladd drachefn. Yr oedd y gwn yn dri darn ar lawr. Dywedodd hi wrth y meddyg am redeg i gyfeiriad y fynedfa. Gwelodd ef yn disgyn drosodd i'r ydlan. Aeth y mab i gefn y ty gyda'r gwn yn ddarnau yn ei ddwylaw. Pan aeth hi at y meddyg, ni ddywedodd air wrthi. Aeth Mrs. Davies i'r ty i hysbysu ei gwr I o'r hyn oedd wedi cymeryd lie. Cafodd gymaint o fraw fel y bu farw yn fuan. I Dywedir i Davies adael y ffermdy ar j ol y trychineb, gan ddywedyd wrth ei I fam ei fod "yn myned i'r lie y bu o'r blaen.' Yr oedd y digwyddiad wedi effeithio yn ddwys ar Mrs. Davies, a siaradai yn uchel am ei mab fel dyn ieuanc deallus, a'r I hwn fu am ddeuddeng mis yng Ngholeg < Aberystwyth yn astudio amaethyddiaeth. J Yn ddiweddarach ymunodd a gwyr meirch sir Benfro, a phan yn y gwersyll derbyn- < iodd ddamwain, ac ni wellhaodd oddiwrth j ei heffeithiau. j Yn ol 'un adroddiad honir ddarfod i Davies ymosod ar y meddyg tra ar lawr 'I gan ei ddyrnau gyda'r gwn ar ei gorff ac ar ei ben. Derbyniodd y meddyg ddwy ergyd yn y rhannau isaf o'i gorff. Yr oedd Dr. Glyn Jones yn adnabyddus i gylch eang, ac yn hoffus gan bob dos- barth. Bu am agos i un mlynedd ar I bymtheg mewn partneriaeth gyda Dr. i Thomas, Cwmaman. Efe oedd swyddog meddygol plwyf Llansawel dan Rwrdd Gwarcheidwaid Llandeilo Fawr. CYMERYD DAVID DAVIES I'R DDALFA. Daliwyd David Davies ger Rhaiadr sir Faesyfed, nos Iau, a bu ymdrech galed rhyngddo a dau o heddweision. Dychwelodd y ci a ddilynai Davies i'r ffermdy. 0 FLAEN YR YNADON. Yn Llys Ynadol, Llandeilo, dydd Gwe- ner, cyhuddwyd David Davies, amaethwr ieuanc, o lofruddio Dr. Glyn Jones. Pan ddarllenwyd y cyhuddiad allan nid atebodd y cyhuddedig yr un gair. Deuwyd a Davies i Landeilo y noswaith flaenorol mewn car motor. Yr oedd golwg ddifrifol arno. Yr oedd ei ddilllad wedi eu torri mewn rhai mannau. Pan ddaeth o'r cerbyd tynodd ei gap dros ei lygaid a rhoddodd goler ei got yn unchel am ei wddf rhag i'r bobl lygadrythu arno. Yr oedd heb eillio ers peth amser. Dywedodd yr Heddwas John Thomas ei fod yn un o'r parti oedd yn chwilio am y cyhuddedig. Oddeutu tri o'r gloch brydnawn dydd lau cymerodd ef i'r ddalfa yng Nghoed Tregan. Cyhuddodd ef o lofruddiaeth. Nid atebodd. Darfu iddo ymdrechu gyda'r tyst a heddwas arall. I'. Anfonwyd y cyhuddedig i sefyll ei brawf i'r Frawdlys ar y cyhuddiad o lofruddiaeth wirfodd. t

I NEWYDDION

I NEWYDDION. I Nos Fercher diweddaf, bu farw Arg- lwydd Nswborough, yn 43 oed. Ganwyd ef yn IS i-S ac addysgwyd ef yn Heidelberg a Trinity Hall, Caergrawnt. Yn 1902, bu'h Uchel Sirydd Sir Ddinbych. Yr etifedd i'r teitl ydyw ei frawd Lieut yr Anrhydeddus Thomas John Wynn,. R. N. V. R. —— Fel yr oedd Ivy Thomas, saith mlwydd oed, yn casglu blodeu gyda'i thad yn Cefn Coed, De Cymry, llithrodd i afon a bu foddi. Dywedir fod clefyd a elwir y "rhwd coch" (red rust) wedi gafael yn y cropiau haidd yn swydd Caergrawnt. Y mae perchenogion glofa yn Abertylleri am erlyn wyth o'r glowyr am gario coed tan adref o'r gwaith. Y mae 2,000 o'r gweithwyr am gymeryd gwyl y dydd y cymer y prawf le. Dirwywyd Syr John Lipton i £ 3 yn Uxbridge am or-yru ei gar motor. Yr oedd pump neu chwech o gyhuddiadau cyffelyb yn ei erbyn. Dywedir fod gwyr priod 35 mlwydd oed ac isod, sydd yn gweithio yn Wool- wich Arsenal yn cael eu hatal. Cyfranodd Mr. Fenwick Harris yn swm.o £ 50,000 at Gronfa Coffawdwriaethol 4rglwydd Kitchener. Cyrhaedda y Gron- fa yn awr y swm o £121,000. Mae y Parch. J. Nicholas, Tonypandy, wedi derbyn galwad fgafodd o eglwys y Bedyddwyr, Castle Street, Llundain. Yr oedd y Kaiser ar awr neilltuol, un dydd, yn archwilio catrawd neilltuol. Yr un awr y diwrnod dilynol archwiliodd hi drachefn. Nid oedd ond 30 o honynt yn aros. Bu bron i'r Kaiser meddir, gael gwasgfa..