Teitl Casgliad: Dydd

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Cambrian News Ltd.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 5 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
5 erthygl ar y dudalen hon
I CYHOEDDIADAU SABBATHOL

CYFARFOD CYHOEDDUS.—Bwriedir cyn- :al cyfarfod cyhoeddus yn y Neuadd Sirol nos yfory (Gwener) i'r pwrpas o basio penderfyniad yn ffafr y Llywodraeth a'r Rhyfel. Llywyddir gan Col. Enthoven a siaredir gan y Parchn. Henry Rees, John Lloyd, Dr John Jones, a Mr. D. R. Mills. GWERTHFAWROGIAD 0 HIR WASANAETH Nos Sul diweddaf yr oedd eglwys y Taber- nacl, Dolgellau, yn amlygu ei gwerthfawr- ogiad o wasanaeth gwerthfawr Mr. W. Hughes, Y.H., Mervinian House, fel un o'i Diaconiaid am hanner can' mlynedd. Gyda chryn anhawster y caed gan Mr. Hughes i dderbyn un math o rodd o gwbl. Ond caniataodd i'r eglwys gyflwyno iddo Feibl; a chyflwynwyd iddo'r harddaf a ellid gaei, yr hwn hefyd a gyflwynodd yntau'n ol i'r Eglwys i fod at ei gwasanaeth ar y pulpud. Wedi -sylwadau ar yr amgylchiad gan y Parch. W. Pari Huws, B.D., hwnaed y cyflwyniad i Mr. Hughes, dros yr Eglwys, gan Mr. Hugh Owen. Cyfeiriodd y ddau yn werthfawrogol at wasanaeth amrywiog a ffyddlon Mr. Hughes i'r eglwys am hir -flynyddoedd-fel athraw, cyhoeddwr, trys- orydd, yn ogystal a diacon. Ar derfyn y gwasanaeth pasiodd yr eglwys ei diolch- garwch cynhesaf i Mr. Hughes am y fath rodd hardd o Feib] ar y pulpud. "Beth bynnag a hauo dyn, hynny hefyd a fed efe." -IDRIS. &;&;&;

ROGER CASEMENT

ROGER CASEMENT. Mae yn ofnus y rhaid i ni gymeryd yn ganiataol fod y Llywodraeth wedi 4 penderfynu fod Roger Casement i gael ei grogi heddyw (Iau). Wrth wneud hyn mae y Llywodraeth wedi colli cyfle. arbenig i ddangos y ddoethineb 0 fawr- frydigrwydd sydd yn gwahaniaethu y Gwladweinydd oddiwrth y politician. Mae'n wir y condemnir Casement am ei weithredoedd gan y bvd yn gyffredinol ,ond trwy ei ddienyddio gwneir Merthyr 0 hono ag a fydd yn byw yn hanes yr Iwerddon, ac yn mysg y Gwyddelod gartref ac oddicartref am genedlaethau i ddod. Maent wedi anwybyddu cais eithriadol Senate Unol Dalaethau America ar ewyllys da pa wlad y mae llawer y dyddiau hyp yn dibynu. Yr oedd yn agored iddyrit i dalu rhywfaint o deyrnged i wasanaeth eithriadol Casement i'w wlad ac i ddynoliaeth yn y gorphpnol. Buasai yn briodol iddynt ystyried y dyfodol. Ni bu ganddynt lygaid a chlust- iau i ddim ond i'r te:mlad digofus presenol, > a'r cri am waed sydd yn codi ei lef mor groch mewn adeg o gythrwfl. Mae, yn syn fod pawb yn gallu mawrygu a chysoni -gweithred fawrfrydig General Botha yn maddcu i De Wet am godi gwrthryfel I ac ymladd yn Ne Affric yn erbyn Prydain ychydig fisoedd yn ol. Mae pawb yn gallu deall ffolineb Awstria yn dienyddio gwrthryfelwyr Italaidd heddyw. Mae pawb yn falch o droion mawrfrydig y gorphenol yn hanes ein gwlad, ac yn I teimlo yn ddigofus wrth geisio ymddi- heurio am droion gwrthgyferbyniol yn j ein hanes,—rhyfedd mor ychydig sydd yn gallu cymhwyso y wers at yr achcs j ,yma. Heb fod unrhyw gwestiwn o bolisi pwysig mewn golwg, mae y Llywodraeth 1 wedi penderfynu gwneud ein brwydr tuag i fyny yn galetach, i leihau ein hawdurdod yn mysg y cenhedloedd, a gwanhau cydymdeimlad a'n hachos mewn lleoedd ag y mae arnom fwyaf o'i angen. Gwareda y byd gwareiddedig y dyddiau hyn at erchylltra Germani yn lladd Captain Fryatt yn ddiachos; campus o beth, er trosedd erchyll Case- ment, fyddai gweled a chlywed y byd ac yn enwedig America yn canmol Prydain I am ei mawrfrydigrwydd yn peidio dien- yddio Casement am ei fod yn Wyddel, megis y mawrygwyd hi am beidio mynu gwaed y Boer Prydeinig De Wet. ABERMAW. WEDI EI LADD.— Cyrhaeddodd y newydd yr Abermaw ddoe, fod Pte. Evan Llew- elyn Evans, o'r Royal Engineers wedi ei ladd yn ddamweiniol wrth lanhau ei revolver. Nid oedd ond 20 mlwydd oed. CYMDEITHASAU GWEINYDDESAU SIR FEIRIONYDD.— Cynhaliwyd cyfarfod ar- | benig o'r uchod dydd Iau yn yr Abermaw, o dan lywyddiaeth Lady Osmond Williams, pryd yr ystyriwyd cynhun y Cyngor Sir ynglyn ag ymwelydd iechydol, ac hefyd sefydlu gorsafoedd i ofalu am Fagwraeth Babanod, a phasiwyd i'w mabwysiadu, ac fod y gweinyddesau lleol i roddi rhan o'u hamser fel ymwelwyr iechydol, ac fod y Cyngor Sirol i benodi un i arolygu yr holl waith a'r mannau | nad oes gweinyddesau ar hyn o bryd. ■ j Pasiwyd fod y gorsafoedd ynglyn a J magwraeth babanod i'w sefydlu yn Blaen- j au Ffestiniog, Bala, Corwen, Dolgellau, Towyn, Abermaw, a'r Penrhyn, ac fod pwyllgor yn cynwys 7 o aelodau o'r Pwyllgor Addysg, o'r Pwyllgor Iechydol, ac 0 Gymdeithas y Gweinyddesau, i arolygu a threfnu y gorsafoedd. Y gost ynglyn a hyn yn cael ei ddwyn gan Mr. I a Mrs. Joseph Davies, Dinas Powys, ylflwyddyn laf, ac yna gan y Cyngor Sir. SEFYDLU GWEINIDOG. Nos Wener, ¡ cynhaliwyd yng nghapel Seisnig yr Anni- bynwyr gyfarfod i sefydlu y Parch, ¡ David Phillips fel gweinidog. Llywydd- 'j wyd gan y Parch. Z. Mather, a chafwyd 1 anerchiadau gan y Parch. Glandwr Morgan (y cyn-weinidog). Birmingham, ac eraill. Y CYNGHOR DINESIG. Mewn cyfarfod arbennig o'r Cynghor a gynhaliwyd ddydd Llun, penodwyd Mr. Evan Williams (oontractor) yn surveyor yn lie Mr. T. R. Parry sydd wedi ynuno a'r fyddin. ,Q., ,Q., ,0.

XVXY VJL iI I NEWYDDIONI

\X/VXY VJL/ NEWYDDION. I Yn Llundain, gwerthwyd oriawr, fu yn meddiant Beethoven am £ 15, a chudyn o'i walit am £ 3. I fyny i ddydd Mawrth diweddaf cymerwyd 1,690 o "wrthwynebwyr cyd- wybodol" i fyny gan yr awdurdodau I milwrol. Dirwywyd dinas Brussels, Belgium, i 50,000p gan yr Almaeniaid, am i'r trigolion ddathlu "Gwyl Annibyniaeth" eu gwlad yn ddiweddar. Ymunodd Thomas Hunter, 39 mlwydd oed, o Ormskirk, a'r fyddin. Mae ganddo I un ar ddeg o blant. Bydd ei "arian gwahaniad" yn 39s. yr wythnos. Yh Oldham, dirwywyd sipsiwn o'r enw ( Frank Barton, i 40s. am roddi cwrw i'w j fachgen pedair blwydd oed. Adroddid yr j yfodd y bachgen yn agos i dri pheint I{ 0 gwrw.

J PROBLEM Y WERDDON

J PROBLEM Y WERDDON. I Siom fawr ydoedd y dadleniad wnaed yn y Ty nos Lun, fod y Cytundeb ynglyn I a'r Iwerddon wedi syrthio trwodd. Myn- nodd Mr. Redmond gyfle i drafod y mater, ac i egluro'r methiant, neu yn hytrach i hysbysu nad oedd ef yn barod i dderbyn yr hyn a gynhygiai'r Llywod- raeth erbyn hyn. Datganodd yn bendant fod y Llywodraeth yn euog o dorri e i gair. Yr oedd ef a'r Gwyddelod wedi deall fod y Cytundeb y i deuwyd iddo gyda Mr. Lloyd George i'w gario allan heb ei newid. Ar yr un pryd yr oedd I wedi boddloni yn bur hwyrfrydig cyn- hygion i roi'r Iwerddon dan Ddeddf Diffyniad y Deymas, ac hefyd wedi dyfod i fath o ddealltwriaeth ar gwestiwn parhad gwahaniad siroedd Ulster. Ond I yr oedd y Llywodraeth wedi dwyn i fewn gynhygiad newydd ar niter yr Aelodau Gwyddelig yn Westminster dros dymor y prawf; ac wedi gwneud y cyf- newidiad heb gymaint a rhoi cyfle i Mr. Redmond roi ei fam amo. Yr oedd I Mr. Lloyd George a Mr. Samuel wedi galw i'w weled y Sadwrn cynt, ac wedi rhoi ar ddeall iddo yn bendant a'therfynol mai eu gwaith oedd hysbysu iddo beth oedd y Llywodraeth wedi ei wneud, ac nid trafod y cwestiwn gydag ef. Gwnaeth Mr. Asquithjj a Mr. Lloyd George apeliadau at Mr. Redmond, ond yn gwbl ofer ar y pryd; ac yn ol pob golwg mae'r ymgais yma eto wedi troi allan yn fethiant. Ond cafwyd dadleniad arall yn ystod y ddadl, trwy araith Syr Edward Carson, sef fod ysbryd newydd o undeb ac ewyllys da wedi meddiannu arweinwyr y ddwy blaid o'r Gwyddelod eu hunain. Soniodd Syr Edward am iddo ef a Mr. Redmond ysgwyd llaw ar lawr y Ty, a dywedodd yn glir nad oedd brwydr yn eu mysg eu hunain i fod yn yr Iwerddon ar ol i'r rhyfel fyn'd trosodd. Teimlir yn bur gyffredinol mai'r ffordd oreu i setlo cwestiwn y Werddon yn awr fyddai ymddiried y gwaith i Mr. Redmond a Syr Edward Carson.

MILWYR DEWR CYMRU

MILWYR DEWR CYMRU. Ysgrifena cadben mewn catrawd Gym- reig fel y canlyn:—"Golygfa eithriadol ydoedd yr un pan welwyd bechgyn Cymru yn myned allan un diwmod i gyfarfod a'r gelyn, ac i'w gyru o goedwig fawr. Yr oeddym yn barod i'r ymosodiad am dri o'r gloch y boreu. Am haner awr weditri dechreuodd y gynau danio. Yr oedd y swn yn ofnadwy. Tybiem y buasai ein pennau yn ymagor gan nerth y swn. Am chwarter i bump yr oedd y Royal Welsh Fusiliers yn myned i'r ymosodiad—yr oedd yn olygfa ryfedd. Nid oedd neb yn rhedeg-ond pob un yn cerdded yn gylym, ac yn cadw mewn llinell unionsyth, ac yn hollol drefnus. Teimlwn yn falch o fod yn Gymro wrth weled y bechgyn rhagorol hynny yn myned yn mlaen trwy ganol cawodydd o shells a bwledi y gyneu peir- iannol. Yn mlaen yr elent, gan herio. perygl ar ol perygl-i lawr bwlch ac i fyny y llechwedd i ganol tywyllwch y goedwig. Aeth ton ar ol ton o ddynion trwy yr oruchwyliaeth honno, a pharhaodd y brwydro drwy y dydd. Erbyn y nos yr oedd y goedwig yn ein meddiant.