Teitl Casgliad: Dydd

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Cambrian News Ltd.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 2 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
1 erthygl ar y dudalen hon
I Y RHYFEL

Y RHYFEL ZEPPELINS ETO. Lladd Babanod. Talodd Zeppelins ddau ymweliad ag arfordir dwyreiniol Lloegr yn ystod yr wythnos ddiweddaf. Y waith gyntaf un Zeppelin yn unig a ymwelodd a/n gwlad Gollyngodd ffrwydbelenau (30 mewn nifer) yn hollol ddiamcan. Disgynodd yr oil mewn meus- ydd. Digwyddodd yr ymweliad arall, oedd yn fwy difrifol yn ei ganlyniadau, yn gynar foreu Gwener. Ymwelwyd a ni gan bump neu chwech o Zeppelins, Lladd- wyd wyth o bersonau ac anafwyd 36. Yr oedd y dioddefwyr gan mwyaf, yn bobl dlawd, yn trigo mewn tai bychain a diaddurn. Lladdwyd dau deulu a dinystriwyd eu cartrefi. Ymysg y rhai a laddwyd yr oedd tair dynes a dau blentyn Y mae un teulu cyfan i ddiolch am eu gwaredigaeth i eneth chwe' mlwydd oed, o'r enw Eva. Cysgai Eva mewn gwely bychan yn y lloft uchaf. Oddeutu haner awr wedi un yn y boreu clywodd yr eneth swn rhyfedd yn yr awyr a gwyddai fod Zeppelins o gwmpas. Cripiodd yn y tywyllwch i'r ystafell lie y cysgai ei brawd bychan. Ebai wrtho:—"Y mae y Zepps. yn ymyl." Eisteddodd ei brawd ar y gwely, a gwrandawodd. Clywodd swn fel swn ergyd o ddryll. Aeth y ddau i lawr i ystafell isaf y ty gan rybuddio eu tad a'u mam. Darfu i'r fam roddi shawl am Eva, ac aeth y cwbl i seler y ty. Am haner awr wedi un tarawyd y ty.megis fel gan ddaeargryn. Syrthiodd y to i mewn, a dymchwelwyd darluniau, etc. Ni niweidiwyd yr un o'r teulu. j Gwelwyd mai ffrwydbelen yn llawn o nwy ddisgynodd ar y ty. Darfu i'r teulu roddi llieiniau mewn dwfr a'u dodi am eu geneuau rhag cael eu gwenwyno gan v nwy. < Yn y ty nesaf lladdwyd y tad, y fam a baban. Caed y fam a chorff y baban yn ei mynwes ynghanol y malurion. Yr oeddynt yn eu dillad nos. j YR YMLADD YN FFRAINC. 1 Cyfres o emllion cyson a gwerthfawr sy'n sefyll i gredyd ein milwyr yn Ffrainc ar ddiwedd yr wythnos. Gallai'r anghyf- arwydd ei hystyried yn fychain a dibwys; ond nis gall camsyniad mwy fod, a gwelir fod y gelyn yn edrych yn dra gwahanol arnynt. Yr hyn sy'n profi hynny yn ddiamheuol yw'r ymdrech gawraidd a wna i geisio cadw'r llanw yn ol yn y rhan yma. I sicrhau fod ei ymdrech yma yn gymaint ag y dichon iddi fod, y maent I yn amlwg wedi rhoi i fyny bob ymgais ddifrifol am Verdun. Yno y mae eu nerth wedi ei wanhau, a'r Ffrancod yn gallu mwy na chadw eu tir. Dywed Mr. Beach Thomas, y gohebydd disglair fod y gelyn, ar hyd yr wyth milltir rhwng Thiepval a Ginchy, wedi crynhoi digon o ddynion a darpariaeth i warchod 80 milltir o ffosydd. Hynny yw, y maent wedi chwyddo eu nerth yn y rhan hon ar ei ddegfed. Nid rhyfedd fod ein symudiad yn araf; ac eto ymlaen yr eir. ■ Dyna'r newyddion ar hyd yr wythnos, 1,\ a chyn ei diwedd gwthiodd ein milwyr i gyrrion y cadarnleoedd ar ddau ben y llinell, gan gymryd tros 350 o garcharorion. Amhosibl cael tystiolaeth gryfach i rym I ac effeithiolrwydd ein hymosodiad. t I EIN HENILLION YN FFRAINC < 1 I 15429 o Garcharorion a 86 o ynau. 1 Yn ei adroddiad ddydd Mawrth dywed Sir Douglas Haig eu bod wedi cymeryd 15203 o garcharorion a 86 o ynau, a 160 1 o machine guns heblaw nwyddau rhyfel eraill er dechreu Brwydr Somme. yn Gorffenaf. I Y RWSIAID. — i I Er nad oes newyddion mor gyffrous a'r wythnos flaenorol am lwyddiant y Rwsiaid, eto maent yn parhau i enill tir yn sicr, ond yn araf. Maent yn dis- gwyl adgyfnerthion cryfion, a'r foment y cyrhaeddant bydd i ymosodiad mawr a chyffredinol arall gymeryd lie ar y gelynion. I'r gogledd o Stokhod gyrir y gelynion I yn ol gam a cham. Ar fynyddoedd y Carpathians, er fod y gelynion yn dangos gwrthwynebiad penderfynol, deil. y Rws- iaid i enill trum ar ol trum. Yn ol newyddion diweddaraf ymddengys fod y Tyrciaid wedi cael eu gorchfygu ddwywaith yn Asia. Yng nghymydogaeth Lake Van, lie I y buont am wythnosau yn parotoi i ymosod ar y Rwsiaid, cawsont eu gorch- fygu yn llwyr. Yr oedd hyn i'r dwyrain o Erzerum. 1 Ail gymerwyd tref Mush oddiar y I Tyrciaid gan y Rwsiaid, y rhai a gymeras- ant 2,000 o garcharorion yma. Yn fwy i'r de, yng nghyfeiriad Mosul, bu ymladdfa I arall, ac edrydd y Rwsiaid iddynt gymeryd I catrawd gyfan yn garcharorion. I I "I t RUMANIA YN DOD I'R RHYFEL. I Am saw o'r gloch nos Sul, cyhoeddodd II Rumania ei bod yn dod allan i ryfel yn erbyn Austria Hungary, fel canlyniad mae Germani wedi hysbysu ei bod hithau mewn ystad o ryfel a Rumania. Rumania ydyw y wlad gryfaf yn y Balkan. Mae ganddi fyddin ardderchog, a dywedir fod 600,000 o honynt dan arfau yn barod, ac y gall alw 300,000 arall i fyny. Mae ganddi lynges fechan hefyd, yr hon all fod o wasanaeth ar yr afon Danube, ac yn y Black Sea. Y prif reswm dros fod Rumania, yn dod allan ydyw fod dros milynau o Rum- aniaid dan lywodreath Austria Hungary ac y mae yn awyddys am gael y rhai thyn o dan ei llywodraeth hi. Dywed hefyd ei bod yn dod allan am y cred y bydd iddi trwy hynny ddod a'r rhyfel i ben yn gynt, yr hyn yn ddi- ddadl a wna. I PEDAIR CENEDL A'R DDEG YN I YMLADD. Prydain, Ffrainc, Rwsia, Itali, Japan, j Belguim, Portugal, Serbia, Montenegro, I a Rumania—yn erbyn-Germani, Austria, Twici, a Bwlgaria. 1 GROEG. 1 Mae yn amlwg fod anesmwythyd mawr  yn mysg y Groegiaid. Mae y Bwlgariaid jj yn meddianu rhanau o'u gwlad, gan J? addaw rhoi y rhanau yn ol ar ol y rhy!e! Aethant i Kavala, un o'u prif borthladd- oedd y dydd o'r blaen, ac mewn canlyniad taniwyd arno gan y Llynges Brydeinig Mae yn amlwg fod y Brenin, yr hwn sydd yn berthynas agos i'r Caiser, yn awyddus am gadw allan o'r rhyfel, ond credir y gorfodir ef gan ei ddeiliaid 1 A ddod allan o ochr y Cynghreiriad un o'r J dyddiau nesaf. BYWIOGRWYDD YN Y BALKANS. Ymddengys pethau fel pe'n dechreu symud o ddifrif yn y Balkans y dyddiau diweddaf, er mai ar raddfa fechan y mae'r symudiadau a'r ymladd hyd yn hyn. Arwydda popeth fod yr amser bron wedi dyfod i General Sarrail gychwyn ei symudiad pwysig yn y rhan hon. Ac y mae dyfodiad Rumania i mewn yn gwneud gwahaniaeth dybryd yn y rhyfel yn y fan hon.. Gwyr y Bwlgariaid hynny yn dda er ys amser, a dyna'n ddiau y rheswm eu bod hwy yn ddiweddar wedi dechreu ymosod. Yn ol y cynllun y gweithreda Germani arno yn y rhyfel o'r cychwyn, penderfynasant daro yn gyntaf, a tharo yn y lie mwyaf manteisiol a ffafriol iddynt eu hunain-gymaint i fewn ag a allent yn nhir Groeg a chyn belled ag a allent o'u gwlad eu hunain. Dechreuasant ymosod bythefnos yn ol ar ddwy aden yr hannergylch anferth 1 sy'n ymestyn am ddau gan milltir o gylch 4 Salonica. Mor bell ag y gellir barnuJ mae eu hamcan yn uchelgeisiol, sef ceisio amgylchu byddin y Cynghreiriaid yn y ddau ben. Ar y dde ysgubodd y Bwl- gariaid i lawr o'r bryniau gan oresgyn rhanau o Groeg, milwyr yr hon a encilias- iant o'u blaen, lawer o honynt heb gymaint ag arddangosiad o' wrthsafiad. Dyma'r dyfnder i'r hwn y mae Brenin y Groegiaid wedi tynnu'r wlad iddo. Yn y rhan yma, nid yw'r Cynghreiriaid yn ymgymer- yd ag ymyryd. Yn y canol mae safle'r Cynghreiriaid yn gadam, ac y mae'r Bwlgariaid yn ddiymadferth i gael unrhyw effaith. Yn y rhan sy'n rhedeg i'r gor- llewin, llwyddodd y gelyn i gymeryd Florina, ond nid oedd y lie yn cael ei ddal gyda dim nerth-nid oedd yno ond cwmni cymharol wan o'r Serbiaid, y rhai a enciliasant gan ymladd yn ddewr bob cam. O'R AIFFT. Gallwn ddweyd fod manylion llawn mewn llaw bellach am yr ymladdfeydd yn y wlad uchod rhwng y Tyrciaid a'r Prydeiniaid, o Awst y 4ydd hyd y 12fed Rhifai y gelynion 18,000. Sicrheir ni fod dros 3,900 o honynt wedi eu cymeryd yn garcharorion; 1,251 wedi eu lladd, a 4,000 wedi eu clwyfo; ac o gasglu'r ffigurau yna at eu gilydd, gwelir fod haner y fyddin wedi colli yn yr ymgyrch. Syrthiodd hefyd i ddwylaw—fyddin Brydeinig 100 o geffylau a thros 500 o gamelod, heblaw tomenydd o arfau rhyfel. Hawdd yw gweld trwy'r adroddiad diweddaf hwn fod y Tyrciaid wedi deall eu bod yn cael y gwaethaf, ac wedi ffoi gan adael popeth ond eu traed" Ni byddant yn awyddus iawn am frwydr arall, ac nid ar fyrder y gallant gasglu'u hunain ynghyd.