Teitl Casgliad: Seren Cymru

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Undeb Bedyddwyr Cymru.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 11 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
3 erthygl ar y dudalen hon
0NODION 0 FLAENAU FFESTINIOG

fagu. yn Seion, ac fel y mae yn wybyddus, wedi bod yn gyflogedig mown eglwysi cryf- ion yn y deheudir, ac wedi troi tuag. adref er's tair blynedd. Diamheu y bydd y, dew- isiad yn ysbrydiaeth newydd o wortli. i ganiadaeth y cysegr. Dylai y swydd hon gael ei llanw a dynion o dalentau a chym- eriadau cryfaf posibl. Arwerthfa.Diwedd y flwyddyn bu chwi- orydd ymroddgar yr eglwys" yn cynal Ar- .werthfa ar hen ddillad a nwyddau newydd- ion, a phrofodd yr ymdrech yn llwyddiant perffaith, ac mi ddangoswyd cydweithrediad hapus dan gyfarwyddyd Mrs. Dr. Evans, yn llywyddes; Mrs. J. R. Arthur, yn ,fs lywyddes; Mrs. M. J. Hughes a Miss Serviah Hughes yn drysoryddes ag ysgrif- enyddes; trodd yr ymdrech dros £ 80 o elw clir. Yn y swm hwn yr oedd rhoddion mewn Cheques am dros £ 32, wedi eu der- byn gan Mr. a Mrs. Evans oddiwrth lu o bob gradd a phlaid, a rhan o'r swm o ffordd mor 'bell a Newfoundland. Er nad yn credu y dylid cario achos y bendigedig Ies-Li ar Ferau, fel hyn, gan mai dyna tldull yr oes hon, gallaf longyfarch yr ymdrech hon ar ei llwyddiant mawr. Mae yr eglwys wecli gwneyd nod, o gael £ 186 sydd yn aros, fel hen ddyied ar yr addoldy--erbyn diwedd 1914, yr haner cahfed flwyddyn yn hanes y capel. Mae swm mawr arall yn -aros ar yr ystafelloedd newyddion a'r tai sydd ynglyn a'r achos. Bydd hyn yn galon- did mawr i'r frawdoliaeth. Yn wyneb yr ad eg wan sydd wedi goddiweddyd yr ardal. Da genym fod swn pethau gwell i'w clywed yn mrig yr awelon, a chroesawir gloewach nen gan holl blant Ffestiniog, bid siwr. Y Gobeithlu.Cyrchfan y dyrfaywGob- eithlu Seion, bob nos lau. Cynelir Gobeithlu ar linellau anibynol iawn, trwy gael at y canu a'r adrodd buníp i siarad ar faterion, megis 'Y Merthyron,' Teithiau,' Bywyd yn China, Adar, ac Anifeiliaid, -y Tir a'r Mor, a phyngciau ysgrythyrol ereill. yr oil yn cael eu hegluro gyda hudlusern, o roddiad y brawd ewyllysgar a pharod J. R. Arthur Hefyd ceir y tonau ar y canvas drwy y Lantern, yr hyn sydd yn fantais fa wir i addysgu y plant. Gofelir am y plant yn ddiguro, trwy ofalu am danynt mewri go- goniant amrywiaeth; ac os gellir cael y plant i'r llwybr iawn mi welir cenedlaeth o bobl gwerth eu cael. Y Bobi I euain gc. -G wlithog a brwd- frydig y gweithia pobl ieuaingc Calfaria gyda'r Gymdeithas Lenyddol; ceir papyrau a dadleuon ar byngciau amserol bob wyth- nos, a'r gweinidog anwyl a llafurus, y Parch. J. S. Jones yn fywyd a nerthfel ar- weinydd diogel..Efe yn anwylyn pob aelod o'i esgobaeth, ac os llwyddir i wneyd gwei- nidog yn angel yr aelwyd diogel yw" dyfodol yr eglwys hono. Cwrdd Nadiolig.Dyna yw atdyniad yr enwad bob Nadolig yn y cylch yw cwrdd pregethu eglwys fechan weithgar Moriah. Eleni y gweision fuont yn traddodi yr hen hen hanes gyda bias anerth mawr oeddynt y Parchn. J. S. Jones, gweinidog, a'r brawd ieuangc cryf a phoblogaidd y Parch. Evan Williams, Froncysylltau. Efe ynprysur ddringo i reng iiaenaf yr enwad, ac yn dra theilwng o'i safle; wedi dringo trwy roddi cwbl-ddiwydrwydd a dyfalbarhad--amod ddi- feth--cyrhaedd y pinacl. Cantata Seion.Nos lau, Ionawr 29ain, Bu cor Seion (eleni eto) dan arwoiniad Pencerdd Ffestin yn perfiormio cyfanwaith "Y deyrnas a'r brenin (Pattison). Dengys y periiormiad ol diwylliant gofalus, a medr aml wg, ac yr oedd y dadganiad yn loew a disglaer ei donyddiaeth a'i arddull, o'r dech- reu i'r diwedd, ac yn destyn edmygedd a pharch y gynulleidfa fawr ddaeth trwy gawodydd o wlaw Stiniog i'w wrando. Cynorthwywyd y cor gan brif /ganiorion y cylch, fel, arfer, megis y dadganwr enwog a phoblogaidd Mr. Ted Jones, arwr pob eis- teddfod yn y gogledd y tair blynedd ddiwedd- af. Efe, or nad yn aelod yn ein plith, sydd fel un ohonom, ac at ein gwasanaeth yn rhad bob amser. At y cyfanwaith, cafwyd naw o unawdau campus gan y cantorion, yn cael eu hegluro gan yr hudlusern, yr hyn oedd eleni eto yn hynod o darawiadol. Daeth y chwaer ieuangc Miss Gwladys M. Arthur (cyn-organyddes yr eglwys) adref o Brifysgol Bangor i wneyd ei rhan yn ar- dderchog fel cyfeilyddes y cyngherdd. Cyn- orthwywyd hi gyda'r cor gan y brawd W. R.. Hughes, yr organydd. Hyderwn i'r ym- drech lwyddianus fod yn llwyddiant yn mhob ystyr. Mae yn sicr o dalu y ffordd, er meithrin chwaeth a chariad at ganiadaeth y lie. ac mae clod mawr yn ddyledus i amryw o'r brodyr a'r chwiorydd am barotoi gwledd mor aruchel. Yn Cwynp.Blin gan lawer mae'n ddiau yw deall fod y brawd ffyddlon a'r diacon gofalus Hugh Jones wedi ei oddiweddyd" gan afiechyd blin. Hyderwn iddo adferiad Jlwyr a buan. Brawd ac iddo le cynhes yn mywyd a chalon yr eglwys; ac edrycha ei gongl yn wag iawn tra byddo yn absenol. Gal wad.Mae yr eglwys yn Seion wedi dewis galw y brawd da, y Parch. Wm. Thomas, Llandyfaen, ger Llandilo, i'w gwas- anaethu fel gweinidog, ac yn meddu sicr- wydd bellach y bydd i'r brawd gydsynio. Yr oedd y dewisiad yn un cyffredinol a chynhes. Mae iddo faes da i fwrw cryman ei wasanaeth, a chaiff ddigon o garedig- rwydd a gwenau, os mynai aros. Hyderaf na fydd hin un lie yn ei ddenu yn ol i'r de- heudir, os yw ei galon yn iach; gall gar- trefu yma flynyddau, fel y brodyr da fuont yma flynyddau meithion. Deued a bendith oreu y, Nefoedd gydag ef. "I'W hir gartref." -Ychydig ddyddiau yn 01 daeth gweddillion yr hen frawd ffyddlon Hugh Williams (gynt o Moriah) i'w dodi yn mhriddell ei hir gartref yn mynwent Bethesda. Efe er's tro wedi gadael am Sir Fon. Huned yn dawel fel bu fyw, yn ngwyddfod ei Dad, yr hwn sydd yn y nef- oedd. Bu yn. dal y ganwyll yn y nos am flynyddau yn eglwys fechan Moriah, a chyrhaeddodd hir ddyddiau yn ngwasanaeth ei Feistr. Teilwng iddo yw gorphwysdra mwy. o- PERORFRYN.

GWYL HEBRON DOWLAISI

GWYL HEBRON, DOWLAIS Cynaliodd yr eglwys uchod ei gwyl haner flynyddol dydd Sul a nos Lun, Chwef. laf a'r 2il. Cafwyd y pleser o wasanaeth ein hanwyl frawd, y Parch. Charles Davies, Caerdydd. Yr oedd yn hen addewid o'i eiddo; ac i'w adgoffa o'r addewid hono anfonwyd fel a ganlyn: Ymlwybrwch i yml Hebr on, -yn wiwdeg, Nos Sad wrn yn brydlon, Mae gwelyi a llety lion, Yn eich aros--iach wron. Bu yntau garediced ag anfon atebiad yn union fel a ganlyn: • Diolch. Nos Sadwrn deuaf,tuag wyth, y teg wr-cyrhaeddaf; Am eich aelwyd mi chwiliaf; Da gwn y croesawiad gif. Daeth yn ol ei addewid—yn hawddgarwch ei berscn, sirioldeb yn ei lygaid, tynerweh- yn ei wedd, mwyneidd-dra yn ei lais, ac efengyl llon'd ei galon, a'r cyfanwedi eu heneinio a gras. Yn ddiau na chlywyd ein brawd yn fwy eneiniedig nag yn y cyfar- fodydd hyn; ac awgrymodd mai dyma oedd ei brofiacl yntau; yr oedd arddeliad mawr ar y genadwri-gwen a deigryn ar yn ail; yr oedd y torfeydd mawrion atdynai i'w wran- do wedi eu meistroli yn hollol ganddo a'r eglwys yn ei hwyliau mawr, a gorfod clywedyd: Ha! diolch am y golchi—-sydd yma, Swydd emyn yw moli, A nodwedd y daer weddi, Yw cael nef i'n calon ni. ,TI Sain y gwaed yn Seion gawn-yn puro, I ddarpariaeth gyflawii; Dyma hi-mae'n liestri'n llawn, 0 raniad ein Hior uniawn. Swn ei droed mewn gras yn drwm--a gerddai, Ag urddas diorthrwm; Daw y llu eneidiau 11 wm, Rag alaeth i'r aur gwlwm. Iesu anwyl--dos enyd--dyna 'gyd, Dawn y gair rydd fywyd, I hen Gymru gu i gyd--yn rhadlawn, 0! tyred, anfon--i'n tir dy wynfyd. Pan ymwelais a Mr. Davies bore Llun, ar ol gwaith caled y Sabbath, yr oedd mor fywiog, hoew, ag oen gwanwyn; ac yr oeidd y bardd wedi deffroi ynddo ac yr oedd newydd fod yn arllwys ei brofiad yn y Ilinellau canlynol: I Ddowlais a mi'n eiddilyn,y des A Duw yn amddiffyn; Efo'i Dduw y gwanaf ddyn, Yr ar gil gewri'r gelyn. A wisgo Efe os llesg fydd,hwn wneir Yn wron fel Dafydd; Neu angel Daw,ii diluw dydd, Cryfach ar achos crefydd. Goresgyn wna'r gwr wisger--yn Nuw, A nerth o'r tichelder; Hwn dry'n g'oedd luoedd lawer, Ar fyr dro yn eiddo Ner.. Arglwydd lor fo'n gwisgo'r g'wan--heddy A chuddir pob hunan; I'r gelyn mawr gael yn y man--fynd 'n ol, Wedi ei hollol ergydio allan. A oes a blyg i'r lesu?--Efe fydd Fwy fwy yn teyrnasu; A heddyw doed a'r g'oedd o'i du--lawer, A chaed ei faner ei chodi fyny. Prophwydai heb wybod iddo ei hun, o herwydd o dan ddylanwad nefol y bregeth nos Lun, gwelwyd er llawenydd i'r eglwys achubiaeth yn cymeryd lie. Cyfarfod a hir gofir yw hwn, a dymuniad ein calon yw am. i'r Parch. Charles Davies gael blynyddau lawer eto i wasanaethu ei Dduw a'i genedl. Coffawyd gyd pharch ac yspryd pruddaidd am farwolaeth sydyn Golygydd parchus y Seren" yn nghyfarfod yr hwyr. Dowlais. -0- -0 CEINFRYN.

CWRDD DOSBARTH CYLCH MAESTEG

CWRDD DOSBARTH CYLCH MAESTEG. Cynaliwyd y diweddaf yn Salem, Nantyffylloii, dydd Mercher, Ionawr 21ain, 1914, dan lywyddiaeth y Parch. Iorwerth Jones, Bethania. Ar ol canu emyn, ar- weiniwyd mewn gweddi gan y Parch. D. C. Howells, Salem. Penderfynwyd: 1. Ar ol darllen y cofnodion eu bod yn cael eu derbyn fel rhai cywir. 2. Cawd mynegiad y trysorydd. Hysbys- odd fod rhan o'r swm oedd mewn, llaw yn ddyledus i'r Genadaeth Gartrefol, oddiwrth eglwys Salem. 3. Pasiwyd fod yr arian dyledus i'r Gym. Gartrefol i'w dalu ar ddiwedd y flwyddyn Gymanfaol. 4. Dewis swyddogion am y flwyddyn:- Yr Is-lywydd presenol, Mr. Joshua Williams Salem, i fod yn llywydd am y flwyddyn. Y Parch. T. J. Hughes, Noddfa, yn Is-Iyw- ydd; Parch. J. M. Lewis, Tabernacl, yn Ysgrifenydd. Y brawd Thos. Morris, Beth- ania, yn drysorydd. Y brawd Williams, Salem, yn ysg. Pwyllgor yr Ysgol Sul. E. D. Joshua yn ysg. y Genadaeth a'r Pwyll- gor Dirwestol