Teitl Casgliad: Seren Cymru

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Undeb Bedyddwyr Cymru.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 3 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
2 erthygl ar y dudalen hon
0 Tref dy Dy

 -.0 Tref?? dy Dy. "SUL Y MIS." Flynyddau yn ol pan yn ymgymeryd a'r gwaith o chwyddo y casgliadau blynyddol at Gymdeithas Genadol Gartrefol y Gym- anfa hon, gwnaed ymchwiliad i amgylchiad- au gweinidogion yr eglwysi bychain er mwyn cyflwyno ffeithiau i gynadledd y Gymanfa, yn sail i'r apel at haelfrydedd yr eglwysi. Yn fynych caed yr atebiad "Fy nghyflog yw a Sul y mis. Ceir Sul y Mis" yn y cytundeb rhwng ami i eglwys feehan a'i gweinidog yn y. flwyddyn 1914. Disgwylir i'r gweinidog lanw ei bulpud dri Sul y mis, ac yna y pedwerydd ganddo .ef i bregethu niewn eglwys arall. Nid anfynych y ceir gweinidog ar ddwy eglwys yn pregethu tair gwaith bob Sul—- dwy waith yn y naill eglwys ac un waith yn y llall—-un Sul, gan newid y drefn y Sul nesaf, a phedwerydd Sul y mis ganddo yn rhydd i wasanaethu eglwys arall. Y Sul hwn cynelir cwrdd gweddi neu gwahoddir myfyriwr neu bregethwr cynorth- wyol i'r cyfryw egI wys iiett egliv-ysi dan ei ofal ef. Amddifedir yr Ysgol Sul o ofal arwein- lad ac ysbrydiaetli PRESENOLDEB Y GWEINIDOG. Ceisir gwneyd fyny am y golled fawr hon, trwy drefnu Fr gweinidog, lioli'r henocl" ambell nos Sul yn lie "rhoi pregetli." Anhawdd iawn yw darbwyllo dwy eglwys i sicrhau presenoldeb y gweinidog drwy y Sul yn yr un lie, ac yna yr oil 0 r Sul di- lynol yn y chwaer eglwys. Pe gwnelid hyn cawisai y gweinidog HAMDDEN I BREGETHU mewn dwy oedfa, a mynychu yr Ysgol Sul, yn lie gorfod earlamu ar draed, neu ar ddwyrod neu mewn cerbyd filldiroedd i'r eglwys arall. Gwastreffir llawer o nerth ar yr heol, ddylid ei' gynilo i'w ddefnyddio yn y pul- pud a'r Ysgol Sul trwy gynllun y pregethu deirgwaith mown dau Ie bob Sul. Wrth drefnu a'r gweinidog i roddi dau Sul y mis yn llawn yn un eglwys a dau Sul yn llawn yn yr eglwys arall, osgoir yr ANFFAWD 0 SUL Y MIS." Weithiau gwahoddir gweinidog ar un eg- lwys am swm o gyflog a Sul y mis yn rhydd." Trefniant anymul101 ac anfanteisiol iawn i weinidog yw Sul y mis." Gwasga yn drwm a phoenus ar feddwl ac amgylchiadau y gweinidog. Pe sicrheid i'r gweinidog fisoedd a blyn- yddoedd yn mlaenllaw, eglwysi iddo bre- gethu iddynt, ar ei Suliau gweigion ef, byddai y Sul gwag yn rhoddi seibiant iddo am rai dyddiau. Rhoddir y fraint hon gan drefn deithiol y Methodistiaid Calfin- aidd. Gweinidogaeth sefydlog o 4 Sul y mis-- a rhai Suliau o holidays--yw eiddo eglwysi y Bedyddwyr a rifant 200 a thros hyny, felly cyfyd ANHAWSDER MAWR 11 i weinidogion y, tri Sul y mis i lemvi eu "Sul y mis" a chyhoeddiad i bregethu. Onid gormes ar y brodyr da hyn yw eu gorfodi i chwilio am 13 o Suliau bob blwyddyn mewn eglwysi eraill? Digon yw i brophwydi Duw ddwyn y baich anoch.eladwy--baioh Gair yr Arglwydd —baich gofal gweinidogaethol- baich pryd- er y gyflog feehan, ond gellid yn rhwydd ad-drefnu pethau fel na orfodid brodyr teilwng i GARDOTA AM SUL. Diurddas iawn yw hyn, a theimla rhai o honynt y peth i'r byw. Pa fodd y dis- gwylir i'r brodyr hyn feithrin hunanbarch ac anibyniaeth pan lethir eu meddwl a'u teimlad gan bryder a loes parthed llenwi y Sul gwag nesaf? Os yw brawd yn addas i'r weinidogaeth, nid yn unig ni ddylai ddioddef, oblegid "unemployment" gorfodol un Sul ac yntau yn iach, ond dylai trefn yr enwad sicrhau iddo bob Sul yn llawn. Rhaid fod nifer fwy nag a dybir, yn meddu ar Sul gwag bob mis. Yn mhlith y brodyr Sul gwag bob mis. Yn mhlith y brodyr hyn ceir cystal pregethwyr a Christionogion ag eiddo yr eglwysi mawrion, ond eu bod yn llai ffodus na'u brodyr. Geilw y teimlad crefyddol ac iawnder moesol ar i frodyr yr eglwysi mawrion gymeryd o ddifrif, anfanteision, pryderon, a dioddefaint eu brodyr yn y cylchoedd cyfyng, mewn Haw i rwystro ANHEGWCH SUL Y MIS." Credir mai mantais i frawd Isaif o flaen yr un bobl bob Sul yw myned oddiacrtref Sul y mis, er mwyn cyfnewidiad amgylcheg fydd yn seibiant ac ysbrydiaeth iddo, pan yn wahoddedig am Sul i eglwys arall, ond difethir y mwynhad gan yr ymwybyddiaeth mai trwy gais personol ac nid gwahoddiad yr eglwys y treulia y Sul yno. Ni all brawd y Sul y mi,s "bydde-d yn angel o bregethwr--drefnu y dyddiad i'r dim ar y Sul penodedig a hyny 13 o Sul- iau y flwyddyn, yn enwad y Bedyddwyr. Gall gael dau wahoddiad un mis, am Suliau eraill y mis a dim un y mis nesaf, felly rhwng anffawd y dyddiadau y mis cyntaf, a dim cais yr ail fis, dyna ef heb Sul mewn eglwysi eraill am ddau fis. ANFANTEISION YCHWANEGOL ga y gweinidog. Os na lwydda i gael Sul mewn lie arall, rhaid iddo drefnu i aros gartref, ac yna bydd rhai aelodau yri sisial "Mae eingwei- gweinidog ni gartre heddi ar y Sul gwag. 'Does dim un eglwys wedi mofyn e. Mae'n pregethu yn dda i ni, ond dyw eglwysi erill ddim yn ei lico fe." < Yna ant i ddirgel gredu nad yw yn rhyw lawer o bregethwr, "neu fe fydde eglwysi erill yTei wiel'd e." Unwaith y coledda y saint y syniad yna am eu gweinidog, GWANHEIR EI DDYLANWAD fel pregethwr a bugail: a bydd hyny yn gam ofnadwy ag ef. Dim ond sylweddoli y ffeithiau hyn, gwel y diragfarn mai gorfodaeth yr amgylchiadau --ae nid dymuniad piersonol, yw mynediad rhai brodyr "Sul y mis i bregethu i gymdeithasau crefyddol a elwir yn 'Splits.' Er fod rhai cymdeithasau afreolaidd felly --yn. eglwysi a ymwalianasant o'r fam eg- IWYls oblegid eu puixlob a'u safon uwch o fywyd, rhaid dweyd mai effaith hunanoldeb, honiadaetli a phengamrwycld yn rhy fynych yw y cymdeithasau hyn, a buasai y mwy- rif o honynt farw yn eu babandod oni bai fod gweinidogion "Sul y mis," yn erbyn eu hewyllys yn gorfod llanw eu Suliau, ac weithiau yn troi yn dadmaethod i feithrin a magu y plant hyn. Rhydd yr eglwysi af- reolaidd hyn gyfle i'r broUyr lanw eu Sul rhydd." PriodoIiawn yw anog y brodyr hyn i beidio ymyraeth ag aelodau a ymwahanas- ant trwy gweryl oddiwrth y fam eglwys mewn cymydogaeth, ond peth anrhaethol well yw gwneyd Sul y Mis yn an- mhosibl i un gweinidog trwy orfodaeth, yn enwad y Bedyddwyr. O'r tu arall, os bydd gweinidog heb Sul y Mis" yn v v YMYRWR V ac yn cefnogi ymraniadau trwy ei ymwel- iadau a'r eyfryw bobl, yn lie oeisio cyfanu trwy gynghori y bobl i FEITHRIN CARlAn BRAWDOL dylai y brawd hwnw gael ei gondemnio am rwystro llwyddiant y Dieyrnas. Ar ol sylw weddol fanwl, am flynyddau i'r drefn (?) o "Sul gwag" bob mis yn or- fodol ar weinidog, credir yn gadarn mai camsyniad mawr, a cham beiadwy ag ys- bryd, a chysur ac ag amgylchiadau brodyr ydyw. A oes rhaid aros i'r Cynllun Gweinidog- aethol newydd ddod i weithrediad cyn di- difodi y "Sul y mis"? Credir na raid. Ad-drefned yr eglwysi eu perthynas a'u gweinidogion fel ag i roi rhyddid i'r gwei- nidogion fyned oddicartref PAN YN GYFLEUS GANDDYNT, ac nid trwy orfodaeth cast iron" ar Sul neillduol. Felly tyr y wawr ar deimlad ami i iweinidog a'i deulu, a llonir ei aelwyd gan lawenydd ei ddyfodiad allan o gaethiwed "Sul y Mis."

o YMSON GWYNDUD UWCH MARW DR WILLIAMS IHOL YGYDO SEREN CYMRU

o YMSON GWYNDUD UWCH MARW DR. WILLIAMS, IHOL YGYDO. "SEREN CYMRU." Ow! SEREN Seren Cymru" Ddiffoddwyd 'nawr yn llwyr! A beth yw maint ein colled Pwy, pwy yn awr a wyr? Rhyw seren fwy na seren I Gymru ydoedd ef, A chwith iawn oi ddiflanu O'n golwg yn y nef. Nid seren wibiog ydoedd Ond un sefydlog iawn: Yn mhwynt Y GWIR A'R UNIAWN Bob pryd caed ef yn llawn. Arweiniodd lu o Gymry I gael goleuni clir, Ar lawer o gwestiynau, A chofir ef yn hir. Na, ni ddiffoddwyd Williams: Duw cododd ef i Ie Anrhaethol uwch, eangach, I d'wynu yn y ne': Dysgleirio 'nawr mae yno A'i lewyrch yn fwy, fwy: Mae heddyw'n foiicligedig, Paham yr wylwn mwy? PFNRHYNDEUDRiFTfl.