Teitl Casgliad: Seren Cymru

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Undeb Bedyddwyr Cymru.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 9 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
4 erthygl ar y dudalen hon
SAFLE BRESENOL MesurDatgysylltiad a Dadwaddoliad EGLWYS LOEGR YN NGHYMRU

,r' dewisent felly, gallasent gael tua dwy filiwn o bunau o Avaddol sefydlog. Cynyrchai hyn iddynt o £ 70,000 i £ 80,000 y flwyddyn, yn ychwaneg-ol at y £ 102,000 a adewir yn hollol iddynt. Cofier, gyda llaw, fod yr holl eglwysdai, deondai, ficerdai a'r palasau es- gobol yn cael eu trosglwyddo yn llwyr idd- ynt. Ac eto i gyd dyma y bobl gwynant eu bod yn cael eu gadael heb ddim! Ond beth dal deisebau anwireddus yn dwyn enwau anwybodusion. Gwyr pawb o bob plaid pa bris i'w roddi ar y pethau hyn bellach. Yn ol aswyddlon yr am,ser y mae dydd Datgysylltiad wedi dod, pryd y cawn y pleser o dori gefynau Eglwys y Caeth- iwed ac y cawn groesawu Eglwys Rydd arall i blith yr enwadau Cymreig. O'r braijdd' y gaIlwn ddisgwyl y gAverthfawrogir y rhyddid ar unwaith. Bu Israel yn yr anialwch yn blysio am fwyd yr Aipht. Of- nwn hefyd yr erys blys am yr hen ddyddiau gynt yn Eglwyswyr y dydidiau hyn am lawer blwyddyn. Awn ni a'n brwydrau o'r golwg yn y man, a ehyfyid cenedlaeth newydd gyda dyheadau a biiddianau ereill yn y man. Melus meddwl na fydd Eglwys Sefyrlledig yr adeg hono i borthi balchder y&prydol, i osoti terfynall enawdol bydol, i deyrnas Crist, i gyfyngu ar ddatguddiadau Duw ac i chwerwi dinasyddiaeth y Pryd- eini wr. Heddyw ceir esgobion yn tywallt pob anfri a llysnafedd ar ddatgySylltwyr. Yr adeg sydd i ddod bydd yr Eglwyswyr duwiolaf a mwyaf selog yn diolch i Dduw •am godi y, rhai filwriasant i dynu eu heg- lwys o'r caethiwed. Gwyddom heb ronyn o amheuaeth, ein bod yn yr ymgyrch hWll yn gwneuthur gwaith dros Grist, ac y bydd y diwedd yn fantais syhveddol i'r Eglwys, ac i'r Wladwriaeth hefyd. -0-

IYma ac Acw

Yma ac Acw. Oni bae am yr elw a sicrheir oddiwrth « chwareuon yn anuniongyrchol, byddai gwrth- dystiad crefyddwyr Cymru yn erbyn hyfder rhai o ddilynwyr chwareuon poblogaidd yn llawer mwy cyffredinol a grymus. Onid oes berygl i'r geiniog faglu erefydd mewn llawer bro dlos yn ein gwlad? Cwynir fod Llys Prifysgol .Cymru yn ddall I werth pob peth crefyddol Cymreig. Ai dyma wobr Ymneillduaeth Cymru am ei llafurus gariad o blaid Addysg? Nid yw di- brisdod y felys o wasanaeth arwyr erlefydd Rycld o hualau gwlad ol yn glod icldo. Hen air a ddywed,Goreu cynydd, cadw moes. Yn yr Ymwelydd Misol am Ionawr ceir ysgrif ar Mrs. D. Lloyd George. Y mae Mr. Phillip Pickering, Penycae, Rhiwabon, wedi ei ddyrel-rafu yn Ynad Heddwch. Ionawr lOfed, cynaliwyd cyfarfod cystad- leuol difyr yn Ramoth, Llanfrothen, y Parch, Arthur Davies, y gweinidog, yn gwasan- aethu fel beirniad cerddorol. Bu y Parch. Wyre Lewis, Penuel, Rlios- llanerchrugog, yn darlithioi ar Egwyddor- ion Yjnneillduaeth fel yr amlygwyd hwy yn 1662" yn ysgoldy Penuel. Y Cynghorwr n. Davies yn y gadaiir. Mawr ganmolir y ddarlith. Hyepysodd Mrs. Lloyd George mewn cyfarfod dirwestol yn N ghriooieth, fod y Llywodraeth eisoes yn parotoi mesur eff- eithiol er cyfarfod a'r drygau a achosir gan y fasnach foddavol. Clywsom y bwriada y Parch. R. S. Rogers, B.A., Rhos, Mountain Ash, ail afael yn ei ddyledswyddau wedi ei afiechyd tua chanol y mis hwn. Llawenhawn yn ei wellhad. Sonir fod un o weinidogion effro dyffryn -A-berdar ar fin symud i Lanelli. r" .M_ ISTewyddion calonogol a glywir beunydd o amryw gyfeiriadau partheicl cariad cyn- yddol yr eglwysi a brodyr amlwg at y Cynllun Gweinidogaethol. Clywisom fod Llywydd yr Undeb yn gwneyd cyfraniad anrhydeddus at y mudiad. Ymneilldua J. P. Gibbon, Ysw., Y.H., Maesteg, a Thrysorydd ffyddlon Undeb Bed- yddwyr Cymru, o'i ofalon pwysfawr. Drwy hyn gall y boneddwr hael roi mwy o'i amser i hyrwyddo buddianau Bedyddwyr Cymru. G ofidi wn ddeall fod Ysgrifenydd craff yr Undeb yn orweddiog y dyddiau hyn. Caifed adferiad buan. Yr wythnosau hyn gwasanaetha y Parch. D. M. Roberts, Jamaica, eglwys gaethgym- unol Beccles, Suffolk. Saif y capel ar lecyn lie y llosgywd cyrph tri dyn ieuangc gan y Pabyddion yn yr oesau tywyll. Bydd Mr. Roberts yn treulio Mawrth ao Ebrill eto yn Ngogledd Cymru, ac yn barod i wasanaethu yr eglwysi. Bwriada ddychwelyd i'w faes yn mis Mai. Hyderwn y ca eiii hamdden hyfryd yn yr hen wlad." Llongyfarchiadau i Mr. Phillip Pickering, Penycae, a Mr. J. Williams, Abergele, ar eu dyrchafiad i fwrdd yr Ynadon. Yn mhlith yr Ynadon newyddion benod- wyd yn ddiweddar i Abertawe lion yw gweled dim llai na phump o Fedyddwyr, sy'n wyr cyfrifol yn y dref a'r cylch, heb law amryw Anghydffurfwyr" ereill o gwrs. Y Cynghorwr David Griffiths yw un, yr hwn sydd adnabyddus iawn yn y byd cer- ddorol, ac yn ddiacon yn Bethesda, yr hen fam-eghvys, ac yn Libanus cyn hyny. Mr. J. Lovat Owen, aelod ac Is-gadeirydd yr hen Fwrdd Ysgol, sydd un arall, Y mae efe yn ddiacon a thrysorydd yn eglwys Brynhyfryd, ac wedi bod yn amlwg iawn yno o'r cychwyn. Y mae hefyd yn aiddgar iawn dros Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Mr. If or G wynne, eto sydd flaenllaw yn Nghapel Gomer. Y mae efe yn gynrychiol- ydd y gweithwyr. yn aelod o'r Cynghor Trefol, ac yn Gadeirydd Pwyllgor "Addysg yn y dref. Mr. John Thomas, Pentrechwyth, sydd ddiacon yn Adulam, ac yn aelod o Fwrdd y Gwarcheidwaid. Cymer ddyddordeb mawr yn achos y tlodion. Y mae Mr. T. P. Cook yn flaenllaw yn Mt. Pleasant, ac yn un o arweinyddion y Y.M.C.A. yn y dref. Da iawn Fedyddwyr Abertawe. Mae eglwysi parch us Nefyn a'r Morfa wedi rhoddi galwad daer ac unfrydol i'r brawd ieuangc addawol Mr. Idris Thomas, oGoleg Bangor. Deallwn ei fod yntau wedi ateb yn gadarnhaol. Bendith Duw fyddo ar yr undeb. Nos Iau, Ionawr 22ain, cyflwynodd eglwys Saron, Llanaelhaiarn, rodd mewn aur i'w gweinidog, y Parch. J. Phillips, fel arwydd o'u parch tuag ato, a'u gwerthfawrogiad o'i wasanaeth fel gweinidog am dros bedair blynedd. Gwedd lewyrchus sydd ar y frawdolia;eth yn Calfaria, Penygroes, er yn amddifad o weinidog er's tua pymtheg mlynedd. Mae brawd ieuangc o alluoedd disglaer o Goleg y prophwydi yn Mangor wedi cael galwad gynlies ac unfrydol i ddyfod i'w bugeilio yn yr Arglwydd.

Nodiadau Cenadol

Nodiadau Cenadol. Cant o flynyddau yn ol -yn mis Chwef. 1814, y glaniodd John Rowe yn Jamaica. Yr adeg yma yr oedd caethwasiaeth mewn cysylltiad a choedwigoedd y sugar yn cael ei ystyried fel sefydliad, gyda phob math o ddrygioni a chreulonderau yn canlyn. Ond cawn fod gan y Genadaeth y fath afael ifyddiog yn yr India Orllewinol, ac yn ymddiried mOr gryf i'r eglwys gartref, fel yn y flwyddyn 1841 yr oedd gan y Gyni- deithas fwy o genadon yno nag yn yr India Ddwyreiniol. A bu y fath lwyddiant ar y gwaith fel yn y flwyddyn 1842 daeth yr eglwysi yn Jamaica yn hunangynaliol, fel erbyn hyn, yr hyn a gynorthwya y Gym- deithas yn Jamaica ydyw y College neu yr Athrofa yn Calabar er parotoi dynion ieu- aingc i'r Aveinid ogaetli. Yr enw sydd wedi ei hanfodol gysylltu a'r gwaith cenadol ac a diddymiad Caeth- Avasiaeth yn Jamaica, &c., ydyw enw Wil- liam Knibb, gyda'i gynorthwywyr James Murshell Phillippo a Thos. Burchell, pa rai a ddadleuasant ac a ddioiddefasant tros achos y caethion. Dioddefodd Knibb garchariad, a diangodd Burchell am ei fywyd; a phan ddychwel- odd Knibb gartref cladleuodd mor gryf dros y caethion ac yn erbyn y fasnach felldig- edig, fel y deffrowyd y wlad, ac y pasiwyd Mesur Seneddol i dalu X20,000,000 i'r plail- higwyr siwgwr am rhyddhad y caethion, yr hyn a gymerodd Ie ar AAvist laf, 1834. Yn y Ty Cenadol yn Llundain mae cader William Knibb. Yn y Missionary Herald am y mis hwn, cawn ddarlun o un o flaenoriaid eglwys William Knibb, caethwas, yn cael ei chwipio am ychydig iawn o drosedd tra Knibb yn eiriol ar ei ran. Dyma fel y dywed: Sam Swiney, dyn ieuangc rhagorol, diacon yn fy eglwys yn y lie hwn, sydd yn awr yn y carchar am ei sel dros yr Iesu. Yn ystod fy afiechyd diAveddar cyfarfu ef ao eraill rai rhyddion a rhai caethion i weddio. Hysbyswyd yr Ustus Heddwch amy peth, ac er i mi gael amryAV dystion o ddynion parchus, un o honynt yn ben cwnstabl, i brofi nad oedd dim drwg yn cael ei wneyd; ond mynai yr Ustus fod pregethu a gweddio yn golygu yr un peth. Ymdrechais ei argyhoeddi, ond i ddim di- ben, felly traddoclwyd y dyn ieuangc hAvn i dderbyn ugain gwialenod ar draws ei gefn noeth ac i gael ei weithio ar y ffordd mewn cadwyni am bythefnos. Gwnaethumy cwbl a1 allwn Orosto. gyda'i feistr hefyd, ond y cwbl yn ofer. Y boreu eanlynol aethum i edrych arno yn cael ei fflangellu, yn benderfynol o'i 'gyn- orthwyo, os gallaswn rhywfodd, er mor boenus oedd yr olwg i mi. Dyna lie yr ydoedd masnachAvr parchus (er yn gaeth) wedi ei ymestyn ar y ddaear gyda phedwar o gaethion yn ei ddal, rhai wrth ei ddwy- law a rhai wrth ei draed. Fel yr. oedd, goreu, yr, oedd y gyrwr (driver) yn un trugarog, onide gallasai gael at y gwaed gyda phob flogiad. Y cwbl a ddywedodd oedd gruddfan, gan ofyn, pa cldrwg a wnaeth? Wedi ei godi a'i gadwyno wrth drosedd- wr, anfonwyd ef at ei waith i'r ffordd. Cerddais wrth ei ochr ar hyd y daith, gan ei gysuro, yr hyn oedd yn peri blinder i'r awdurdodau. Tynodd yr amgylchiad hwn sylw Maer yn Lloegr, a chafodd Sam Swiney ei ryddhau, a ohafodd yr Ustus a'i cosbodd ei ddiswyddo mewn canlyniad gan y LlywodraetliAvr, Arglwydd Belmore a'r gweinidog Prydeinig, Arglwydd Goodrich." o

No title

Trinity, Penclawdid. Sul a'r L lun, Ion. 18fed a'r 19eg, cynaliodd yr eglwys uchod gyfarfod pregethu neillduol, pryd y gwas- anaetliAvyd yn Gymraeg a Saesonaeg gan y Parchn. S. G. Bowen, Bryncemaes, SirBen- fro, a J. J. Young, Rhondda. Cyrddau ardderchog iawn.