Teitl Casgliad: Seren Cymru

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Undeb Bedyddwyr Cymru.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 6 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
4 erthygl ar y dudalen hon
Colofn o Ddarluniau

Colofn o Ddarluniau Y Patriarch Prydferth. i Anhawdd cael tlysach darlun nag eiddo yr Hybarch Isaac James, Rhuthyn, fel y safai, pwy ddydd yma, yn nghadair lywydd- ol Undeb Bedyddwyr y Clwyd a'r Ddyfr- dwy, yn Llangollen. 0 daldra cyffredin, saif cyn sythed a'r saeth, gydag osgo fil- wrol esmwyth, hardd. Ymddengys eilygad yn dreiddgar a bywiog, a gorchuddir ei ben lluniaidd a chnwd tor,eithiog o wallt gwyn, crych-droellog. Y mae wedi cyr- liaeddyd ei bed war ugain, a newydd roddi i fyny fugeiliaeth ei oglwys yn swn hiraeth ei bobl a bendithion pawb a'i hadweiniant. Bu fyw yn syml a hardd, mewn heddwch a phawb. Fel ei Feistr, "ni waedda, ac ni ddyrchafa, ac ni phair glywed ei lef yn yr heol"; er hyny gwasanaethodd yn ffyddlon, dros gyfnoc1 maith. Meddylia ein Cymanfa lawer ohono. Hana o Sir Frycheiniog; yn Mhontypwl y bu yn hogi ei arfau; cafodd Mon naw mlynedd o'i wasanaeth fel gwein- idog ieuangc, ond cafodd Rhuthyn a Chym- anfa Dinbych, Fflint a Meirion ddeugain mlynedd o ddyddiau ei nerth a'i aeddfed- rwydd. Ymneilldua mewn iechyd a nerth. Bu yn fclad ffyddlon i'w blant oedd heb fam. Y mae y plant yn. ei ad-dalu lieddyw mewn harddwch, tynerwch a chariad. Boed ei noswyl yn liir ac yn esmwyth. Y Cawr yn ei Afiaeth. Neithiwr, bum yn eistedd wrth draed Pedr Hir yn y Tabernacl, Cof nrliawr, lie yr oedd yn darlithio ar "Gyiicld-olw." Cawsom gyn- ulliad rhagorol gyda'r Parch. D. R. Owen, Seion, yn y gadair. I bwy y gellir cyff- elybu y darlithydd. Saif ar ei ben ei hun heddyw yn iNghyniru., a chydnabyddir ef yn un o sefydliadau yr enwad a'r genedl Gymreig. Tebyg yw o ran corph i feibion Anak gynt, nou i dywysog Rwssiaidd braf yr olwg; o ran coethder a dillynder* ei feddwl, gallem dybied mai un o ysprydion clasurol cyfnod goreu Groeg yw efe; par edrychiad ei lygad llym a'r daran ddofn a rua ar adegau yn ei lais, ini dybied mai un o farchogion Arthur lieu o wron- iaid chwimwth Owen Glyn I)ivr, os nad Owen ei hun sydd ger ein bron. Eto, wrth wrando y ddarlith, chwery Podr fel telynor medrus ar holl danau ein calon. Yn awr yn trydar gyda'r ddurtur; bryd arall yn suo gyda'r awel, yn bwrlymu gyda'r ffynon neu yn nofio ar wyneb llyfn yr afon ddofn. Yn union cyfyd ystorm, nes byddo colofnau predryfan yn dirgrynu, ac, mewn moment, ceir hindda ac haul yn gwenu drachefn. Ymdeifl i ysmaldod nes codi pawb i hwyl chw:erthin, a r fynyd nesaf ymddengys dagrau a chlywir swn gruddfanau. Pa destun gwell ellid gael i ateb ein brawd na'r mawr a'r amryddawn Gynddelw? Cafwyd gwledd amheuthYll o Gymraeg pur, o hyawdledd ooeth, o ddifyr- wch ac ysmaldod, o geinder meddwl, ac o gyfoeth gwybodaeth a doetliineb. Byw byth fyddo'r brenin. Cadieirio Merched. Dyweder a ddyweder y mae dyddiau y merched yn dod. Dyma gadeiriau barddol eisteddfodau Gwyl Dewi yn Mhrif-ysgol- ion Aberystwyth a Bangor wedi eu cipio elenj gan ferciied! Llongyfarchwn y ddwy ar eu buddugoliaethau anrhydeddus. Erys arbenigrwydd deublyg ar y foneddiges or- seddwyd yn Aberystwyth, oblegid nid Cym- raes na Saesnes chwaith mohoni, end un o ferched croen-ddu India. Yr oedd yn ail am y gadair llynedd, ond eleni wele Miss Dorothy Bonarjee yn gadeir-farddes ei Choleg am bryddest ar "Owain LaNigocli." Trwy ffawd hapus yr oedd ei thad yn bres- enol adeg ei chadeirio, a chafwyd ganddo ychydig eiriau pwrpasol i'r amgylchiad. Nid newyddicu yn fxlachio am enyd yw Miss Gwladys 0, Jones, o Gaernarfon, eni_ llodd gadair Bangor am bryddest ar: "Y Bardd Cweg." Dwy flynedd yn ol, enillodd y gadair o'r blaen er gwaethaf holl fardd- langciau y ddinas. Nid yw etc end un-ar- hugain oed. Haddamor dywysogesau aw- engar: croesawir chwi bellach i ornestau barddol yr Eisteddfod Genedlaethol. Ond doniol o beth fydd gweled cadair farddol o dderw Cymru yn addurno parlwr un o balasau yr India. Yr Esgob yn Gwrthdystio. Golygfa ddifrifol oedd gweled Esgob Llanelwy dydd Mercher, Mawrth 4ydd, gyda'r Gwrthdystwyr Anghydffurfiol 'o flaen Mr. Asquith, y Prifweinidog. Nid oedd ganddo fusnes o gwbl yno, oblegid cyf- lwynid yr Anghydffurfwyr" hynod hyn gan yr Eglwyswr ieuangc Mr. OrmsbyGore, A.S., fel "simple gentlemen from Wales, some of whom have never visited London before." Gresyn fuasai cyfieithu y geiriau hyn. Pan welodd Mr. Asquith yr Esgob, ebai mewn syndod: "Are you one of the deputation, Bishop?" Atebai yr esgob ei fod yno i ateb cwestiynau os byddai angen t Chwareu teg i Dr. Edwards, gwyddai hanes y "protest," a gwyddai am y cwmni bych- an o "wrthdystwyr" aeth i Lundain. Gan fod yr Esgob ac Eglwyswyr Esgobaeth Llan- elwy wedi gweithio mor galed g'yda'r "pro- test," rhaid oedd gwylied y peth hyd y diwedd. 0 dan amgylchiadau ereill bu- asem yn dweyd mai haerllugrwydd mewn dyn fyddai gwthio ei hun i wyddfod y Prifweinidog, heb wahoddiad ac heb fusnes o gwbl. Ond rhaid pasio heibio iddo; teimlai yn bur bryderus ynghyleh y "pro- test" mae'n amlwg. Beth pe bai y Prif- weinidog yn ymroddi i groesholi ychydig ar y "simple gentlemen from Wales?" Fel yr oedd, addefasant nad oedd yr un ohonynt yn swyddog o fath yn y byd mewn un- rhyw eglwys, a hefyd mai Toriaid oeddynt. Mwy na hyny: addefasant nad oeddynt yn gwrthwynebu Batgysylltiad o gwbl. Onid oos modd cael darlun o'r Esgob a'r "simple gentlemen" uchod o flaen Mr. Asquith a'r tri wyr oedd gydag ef-Mri. EtlisGriffiths, William Jones, McKenna? Sut hwyl gafodd y tri olaf ar yr ymgom tybed? Cefnmawr. E. K. JONES.

0 UNDEB BEDYDDWYR DYFFRYN CONWAY A FFESTINIOG

-0 UNDEB BEDYDDWYR DYFFRYN CONWAY A FFESTINIOG. Cynaliwyd cwrdd biynycldol yr Undeb uchod yn Colwyn Bay dydd Iau, Chwefror 26ain, 1914, o dan lywyddiaeth y Parch. T. Friiiistone, Colwyn, Cadeirydd y llwydd- yn. Dechreuwyd trwy g-anu emyn, yna awd i weddi gan y Parch. H. Hughes, Llall- rwst. Yna daeth y materion canlynol dan sylw. v 1. Darllenwyd a chadarnliawyd Cofnodion cwrdd mis Tachwedd. 2. Cafwyd adroddiad yr eglwysi ar bve- gethu y brawd Abel Jones, Llanddulas, yr hwn fu yn ymweled a hwy ar brawf (yn ol reolau ein Cymanfa). Pasiwyd ein bod ni fel Undeb yn ei gymeradwyo i Bwyllgor Arholiadol y Gymanfa. 3. Gohiriwyd mater y Oronicl hyd nes bydd y Pwyllgor wedi gallu cyfarfod. 4. Ethol swyddogion am y flwydclyii: Cadeirydd, Mr. D. Roberts, Llansannan; Is-Gadeirydd, Parch. W. G. 0 wen, Abergele. Archwiliwr, W. Owen Evans, Llysfaen. 5. Cafwyd gair gan y brawd Mr. Edwin Davies ynglyn a'r casgliad wnaed at yr Ysbyttai. Mae'r holl eg-livysi bron wedi casglti eleni eto. Rhoddwyd ar ddeall y disg'wylir i'r casgliadau fod mewn liaw cyn Medi 30ain bob blwyddyn. Ar gymhelliad y Pwyllgor pasiwyd fod yr holl arian yny dyfodol i'w hanfon i'r Welsh Committee, a'u bod hwy yn gofalu am eu rami 'i'r ys- bytai, a thrwy hyny y byddwn ni yn gallu cael tocyn i unrhyw ysbytty yn Lorpwd. 6. Yn ol yr hyn basiwyd yn nghwrdd haner blynyddol ein Cymanfa, daeth y mater o edrych, i mewn i'n heglwysi a oedd gan- ddynt lyfrau coi'nodion, Cafwyd ar ddeall fod rhai gan amryw, a phasiwyd fod yr ysgrifenydd yn anfon at y gweddill o'r eg- lwysi yn eu cymhell i gael llyfrau a gofalu am eu cadw yn ddiogel. 7. Cynllun Newydd Gweinidogaethol. Cafwyd ymdrafodaeth ar y mater hwn, a phenodwyd pedwar o frodyr at y tri sydd eisoes ar Bwyllgor y Gymanfa, i fturfio pwyllgor lleol, ac fod y cwrdd nesaf i gael ei roddi i ymdrin ar y mater hwn, sef boreu y Gymanfa Ganu. 8. Llawenydd mawr oedd teimlad y gyn- adledd am yr anrhydedd oedd wedi cael ei roddi ar yr ysgrifenydd trwy ei ddyrchafiad i Faingc Ynadol y Sir. 9. Yna cawsom anerchiad y Cadeirydd, yr hwn oedd ei dymhor yn ben, a galwodrd ar y Cadeirydd newydd i'r gadair, Y mater ganddo oedd, Eglwysi Undeb Bedyddwyr Dyffryn Conway a Ffestiniog. Aeth y brawd a ni yn ol i ddechreuad llawer o'r eglwysi, a dangosodd y cynydd mawr oedd wedi cymeryd lie gyda ni. fel enwad yn y cylch- oedd hyn; ond er hyny gofid oedd ganddo ddywedyd nad ydym wedi gwneyd fawr yn y blynyddoedd diweddaf hyn, ac fod lie i ofni nad yw ein Viobt ieuaiilo-c yn cael y gofal a (Mylent gael genym fel eglwysi. Diolchwyd i'r brawd am ei anerchiad a'r modd yr oedd wedi llywyddu am y flwydd- vn. Diolchwyd i chwiorydd caredic-, Colwyn Bay am y darparlaoth ardderchog yr oedd- wedi ei Wineyd ar gyfer y Gynadledd. Diweddwyd trwy weddi gan Mr. S. S. Jones, Ffestiniog. Pregethwyd yn yr liwyr gan y Parch. J. S. Jones, Ffestiniog. E. WILLIAMS, Ysg.

No title

-0- Cyfaill," ebai y masnachwr wrth Wy- ddel, ti a doraist dy addewid." "O! na ofahvch," meddai Pat, "gallaf wneyd un cystal a. hithau."

Advertising

'c' I'd iss Sale. BronchsiEs robbed this little girl of sleep. Veno's cured her. "It gives me real pleasure to recommend Venos Lightning Cough Cure, particularly to mothers. I first used it for my little Edith, when she had bronchitis and a. severe cough It was a fearful cough, hard and racking, that shook the poor little dear frightfully, Sll could not keep from coughing, and her general health became affected. I could hardly get, her to erat anything. Nothing did her any good until I got \eno's Lightning Cough Cure; then, actually by the time she bad finished one bottle she was caned." Mrs. Sparlies, 1, Birch-avenue, Marslands-road, Sale, Chcc;hire. Awarded Grand Prix and Gold Medal, International Health Exhibition, Parts, 1910. $T%. 1 fi ?°? Coughs and Colds, d Bponchitis, Asthma, L IMI l 'nftuenza. Catarrh, and all Chest and Lung Per Bottle. Troubles in old or young. Larger Sizes The suresi and speediest remedy I/li & 2/9 known. N-WS ??ft?G vit;v,Al,lhuf) I ill CWtE