Teitl Casgliad: Seren Cymru

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Undeb Bedyddwyr Cymru.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 12 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
5 erthygl ar y dudalen hon
Y CYNLLUN GWEINIDOGAETHOL

Y CYNLLUN GWEINIDOGAETHOL. Cymanfa Mynwy ar y Blaen. Y mae Cymanfa Mynwy wedi dechreu o ddifrif i gasglu tuag at y Drysorfa Wein- idogaethol. Arfera ryw gymaint o ymre- olaeth neu annibyniaeth, nid i lyfetheirio'r gwaith, ond i fyned ymlaen yn gyflymach. ■ Y mae eisoes wedi dewis swyddogion a Phwyllgor cryf. Cadeirydd y Pwyllgor yw Mr. W J. Fox, gwr sydd a'i galon gyda'r gwaith, yn caru gweinidog yr efengyi yn angerddol, ac yn barod i wneuthur aberth er ei fwyn, fel y dengys yr adroddiad hwn yn nes ymlaen. Y Trysorydd yw Mr. T. H. Prichard, M.P.S., Abertillery, mab y diweddar Barch. J. Prichard, Tonyrefail. Y mae yntau hefyd wedi dangos nad yw wedi anghofio'r aelwyd ar yr hon y'i mag- wyd. Yr Ysgrifennydd yw y Parch. D. Tudw:al Evans, Casnewydd. Trefnodd y Pwyllgor i gynnal cyfarfod- ydd mawr yn y TabernacI, Newbridge, dydd Mercher, Ebrill 22, i egluro'r Cynllun, a chasglu at y Drysorfa. Cyfarfu'r Pwyllgor yn y bore, ac am 12 o'r gloch cafwyd pregeth bwrpasol iawn gan y Parch. E. Williams, A.T.S., Dalston Junction. Llun- dain. Yr oedd Cadeirydd y Pwyllgor wedi gwahodd tua 150 o weinidogion a lleygwyr i giniaw am 1.15, ac yr oedd yn wybyddus mai wrth y bwrdd cinio liwn y byddid yn gwneuthur yr apel gyntaf am danysgrifiad- au tuag at y Drysorfa. Siaradwyd wrth y bwrdd gan y Parch. J. M. Jones, Newbridge, Mr. W. J. Fox, y Cadeirydd; a Dr. Edwards, Caerdydd. Gwnaed apel daer a chasglwyd addewid- ion. Yr addewid gyntaf a ddarllenwyd oedd eiddo Cadeirydd y Pwyllgor, Mr W J. Fox, am dri chan gini (1315). Cafwyd 1 addewid ion yn fuan ar ol hyn oddiwrth dau fab ieuanc y Cadeirydd am £10 10s. yr un-eu holl enillion yn y bane. Cafwyd addewid am Y,60, gan Drysorydd y Pwyll- gor, y Parch.. T. G. James, £ 50; Cadeirydd y Gymanfa, y Parch. T. H. Williams, £ 30; Mr. H. S. Cocker, 130; Mr. A. E. H. Ben- son, Is-gadeirydd y Gymanfa, £ 20; Mr. Caleb Lewis, Trysorydd y Gymanfa, £ 20; a Mr. Sam Rogers, Blaenau Gwent, £ 20; cafwyd amryw addewidion eraill am J615, £10, a Xo-. Addewid ddanghosai frwd- frydedd mawr oedd eiddo dosbarth ofech- gyn by chain yn Llantarnam am £ 31. Cyn codi oddiwrth y bwrdd cinio caed addewid- ion am clros 11,000. Yn ystod y dydd cafwyd addewidion eraill yn gwneuthur y cyfanswm yn 11,184. Pwy ddywed nad yw hyn yn ardderchog? Yn y prynhawn eafwyd cynhadledd o dan lywyddiaeth Cadeirydd y Gymanfa, y Parch. T. H. Williams, Casnewydd. Cynhygiodd Mr. A. E. H. Benson, y pendeifyniad can- lynol:—"Fod y Gynhadledd hon yn Ilaw- enhau yn ffurfiad y Cynllun Gweiniclog- aethol sydd a'i amcan pennaf i sicrhau gweinidogaeth gyson ac effeithiol i holl eglwysi y Cymanfaoedd sydd mewn aelod- iaeth yn Undeb Bedyddwyr Cymru a Myn- wy, yn ymrwymo i wneud ei goreu i gasglu y Drysorfa Barhaol o £ 25,000, ac yn erfyn yn y modd mwyaf taer am gymorth holl aelodau ein heglwysi." Eiliwyd y pender- fyniad gan y Parc W. E. Robinson, a phasiwyd ef yn unfrydol. Cynygiodd Mr. T. H. Prichard, M.P.S., Abertillery, y pendeifyniad canlynol: Fod y Gynhadledd hon yn croesawi Cyn- llun Gweinidogaethol Undeb Bedyddwyr Cymru a Mynwy sydd yn trefnu i sicrhau i bob gweinidog gyflog byw, a geilw ar holl aelodau ein heglwysi i estyn pob cym- orth fel y rhyddheir ein gweinidogion o bob pryder tymhorol diangenrhaid, ac fel y gallont roi mwy o'u hamser, o'u nerth ac o'u gofal i bethau ysbrydol." Eiliwyd hwn gan Mr. Zechariah Andrews, Talywain, a chefnogwyd ef gan y Parch. J. Meredith Jones, Casnewydd. Cynhygiwyd y trydydd pendeifyniad gan Mrs. H. Weist, Brithdir. Yr oedd fel y canlyn: Fod y Gynhadledd hon wedi sylweddoli angen yr eglwysi gweiniaid am gymorth, a'n gweinidogion am fywyd rhydd o bryderon dianghenraid, yn galw ar y chwiorydd" yn ein heglwysi i roi y cymorth gwerthfawr a fedrant roi; er sicr- hau llwyddiant y Cynllun a'r Drysorfa.' Eiliwyd hwn gan Mrs. N. G. Lewis, Blaenau Gwen, a chefnogwyd ef gan Mrs. Dr. Edwards, a phasiwyd ef yn unfrydol. Yn yr hwyr cafwyd cyfarfocl cyhoeddus o dan lywyddiaeth Mr. W. J. Fox. Siarad- wyd yn hyawdl gan Dr. Edwards, Parch. E. Williams, A.T.S., Llundain; a'r Parch. W. A. Williams, Pontypridd. Cyfarfod ag en- einiad arno ydoedd hwn. Yr oedd y llanw wedi cyrraedd ei fan uchaf wrth y bwrdd cinio, a theimlad na fedrai godi yn uwch hyd yn oed yn y Cwrdd Cyhoeddus, ac eto cafwyd cwrdd da. Er nad yw Cymru yn bwriadu casglu ond £ 25,000, y mae y Gymanfa hon yn siarad am gasglu YO-,000 ei hun. Y mae'r teim- lad yn gryf yma am i'r Pwyllgor Canolog geisio casglu £ 50,000. Pe gwnai hyny y mae yn sicr gennym na fydd y Gymanfa hon ar ol Iteb wneud ei rhan. Y mae wedi dechreu, ac wedi dechreu yn dda. Ni fwriada aros yn awr. Y mae'r Pwyllgor eisoes o ddifdf yn trefnu eynal cyfarfodydd eraill. A wna cymanfaoedd eraill Cymru ddilyn hon, a'i dilyn hi'r¡ g-yflym. Gymru, Doffro. Mae'n ddydd! D:. TUDWAL EVANS, Ysg.

Y CYNLLUN GWEINIDOGAETHOL TALYBONT CEREDIGION

Y CYNLLUN GWEINIDOGAETHOL. TALYBONT, CEREDIGION. Ynglyn a throfniant cyfarfod chwarterol cylch Gogledd Ceredigion, ymwelodd y Prif Athro T. F. Roberts, Aberystwyth, a'r lie uchod prynhawn Sul, Mawrth 22, arhodd- odd anerchiad efengylydd iawn yn y Taber- nacI ar y cynllun mawr dan sylw. Cymerodd y Prifathro Lythyr Cyntaf Paul at y Thes- saloniaid yn fater arweiniol i gyflwyno'r cynllun i sylw, ac yn hytrach na bod yn anerchiad beichus ar arian, fel y digwydd weithiau, ar amgylchiad o'r fath, trodd allan yn bregeth wir adeiladol, gan ddi- weddu mewn cymhellion buddiol i'n tywys oil i gariad a gweithredoedd da o blaid y weinidogaeth. Hyfryd oedd gennym wieled yn bresennol hefyd Mrs. Roberts, priod y Prifathro, ynghyda'u mab, Mr. Robert Rob- erts, yr hwn oedd ar y pryd gartref ar ei wyJiau o Athrofa Caergrawnt. Breintiwyd y teulu parchus a ninnau oil a thywydd teg, ,yngbanol tywydd garw'r mis a basiodd. Teimlai pawb oedd yn bresennol eu bod yn cael eu symbylu yn y cyfarfod i gyflawni ymdrechion mwy dyfal eto ymlaen ynglyn a'r achos goreu.

Y DRYSORFA WEINlDOGAETHOL

Y DRYSORFA WEINlDOGAETHOL Cynhaliwyd cyfarfodydd- cyhoeddus pob- logaidd dydd Mercher, Ebrill 22, yn New- bridge, Mon., mown cysylltiad a'r Drysorfa Weinidogaefcliol. Cychwynwycl y gyfres gyfarfodydd trwy i'r Parch. Evan Williams Daliston Junction, Llundain, draddodi pre- geth bwrpasol. Ar ol hynny gwahoddwyd yr holl gynrychiolwyr o'r gwalianol eglwysi yn y sir i gyfranogi o luncheon ar draul Mr. a MDS. W. J. Fox. Ar ol gwneuthur cyfiawnder a'r danteithion, cafwyd math ar gynhadledd o gylch y bwrdd, pryd yr an- erchodd Mr. Jones, gweinidog- y TabernacI, ac eraill y cynrychiolwyr. Pan gasglwyd y ffurflenni a wasgarwyd ym mhlith y cenhadon, ac y dechreuwyd darllen eu cyn- wys, profwyd amser nad anghofir yn fuan gan y rhai oedd yn bresenol. Nid swn mawr oedd yno, ond teimlo dwfn. Cynhaliwyd Cynhadledd fyw iawn yn y prynhawn, pryd y siaradwyd gan amryw, ac y pasiwyd nifer o benderfyniadau. Llyw- yddwyd y Gynhadledd _gan Gadeirydd y Gymanfa, y Parch. T. H. Williams, Cas- newydd. Gan y disgwyliwn adroddiad cyi- lawn o'r cwrdd ni ddywedwn ychwaneg. Yn yr hwyr dan lywyddiaeth Mr. W. J. Fox, cynhaliwyd y cwrdd cyhoeddns. Siar- adodd ar ol hynny y Llywydd, Dr. Ed- wards, Caerdydd; y Parch. E. Williams, Llundain; a'r Parch. W. A. Williams, Pontypridd. Yn ystod pob un o'r cyfarfod- ydd, gwasgarwyd a chasglwyd y ffurflenni, ac erbyn diw!edd cwrdd cyhoeddus yr hwyr, cyrhaeddodd yr addewidion tuag at Drys- orfa'r Weinidogaeth y swm calonogol o dros un cant ar ddeg o bunnau. Os yw'r Cyfarfod hwn yn ddanghoseg o'r teimlad sydd ar led trwy Gymru benbaladr, cosglir nid bum mil ar hugain ond hanner can mil o bunnau. n

LLWYDDIANT AR Y MEUSYDD

LLWYDDIANT AR Y MEUSYDD. Da gennym ddeall oddiwrth awgrymiadau parthed cynwysiad Adroddiad ein Cymdeith- as Genhadol a gyflwynir yn y Cyfarfod Blynyddol nesaf, fod llwyddiant mawr wedi bod ar y gwaith yn mhob un o'n meusydd y llynnedld. Bydid yr Herald am Mai yn anrhaethol tUdiddorol i bawb. CawzLfpd wedi eu bedyddio y llynnedd yn India 707; cynnydd o 102, ar 1912; yn China 622, mwy o 172, ar y Congo 838, Ceylon 50, ac ar gyfandir Ewrop 30. Daliwll y rhaflau yn wrol tra y disgynno'n brodyr i'r cloddfevdld aur. Treorci. W. MORRIS.

Amrywion

Amrywion, Carmel, Llandybie.Gyda eich cania- tad dymunwn gydnabod trwy gyfrwng y Seren" yr eglwysi canlynol am eu cyf- raniadau tuag at y draul o adeiladu y capel newydd yn Carmel:Salem, Llandebie X12 4s. 6c.; Salem, Pedair Heol, 10s. Ydym dros yr Eglwys, William John Evans, Werndolau, Golden Grove, Trysorydd; William Lewis, Smith, Carmel, Llandebie, Ysgrifennydd. Drama '68.Nos Lun, Ebrill 6, yn neu- add fawr Pontypridd, rhoddwyd perfiormiad o'r Ddrama uchod gan ddosbarth Cymraeg Libanus, Trefforest. Yr oedd yno neuadd lawn o Gymry, wedi dod i glywed a gweled y Cymry yn dal ac yn gweithio'r cymer- iadau allan mor rhagorol. Yr oedd y ddwy awr i ddwy awr a hanner a dreuliwyd yno yn llonder ysbryd, ac yn llawn addysg. Yr oedd y Dosbarth yn Libanus wedi ei dysgu i fanylrwydid a phob cymeriad yn y ddrama yn cael ei gario allan i berffeithrwydd dan ofal Mr. J. E. Jones. Yn sicr y mae mawr glod yn ddyledus i aelodau'r dos- barth Cymraeg yn Libanus am eu hym- drech a'u llafur yn dal ger bron y dyrfa'r hen gymeriadau gwledig yn eu gwisgoedd, eu isymlrwydd a'u gonestrwydd a'u hym- drech am gyfiawnder a rhyddid, &c. Yr oedd y cyfan yn glir a hyglyw a'r hen Gymraeg yn hofran trwy bob darn o'r ddrama. Dwy Gad:air.Gw.naeth y Parch. D. Bowen (Myfyr Hefin), Horeb, Pump Heol, orchest drwy ennill cadair Goginan, A ber- ystwyth, Gwener y Groglith, am y bryddest goflawdwriaethol i'r "Diweddar W. R. James, y Cenhadwr o India," a chadair Drefach Llun y Pasg, ar "Allorau Diryw- iedig y Geuedl." Cloriannwyd yn y naill Eisteddfod gan yPrif-fardd Gwili, ac yn y llall gan Brynacli, Llanfyrnach. Nid un o feirdd-bregethwyr marw'r weinidog- aeth yn byw i i'arddoni yw Myfyr Hefin,' ond g-weithia'n egniol gyda holl waith yr eglwys yn Horeb, fel yn Brycheiniog. Uwch, uwch ei rwysg, uchach yr el, Dringed i gadair angel. Dyma'r ddegfed gadair iddo. Penuel, Casllwchwr.Prynhawn a hwyr y Groglith, cyfarfu'r eglwys uchod adeil- iaid y Gobeithlu lu o honynt am dri o'r gloch yn y festri o amgylch y byrddau i fwynliau y wledd ragorol a ddarpa.resid gan y chwiorydd. Math o de ffarwel rhwng y gweinidog a deiliaid y Gobeithlu ar ben tymhor ydoedd, ond fod yr eglwys yn cael y fraint o uno trwy da1u.. Yn yr hwyr am 6.30 cyfarfuwyd yn y capel dan lywydd- iaeth ein parchus weinidog, a mwynhawyd gwledd o'r fath oreu mewn adrodd a chanu, gan ddeiliaid y Gobeithlu a'r Ysgol Sul. Mae clod yn ddyledus i'r chwiorydd am eu rhan, ac i'r deiliaid am eu ffyddlondeb drwy'r tymhor, ac i'n parchus weinidog, y Parch. E. Watkins am ei ymdrech diflino gyda phob rhan o'r gwaith. Disgwyliwn gynhaeaf toreithiog yn y dyfodol agos. AELOD.