Teitl Casgliad: Seren Cymru

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Undeb Bedyddwyr Cymru.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 4 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
2 erthygl ar y dudalen hon
Pulpud y Seren

ac yn cynghaneddu mewn Croes, ae yn uch- eddu mewn aberth dros bechodan y byd ar y ddaear hon. Yn lesu Grist y mae yr egwyddorion hyn mewn sylwedd i lygad y byd. Gwaith efengyl ydyw adgynyrchu y rhai hyn mewn dynion, A gwisgo y dyn newydd, yr hwn yn ol Duw a grewyd mewn cyfiawnder a gwir sancteiddrwydd." Mae cyfaddasder yr ofengyl i'r byd yn y tragy- wyddol sydd ynddi. II. Yr Efengyl a'r tragywyddol iddi. Delia yr Efengyl a'r tragywyddol. Mae cylch ei gwaith yn dragywyddol. Gwendid eynlluniau y ddaear yma yw nad oes dim eangder i'w chylch waith. Maent yn gyf- yngedig i ddaear ac i amser. Cyfyngiawn yw y ddaear yn ymyl eangder cyfanfyd. Cyf- yng rhyfeddol yw oenedl, llwyth, iaith, a phobloedd o'u cymharu a phreswylwyr y nef. Cyfyng a byr ydyw amser yn ymyl tragywyddoldeb. Derfydd cynlluniau dyn- ion yma. Darfyddant gyda darfod y byd. Y dynion sydd yma gyda'u bwriadau beidd- gar, debygem ni, 'gyda'u dyfeisiau mawrion a'u celfau gwychion, cul ydyw cylch eu gweithrediadau. Maent i farw. Ymyra marw yma a chynyrchion dynion. Marw wnant cyn y gorlxenant eu gwaith. Rhaid i R. L. Stevenson adaelei waith cyn gor- ffen ohono. Erys rhai o ddarluniau Land- seer yn anorffenedig. Mae Esboniad Cyn- ddelw a Geiriadur Mathetes heb eu gor- phen ganddynt pan yr a yr ysbryd at Dduw Llenwir y byd yma gan amcanion torredig. Nid ydyw 70 mlynedd yn ddigon i roi chwareu teg i allaoedd a chynlluniau dyn- ion. Nid oes fawr o le i'w cynyrchion pennaf yma. Ond am Efengyl ca y trag- wyddol yn gylch iddi. Mae gan Awdwr Iachawdwriaeth y tragywyddol i'w waith. 1. Delia yr Efengyl a'r "tragywyddol yn y dyn." Ceir y tragywyddol mewn dyn. Mae y materol ynddo, mae yr am- serol ynddo, mae y cyfyngedig ynddo, ond Duw a osododd y tragywyddol ynof hefyd. "He hath also put 'eternity' into their heart." Preg. 3. 11. Nid oes dim ond efengyl yn cael gafael yn y trag- ywyddol sydd ynddo. Yn eich ymchwiliad i'r dyn oewch yn ei ddymuniadau a'i ddyhe- adau y tragywyddol. Awydda y plentyn bach am rhywbeth i'w gadw dros byth. Cyfyd y tragywyddol fel chwydd y mor i'r wyneb o ddyfnder y dyn. Ewch i fewn i ysbryd y dyn, a disgyn swn y tragywyddol ar eich clustiau. Mae yr anfarwol a'r tra- gywyddol yna, ac y mae gan efengyl neges "I i hwnw a chyfaddasder ysblenydd ynddi i wneyd ei dragywyddol yn ardderchog yn ei natur. 2. Yr Efengyl yn gwneyd 'gwaith trag- wyddol ar y dyn." "Ysgrifenaf i'r tragy- wyddol," meddai Tasso. Gwna efengyl waith tragywyddol ar ysbryd a bywyd y credadyn. Gweithia ar y tragywddol sydd ynof. Erys y gwaith hwn i tldysgleirio am byth. Ysgrifena Ysbryd Duw v parha- ol ar ei ddeall, cydwybod, cof, calon a'r anfarwol sydd ynddo. Nid mewn pethau cnawdol mwy ond mewn defnyddiau or- oesant y materol a'r amserol. 3. Yr Efengyl yn gwneud gwaith 'trag- ywyddol dros y dyn." "Eithr hwn wedi offrymu un aberth dros bechodau yn drag- ywyddol a eisteddodd arddeheulaw Duw." Canys ag un oflrAvm y perfteithiodd efe yn dragywyddol y rhai sydd wedi eu sanct- eiddio." Ni fydd eisiau ail adrodd Cal- faria. III. Yr Efengyl a'r tragywyddol ganddi. Cenadwri a'r tragwyddol ganddi ydyweiddo yr Efengyl. 1. Mae ein 'maddeuant' ni yn dragy- wyddol. Eithr Crist wedi dyfod yn Arch- ofreiriwd y daionus bethau i ddyfod, &c., a aeth unwaith i mewn i'r cysegr gan gael ini dragywyddol ryddhad." Eu pechodau a'u hanwireddau ni chofiaf mwyach." Mleth- iant bythol y credadyn yw1 maddeuant. Ni eilw Duw hwn byth yn ol. 2. Ei meddyginiaeth hi sydd 'feddygin- iaeth dragywyddol." "Israel a achubiryn yr Arglwydd a iachawdwriaeth dragy- ■wyddol." "Ond fy iachawdwriaeth i a fydd byth." Daw cwbl a bythol iachad drwy gred yng Nghrist. 3. Ei "gwynfyd hi sydd yn dragywyddol.' Mae ei ffrwyth yn sancteiddrwydd a'r di- wedd yn fywyd tragywyddol." Morooddo wynfy|d! yn tragywyddol donni heb ddarfod arno sydd yn y bywyd tragywyddol hwn. Cerddorfa o gan heb ddiwedd iddo. Dyma yr Efengyl sydd a'i gwyneb ar ddynion heddyw, ac yn cymhell ei riniau sanctaidd drwy yr efengylwr bob Sul. Creder ynddi a phery ei buddianau dros byth. Amen.

o dan Big Ben

o dan "Big Ben." (Gan y Gwyliwr.) CYLLIDEB Y BOBL. Nos Lun, Mai 4, cyflwynodd Canghellor y Trysorlys i Dy'r Cyffredin ei chweched Cyllideb, a'r fwyaf nodedig o'r chwech ag eithrio Cyllideb hanesiol 1909. Siaradodd am ddwy awr a deugain munud, ac ni phallodd ei nerth o gwbl. Bydd i'r Gyll- ideb hon effeithiau pell-gyrhaeddol, ae nid rhwydd yn awr yw sylweddoli yr oil a ol- yg!a inni yn y dyfodol. Yr oedd gan Mr. Lloyd George i ddarparu y flwyddyn hon ar gyfer treuliau ychwanegol o £ 4,470,000. Gwna hyn yr holl ofynion am y flwyddyn yn £ 210,455,000. I gwrdd a'r draul lion cyfrifa y dwg y trethi presennol i fewn £ 200,655,000. Felly rhaid iddo gael o rywle drwy drethi ychwanegol y swm o £ 9,800,000. Ond penderfynodd gymryd XI,000,000 o'r Sinking Fund. A phwy a ddywed nad oes gan Weinyddiaeth a dal- odd eisoes £104,000,000 o'r Ddyled Genedl- aethol hawl i wneud hyn? Trefna'r Cang- hellor i gwrdd a'r naw miliwn punau ych- wanegol drwy racldoli Treth yr Incwm, drwy ychwanegu at y Super-Tax,' a thrwy godi Trethi'r Ystadau (Estate Duties). GRADDOLI TRETH YR INCWM 0 hyn allan bydd y dreth ar yr Incwm na enillir (Unearned Incomes), ac ar bob Incwm dros X3,000 yn Is. 4c. yn lie Is. 2c. y bunt. Bydd y dreth ar Incwm a enillir i fyny ar £1,000 yn para'r un. Ar Incwm (Earned Income) dros XI,000 graddolir y dreth fel y canlyn: Y dreth bresennol. Y dretli newydd. £ 1,000 hycl Y,1,500 9c. ]Oe. 2 £1,500 hyd X-2,000 9c. Is. £ 2,000 hyd Y,2,500 Is. Is. 2c. X2,500 hyd £ 3,000 Is. Is. 4c Dros X3,000 Is. 2c Is. 4c Bydd y leihad (abatement) ar gyfer pob plentyn o dan 16 oed ar Incwm o dan X500 o hyn allan yn 15s. ac nid 7s. 6c. Golyga hyn i ddyn a chanddo ddau blentyn ac yn ennill £ 2 00 y flwy- ddyn ostyngiad o £1 10s. yn nhreth yr In- ewm, h.y., ni bydd ganddo Dreth Incwm o gwbl i'w thalu. I ddyn yn ennill X300 y flwyddyn a chanddo bedwar o blant fel hyn y gweithia: £ s. c. Treth Incwm- yn ol 9c. 5 5 0 Lleihad 3 0 0 I dalu o hyn allan Y,2 5 0 D,aw y Canghellor i gwrdd hefyd ag achos y tirfeddiannwyr. Yn ol Cyllideb 1909 gellid cael lleihad hyd at 25 y cant i gwirdd a gwciliarmau. 0 hyn allan gwneir i ffwrldd a'r uchaf-swm o 25 y cant a lleiheir yr oil a werir am welliannau. Y "SUPERTAX" NEWYDD. Yn bresennol cychwyna'r "Super-Tax" gyda X5,000 y flwyddyn. 0 hyn allan fel hyn y gweithia: Y X2,500 i fod yn rhydd. Incwm o X3,000 i dalu 5c. ar X500. Ar y 11,000 nesaf treth o 7c. 0 £ 4,000 hyd Y,5,000, treth o 9c. 0 X5,000 hyd E6,000 treth o lie. 0 X6,000 hyd X7,000 treth o Is. le. 0 X7,000 hyd X8,000 treth o Is. 2c. n 0 X8,000 i fyny treth o Is. 4c. in y rail Mail uazette rhoddir y tabl canlynol i ddang-os y modd y gweithia'r trethi newyddion. Ar incwm o X3,000 ac uchod cynnwysa'r symiau y Dreth Incwm I a'r Super-Tax Incwm. Y Dreth raddoledig. Swm i'w dalu. ) £ s. c. £ s. C. I 160 Dim Dim. 200 0 9 1 10 0 250 0 9 3 7 6 300 0 9 5 5 0 350 0 9 7 2 6 400 0 9 9 0 0 450 0 9 10 17 6 500 0 9 13 2 6 600 0 9 18 0 0 700 0 9 23 12 6 800 0 9 30 0 0 900 0 9 33 15 0 37 10 0 1,000 0 9 37 10 0 1,500 010? 65 12 6 2,000 1 0 100 0 0 2,500 1 2 145 16 8 3,000 1 4 210 0 0 4,000 1 4 305 0 0 5,000 1 4 410 0 0 6,000 1 4 522 0 0 8,000 1 4 773 0 0 10,000 1 4 1,040 0 0 100,000 1 4 13,040 0 0 0 hyn allan hefyd trethir pob incwm geir oddiwrth Fuddsoddion (Investments) Tra- mor. TRETHI YSTADAU. Ar ystadau o dan Y,60,000 erys y dreth yr hyn yw yn bresennol, ond uwchlaw y ffigwr a nodwyd gradidolir y dreth drwy ychwanegiadau o 1 y cant, i fyny atuch- afswm o 20 y cant. 0 hyn allan bydd ystad o £ 1,000,000 yn ildio 20 y cantwrth gyfnewid dwylaw ar farwolaeth, Ar y Haw arall rhoddir lleihad sylweddol mewn achos o fod ystad yn cyfnewid dwylaw ar far- wolaeth yn fynych. Dwg y trethi newydd- ion i goffrau y Trysorlys y symiau can- lynol: Treth yr Incwm 5,250,000 Buddsoddion Tramor 250,000 Y Super-Tax 2,500,000 Trethi'r Ystadau (ar ol Awst) 650,000 Settled Estates 150,000 Y,8,800,000 Gwelir fod y Canghellor yn penderfynu rhodidi rhagor o'r baich ar ysgAvyddau y saw! all ei ddwyn yn ddidrafferth, ond pan welir y defnydd fwriada wneud o gynyrch y trethi newyddion teimlir ar unwaith ei fod a'i fryd ar ysgafnhau baich y tlawd. Dichon mai nodwedd bwysicaf Cyllideb 1914 yw y modd y mae yn delio a Threthi Lleol. Teimla goreug'wyr bob plaid fod angen mawr am ddiwygiad i'r cyfeiriad hwn. Yn ol yr hen drefn derbynia'r Aw- durdodau Lleol rywi X8,000,000 y flwyddyn mewn Cymorth-Daliadau (" Grants-in-Aid"). Ni chysylltir amodau a'r cynorthwyon hyn ac nid bob amser y defnyddir hwy i'r am- canion priodol. Gwna'r Canghellor ymaith a'r hen drefn, ychwanega ryw 12,000,000 at y swm arferid gyfrannu i'r Awdurdodau Lleol, ond o hyn allan cyfrennir yr arian ar amodau neilltuol ac i ddibenion neill- tuoI. Yn ychwanegol at hyn rhoddir Y,4,000, 000 tuagat ddiogelu iechyd y cyhoedd, Y.3,892,000 tuag at Addysg, a £ 750,000 tuag at glaf-forwynion, &e. (for nursing purposes). 0 hyn allan bydd cyfle i Aw- durdodau Lleol gario ymlaen welliannau heb orfeichio'r trethdalwyr. Amcangyfrifir y bydd y cymorth ychwanegol roddir yn gyfartal i ostyngiad o 9c. yn y "bunt yn y trethi clrwy'r deyrnas Gyfunol. Rhoddir ym mhellach, i Awdurdodau Lleol yr hawl i drethu "Site values." Bydd y ffynnonell newydd hon yn gryn gaffaeliad i'r Gyllideb Leol. Y mae cynllun y Canghellor rhy eang inni yn awr ei ddirnad yn llwyr, ond prawf yn offeryn i ddwyn mesur helaeth- ach o gyfiawnder i'n bywyd cymdeithasol, a bydd yn sicr o dderbyniad brwdfrydig yn y wlrud. Y SABOTH A'R TAFARNDAI. Ddydd Gwener, yn absenoldeb Mr. Fereus, cyflwynodd Mr. Timothy Diavies i sylw'r Ty am ei ail ddarlleniad Fesur yn amcanu cau'r Tafarndai ar y Saboth gyda'r eithr- iaidau eanlynol: