Teitl Casgliad: Seren Cymru

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Undeb Bedyddwyr Cymru.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 6 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
3 erthygl ar y dudalen hon
Gwers yr Ysgol Sul

Gwers yr Ysgol Sul. GAN Y PROFFESWR J. M. DAVIES, M.A., CAERDYDD. YR ATHRAWIAETH AM Y MAB YN HEB. I. Am can y wers hon ydyw adolygu dysgeidiaetli y bennod o berthynas i Ber- son Crist. Nid yw yr Hebreaid yn ol i'r un llyfr yn y Test. Newydd yn ei ddysgeid- iaeth godidog o Berson a gwaith y Cyf- ryngwr. Pa mor ogoneddus bynnag y gall cyfryngwyr eraill fod, perthyna i hwn rag- oriaeth a'i gesyd mown dosbarth ar ei ben ei hun. Yn ei ddesgrifiad ohono cyfana yr awdwr y Dwyfol a'r Dynol; y Tragy- wyddol a'r Amserol; y Nefol a'r Daearol. Yr ochr ddwyfol i Berson y Mab a bwysleisir yn bennaf yn y bennod gynt- af, fel mai yr ochr ddynol a bwysleisir yn yr ail bennod. Cyffyrdcla yr awdwr a'r ddwy ochr hyn yn ol fel y gwasanaetliant brif bwnc yr Epistol, sef Archoffeiriadaeth Crist. Diffyg esbonirudau yn gyffredin yw, na ddygant yr ymdriniaeth yn y bennod gyntaf i gymmal a phrif ymresymiad1 yr Epistol. Ni osododd neb erioed allan y fath dldr y chf-edicliil ma-wr o ArchotTeiriad ag a wneir gan yr awdwr hwn. Ymgododd i'r drychfeddwl godidog ym mlaenaf drwy ei wybodaeth hanesyddol o Grist. Gellir dweyd nad yw ei draethawd ond dadblygiad esboniadol or fath. frawddegau a, "Hwn yw fy ngwaed o'r cyfamod newydd yr hwn a dywelltir dros lawer er maddeuant pech- odau "Gorffenwyd": "Nid edwyn neb y Tad ond y Mab." Yng ngoleuni y Crist galluogwyd ef i ddarllen ystyr mwy dwfn i'r banes yn Genesis, a'r brophwydoliaeth yn Salm ex. am Archoffeiriadaeth Melchis- edec, &c. Dichon hefyd ei fod yn gyfar- wydd a syniad Philo am y Logos fel Arch- offeiriad y cread, ac i hynny ei gynorth- wyo i esgyn i'r syniad o Fod D:wyfol fel Archoffeiriad, ond fe gafodd yr awdwr hwn, niewn person hanesyddol, afael ar yr hyn a welodd Philo mewn breuddwyd annelwig. Yn ei waith yn datblygu ei ddrychfeddwl mawr am Archoffeiriadaeth berffaith a thragywyddol, benthycia yr awdwr syniad- au o Offelliadactli Melchisedec, o Offeir- iadaeth Aaron, ac o Offeiriadaeth y Logos ac eheda tuhwnt iddynt oil drwy y wybod- aeth oedd gandido am Grist. Yn ol ci syn- iadau ef am y swydd, gofynir Person i'w llanw sydd wedi ei alw gan Dduw iddi (v. 5): Person o gymeriad sanctaidd diddrwg dihalog, didoledig oddiwrth bechaduriaid," (xii..26) Person ffyddlon i'w alwedigaetli (ii. 17; iii. 5): Person wedi ei gymeryd o blith dynion fel y medrai dosturio a chyd- ymdeimlo a hwy trwy ei fod wedi oyfran- ogi o'u natur a'u profiad (v. 1-2 a ii. 10- 18), a Pherson dwyfol ei natur. Nid neb Had na Pherson D.wyfol a fedrai fynegi Duw yn gyfiawin (i. 3); ac a fedrai wneyd iawn digonol dros bechod y byd mewn un weithred fawr derfynol (i. 3), ac a fedrai sefyll yn y Cymundeb agosaf a D'llw a chydeistedd ag Ef ar ei orsedd (i. 3), aca fedrai sefyll mewn perthynas ganolog, fyw- iol a pharhaol a'r ddynoliaeth yn gyffred- inol yn ei weinyddiadau grasol o'r nef. Yn ngoleuni yr ystyriaiethau hyn gwelirpa mor bwysig oedd i'r awdwr ddatblygu yr athra,wia,eth o Dduwdod Crist fel y gwna yn y bennod gyntaf. Heb y sylfaen hon nid posibi iddo fuasai adeiladu cyfundrefn ei athrawiaeth, ac heb yr athrawiaeth hon ni faasai un grym yn ei apeliadau ymar- ferol idrwy'r Epistol. Y llwybr a gymer- odd yr awdwr i arddangos mawredd Person y Mab oedd trwy ei gymharu a bodau uwcliraddol y greadigaeth. Gellir gofyn, paliam y datblygodd ei gymhariaeth o Grist a'r angylion cyn ei gymhariaeth ohono a'r profTwydi gan mai y rhai olaf a enwyd yng. nghyntaf ganddo (adn. 1). Mewn Atebiad dywedwn yn gyntaf y gwasanaeth- ai'r gynxuariaeth. a'r angylion yn well fel gwrthg-yferbyniad (foil) i ddwyn allan ddwyfoldeb Person y Mab; ac yn ail, am fod ganddo fwy i'w ddweyd am y rhai olaf oblegyd y cyfryngwyr d.aearol a lanwant yr Epistol o pen. iii. yn mlaen; ac yn drydedd am fod rhywbeth, efallai, yng ngolygiadau ei vvranda wyr yn galw am hynny. Un o nodweddion amlycaf crefydd Israel oedd angelyddiaeth. Lie cymedrol sydd iddynt yn y cyfnodau boreuaf o'r grefydd am y gor-gysgodir hwy gan ym- ddangosiadau yr Angel mawr a elwir yn "Angel yr Arglwydd," yr Hwn oedd Duw ei hun ar ochr ei ymddangosiad. Yr oedd perthynas y proffwyidi mawrion o Amos i'r gaethglud mor uniongyrchol a Duw fel mai ychydig o le sydd i angylion fel cyf- ryngwyr rhyngddynt a Duw. Ond o gyf- nod y gaethglud yn mlaen drwy gyffyrdd- iad a chrefydd Persia a datblygiad yr athrawiaeth o Uwchfodaeth Duw datblyg- odd Angelyddiaeth yn enfawr yng nghref- ydd Israel. Daethant i gyfryngu rhwngy prophwydi a Duw fel Angylion y Dehong- liad a thyfodd y farn mai trwyddynt hwlY y rhoddwyd y gyfraith gynt ar Sinai. Yn nhrefn y gweinyddiad, rhoddvVyd lie iddynt fel cydynigyngliorwyr Jekofah yn ei waith creadigol, a nodwyd cylchoedd o wasan- aeth iddynt fel rhaglawiaid Duw ar y Cen- hedloedd. Lluosogwyd eu rhifedi yn fyrdd myrddiynau, a dosranwyd hwy yn ddau ddosbarth mawr o ddrwg a da o dan eu harweinwyr Michael a Beelzebub; graddol- wyd hwy yn rhengoedd disgynnol i lanw y bwlch rhwng Duw a dyn; a chymhar- odd Philo hwynt i ddemoniaid y Cenlied- loedd, delfrydau Plato a nerthoedd y Stoic- iaid a chymhwysodd hwy yn ei ddrych- feddwl o'r Logos. Daetli Cristionogaeth i wrthdarawiad a'r Angelyddiaeth ymamewn amryw o'i gweddau. Amlwg yw i Grist yn ei ymwybyddiaeth o fawredd Ei Berson ei hun, i'w israddoli iddo ei hun drwy eu deiSgrifio fel ei osgorddlu ef yn ei Ai I- ddyfodiad, a'i weision ar unrhyw adag pe gofynai i'w Dad am danynt. Pwysleisiodd Paul yn y Golmsiaid U wchafiaeth Person Crist ac unigolrwydd a digonolrwydd ei gyfryngwriaeth yn erbyii y syniadau a edrychent ar gy da wnde c y Diuwdod fel yn cael ei gyfryngu trwy yr awdurdodau hyn yn eu rhengoedd disgynnol, a dysgodd fod Crist drwy ei farwolaeth wedi yspeilio'r tywysogaethau gan eu harddangos ar gy- lioedd. Gyda golwg ar y wedd Jleintuolo Angelyddiaeth a wrthwynebir yn yr Heb- reaid, tybia rhai yr edrychai y darllenwyr ar Grist fel Angel-fod. Gwyddom oddiwrth dystiolaethau rhai o'r tadau Eglwysig y ffynai syniadau felly, ym niysg rhai dos- barthiadau o'r luddewon Cristionogol, ac y cymharent Grist i Michael yr Archangel. Tybia eraill y gwrthwynebir yn pen. i.yr addoliad o'r angylion y cyfeirir ato yn Col. ii. 10; Ephes. i. 20; Datguddiad xxii. 9; 1 Pedr iii. 22. O'r braidd y gaclawa ymresymiad yr Epistol ar y cyfan argraff glir arnom fod yr Awdwr yn gwrthwynebu y naiJl na'r Hall o'r cyfeiliornadau hyn yn neillduol. Mae yn amlwg y nesha ei bwnc o saf- bwynt y farn oedd mor nodwieddiadol o Iujcldewiaeth ddiweddar, set, fod cyfraith Sinai wedi ei rhoi drwy'r Angelion, ac fod y gyfraith yn benthyca gogoniant goruwch- naturiol oddiwrth y cysylltiad hwnw (ii. 2). Os oedd yr awdwr am ddangos rhag- oriaeth Cristionogaeth ar luddewiaeth rhaid oedd iddo ddangos rliagoriaetli ei Chyfryng- wyr ar y cyfryngwyr gynt. Danghosayr awdwr y lie anghymarol sydd i Grist yn nhrefn datguddiad.Y mae huiianfynegiad Duw, yr hwn a gyfrjmgwyd ar hyd yr oesau trwy lu o gyfryngwyr meidrol wedi dod (a) i undod a chyflawnedd yn y Mab (adn. 1), (b) yn rhinwedd ei berthynas hanfodol a Duw fel dysgleirdeb ei ogon- iant ef a gwir lun ei sylwedd, gan gyr- haedd ei amly-gr-wydd', a'i effeitlnolrwydd pennaf yn (c) ei Aberth lawnol. a Cd) ei esgyniatl i ddeheulaw y Mawredd. Traw- dwr esgyniad y Mab yw y weithred yn yr hon y daw datguddiad Duw i'w gyilawn -w. fynegiad, oblegid ar wahan i'r esgyniad buasai marwolaeth Crist yn gylnyliad axI y 'gogoniant' Dwyfol yn hytrach na dat- guddiad ohono. Danghosa hefyd ylle an- nghydmarol sydd i'r Mab yn nhrefn y cread. Symuda y cread yn ei lfaen o sef- yllfa o luosoldeb a rhwyg (trwy bechod) i undod a pherffeithrwydd o dan arglwydd- iaeth derfynol y Mab yn rhinwedd (a) y bwriad tragwyddol a'i pennododd yn etif- edd (b) cyfansodidiad gwreiddiol, gan fod pob peth wedi ei wneud trwy y Mab i ddybenion yr etifeddiaeth (c) nerth mewnol yn cynnal a dwyn y greadigaeth yn mlaen i'w clyben olaf, (d) aberth iawnol, rhinwedd yr hwn sydd ddigonol i symud yr elien estronolo bechod ddaeth i fewn i'r cread i'w lesteirio a'i ddirywio, (d) arglwyddiaeth barhaol ar y byd a ddaw1" drwy y safle sydd i'r Mab ar ddeheulaw y Mawr- edd (adn. 1-3). Yn ol yr olwg hon sydd gan yr awdwr ar esgyniad "pob peth" yng Nghrist daw ei Epistol i gymal ag athroniaeth Aris- totle, gyda'i golygiad o bob peth fel yn symud i fyy o dan atdyniad daioni ter- fynol, ond rhoddodd yr awdwr ddehongliad Cristionogol i bob peth oedd o werth yn y ddamcaniaeth hon, megys ar ochr y del- frydau,' y cysegra Platoniaeth i Grist, ac ar ochr y nerthoedd y cysegra Stoic- iaeth i Grist. Yn y cysylltiad hwn gellir dysgu 11 awer oddiwrtho pa fodd i wynebu damcaniaeth- au datblygiadol ein hoes ni ag sydd wedi peri i filoeldd i gilio ymaith oddiwrth Gristionogaeth. Nid oes raid i Gristion ofni y damcaniaethau hyn gyda'r weled- igaeth sydd ganddo o'r greadigaeth fel yn cael ei hammodi (conditioned) yng' Nghrist yn ei dechreuad, ei chwrs a'i hamcan ter- fynol. Yng ngoleuni'r prawf o broffwydoliaeth danghosa yr awldwr hefyd rhagoriaeth y Mab ar yr angylion, ei berthynas a'r gread- igaeth, a'i berthynas a'r fuddugoliaeth der- fynol. Yn ychwanegol at yr adolygiad byr hwn o feddyliaeth nicl annyddorol fydd edrych ym mhellach ar Berson y Cyfryng- wr o safbwynt mwy cyfundrefnol yn ol dysgeidiaJeth y bennod.

ECZEMA ANNIODDEFOL

ECZEMA ANNIODDEFOL. 21, holt Hill, Lower Tranmere, Birken- head, Lloegr. Bu fy nghlustiau yn ddrwg am bedair blynedd; llifai mater o honynt, a daethant yn ddolurus, y n hollol annioddefol. Nid allwn oddef i neb eu cyffw'rdd. Tybiais iiiai eczema oedd ar fy nghlustiau. Gwelais oclirau fy nghlustiau yn dew fel fy mys canol, ac ni allech eu plygu y naill ochr na'r Hall. Ar brydiau deuai ychydig yn well- ond drannoeth bydd- ai mor ddrwg ag erioed, Nid allwn oddef cael dwfr oer yn agos atynt. gorfodwyd fi i ddefnyddio dwfr poeth. Wedi i mi ym- olchi byddai fy nghlustiau yn ddyfriol am ddwy awr. Ar brydiau deuai'r doluriau ymaith wrth sychu fy nghlustiau, a byddai y tyllau a aid- awent bron drywodd i'r ochr arall i'm clust. G welais fy nghlustiau yn gig noeth, a gallwn eu rhwygo ymaith oherwydd y cosi. Trei- ais walxanol eliau. Ni fu'r un yn llwyddiant perffaith ond Sebon ac Eli Cuticura. Ni ddefnyddiwyd ond dau flwch o Eli Cuti- cura gyda Sebon Cuticura ac yn awr yr twyf yn glir oddiwrth eczema." (Arwydd- wyd) J. Lappin, Mawrth 17eg, 1913. Gwerthir Sebon ac Eli Cuticura gan fferyllwyr yi-iiliob man. Siampl o bob un gyda llyfr 3.2 tudalen yn r liad drwy'r llytli- yrdy. Oyfeiriad: F. Newbery and Sons, 27, Charterhouse Square, London, neu Potter Drug. and Chem. Corp., Boston, U.S.A. -n--

No title

Noddfa, Caerau.Sul a LIun y Pasg, cynhaliodil yr eglwys uchod ei chyrddau blynyddol, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. T. IJdwal Jones, Llwynpia, a W. R. Lewis, Cwmaman, Aberdare. Cafwyd oedfeuon Iluosog a phregethau grymus.