Teitl Casgliad: Seren Cymru

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Undeb Bedyddwyr Cymru.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 7 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
3 erthygl ar y dudalen hon
Colofn Gloywi Cymraeg

Colofn Gloywi Cymraeg, 1. Pa bryid y dylid sillgolli'n y Gymraeg. (a). Y mae teir-ffiirf i'r fannod (Article) yn y Gymraeg yr,' 'y,' ac ''r.' Ni cheir trafferth gyda'r ddwy ffurf floonaf. Def- nyddir 'yr' o flaen llafariaid a'r llythyren h,' ac y o flaen cydseiniaid f el yr ebol, yr afal, yr ysbryd, yr haul; y ffynnon, y delyn, y tad. Pe cynhygiai ddyn ei oreu, anodd iddo lithro ar arfer 'yr' ac 'y.' Eithr llithra llawer gyda'r "r.' Dyma'r rheol: dylid defnyddio 'r pan fyddo'r gair sydd o'i flaen yn terfynu gyda llafar- iad. Codwyd y brawddegau canlynol o Seren Cymru -,ni waeth am pa bryd Y mae y gair diwygiad. JSTid yw y capeli yn llawn." 'Hawliau y werin.' Pwysleisio y groes.' Dyma y w,einidogaeth sydd i lanw y capeli.' Yn wyneb deddf y mae'r brawddegau hyn yn ddiffygiol. Dylid dywedyd- 'Y mae'r gair diwygiad.' 'Nid yw'r capeli'n 11 awn.' 'Hawliau'r werin,' &c., &c. Ni freuddwydiai neb ysgrifennu na llefaru oherwydd i yr pregethwr gyhoeddi' neu 4 wedi i y tan losgi.' Y mae'r brawddeg- au hyn yn rhy fusgrell i'w gosod ar bapur. Dalier at y rheol syml, yr' o flaen llaf- ariaid (V owe Is) neu h, y o flaen cyd- seiniaid (Consonants), ac 'r' pan fyddo'r gair blaenorol yn terfynu gylda llafariad. (b). Daw eich ac yn' o dan yr un ddeddf: F,el hyn 'pregethu'w effeithiol,' ac nid 'pregethu yn effeithiol,' 'canu'n fel- us,' 'plannu'ch gaxidd,' 'disgyblu'ch llais.' (c). Felly hefyd1 'ei' ae 'eu': 'cario'i groes,' 'gyda'u Gwaredwr,' Y mae'n well eu sillafu'n llawn ar ol llafariaid o gyffelyb swn: er enghraifft: 'profi ei flas,' 'gwein- hyddu ei ddeddfau,' 'g,wastraff-u ou hamser.' Hefyd ar ol 'yw' ac 'ydyw 'I Nid yw ei frawd yma.' 'A ydyw eu hanes gen- nych '? 2. Pa brydi y* treiglir rh' yn r ac 'II' yn M»? Treigler hwynt pa bryd bynnag y rhoddir y treigliad esmwyth neu ysgafn i c, p, t, g, b, id', ac m. Er enghraifft: Dy ben (o pen), dy dad (o tad), dy fraich (o braich), dy fam (o mam) a dy lyfr ( o llyfr), dy rwyf (o rhwyf). Y mae tri eithriad i'r rheol hon. (a). Ni threiglir 'rh' ac '11' mewn en- wau benywaidd yn y rhif unigol ar ol y fannod. Ceir y ddynes (o dynes), y gannwyll' (o cann wy 11), ond ni cheir 'y law' o 11aw, nac y raw' o rhaw.' y llaw,' ac 'y rhaw' sydd yn gywir. (b). Ni threiglir 4 rh ac 11' ar ol e yn Gall yr afon fod yn lan' neu'n bur,' ond ni all fod 'yn lydan' nac 'yn lawn.' Y mae'r afon yn 'llydan' neu'n llawn.' Felly hefyd Y mae'r bara'n rhad,' neu y mae'r dyn yn rhwyf us. (c). Ni threiglir hwynt ychwaith ar ol mor- 'Mor ddu a'r muchudd.' 'Mor gynnes a'r tan.' ond 'Mor llawn ag wy.' 'Mor rhydd a'r awel.' Sylwer. Pan dreigler c, p, t, yn g, b, d; g, b, d, yn-, f, dd; m yn f; yna treigler rh yn r ac '11' yn '1,' ac eithrio pan ddigwyddo ar ol y mewn enwau benyw- aidd unigol, ac ar ol 'yn' a. 'mor.' Nodiad.-0 cheir trafferth gyda gairyn cychwyn gydag rh gosoder gair ag 11' yn ei le, a lle digwyddo 11' droi'n 1,' troer 'rh' yn 'r.' Ca'n gohebydd o Ys- talyfera ateb yn y nodiadau uchod i'w ym- holiad ynghylch 'rhyw' a 'ryw.' Daw'r gweddill yn eu tro. Mountain Ash. R. S. ROGERS.

Ar y Bwrdd

Ar y Bwrdd. Esboniad ar yr Epistol at yr Hebreaid. Cyfrol I. (Pen. i-vii.), gan y Parch. D. Powell, Lerpwl. Cyhoeddir yr esboniad hwn dan nawdd Undeb Ysgolion Sul y'Bed- yddwyr, a chynnwys E-agarweiniad, Dadel- feniad, Cyfieithiad Newydd, a Nodiadau Beirniadol ac Eglurhaol. Y mae Mr. Pow- ell bellach yn llaw gyfarwydd a hyn o waith, ac y mae ol ei graffter, ei ddarllen eang, a'i farn aeddfed ar bob tudalen o'r gyfrol hon. Y mae'r cyfieithiad yn ofalus a chywir, a chyda'r eithriad o frawddeg neu ddwy yn eglur ac esmwyth. Diau na chydolygir ar yr eglurhad a roddir ar bob adnocl a chymal, ac y gwahodda'r esboniwr annibyniaeth meddwl ac amrywiaeth barn. Biid a fynno, bydd holl rannau'r gwaith o wasanaeth dirfawr i'n Hysgolion Sul, ac eiddunwn i Mr. Powell iechyd a hoen i orffen yr ail gyfrol. Dylid ychwaneg-u fod yr argraffwaith yn ddestlus a glanwedd, ac mai pris y gyfrol yw lis. 6c. a Is. Holwyddoreg ar Fedydd, yn Gymraeg a Saesneg, gan y Parch. D. Powell--( 'I'w gael oddiwrth y Parch. T. Humphreys, Blaen- llechau. lie. y copi neu Is. 3c. ydwsin). Wele Holwyddoreg hylaw a chyflawn. Y mae'r gofyniadau'n syml, a'r atebion agos i gyd yng ngeiriau'r Ysgrythyr. Ni all na bydd o fudd1 a bendith. Llawlyfr yr Ysgol Sul. Actau yr Apos- tolion xiii.-xxviii. i'r dosbarthiadau dan ddeunaw oed, yn cynnwys gwersi a hol- wyddoreg i Safonau I. a II., ac i'r plant dan ddeg oed, gan John Lewis, Ammanford. Hefyd gwersi i Safon III. gan D. Powell, Lerpwl. (Cyhoeddedig gan Undeb Ysgol- ion Sul y Bedyddwyr. 3c. yr un, neu 2s. 6c. y dwisin). Wele eto gynhorthwy gwerthfawr i'r Safonau y darparwyd areu cyfer, a chynhorthwy sylweddol i'w hath- rawon yn y fargen. Hauwr Mai. Y mae'r Hauwr am y mis hwn yn rhifyn diddorol a buddiol iawn. Ceir ynddo ysgrif gan y Dr. H. Harries, ar yr hen sant gwreiddiol William Jenkins, ac esboniald diwastraff ar y gwersi gan y Parchn. E. Cefni Jones ac Edwin Jones. Eir dros y gwersi i'r dosharthiailau dan 18 oed gan y Golygydd. Nid ydym o'n rhan ein hunain bellach yn hoflfi treiglo gormod ar enwau o'r Beibl. Gwell mwy- ach fyddai glynnu at "yn Derbe" ac 'yn Berea.' Argyhoeddwyd ni wedi darllen "yn Nau" mewn llyfr a elwid "Llin ar Lin." Ysgrifenna'r Parch. J. H. Hughes wers gyfaddas ar "Agor lygad y llanc," a cheir amrywion yn y ffurf o farddoniaeth a cherddoriaeth. Haedda'r Hauwr gefnog- aeth fwy cyffredinol. Petai o bwys newid ei enw, galwem ef Yr Heuwr." Cambrian Gleanings. A monthly Maga- zine on Welsh matters for Welsh people the world over. Edited' and published by Henry Blackwell, New York. Anfonwyd ymarif- ynnau lawer, Chwiefror, a Mawrth o'r cy- hoeddiad newydd hwn. Y mae ynddynt la-wer o bethau diddan, a chryn lawer o oleuni ar faterion megis tarddiad Cymreig A. Lincoln. Pris y cyhoeddiad yw 2s. 6c. y flwyddyn. Y mae'r llyfrwr Blackwell o'r un tras a'r perganiedydd Alun, a chofia rhai am dano yn Eisteddfod Caerfyrddin. Sylwasom ar Fynwy' yn lie Mynyw,' a Mine via 1 yn lie Meneira,' ac ambell air bychanus am weinidogion. Livingstone y Llwybrydd. Cyfieithiedig gan y Parch. J. Bodvan Anwyl, a chy- hoeddedig gan Gymdeithas Genhadol Llun- dain. 2s. nett. Cyfieithiad yw'r llyfr hwn o lyfr enwog y Parch. Basil Matthews, M.A. Prinytybid mai llyfr a droswyd o'r Saesneg ydyw, gan lyfned ei arddull, a chroywed ei Gym- raeg. Od oes fai arno, hwyrach mai rhy glasurol yw'r gystrawen a'r eiriadaeth. Y mae'r stori yn llawn cyfareidd, ac nidhawdd y troir y llyfr heibio heb ei ddarllen o glawr i glawr. Addurnir y gwaith a. phedwar darlun a deugain campus, a dylai Livingstone y Llwybrydd fod yn llyfr g wobr, y flwyddyn hon, mewn llaAver Ysgol Sul. The Witness of History to Baptist Prin- ciples, by W. T. Whitley, M.A., Ll.D: F.R. Hist. S. (Revised Edition. London: The Kingsgate Press—Is. 6d. & Is.). Cyf- rol fechan yw hon, ond y mae'n un lawn o oleuni. Y mae'r awdwr yn hanesydd ofri. Gwyr lie i roi Haw ar yr awdurdod briodol, ac nid gwaith rhwydd fyddai ei droi yn ei ol ar nemor un o'i osodiadau. Dylai'r gyfrol fod o wasanaeth i'n gweinidogion prysur, a pheth da fyddai i'n haelodau gynefino a hi. San Salvador. Mr. Bowskill's Letters on the Native War of 1913-4, and other Docu- ments. London: The Carey Press. 6d. nett. Ceir yn y llyfryn hwn hanes cyflawn, hyd y gellir, am garchariad ein cenhadwr dewr, ac am gaethfasnaeh newydd y Portugeaid yn San iSalvador, a'r rhyfel a fu o'i plileg- id. Da yw darllen am ddiddordeb yr Ysg- rifennydd Tramor yn yr achos. Hyderwn y gwel Prydain na wneir camwri pellach gan y oeiswyr elw, ac y rhoddir pen disyfyd ar y gorthrwm ysgeler. The Chimes of Bouges. Twenty Rare Addresses, by the Rev. Evan Williams, Dalston Junction. Anerchiadau i blant yw'r rhain, gan un o hen fyfyrwyr Caer- dydd, a gweinidog amlwg yn Llundain. Nid oes arlliw henaint ar yr un o'r ystori- au a geir yma, ac y mae ffresni'r yindrin- iaeth a'r casgliadau i'w ganmol yn fawr. Wele lyfr cyfaddas i bregethwyr i blant, ac yn wir i'r plant eu hunain. Ei brisyw Swllt, a cheir ef drwy'r post am Is. 2c. oddiwrth y Parch. D. 0. Griffiths, Aberhon- ddu.. Y Geninon.Dioil y Geninen yn dirf ymhob tymor, ac ni bu fawr erioed fwy o flas arm na'r tro hwn. Camp yw i lenor newydd neu hen lwyr ddianc ar Eifionydd, ac nid os odid neb amlwg ym inywyid llenyddol Cymru a'r na roddes ei gyfran rywdro i wledd y gwr nerfws o Gaernar- fon. Braidd y mae angen am nodi en- wau, a'r holl ysgrifenwyr yn y rhifyn hwn agos ysgwydd yn ysgwydd a'i gilydd; ond carem :ddiolch i Morleisfab am ei vsgrif ar Roberts, Llwynhendy, a'i annog i ysg- rifennu mwy o ryddiaith i'n cyfnodolion. Ofnwn na bydd i Gwalch Morgannwg Ioches glyd o dan ei nugenwL Nid oes end un bardd yng Nghwm Rhondda a chwerya'r gynghanedd fel hyn: "Rhyw Pharo o offeirirud,a'i floneg Yn ei flino'n fwastad, A'i arw lais rydd i'r wlad Flancedi o flaen Ceidwad. -0-

ANHWYLDERAU Y CYLLA

ANHWYLDERAU Y CYLLA. Amlygrwydd o'r Prif Achos. Mae llawer o bethau rhyfedd yn cael eu gwneud yn nghylch anhwylderau y cylla, ac y rnae llawer yn trafferthu a phetrysu am eu hoes braidd beth sydd yn bosibl iddynt wneuthur er dod o hyd beth all y rheswm o hyn fod. Yn hytrach nag edryeh i fewn i'r achos IDMnt yn fwy parod i osod eu hunain yn "ferthyron i ddiffyg traul" neu "hen balldreulwyr. Dywedir mai gormod o acid yw yr achos fod mwy na 90 y, cant yn dioddef oddiwrth anhwylder y cylla, ac yn ol llawer o fedd- ygon enwog, dywedir mai yr unig wellliad geir yw hanner llond llwy de o bisurated magnesia mewn ychydig ddwfr ar ol prydiau bwyd, ac y gwnaiff osod y, cylla mewn trefn, oherwydd y mae yn myned lawr i waelod y. cylla1 ac yn atal yr anhwylder a'r perygl.