Teitl Casgliad: Seren Cymru

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Undeb Bedyddwyr Cymru.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 9 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
7 erthygl ar y dudalen hon
Perthynas y Redydduyr ar Cri am Undeb

yn nillad Saul, nis gallasai gerdded ynddynt. Gwell iddo ef oedd eiddo ei hun, y ffon, a'r oerryg a chod y bugeiliaid i wynebu'r cawr rheglyd. Yn y dillad hyn mae y Bedyddwyr wedi arfer ymladd brwydrau, a l ganddynt wiieu d gorchfygu oewri. Gwen ganddynt wneud eto yn yr un modd, os daw gwawd ni fydd newyddbeth, os rhoddir gwaradwydd cyn- nefin iddynt yw h wri w. Ysgatfyd'd na ach- ubir y sen, a'r hergwd, ond yn hyn gallant ymdaweli, a chofio'r dydldiau gynt, ac am- ser yr hen oesoedd, er ysbrydiaeth i hoen a glewder yn enw Crist, yn gwybod nad ydyw eu llafur yn ofer yn yr Arglwydd. Ystalyfera. E. D. LEWIS.

MARW SILVESTER HORNE

MARW SILVESTER HORNE. Ergyd drom i Ymneillduooth, ac x bob achos sydd a'i duedd i ddyroliafli dyn, a fu marw sydyn y gwr mawr nchod, cyn cyrraedd ohono ei hanner can mlwydd oed. O'r cartref, yn yr America yr oedd, ac yno fel yma yr oedd ei jddwylo yn llawllgwaith. Ei ymroddiad llwyr i wasanaeth ei gyd- ddyn a ddug- ei yria i ben gynbarred. Llosgodd y ddeupen i'r gannwy ll, a ninnau oeddyra e wy 1lysgar i oifoleddu dros amser yn ei oleuni ef. Ohwith meddwl y gallasem fod wedi ei gadw am flynyddau pe y medd- yliasai fwy am dano'i htin ac ychydig yn llai am eraill. Wedi gyrfa eitliriadol. ddis- glair yn Glasgow ac yn Rhydychen ymstf- ydlodd yn weinidog yr eglwys Annibynol yn Kensington, Llundain. Treuliodd yno bedair blynedd ar ddeg yn nodedig o lwy- ddiannus, fel y daeth yn un o'r galluoedd cryfaf ym mhulpud y Brif-ddinas. Yn 1903 dechreuodd ar waith pwysicaf ei fyw- yd yng Nghapel Whitefield, a daeth y He hwnw'n fuan yn ganolbwynt gwaith enfawr ac yn gartref crefyddol cannoedd o bobl ieuainc ddigartre'r Brif-ddinas. Yn 1910 etholwyd ef i gynrychioli Ipswich yn y Senedd, ond ni fu'n gymaint dylanwad yno ag y disgwylid, er iddo draddodi rhai ar- eithiau a gyrhaeddodd bwynt uchel mewn medr a hyawdledd. Bu'n gefnogydd aidd- gar i Fesur Datgysylltiad. Gweithiodd yn egniol ymhlaid dirwest a phurdeb. Tor- rodd ei iechyd i lawr tua blwyddyn yn ot, a chyflwynodd ei waith yn Whitefield i ofal ei gynorthwywr ga-lluog y Parch. W. C. Piggott, gwr sydd yn addo bod yn llwydd- iant mawr yno. Erys dylanwad bywyd hunanaberthol Silvester Home am flynydd- au maith. Dywedwn am dano'n debyg i fel y dywedwyd am un arall, "Bll farw yn yr America; ni bydd marw byth ym Mhrydain.

BEIDDGARWCH Y CANGHELLOR

BEIDDGARWCH Y CANGHELLOR. Yn ei araith deirawr yn Nhy'r Cyffredin nos Lun diweddaf, synnwyd pob plaid wleidydrlol gan feiddgarwch y Cymro pyb- yr sydida phwrs y, wlad o dan ei ofal. Teimlid mwy o ddiddordeb nag arfer yn y Gyllideb eleni, oblegid fod yn rhaid dar- paru yniddi ar gyfer tua phum miliwn o ddiffyg i gwrdd a gofynion y flwyddyn nesaf. Trefnwyd i ben tryma'r baich or- ffwysar y oryfa'i ysgwydd, a rhaid fydd i'r gwyr ffodus a dderbyniant drois fil o bunnau'r flwyddyn o incwm gyfarfod a'r gost ychwanegol. Caseid y Canghellor a chas cyflawn gan y rhan fwyaf o gyfoeth- ogion y wlaJd o'r blaen, ac yn sicr ni en- hilla'u ffafr drwy'r Gyllideb hon. Mor wir fu proffwydolxaeth Mr. Michael Davitt, dros chwarter canrif yn ol, am y cyfreithiwr ieuanc oedd newydd gychwyn busnes ym Mlaenau Ffestiniog. Yn ei ail gyfrol o "Fywyrl Lloyd George,' dyrry Mr.' J. Hugh Edwards, A.S., gyfle i Dr. R. D. Evans ysgrifennu hanes y broffwydoliaeth honno. Llywydd y cyfarfod yn Neuadd y Blaenau ydoedd y Prifathro Michael D. Jones, o'r Bala. Ar y diwedd traddododd Mr. Lloyd George ei anerchiad gwleidyddol cyntaf oddiar lwyfan cyhoedjdus, a dywedodd y Llywydd wrtho am feddwl am rywbeth gwell na bod yn dwrne am fod y wlad yn disgwyl wrtho am ei wasanaeth. Yn nhy Dr. Evans y noson honno, amsler swper, rhoddodd Mr. Michael Davitt ei law ar ysgwydd Mr. Lloyd George, a dywedodd, There is a future for you my boy." SIOM, I GAREDIGION SOBRWYDD. Yn Nhy'r Cyffredin nos Wener gwrthod- wyd ail ddarlleniad Mesur Cau'r Tafarndai ar y Sul yn Lloegr, trwy fwyafrif o ddau ar hugain, ac ofnir y llesteiria hyn i fesur ddiwygiadau dirwestol yr amoenir eu cael yn y dyfodol agos. Mesur cymhedrol iawn ydoedd hwn, heb amcanu gwneud gormod ar unwaith. Trefnid ynddo i'r tafarndai gael eu hagor am dair awr ar brydnawn Saboth o'r tu allan i Lundain, ac am bedair awr yn y Brif-ddinas. Mynnai un aelod Sen- eddol mai'r aelodaua gynrychiolant Loegr, a hwy yn unig a cldylasai bleidleisio ar y Mesur, gan mai Mesur Seisnig ydoedd. Gof- ynnodd yr aelod! dros Sir Fon iddo a fu- asai'n ffafrio'r un reol yliglyit a chwestiyn- au Cymreig, ond ni addawai hynny. Myn y Sais ymyrryd a busnesion pawb ond ni fyn i neb ymyrryd a'i fusnes ef. Prawf gorchfygiad y Mesur fod Lloegr ar ol Cym- ru ddegau o flynydidoedd ar gwestiwn dir- west. Dylid myned ymlaen i ddeddfu'n arbennig i Gymru ar y pwnc hwn, heb ad- ael i Loegr feddw fod yn blwm wrth ein godreu.

GWALLGOFRWYDD MERCHED Y BLEIDLAIS

GWALLGOFRWYDD MERCHED Y BLEIDLAIS. Pery'r merched ffol a gredant mewn dinystrio eiddo a pheryglu bywydau er sicrhau pleidlais i ferched i fyneel rhag- ddynt yn eu ffolineb. Ni phasia odid i wythnos ers .amser maith na achosir gan- ddynt golledion difrifol ar eiddo. Idwydd- odd un ohonynt ddechreu'r wythnos ddi- weddaf i fyned i mewn i'r Royal Academy, ac anafu. un o'r darluniau gwmthfawrocaf a geid yno, a buasai wedi achosi rhagor o alanas onibai ei chymryd i'r ddalfamewn pryd. Bore ddoe, y Saboth, yit Nhaber- nacl Spurgeon fel y'i hadnabyddir o hyd, cuddiwyd e'fenan ffrwydrau o dan un o'r seti yn ystod1 gwasanaeth y bore, a thua hanner awr wedi un o'r gloch canfuwyd yr addoldy'n Hawn mwg. Wedi ymchwiliad caed allan yr achos, a cherdyn gerlla^'n gorchymyn Rhoddwch eich crt fydd mewn ymarferiad a gwelwch fod y merched yn cael eu rhyddid." Ni wnaed llawer o golled OIud gallasai'r canlyniadau fod yn wir ddi- frifol. Rhwystr mawr i'r achos a gefnogir ganddynt yw .ymddygiadau o'r fath o eiddo'r merched ffol; aeth llawer a gydym- deimleut a hwy unwaith yn elynion pen- derfynol iddynt. a gore po gyntaf y'u hargyhoeddir o ffolineb y cwrs agymerant.

Y GENADAETH DRAMOR

Y GENADAETH DRAMOR. "Cymdeithas Gyfieithiadol y Beibl." Un o'r canghennau mwyaf hanfodol a defnyddiol a berthyn i'n "Oymdeithas Gen- hadol' yw'r Gymdeithas Gyfieithiadol, yr hon a sefydhvyd yn 1840. Rlteidrwydd teyrngarwch y Bedyddwyr i Air Duw a achlysurodd sefydliad y Gymdeithas hon. Yn ol y datganiad ynglyin a hi dyma yclyw: "Hyhi yw cangen gynorthwyol hynaf Cym- deithas Genhadol y Bedyddwyr,' a bodola er mwyn cyfieithu a diwygio, argraffu a chyhoeddi cyfieithiadau o'r Ysgrythyrau Sanctaidd, lie y cyfieithir yn gywir y geir- iau perthynol i Fedydd. Gwariwyd dros Y,150,000 ganddi i roi Gair Duw, wedi ei gyfieithu yn llawn a chywir i'r bobloedd Anghrist mewn gwledydd lie llafuria'r cen- hadon." Gallesid tybio y buasai apel a gwasanaeth hon yn cael lie mawr yng nghalon a chyfraniadau'r Eglwysi yng Nghymru. Y syndod yw mai y swm a gaed oddiwrth yr Eglwysi Cymreig ac a groniclir yn yr adroddiad y llynnedd oedd 1163 7s. 8c. Yn y Cyfarfod Blynyddol a gynhelir Ebrill 24, 1914, cyflwynir yr Adroddiad Blynyddol o waith y Gymdeithas hon am y flwyddyn yn terfynu yn Mawrth 31, 1914, a cheir eilgra-iff t ynddo o waith mawr un -flwyddyn o'i hanes gyda'r cyfieithiadau, argraffu, cyhoeddi a gwasgaru yn einmeus- ydd oenhadol. Dywedir Safwn yn gyfrif- ol i'n brodyr ar y Congo am argraffu'r Ys- grythyrau yn mhob iaith newydd a osodant mewn ysgrifen." Fel hyn y mynegir ynyr Adroddiad a gyflwynir yr wythnos nesaf yn y Cwrdd Blynydidol yn Llundain: "Daeth apeliadau newyddion atom oddiwrth weithwyr sydd yn ymdrechu yn galed yng nghanol tywyllwch dudew paganiaeth. Dofir ieithoedd newydidion i ddwyn iau y Gair; ac y mae holl adrannau'r gwaith yn y meusydd trajnor yn cael eu cynhal yn llawn." v "Yn y Bengali y cyhoeddwyd y nifer lluosocaf fel arfer, .a daeth 62,500 o gyf- rolau allan o'r wasg. Yr ydym wedi cy- hoeddi 30,000 yn yr Hindi, a 10,000 yn Urigeg ynghyd a chyhoeddiad newydd yn Rriyeg ynghyd a chyhoeddiad newydd yn Ymddangosodd Llyfr Genesis yn y Bob- angi; Efengyl Luc a'r Actau a'r rhan gyntaf o'r Psalmau yn yr Heso. Argraphwyd hefyd yn y Lo-Rele Holwyddoreg. Yna ychwanegir fod Hanes Joseph yn ymddangos yn y Bengali; Efengylau Matt- hewl a Luc yn y Musalmoni-Bengali; Ef- engyl loan a'r Newyddion Da yn Hindi, &c., &c. Haedda y Gymdeithas hon gefnogaeth helaethach a mwy eyffredinol fel y dy- wedodd un o'r cyfieithwyr: "Ni eill yr Eg- lwys Gristionogol a geisia efengyleiddio'r byd wneuthur camgymeriad gwaeth na chan- iatau prinder o 'Air Duw. Gadawer i'r oenhadon a'r athrawon gael cynifer o'r cyfieithiadau goreu ag a allant ddosparthu yn ddoeth, os ydym am i'r Cristion brodorol drwytho'i galon a'i ddealldwriaeth, a dod i fyny i helpu'r Arglwydd a'n helpu ninnau 111 erbyn y cadarn." Hyderwn yn narpar- iadau yr eglwysi ar gyfer y flwyddyn hon y meddylir am wasanaeth a hawliau y ganghen werthfawr hon o'n Cymdieithas Genhadol fel Bedyddwyr. -():1

CWRDD DOSBARTH CYLCHYSTALYFERA

CWRDD DOSBARTH CYLCH YSTALYFERA. Cyfarfu'r uchod yn Sion, Cwmgors, Ebrill 15, 1914. Y Parch. J. L. Davies, yn y gadair. Dechreuwyd gan y brawd T. Smith, Cwmgors. Yn y gynhadledd gwnelai y canlynol y cynllwys: -1. Derbyniwyd cofnodion cwrdd Bryn Sion. Adroddiad y Trysorydd yn cwyno ychydig ddyled ar y dosbarth, y gynhadledd yn gorchymyn yr Ysg. i ofyn ffyrling yr aelod oddiwrth yr eglwysi. 2. Mr. W. T. Griffiths, Glen Thorne, Ystalyfera, yn Gadeirydd am y flwyddyn, a'r Parch. C. J. Pipe, Abercraf, yn Is- gadeirydd. Y Trysorydd a'r Ysgrifennydd presennol i barhau wrth eu gwaith am flwyddyn arall. 3. Rhoddi hawl a chymeradwyaeth i'r brawd ieuanc Daniel Hopkin Morgan o Siloam, Brynamman, fel pregethwr derbyniol a brawd teilwiig. 4. Estyn croeso brwld a didwyll i'r Parch. T. E. Waters, Mt. Elim, Pontardawe, a ddaeth yn ychwallegirud at weinidogion y Dosbarth. 5. Derbyn a phasio awgrym Siloam, Brynamman, i Bwyllgor Atdrefniad Cwrdrl Hanner Blynyddol y Gymanfa, sef Fod nifer cynrychiolwyr pob eglwys yn ddau, a threuliau teithiau y cyfryw i'w ddileu. 6. Testun ymdrin i'r Gynhadledd yn y tri cyfarfod ar ol y nesaf i'w ymddiried i bwyllgor cyfansoddedig o swyddogion y Cwrdd Dosbarth. 7. Y cwrdd nesaf i'w gynnal yn Beulah, Cwmtwrch, a'r Parch. T. E. Waters i bregethu yn yr hwyr. 8. Annog y Pwyllgorau, sef eiddo'r Ysgol Sul a Dirwiest, i barhau wrth eu gwaith, ac ysgrifenyddion y cyfryw i'w digolledu yn eu treuliau gan y Trysorydd. Gorffenwyd y Gynhadledd gan y Parch. G. R. D,avies, Cwmllynfell, ac aeth pob un i gyfranogi o'r ddarpariaeth garedig a drefnwyd gan y saint yn Sion. Yn yr hwyr pregethwyd gan y Parch. J. Thomas, Bethesda, Glanamman. E. D. LEWIS, Ysg.

No title

TabernacI, Coedpoeth.Cynhaliwyd Eis- teddfod Gadeiriol ynglyn a'r eglwys uchod yn y Parish Hall, dydd Llun y Pasg. Yr arweinydd am y dydd oedd y Parch. W. G. Owen (Llifon); a beirniad y Gerddor- iaeth, Mr. W. H. Evans, A.L.C.M., Tre- herbert. Da gennym hysbysu i ni gael eisteddfod lewyrchus, ac i bawb gyflawni eu gwaith yn rhagorol iawn, yn enwedig Llifon.