Teitl Casgliad: Seren Cymru

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Undeb Bedyddwyr Cymru.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 10 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
7 erthygl ar y dudalen hon
0 GYRRAU MYNWY

0 GYRRAU MYNWY. Efallai nad oes rhanbarth bwysicach yng Nghymru, y dyddiau hyn, i Fedyddwyr fod yn effro ynddi na Sir Fynwy a'r cyffiniau. Y mae dylifiad pobloedd lawer yma o bob cyfeiriad, a dyledswydd yr eglwysi yw cynaeafu tra paro'r tes. Mae amryw eg- lwysi mewn lleoedd pwysig yng Nghwm Rhymni a'r cwmpasoedd heb weinidogion sefydledig arnynt, megis Machen, Llan- bradach, a Maesycwmer. Da gennym am y llewyrch sydd ar eg- lwysi y Bedyddwyr yng iSTghaerffili dan weinidogaeth y Parchn. Luther Jones, Ton- yfelin, a B. W. Roberts, Mount Carmel. Mae eglwysi'r Bedyddwyr ym Medwas hefyd a gwieinidogion arnynt y Parchn. Llwchwr Jones a T. C. Davies, ac y mae pregethu cyson yn Nhrethomas, Bedwias, er dechreu'r flwyddyn. Gwneir gwaith day no dan arweiniad Mr. J. Byron Jones, L.T.S.C., a Mrs. Wm. Thomas, gwraig y goruchwyliwr. Dydd Mercher, Ebrill 22, rhoddwyd gwledd o de i blant Gobeithlu Hephzibah, Bed was, ar ol tymor llwyddiannus y gaeaf. Aethant trwy y llyfryn diddorol Snow White" o dan ddisgyblaeth Miss C. Harris, a throdd eu gwaith allan yn llwyddiant sylweddol.

LLANFAIRCAEREINION

LLANFAIR-CAEREINION. L lan gy f ar ch iad -G oddef well air ogyf- archiad gan hen ohebydd i'r Seren,' er amser Dr. Price. Y mae y rhifynausydd wedi dyfod o dan eich gofal yn arddangos gwelliant rhagorol. Y mae y rhagolygon am y dyfodol yn obeithiol iawn. Gwelliannau yn y dref.Yn ol yr ar- wyddion sydd yn y golwg bydd y lie yn cael ei oleu gan Electric Light, a bydd yn lie iachach, am y cawn sewage works' hefyd. i J Cwrdid yr Ysgol Sul.C,awsom gyfar- fodydd blynyddol yr Ysgol Sul, y 19eg cyf.. Gittins, Pictorial House, yn cadeirio cwrdd y prydnawn, a Mr. Roberts, Superintend- dent y Pearl Society, gwrdd yr hwyr. Caf- wyd anerchiadau gan Mr. Large, ac S. Ellis. Darllenodid Mr. Roberts bapur pwyntiol iawn. Mr. F. Jones oedd yn arwain y canu, a Miss Gittins yn cyfeilio. Cyrddau a mynd oeddynt. Anrhegi'r Plant. -Caf odd plant y Band of Hope a'r Ysgol Sul de blasus, a chwrdd amrywiol hwyr Ebrill 22. Y Gymanfa yma Mehefin 9 a'r 10. Disgwyliwn y cewri y Parch Chas. Davies, Caerdydd, a'r Parch. J. Lee Davies, Bryn- aman, heblaw brodyr y Gymanfa. Arddeled yr Arglwydd grasol lafur ei weision. liB JhlJSlON.

I0 YNYS MON

0 YNYS MON. Cyfarfod Ysgol Amlwch.C,afNvyd evf- arfod ysgcl yn Salem, Amlwch, y Sul o'r blaen. Llywydd, Mr. R. Williams, Pensarn House. Yr holwr yn y cyfarfod oedd Mr. Robert Jones, ysgrifennydd yr eglwys. Llywydd cyfarfod yr hwyr oedd Mr. Owen Hughes, Mona Street. Da gennym fod yr eglwys Amlwch yn myned yn ei blaen mor ddymunol yn absenoldeb gweinidog. Gob- eithio mai galw gweinidog fydd ei hanes yn fuan, er hynny. Awyr Agored.—Y mae'r cyfeillion yn Hebron a Moriah wedi dechreu ar y gwaith o gynnal cyfarfodydd yn yr awyr agored. Dechreuwyd y gwaith hwn gan-y gweinidog, y Parch. D;. Lloyd, ychydig amser cyn y diwygiad, ac y maent wedi parhau yn London Road a Bontddu i gael eu cynnal trwy y, blynyddoedd. Cerir y gwaith ymlaen ym misoedd yr haf. Y Gadair a'r Fai;nc.Cymerth Mr. A. Michael (Bedyddiwr), Cadeirydd newydd Cyngor Dosbarth Caergybi, y llw fel ynad, ddydd Mercher diweddaf. Onibai am wyth achos yn erbyn rliieni o esgeuluso addysg eu plant, cawsai ef a'r Y nadolleraill fynd adref heb wneud dim. Dim un cyhuddiad o feddwdod mewn mis-dyma beth y gall Caergybi lawenhau o'i blegid. Er hynny, y mae yma lawer o bethau sydd yn boen mawr i ni yn y dref hon, ac un o'r pethau hynny ydyw'r modd y treulir y Sabbath yn ein plith. Llangefni.Colled fawr ydyw colli'r Parch. H. Ellis o Langefni. Cymerai le amlwlg ynglyn a phob symudiad yn y sir. Nid yw'n rhyfedd fod Mon yn dal yn wan, pan ystyrir nad yw'r gweinidogion yn aros ond ychydig amser yn y sir. Y mae yma fwy o gyfarfodydd ordeinio, sefydlu ac ymado, ac ystyried nifer yr eg- lwysi nag sydd yn un sir arall. Dywedodd Mr. Lloyd, Caergybi, wrth weled yr an- rhegion: "Pa bryd y daw'r eglwysi i roddi anrhegion am aros "? Pe dechreuid ar hynny, hwyrach y cedwid mwy o'r oenhadon gobeithiol yn Mon.

0 ABERDAR

0 ABERDAR. Arweinydd Cymanfa Ganu Aberdar oedd Mr. John Harris (Gold Medalist), Narberth. Mab yw ef i'r diweddar Barch. William Harris, Heolyfelin. Nid yw'n syndod ei fod mor gei-ddgar gan fod y ddawn ganu yn y teulu. Cymanfa boblogaidd oedd hon, ac yr oedd y canu yn ogonedidus. Llawenydd i gyfeillion yr arweinydd oedd ei weled yn gymaint o feistr ar ei waith. Cynhaliwyd y Gymanfa eleni yn Noddfa, Trecynon, yn y bore; a Chalfaria yn y prynhawn a'r hwyr, Mai 4. Cyfansoddid yr Undeb gan bedair eglwys, sef Noddfa Tre- cynon, Calfaria, Bethel Abernant, a Beth- ania, Cwmbach. Y mae'r corau yng ngofal arweinwyr galluog, neb amgen na Mri. Dl. Griffiths, Calfaria; J. R. Evans, G. & L., Trecynon; Tom Morgans, Abernant; a J. Jones, Cwmbach. Newyddbeth yn yr wyl eleni oedd i chwaer gael ei phenodi yn un o'r areithwyr sef Miss M. A. Watkin, B.A., o'r Ysgol Ganolraddol. Sibrydir argyhoeddi ohoni'r pwyllgor y dylid rhoddi mwy, o le ar y llwyfan o hyn allan i chwiorydd galluog ac ymroddedig gyda chrefydd. Areithiodd Miss Watkin yn deilwng ohoni ei hun. Cynhygiwyd gwobrwyon am gyfansoddi tonau i blant ac i rai mewn oed. Cyfan- soddwr ieuanc o Abernant, sef Mr. T. J. Thomas gipiodd y ddwy wobr eleni. Prudd oedd coffa fod yr addfwyn Isaac Lewis, sef y buddugwr y llynnedd yn ei fedd, pan- y oenid ei donau eleni. Gorffennodid y Parch. W. R. Lewis, Cwm- aman, ei weinidogaeth yno n0;3 Sul, Mai 3. Gwnaeth Mr. Lewis le cynnes iddo ei hun yn y cylch. ia phan yistyriwn ei boblogrwydd fel pregethwr, nid yw'n syndod fod cynifer o eglwysi a'u llygaid arno. Hill Park, Hwlffordd, yw'r eglwys sydd yn ei alw oddiyma. Ceir hanes y cwrdd ymadawol yn fuan. Yng ngwyl y cyntaf o Fai a gynhal- iwyd gan y Glowyr ym Mharc Trecynon, yr oedd y Parch. J. Nicholas, Tonypandy, yn un o'r siaradwyr. Y gwahoddedigion eraill aeddynt y Vicer Ramsay a Keir Hardie, A.S. Dychymygai Mr. Nicholas wrth wyn- ebau'r gynulleidfa mai mewn cymanfa yr ydoedd, oblegid y bobl a arferai ei wrando yn y capelau a'r gweinidogion oedd yn ffurfio'r dyrfa hon hithau. Un o arwyddion yr amserau yw hyn.

GLANNAU MEIRION

GLANNAU MEIRION. Y mae Bedyddwyr Glannau Meirion, tra yn gosod blodeuglwm serch, wedi ei wlychu a dagrau hiraeth, ar fedd yr hen Olygydd, yn dymuno o galon longyfarch y Golygydd newydd, ac yn eidduno iddo hir oes i -wasanaethu ei enw, ei genedl, a'i Dduw. Er fod Bedyddwyr y Glannau pan ar wahan, yn fychain a gweiniaid', eto maent yn ddoeth iawn. Gwyddant pa fodd i ymuno a chydwieithredu, a thrwy hynny i fod yn allu. Danghoswyd hyn yn y Gym- anfa Ganu a gynhaliwyd yn Nolgellau dydd Llun, Mai 4. Cyrhaeddodd cerbydres ar- bennig y dre henafol yn gynnar ar y dydd yn llwythog o Fedyddwyr eiddgar, ac erbyn yr amser penodedig yr oedld y capel eang yn orlawn. a rhedai y disgwyliadau yn uchel. Cafwyd profion amlwg yn y canu a'r arholi fod misoedd o lafur caled yn gorwedd tu cefn, ac yn cyfrif am lwyddiant yr wyl. Disgwylir diddondeb a mwynhad yn ami heb unrhyw ragbarotoad. Ond 'yr hyn a HEUD dyn -io ac eglwys ac enwad hynny hefyd a fed efe." Llywyddwyd y gwahanol gyfarfodydd gan Mr. Robert Jones, y Parchn. Edward Row- lands, ac Henry Rees. Arweiniwyd yn fedrus ac effeithiol fel arfer gan y Parch. Arthur Davies. Cyfeiliwyd ar yr organ gan Mrs. Edwin Jones, a Miss Eira James. Arholwyd gan y Parchn. S. Pierce, Edwin Jones, y Mri. E. Gwaenog Rees, Ben Row- lands, ac Alaw Ffestin. Y mae clod nid bychan yn ddyledus i'r Ysgrifennydd llafurus, Mr. E. Ll. Roberts, Harlech.. Yr oedd y Gymanfa hon yn un o'r cymanfaoedd mwyaf trefnns, astud, gwedd- aidd ac eneiniedig y buom ynddi erioed. Yr oedd mynd rhagorol yn y, canu o'r dech- reu i'r diwedd. Yr odd yr anthem 'Y Ganaan Hyfryd yn gafael yn angherddol yn nghyfarfod yr hwyr. Terfynwyd gyda'r don Rhondda' ac erys y geiriau "0! am aros Yn ei gaxiad, Qidyddiau foes," a'r cydgordiau gorfoleddus, yn ysprydiaeth, ni a hyderwin am lawer blwyddyn eto i ddod.

CYLCH ABERTAWE

CYLCH ABERTAWE. Bydd yn Hinder i ddarllenwyr y. Seren' ddeall fod Dr. Gomer Lewis, Abertawe, wedi ei daro i lawr gan afiechyd, ac yn cad w ei wely. Y mae yn lla w y meddyg yn hollol ar hyn o bryd. Cydymdeiinlir ag ef yn fawr, a dymuna'r wlad a'r dref ei adferiad. Y mae'r Parch. J. Di. Harris, Adulam, Llansamlet, i'w longyfarch ar ei otholiail yn Gadeirydd Bwrdd y Gwarcheidwaid yn Ab- ertawe, a phobl ei ofal yr un modd. Bu ei wasanaeth o werth mawr i'r cyhoedd ac i'r Bwrdd am lawer o flynyddau. Boed iddo bob rhwyddineb a bodidineb yn ei swydd bwysig.

0 DDYFFRYN AFAN

0 DDYFFRYN AFAN. Y mae eglwysi y cylch hwn ar hyn o bryd yn gwisgo agwedd lewyrchus, a llafur tymor y gaeaf yn dwyn ei ffrwyth. Y mae eglwysi Glyncorrwg, Cymer ac Abergwynfi, wedi ail gyfodi'r Gymanfa Ganu flynyddol, ac y mae argoelion am Gymanfa ragorol. dan arweiniad Mr. S. Davies, G. & L., Maes teg. Yn weithfaol y mae pethau wedi gwella yn fawr yn ddiweddar. Y mae suddo par o byllau gan Gwmni Gibbs yn Nantdowlath yn Nghwm Corrwg a'r ddealldwriaetli gwell ym mhyllau Dyfltryn Rhondda yn addaw llawer i'r tair eglwys uchod. Y mae G lyncorrwg yn brysur iawn yn paratoi i roddi derbyniaJd1 teilwng i Gyman- fa Orllewinol MorgannAvg, a disgwylir Cym- anfa dda. Y mae yr eglwys hon a'i gweinidog yn gweithio yn egniol o dan faich trwm o ddyled. Hyderir y bydd ymweliad y Gym- anfa .yn ysbrydiaeth newydd iddynt. Y mae yno un o gapelau harddaf y sir. Drwy ymdrech ddiflino, y mae Aber- gwynfi wedi talu £50 yn flynyddol am bum mlynedd o'i dyled. Er fod y brif lofa yn segur, am y cyfnod hwnnw, Trodd y Gantawd yng nghyngherdd y Groglith yn fwy o lwyddiant nag a ddis- gwylid. Dyna yw ellaith cydymdrech. Mawr