Teitl Casgliad: Seren Cymru

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Undeb Bedyddwyr Cymru.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 11 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
4 erthygl ar y dudalen hon
O YNYS MON 1

colegau i gyfarwyddo yn nhrefn y cyfar- fodydd hyn, ac i gynorthwyo i adfer urddas y cyfarfod. Gweinidog Newydd.Deallwn mai gwei- nidog newydd Capelgwyn a Rhosneigr ydyw Mr. Harris o Goleg Bangor. Y mae iddo air da; gobeithio y gwna ei feddwl i aros. Yr ydym yn Sir Fon wedi dechreu blino ar roddi galwadau i ddynion ieuanc i aros ond am o ddwy i dair blynnedd. Pa was- anaeth allant fod mewn amser byr fel hyn? Nid ydynt yn yr amser hwn wedi bwrw ilm- aith yr ofn pedd yn ei meddiannu pan yn gadael y Coleg wrth feddwl am y weinidog- aeth. Clywais un o wyr eryfion y Sir yn dweud yn ddiweddar nad oeddynt hwy yn bwriadu galw dyn ieuanc eto; a'r unig reswm oedd ganddo oedd fod eu harosiad yn y sir mor fyr. Y mae anil un wedi bod yma nad ydyw y sir yn gwybod dim am dano, nac hyd y nod yn cofio ei enw. Ten Twk.

NODION O GEREDIGION

NODION O GEREDIGION. Y mae cydymdeimlad dyfnaf y saint yn yr holl ardaloedd a'r Parch. R. Jones (Tre- bor Aled), Talybont, a'i ferch yn wyneb y brofedigaeth chwerw o golli yn angau, wraig rinweddol, mam dyner, a chwaer ragorol yn Israel. Hawdd ydoedd deall ar ddydd y claddedigaeth fod Mrs. Jones yn un o'r boneddigesau a anwylid yn fawr gan yr eglwys, ao a berchid yn gyliredinol yn Talybont. Bydded i'n hanwyl frawd a'r teulu oil deimlo fod yr Arglwydd yn lloches ac yn gymhorth hawdd ei gael iddynt yn nyddiau eu galar. Amgylchiad o ddiddordeb mawr yng Nghanolbarth Ceredigion ddydd Gwener, Mai 22, oedd dadorchuddio Cofgolofn i enwogion y Neuaddlwyd, gan Syr Edward Anwyl, Aberystwyth. Perthynai'r symudiad yn bennaf i Annibynwyr Canolbarth y Sir, ond yr oedd holl Ymneilltuwyr y wlad yn cydlawenhau a'r gweithrediadau. Dyddia hanes Neuaddlwyd yn ol i 1746, pryd y dechreuodd ysgol feohan yn y lie at ddysgu plant y. gymydogaeth, yr hon trwy feith- riniad yr enwog Philip Pugh, a ddadblyg- odd trwy'r diweddar Dr. Thomas Phillips yn "Ysgol y Proffwydi" o enwogrwydd mawr. Daeth yn ysgol i'w galw fyn Atlirofa, ac i'w hystyried yn un arbennig at gymwyso gwyr eryfion i'r weinidogaeth. Bu ei henw yn uchel iawn am dymor maith, fel hen Ysgol Dolwlff, ger Llanybyther, gan David Jones, Ysgol Ffrwdyfal, gan Dr. Davies, ac Ysgol Llansawel gan Jonah Evans, :ac mae'r olyniaeth yn cael ei dal yn anrhyd- eddus yn y dyddiau presennol gan Ysgol y Gwynfryn yn Ammanford trwy lafur gwerth- fawr y Parch. J. Jenkins (Gwili), Gol. Seren Cymru." Bu cyfarfodydd blynyddol Swyddffytiiiori ddydd Mercher a dydd Iau. diweddaf. Yr oedd yr hin yn hyfryd, pobl y wlad wedi gadael eu goruchwylion ar eu ffermydd, er mwyn gwrando efengyl y bendigedig lesu yn cael ei phregethu trwy nertli yr Ysbryd Glan, gan y brodyr parchus a galluog, T. E. Jones, JEfail Isaf, ger Pontypridd (A.), yr hwn a ddygwyd i fyny hyd yn 10 oed gan ei daid a'i nain; aelodau fIyddlon yn Bethel; W. R. Watkin, M.A., Moria, Llan- elli; a Iorwerth Jones, Maestg. Teimhvyd fod yr eneiniad sanctaidd ar bob oedfa. Mae pob argoelion y ceir Cymanfa enwog gan Pedyddwyr Caerfyrddin a Cheredigion yn Pontrhydfendigaid, Meli. 8, 9, a'r 10. Y mae'r holl eglwys mown undeb eariadus yn ddiwyd ers misoedd wrth y trefniadau, a'r hollwlad yn 11awn serchowgrwydd ac ewyllysgarwch i wneuthur ei goreu i roddi croeso teilwng i'r Gymanfa, yr hon a fu mor nodedig yn hanes yr enwad am 264 o flynyddoedd. Bu'r gymanfa gyntaf ym Mhontrhydfendigaid yn 1852, yr ail yn 1889, ac edrychwn ymlaen gyda gobaith llawen am yr un yn 1914.

Llofficm Dirwestol

Llofficm Dirwestol. SUT Y MAE ALCOHOL YN GWEITHIO. Yr oedd claf unwaith yn dadleu a'r nieddyg ar yr angenrheidrwydd iddo gym- eryd cynhyrfydd (stimulant). Dywedoddei fod yn wan a'i fod yn sefyll mewn agen o hono. Mae yn rhaid i mi gael rhyw fath o 'stimulant.' "Felly yn hollol," oedd ateb sychlyd y nieddyg. Edrychwch jana: inae'r pren hwn yn oer," gan godi pren o'r blwch oedd yn ymyl y tan, ac yn ei daflu i'r tan. "Yn awr y mae yn dwym, ond a yw y pren yn well o hynny." Gwyliodd y dyn claf y darn pren yng i-icry-titaf yn anfon allan bwfiiadau o fwg, ac yna yn fuan yn fflamio, a dywedodd- Nac ydyw, wrth gwrs. Mae yn ei losgi ei hun." "Felly," ebe y meddyg, "yr ydych chwithau gan gynheswcheich hun trwy gymeryd Alcohol. Yr ydych yn llythyrennol yn 1 losgi i fyny "tissues" tyner yr ystumog a'r ymenydd." Dylai hyn yAa fod yn ddigon o rybudd i ymwrthod a'r diodydd meddwol. MUDIAD BLAENFYNEDOL TEMLWYR YSGOTLAND Male mudiad ymosodol newycld wedi cyeh- wyn o dan nawdd Temlwyr Da Ysgotaidd, yr hwn a axlnabyddir wrth yr enw—' Teml- wyr Blaenfynedol." ac mae arvvyddion eglur y bydd y canlyniadau yn bellgyrhaeddol. Mae pob iun a una a hwy yn gorfod ar- wyddo cyfamod fel y caiilyii: Yr wyf yn addaw i'm cysegru fy hun, a chysegrn fy lioll altuoedd i adeiladu Tenilydditeth Dda, a phorotoi Ysgotland i waharddiad o'r fa,s- naoh mewn gwirodydd. Mae nifer mawr yn arwyddo y cyfamod. Mewn rhai manau mae'r mudiad newydd wedi ei gymeryd i fyny gydag ysprydi-aeth ac yni neillfcuol, a disgwylir chwanegiad mawr yn yr aelodiaeth drwy'r wlad. Fel y disgwylid mae Glasgow ac Edinburgh yn cymeryd yr arweinyddiaetli yn y gwasanaeth newydd, ac mae nifer lied dda o'r cyfrinfaoedd yn rnyned i fewn am y Mudiad Blaenfynedol gyda chalon ddewr ac anturiaethus. Llwyddiant iddynt i fod yn foddion i sobreiddio eu gwlad. LLWYRYMWRTHODWR DUCAIDD. Dywedodd y Due o Portland wrth siarad mewn cwrdd perthynol i'r Wesley aid, pan gyfarfu yn ddiweddar a. damwain, meddyl- iodd am geisio gwneuthur heb ddiodydd Alcoholaidd o unrhyw fath. Ac oddiar hynny teimlai ;ei hun yn well dyn ymhob ffordd. Mae yn :codi yn awr yn y bore heb fod jei ben yn llawn swn, a gall wnou- thur g-well diwrnod o waith, a chreda yn wirioneddol y bydd byw ychydig flynydd- oedd yn hwy. YFED YN DIRADDIO. Ar arglawdd (embankment) Victoria, Llundain, am iddau \0'1' gloch y bore gellir gweled swyddwyr Byddin yr lachawdAvriaeth yn bwyda dynion idiymgeledd, digartref a newynog. Yn y dorf mae dyn yn syrthio ar ei wyneb mewn llewyg yn union wedi iddo yfed peth o'r gruel twym, yn canlyn myned heb fwyd am amryw ddyddiau. Codir ef, a sylwir jfod iddo Avynebpryd coethedig. a gwallt bron yn wyn yn plethu o amgylch talcen dilin a deallus. Holir i mewn i'w hanes. Mae yn twr gradd o Brifysgol Caer- grawnt, wedi ei ddiraddio gan y gelyn Al- cohol; ao nid yw hanes y truan hwn, ond hanes llawer eraill wedi cwympo ac yn methu codi. Nid yw'r tafarndy ond porth i uffern. Pwy all ysgrifenu hanes y di- nistr a gyllawiKxid? 0! yr annedwyrldwch, y torri calonnau, yr annghyfanedd-dra, yr amddifadr-vy,dd, yr huiiaiilactdia.(Iau, a'r llof- ruddiadau y mae'r tafarndy yn gyfrifol am danynt! Pwy iia lweI y drygau mawrion a difrifol Sydd- yn canlyn yfed diodydd meddwol. TAENELLFAEN (FORT) MEDDWYN Mae eglwys yn Lloegr yn meddu Taenell- fan, o gylch yr hon yr adroddir ystori gywrain. Adnabyddir y fort" wrtli yr enw "Drunkard's Fort," ac mae ei hanes yn dweud am ddyn a aeth rywbryd yn ol i'r eglwys tra yn'feddw yn ystod y gwasan- aeth ac a afionyddodid yn fawr ar yr addol- wyr. I osgoi gael ei ddirwyo roddodd swm o arian i'r eglwys, a defnyddiwyd ohoni ran i gael ta;enellfan ;newydd. Ceir arni eir- iau sydd yn cyfeirio at yr amgylchiad. Dyma'r geiriau: — Good people all, I pray, Take care that in ye Church Ye do not pwear As this man did." Ni all y daenellfan fel y cyfryw hawlio unrhyw hyn, mid trnae'r ystori y deil gysylltiad a hi wedi rhoddi hynod- rwydd iddi yn fwy nag y mae llawer o'r rhai tebyg yn ei feddu. Rhyfedd mor yn- fyd y gwna Alcohol ddyn, a ddylai fod ymhell uwchlaw ynfydrwyldid felly. PETHAU ERAILL DIRWEST. Mae yn leglurnrucl oes yr un ifurf o bechod sydd a gallu mwy dinystriol ganddo i ladd dedwyddweh bodau dynol, a'u gyrru oddiwrth Dduw na'r pechod o feddwdod. Pan bwysir yr tholl brofion yn araf ac yn onest, gwelir yn eglur na amcanwyd Alcohol a'r coi,ff jdynol erioed ar gyfer eu gilydd; mae'r naill a'r Hall yn groes liolloi i'w gilydd. Mae gweithrediad Alcohol yn wrth- wynebol i gorff iach; mae ief bob amser yn gythryblwr ac yn gyffrowr; ac 03 eaniateir iddo parlysa'i wrtlirych. Mae yn sicr fod Alcohol bob amser yn ddiangenrliaid, yn ddiddefnydd, peryglus, a niweidiol, ac o ganlyniad, mae rheswm, liunan ehv, daioni y cyhoedd, a hawliau dwyfol yn dywedyd y dylai idyn lwyrymwrthod. Pa bryd y daw dynion yn ddigon doeth i ystyried hyn? w Maerdy. CelyntIN.

Gongl y Marwgofion

Gongl y Marwgofion. URIAS WILLIAMS, VALLEY. Dydd Mawrth, Mai :12, bu farw Mr. Urias Williams, un o ddiaconiaid eglwys Hermon, Valley, wedi ychydig wythnosau o gystudd, yn 69 mlwydd ,oed. Dioddefodd yn dawel a boddlawn ydoedd i ewyllys yr Arglwydd. Yr oedd ar [Bwyllgor Adeiladu Cymanfa Mon. Y mae'r bwlch ar ei ol yn fawr yn eglwys y Val'ey, Dyma'r trydydd blaenor i eglwys Hermon golli trwy yr angeu, yn ystod y blynyddau diweddaf hyn. Bu yn hynod ffyddlawn gyda'r achos yn y lie tra y caniataodd ei iechyd. Cafodd gorff gol- ygtts a hardd, (a chwith ydyw meddwl fod y deml wedi cwympo. Yr oedd Iaelfj-ydedd yn ei natur, la gras Duw wedi gwneuthur boneddwr ohono ymhob cylch o gyndeithas. Rhyddfrydwr selog oedd, yn wleidydlol, ac yn grefyddol. Yr pedd yn athraw siriol, diddorol ac adieiladol, yn yr Ysgol SDl, ac fel diacon, yr [oedd yn ddyn didderbyn>yn- eb; gweddiwr taer a nerthol, ac yn gyn^pr- wr pwyllog' a chadarn. Hebryngwyd ei weddillion i fynwent eglwys Rliosgolwyi, brynhawn dydd Gwener, Mai 15. Gwasan aethwyd yn y ty gan y Parchn. D. Lloyd,. Hebron; a J. W. Williams, Bethel, Caer- gybi; ac ar lan y bedd gan y Parchn. J. A. Rees, a G. Williams, Valley. Cafodd ang- ladd barchus iawn. Mab hynaf yr vmadaw- edig ydyw Mr. p. R. Williams, ysgrifen- nydd eglwys Bethel, Caergybi; yr hwn sydd yn fawr ei barch yn y dref, ac yn ddyn amlwg ar fyrddau cyhoeddus, Gwelwyd ar ddiwrnod yr .angladd, ymhlith y dyrfa, Mri. W. Lewis, Cadeirydd Cymanfa Mon, Owen 0 Ave lis, Ceinaes; Mrs. Rowlands a Mrs. Samuel Thomas, Cemaes; Mri. R. Mon Williams, E. Jones, (Iorwerth Menai), H. Owen, Caergeiliog; Parch. W. Price, Kings- land, ac eraill. Cydymdeimlir yn ddwfn a Mrs. Williams, y weddw, a'r plant, yn eu galar, ynghyda'r perthynasau oil yn y. brofedigaeth a'u goddiweddodd.