Teitl Casgliad: Seren Cymru

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Undeb Bedyddwyr Cymru.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 5 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
5 erthygl ar y dudalen hon
CYFARFODYDD SEFYDLU Y PARCH W T FRANCIS YN WEINIDOG EGLWYS CALFARIA LLANELLI

Cwrdd Gweinidogion Undebol Aberaman a'r cylch; John Williams, diacon; ac eraill o Gwawr, Aberaman; Richard Hughes, Soar, Treforris; Parchn. Dl. Jones, Llanbedr; R. W. Davies, Pontardulais; D. Hopkins, B.A., Trecynon; Myfyr Heiln, Pump Heol; Hen- adur Thomas, Godreaman; W. R. Lewis, Cwmaman; Morgan Jones, B.A., Whitland; T. R. Williams, Maescanner; siaradwyd ychydig eiriau gan y Parch. J. A. Davies, Emmanuel (S.), Llanelli, ac ysgrifennydd y nodiadau hyn. Aberd uar. I). SPENCER JONES.

Colofn Gloywi Cymraeg

Colofn Gloywi Cymraeg. Ymha gysylltiad y dylid clefnyddio pan ? 1. Ni ddylicl byth ysgrifennu "y ar 01 pan." Nid oes hawl ganddo i'r lythyren o gwbl. Y mae ysgrifennu 'pryd y,' 'gwedy y,' 'hyd ¡y: 'megys y,' 'fel y,' yn gywir, eithr gocheler rhag 'pan y.' Arfer yr y gyda'r geiriau uchod, a gyfrif, yn ddiameu, am y defnydd mynych sydd arni ar ol "pan." Nid Idieithr yw gweled 'pan y gwel' neu pan y daw. Pan y oeisiwn brofi sydd frawddeg mewn llyfryn byehan sydd yn fy ymyl. Ceir 11awer tebyg iddi ynddo. Cyfeiliorni ei ffordd yn y Gymraeg a wna pawb a ddefnyddio'r 'y ar ol'pan.' (Yn y frawddeg "Pan y dygasocli adref" (Haggai i. 8), talfyriad yw'r 'y' o 'y'i.' (Haggai i. 9), talfyriad yw'r y' o 'y'i.' mae'n debyg Had oos cystal hawl ganddynt i fyw ag 'ei' ac 'eu.') Y mae'r un mor anghywir ysgrifennu 'y' ar ol os a 'pa.' Na ysgrifenner 'os y gwel,' eithr 'os gwel'; nid 'pe y deuai ond 'pe deuai.' Ymgadwer rhag y trindod yma, pan y, o.s y, pe y. 2. Dilynnir "pan" bob amser gan y Modd Dibynnol (Subj unctive Mood). Ni ddylid ar un cyfrif, wyro oddiwrth y rheol hon. Hawdd meddwl am ddigon o engh- reifftiau: "Pan 'ddel' Efe (loan 16. 13), "pan fyddom yn earu Duw" (1 loan 5. 2), "pan 'ddihunwyf" (Salm 17. 15), Gwylia ar dy droed pan fyddech yn myned i dy Dduw.' Preg. 5. 1. Gwylied yr ysgrifennydd yntau, pan ddefnyddio efe "pan," rhag iddo'i ddilyn a'r Modd Myneg- ol, ac ysgrifennu "pan didaw" yn lie "pan ddel," "pan dldihunaf" yn lie "pan ddi- hunwyf," a phan fydidi yn lie pan fyddych." 3. Y mae arfer, ler hynny, ar y fra wclldeg "pan yw. Er Eng hraifft: "Er pan yw cenedl yn genedl." Dan 12. 1; "pan yw fy nhiadi a fy mam yn fy ngwrthod." S. 27. 10. Eto, pan yw' yn dywedyd oelwydd." loan 8. 44. Eithr oddefnyddio "pan yw" na feddylied neb fod rhyddid ganddo i ddefnyddio "pan mae" neu'n wia,eth "pan y mae." Tyfiant di weddar yw "pan mae," ac ni fedd hawl ar un math ar gefnogaeth lenyddol. Nid yw'n gywir ychwaith, y frawddeg I n-es y mae" (until). Os dilyn 'nes' o gwbl a thrydydd person, amser presennol "bod," dyweder 'nes yw,' a 'nes ydynt.' Eithr yr arfer briodol ar ol "nes" yw defnyddio'r ferf-enwi, e._g., "nes 'darfod' i ni selio gwasanaethwyr ein Duw ni." Dat. 7. 3; "Nes 'cyflawni'r' mil blynyddoedd Dat. 20. 5, a "nes i mi' 'orfod." JEsia. 36. 17. 4. Sylwer ymhellach y dilynnir "pan" gan y treiglad esmwyth neu feddal, e.g., "pan 'ddel'" (o del), "pan 'fyddom' (o byddom), "pan 'ddihunwyf" (o dihunwyf). Y mae llinell yn un o emynau Williams Pantyoelyn ar arfer yn rhai llyfrau emynau a dyr bob un o'r dedidfau uchod. Mae rhyw arswyd drwy'r greadigaeth Pan y byddost' ti gerllaw." Byddot a geir yn y Llawlfyr Moliant, ao nid yw nemor gwell. Gwelir y dilynnir "pan" gan yr y.' ac oherwydd hynny saif "h" heb ei dreiglo, ae o bob gwrth. uni'n y byd, ceir terfyniad amser gorlfennol y Modd Mynegol yn lie amser presennol y Modd Dibynnol. Y mae "byddost" yn- ddo'i hun yn lie buost" yn gampwaith. Teg yw nodi nad Pantyeelyna biau'r llinell, eithr rhywun mwy diweddar a dybiodd ei hun yn gallach nag ef. Y mae argraffiad 1811 o emynau Williams gennyf, ac fel hyn y darllena'r pennill: "Marchog Tesu yn llwyddiannus, Gwisg dy gleddau yn ngwasg dy glin; Ni all daiear dy wrth'nebu, 'Chwaith nac uffern fawr ei hun, Mae dy oniv mor ardderchog, Pob rhyw elyn gilia draw, Mae dy arswyd trwy'r greadigaeth, Tyr'd am hynny maos o law." Oni ellir adfer yr emyn yn ei ffurf gysefin i'r llvfr emynau newydd? Gyda Haw, dy- wed yr awdurdodau Avrthyf mai'n yr (vrgraff newydd yr argrefifr liwnnw. Diolch. Mountain Ash. Ji. liOOEKS.

Hanesiori Crefyddol

Hanesiori Crefyddol. Pedair Heol, Meinciau. -Y SulgAvyii oe.,dd adeg ein gwyl bregethu flynyddol, a'r cen- h-adon a wahoddwycl eleni oedd y Parchn. R. R. Thomas, Glanyferi, a R. Ellis Wil- liams, Pembre, a bu'r weinidogaeth yn felvs a grymus iawn. Ruabon.Cynhaliwyd cyfarfodydd blyn- yddol eglwys y Bedyddwyr yn y lie uchod Sadwrn a Sui, Ebrill 25 a'r 26. Gwasan- aethwyd gan y Parchn. J. Conway Davies, Dolywern, a D. Griffiths, Oswestry. Ruhamah, Bridgend1.-—Cynhaliwyd cyfar- fodydd blynyddol yr eglwys hon Sul a Lllln, Mai 17 a'r 18. Gwasanaethwyd gan Proff. M. B. OWlen, B.A., B.D., Oaerfyrdd- in. Cafwyd cyrddau rhagorol. Moorfieids, LIundain.-—Sul, Mai 31, sef Sulgwyn, cawisom i'n gwasanaethu. Parch. D. Stephan Williams, Ebenezer, Merthyr Tyd- fil. Bu yma droion o'r blaen, a di,sgwyliwn eto os cawn fyw. Cafwyd Sul rhagorol, a chynulliadaa pur dda drwy'r dydd. Y Llun dilynol ymwelodd ein Hysgol Sabbothol ag Epping Forest, allan am drip i'r wlad. Cafwyd diwrnod hafaidd a dymunol, a pliawb yn mwynhau eu hunain yn ardder- chog. Bydd eglwys Moorfieids bob amser yn barod i groesawu ymwelwyr o Gymru, a chant le cysurus a derhyniad cynhes yma. Y mae yr eglwys yn gwisgo agwedd bur lewyrchus, a phawb ar eu goreu dros yr achos da. Ffynonhenry.Cymerodd yr wyl flyn- yddol le nos. Fawrth a dydd Mercher, Mai 26 a'r 27. Y gwahoddedigion eleni oeddynt y Parch. M. Jones, B.A., Whitland, a'r Parch. T. Morris, Soar, Treherbert. Er fod y disgwyliadau yn uchel ni siomwyd neb o'r tyrfaoedd a ddaethant ynghyd i wrandaw y cenhadon. Eglwys y Bedyddwyr Saesnig Tonyrefail. Cynhaliwyd cyfarfodydd blynyddol yr eglwys uchod Sul a'r Llun, Mai yr 17eg a'r 18ied. Gwasanaethwyd gan y Parch. Samuel Davies Pontypridd. Cafwyd cyfarfodydd ardderchog Bethel, Glynned'di.lSul, Mai 17 a'r 18, cynhaliwyd ein eyf arf oidycld blynyddol. Gwasanaethwyd gan y Parchn. D. Hopkins, B.A., Noddfa, Trecynon, ac Aaron Morgan, Blaenffos. Cafwyd gwledd. Bydd yn dda gan gydnabyddion ein gweinidog,y Parch. T. C. Harries, ei fod yn gwella yii gyftypi. Disgwyliwn ei weld gyda, ni Sul y cymun- deb nesaf, Mehefin 7, a bwriadwn gynnal cyrddau y Sul hwnnw yn gyrcldau diolch- garwch am ei gaol yn ol i'w hen gynhefin. Y mae yr eglwys yn edryeh ymlaen yn aiddgar am y dydd hwnnw.

0 BEDYDDIADAU

-0 BEDYDDIADAU. Caersalem, Caernarfon.Bore Sul Gwyn, Mai 31, pedwar brawd ac un chwaer, gan y Parch. R. G. Roberts, gweinidog. Pantyoelyn.Brynhawn Sadwrn, Mai 30, dwy chwaer ieuano, deiliaid yr Ysgol Sab- othol, yn afon Cnuffiaid, gan y Pareili. Evan Edwards, gweinidog y lie. Hebron, Caergybi. Mai 3lain pedair chwaer, gan ein hanwyl weinidog y Parch. D. Lloyd.

Advertising

Gwaed Gwaed Gwaed MAE IECHYD A BYWYD YN DIBYNL AR WAED PUR, CRYF, IACH, A MAETHLON. Hughes's Blood Pills. Mae Hughes's Blood Pills" yn effeithiol at greti Gwaed Newydd, Pur a Chryf. Yn dylanwadu ar holl organau y corff, drwy hyn yn iachau Dolur Pen, Diffyg Traul, Biliousness, Afu Ddrwg, Tarddia,ntau y Cnawd, Corn- Jw/ V'/j ill! /•' wydon, Scur, Jgnl A l| V| ji 1. J vy, Piles, Fits, V//I ij Nervousness, 1 Gwynegon neu A-MzZ Gewyn wst, Poen Oefn, (Lumbago) Oorffrwymedd, ?. -y N eumJgia" Anhwylderau yr Amnau, Iselder ys pryd, G wynt, a Surni y Cylla. BENYWOD At anhwylderau tueddol i bob Gwraig, Mam a Merch o bob oedran. Hughes's Blood Pills" yn nodedig o effeithiol. Rhodder prawf axnynt. RHYBUDD PWYSIG. Wrth brynu y Pills hyn, gofaler rhag- cael eich twyllo. Mynwch weled y Trade Mark, sef llun calon, fel hyn m Ar pob blwch. Dim yn our heb hwn. G wrthod wch pob peth arall. Ar wiorth gan bob chemist and stores, am Is. ltc., 2c. 9c. and 4s. 60., neu clan. foner eu gwierth mewn stamps nev P.O. at y Perohenog, JACOB HUGHES, M P S, L.D.S., Manufacturing Chemist, PENARTH, CARDIFF.