Teitl Casgliad: Seren Cymru

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Undeb Bedyddwyr Cymru.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 6 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
5 erthygl ar y dudalen hon
r Gwers yr Ysgol Sul

-r" Gwers yr Ysgol Sul. GAN Y PROFF. J. T. EVANS, M.A., B.o. BANGOR. Heb. 11. 8, 9. Dwg yr awdwr i'n sylw bed war gwirionedd. 1. Dyrchafiad lIwyr y saint ym mher- ffeithiad y deyrnas-" Canys wrth ddar- ostwng popeth iddo, ni ada wodd efe ddim heb ddarostwng iddo (adn. 7). Y mater hwn a gafodd ei sylw o'r burned adnod ymlaen. Pan ddelo'r deyrnas yn ei grym a'i nerth, fe fydd dyn yn ddyrchafedig uwchlaw'r angylion, ac yn arglwyddiaethu ar holl fodau ac elfennau'r cyfanfyd. 2. Amherffeithrwydidl dyrchafiad y saint yng nghyflwr presennol y deyrnas. Ond yr awron (nid tYdym (ni eto [yn g'weld pob peth wedi eu darostwng iddo." Disgyn yr awd wr yn sydyn o'r byd delfrydol i'r byd gweith- redol. Daw yn [ol o'r "byd a ddaw" i'r byd bresennol, ia ichenfydd o'i gwrnpa-s brof- ion eglur na ddaeth y gogoniant eto. Cyn bellod a bod yn goncwerwyr, gwel nad yw ei frodyr a'i |ehwiorydd yn yr Arghvydd, namyn caethion i'w hofnau a'u hamheuaeth. Y mae'r dwylo yn llaesu, a'r gliniau yn ymollwng. Syrthiodd rliywrai eisoes oddi- wrtli ras Duw, a thyfodd gwreiddyn chwer- wedd i beri (blinder a llygru llawer. Ymos- ododd y gelyn larnynt mewn cynliwyn a brad, ond iii wiiaethant yr hyn a allent i'w wrthwynebu .a'i orchfygu. Ni wrth- wynebasoch etc byd at wa;ed gan yinclrech yn erbyn pechod." Y maent ymhell etc o gyrraedd y cyflwr perffaith; a chyn mecldiannu tir dymunol gwlad yr addewid, fe fydd yn rhaid iddynit wynebu ar lawer brwydr galed ym ¡ml'o'r diffaethwch. 3. Dyrchafiad si ;r yr lesu yng nghyflwr presennol y deyrnas. Eithr yr ydym ni yn gweld lesu," &o., adn. 9. Hyd yn oed yng nghyflwr presennol pethau, nid oes eis- iau gwangalonni. Os gorwedd y milwr ys- brydol yn ei waed ar faes y frwydr, y mae'r brenin ei hun o dan ei goron, a sic- rwydd goruchafiaeth yng ngwedd ei wyneb. Os gwelecld yr awdwr gymylau wrth edryoh i ffurfafen yr ;eglwys amherffaith, fe welodd yr un pryd Haul Cyfiawnder yn ymddangos yn sydyn y tu ,ol iddynt, a digon o nerth yn ei danbeidrwydd i wasgar yr holl gym- ylau fel yr elo'r dydd yn ei flaen: Ond er mai arglwyddiaeth a dyrchafiad Crist yw pwynt pennaf yr adnod, perthyn i'r apostol ddangos, yn gyson a'i ymresym- iad nad gogoniant Crist yn ei berthynas dragwyddol a'i Dad a olygir ganddo, onid y gogoniant a ddaeth iddo drwy ei ym- gnawdoliad a'i waith. Fe sylwa felly ar natur ei berson a'i waith: (a.) Ar natur ei berson. Yr hwn a wnaed ychydig is na'r angelion. Amcan hollol wahanol sydJdi i'r frawddeg ynglyn a Christ yn yr adnod hon, i'r hyn ydoedd ynglyn a dyn yn y "Salin a ddyfynnwyd yn adn. 7. Safle urddasol dyn fel arglwydd y greadigaeth a gyfleir yn y Salm. Cyf- lwr darostyngedig y Mab a gyfleir yn y fan hon. Oblegid cymeryd ohono ein natur, a dod yiig jig-hyffelybiaeth onawd pechadur- us, fe iddisgyninodd i gyflwr is na'r angel. (b.) Ar natur ei waith. "0 herwydd dioddef marwolaeth." Gwell ydyw cysyllt- u'r frawddeg a'r hyn a ganlyn. Nid am- can yr lapostol yw! dywedyd fod yr- lesu, oblegid ei ddioddef, wedi ei wneuthur yn is na'r angylion. Yr oedd yn is na'r angylion cyn iddo fynd i'r gxoes. Ond ei amcan yw dywedyd i'r (dioddef droi yn gyfrwng dyr- chafiad iddo. Phil 11. 6-11, yw'r esboniad. goreu ar y gwirionedd hwn. 4. Dyrchafiad presennol yr lesu yn sic- rwydd dyrchafiad y saint, oblegid ei waith erddynt a'i berthynas ago3 a hwy.-—"Fel trwy ras Duw (Darlleniad arall: "Fel ar wahan i Dduw), y profai efe farwolaeth dros bob dyn." Adn. 9. Hyn hefyd yw'r mater y traotliii- ariio gaii yr awdwr hyd ddiwedd y benod. Y mae'r frawddeg olaf hon, "Fel trwy ras Duw," &c., i'w chys- ylltu, nid yn unig a'r dyrchafu ond hefyd a'r ymgnawdoli a'r dioddef. Diameu fod y tri pheth yn ffurfio un syniad ym medd- wl yr awdwr, oblegid, sylwer nad ei amcan yw cyferbynu y darostwng a'r dyrchafu ym mywyd lesu, ond cyferbynnu'r dyrchafu hwnnw a si or ha wyd eisoes gan yr lesu, a'r amherffeithrwydrl yn y saint. Y frawd-deg olaf hon felly, rydd agoriad i'r holl adnod. Gan fod lesu eisoes yn ddyrchafedig, a'r dyrchafiad hwnnw yn ffrwyth ei farw dros bob dyn, try'n sieTwyicld dyrchafiad paw'b a gredo ynddo. Rhed ei ymresymiad bron ar yr un llinellau ag eidido Paul yn ei ath- rawiaeth o gyfiawnhad trwy ffydd. Rhuf. iii. 21-26, &c.

CYMANFA GERDDOROL RHAN UCHAF CEREDIGION

CYMANFA GERDDOROL RHAN UCHAF CEREDIGION Cynhaliwyd y Gymanfa hon eleni, sef y seithfed ar hugain, yn Bethel, Aberystwyth, ar ddydd Mercher, Mai 13. Cyfeiliwyd gan Miss Olwen M. Evans, Penrhyncoch, a Miss Katie Griffiths, L.L.C.M., Talybont. Prof- odd y Parch. Arthur Davies, Penrhyndeu- draeth, ei hun yn arweinydd medrus a llwyddiannus iawii. Llywyddwyd cyfarfod y plant yn y bore gan Mr. T. E. Morgans, Cwmsymlog, a chyfar.fod y prynhawn gan y Parch. H. lEvans, yu absenoldeb Mr. David James, Post Office, Penrkyucoch. Llywydd cyfarfod yr Invyr ydoedd y Prif- athro T. F. ;Roberts, M.A., Ll.D., a thra- ddododd anerchiad godidog. Cymerwyd y rhannau arweiniol a diweddol yn y gwahan- ol gyfarfodydd gan y Parchn. J. Edwards, B.A., R. Jones (Trebor Aled), H. Evans, a Mr. Richard Lewis, Llanrhystyd. Cafwyd canlyniaclau'r Arholiad Oerddorol gan Mr. M. do Lloyd, L.T.S.C. Penodwyd y rhai canlynol yn swyddogion y Pwyllgor am y flwyddyn ddyfodol:Cadeirydd, Mr. David Jones, Moriah; Trysorydd, Mr. J. Lewis Evans, Aberystwyth; Ysgrifennydd, Mr. W. H. Jenkins, A.T.S.C., Penrhyncoch. Pen- derfynwyd i gynnal y Gymanfa y flwyddyn nesaf yng Ngoginan. Cafwyd Cymallfa ardderchog, a chanmolir y canu yn fawr iawn.

CAERSALEM CAERYNARFON

CAERSALEM, CAERYNARFON. Cymanfa Ganu Dosbarth Caerynarfon. Dydd Iau, Mai 21, 1914, cynhaliwyd y Gymanfa Ganu uchod o dan amgylchiadau hynod ffafriol. Cafwyd tywydd dymunol, yr haul yn gwenu m'ewn boddhad ar y Gymanfa. Yr oedd y cynulliadau lluosog yng nghyrddau y, prynhawn a'r hwyr. Y mae'r dosbarth yn cymeryjd i rnewn ysgolion Llanberis a Llanrug, Sardis a Chlwtybont. Penygroes a Llanllyfni a'r Bontlyfni, y Groeslon a Phisga, Salem a Bethania, Tal- ysarn. Gwelir fod y plant sydd yn aelodau o'r Gymanfa hon yn preswylio yn yr ardal- oedd lie y bu'r hen gewri yn yr oesau a fu. Ar lechweddau Sardis y bu'r Hen Glodd- iwr" difrif-ddwys, yr hwn a fu am oes gyfan yn efengylu tangnefedd i'w gydweith- wyr gydag arddeliad mawr. Yma hefyd y siglwyd crud y seraff-aurenau Roberts tjiwynhendy." Yng nghwr arall j Dosbarth ar fynydd Llanllyfni y treuliodd yr hen batriarch Robert Jones oes faith a llawn gwasanaeth i ddyn a Duw. Llywyddwyd cwrdd dau :0'1' gloeh gan y Parch. R. G. Roberts, Caerynarfon, yn dawel ac yn klde- heuig. Arweinydd y canu ydoedd y eerddor bregethwr, y Parch. Arthur Davies, Pen- rhyndeudraeth. Canwyd nifer o donau gan y plant gan mwyaf yn y cyfarfod hwn. Holwycl y plant yn ,hanes Stephan, yn fyw- iog a ffraeth £,e1 arfer gan y Parch. H. Ed- wards, Clwtybont. Cyfiwynwyd gwobrwyon i oreuon y Gymanfa ,0 bob oed, mewn llyfrau pwrpasol. Oymerwlyd i fyny y gwas- anaeth arweiniol a therfynol gan Mr. W. Abel Davies, Llanberis, a'r Parch. D. Davies gweinidog newydd Llanllyfni a Bontlyfni.I Erbyn cyfarfod jyr hwyr yr oedd yr addoldy wedi ei lanw hyd y drysau. Ijlywyddwyd gan y Parch. Edward Pritchard, gweinidog newydid Salem, Talysarn. Wedi adroddiaJd o bennod gan chwlaer o Gaernarfon, gwe- ddiwyd gan y Parch. A. J. George, B.A., B.D., Llanberis. Yna ;aed trwy y gweddill o'r daflen ganu gyda graen a hwylusdod. Gwnaeth Mr. Davies yr arweinydd ei waitb yn rhagorol, a hyderwn y oerir effeithiau daionus y Gymanfa adref i holl ysgolion ac eglwysi'r cylch fel y bydd yr ieuenctyd a phawb yn llawnach o ysbrydiaeth at waith y dyfodol. Cyfeiliwyd yn y ddau gyfarfod gan y brodyr R. O. Thomas, Sardis; a P. S. Davies, Penygroes. Terfynwyd y Gym- anfa trwy weddi gan y Parch. Robert Jones. ASAPH.

CYMANFA YSGOLION CYLCH LLANDYSSUL

CYMANFA YSGOLION CYLCH LLANDYSSUL Cynhaliwyd yr uchod ym Mhencader, Sul Mai 17. Dechreuwyd owrdd y boreu, yr hwn oedd i'r plant gan :aelod ieuanc o ysgol Pencader, yn adirodd Salm 23. Wedi canu ton o'r rhaglen, a gair i weddi. adroddwyd gyda'i gilydd gan blant y ped- air ysgol, "Y deg gorchymyn." Holwyd ychydig gwestiynau gan y gweinidog y Parch. J. Dj. Evans. Canwyd eto ddwy don i orffen y cwrdd. Adroddwyd Matthew 20 i ddeohreu icwrdd y prynhawn gan chwaer o Benybont. Aeth brawd eto i weddi, ao wedi canu ton o'r rhaglen, ad- roddodd y rhai mewn oed perthynol i'r ped- air ysgol y ddwy bennod gyntaf o'r Heb- reaid. Holwyd gan y Parch. D. C. Grif- fiths, Penybont. Yna canwyd yr anthem Dadganaf dy glod," ,a thon o'r rhaglen i orffen cwrdd y prynhawn. Arweiniwyd y canu yn y bore gan y brawd James Jones, Penybont, a'r prynhawn gan y brawd Wm. Evans, Pencader, a'r rhannau arweiniol gan y brodyr Ebenezer Thomas, a Dd. Jones. Cafwyd di wrnod wrth ein bodd, yr ysgolion wedi kIod ynghyd yn lliosog, a'r frawdoliaeth yn Pencader wedi darparu yn helaeth ar gyfer pawb Yn yr hwyr cynhaliwyd rehearsal ar gyfer Cymanfa'r Sulgwyn. ym Mhenybont. Ar- weiniAvyd gan y brodyr John Davies, Cas- tellnewydd, a Dd. Evanis, Aberduar. Penderfynwyd a ganlyn yn y gynhadledd: 1. Y gymanfa nesaf i'w chynnal yn Eb- enezer, Hydref 4, 1914. 2. Maes Llafur, p-onnodatt 3 a 4 o'r Heb- reaid. 3. Fod y tonau canlynol i'w canu yn y nesafFarrant, emyn 110; Pembroke, em- yn 634; Elijah, emyn 564; Brynhyfryd, 1000. Llandyssul. J. ISAAC THOMAS, Ysg.

CYMANFA GANU BEDYDDWYR ARFON

CYMANFA GANU BEDYDDWYR ARFON Dosbarth Bangor a Llandudno. Cynhaliwyd y Gymanfa uchod yn y Tab- ernacl, Llandudno, Mai 9. Yr oedd yn hyn- od o boblogaidd, a chafwyd canu grymus ac effeithiol dros ben. Yr arwicinydd oerddorol eleni oedd Mr. T. Bryniog Jones, R.A.M., Penmaenmawr. yr hwn a wnaeth ei -waith yn hynod o ganmoladwy. Yn wir cafwyd canu eneiniedig, ac iar adegau foliant gwef- reiddiol. Can odd Mr. Jones iei hun unawd yn oedfa'r hwyr, Dagrau yr lesu,' a chyda effaith neilltuol. Llywyddwyd gan Mr. David Rowlads, Bangor, ;a Mr. R. Davies, Portdinorwic; Miss Awena Roberts ac Ernest Hughes, Llandudno, oeddynt yr organyddion Mr. L. John, ,Conwy, a Mr. Wm. Williams (ieu.), Bangor, 4 wnaethant y gwaith o ysgrifenyddion gyda graen. Yr' arholwyr llafaredig oeddynt Mr. W. Lloyd Jones, Bangor; Mr. R. 'D. Pearse, Portdinorwig; Mr. J. 0. Jones, Penmaenmawr; Mr. W. Lloyd, Llandudno Junction; Mr. R. Prich- ard, Conwy; Mr. (E. O. Parry, Llandudno; eto Ysgrifenedig-i,Miss M. Davies, Llan- dudno; Mr. Jones, Llandudno; Mr. John Davies, Glanwydden; Parch. Wm. Edwards, Conwy; Parch. D. Davies, Llandudno; Miss ailey, B.A., Penmaenmawr; Mr. C. Fisher