Teitl Casgliad: Seren Cymru

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Undeb Bedyddwyr Cymru.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 9 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
7 erthygl ar y dudalen hon
Y Diweddar Syr F F Besley

eisoes wedi rei flaenu ao wedi ei chladdu yng Nghilfowyr. Yr oedd1 ugain milldir o ffordd o Abergwaun i Gilfowyr a deg o blwyfi i'w crocsi, a'r fath oedd tsercli ei gyfeillion tuag ato fel y peuderfynasant ei gario ar eu hysgwyddau yr holl ffordd, ac ni theimlwyd ain anliaii,&dor i wneuthur hyny gan fod g.anddo frodyr ymhob plwyf a deimlai miai anrhydedd a brai ni: oedd gosod eu hysgwyddau dan ei arch er ei chyflwyno i'r [plwyf nesaf o hyd. Yr oedd dyn ar geffyl wedi blaenori or m wyn rhoi rliybudd fod yr oymdaith hrudd a galarus ar ei ffordd. Gwyr mwyaf urddasol Cymru a'i dygasant ief i'w gladdu, ac a wasanaeth- asant ar yr amgylchiad. Traddodwyd pre- gethau angladdol ar ei ol yn rhai cyrddau'r wlad, a'r testyn ddewisid oedd: "Ac Enoc a rodiodd gyda Duw." Angladd debyg mewn Ilawer cjdeiriad gafodd ei ddisgynydd enwog. Cynhaliwyd. gwasanaeth coffad wr- iaethol mawreddog iddo yn Llundain y dydd blaenorol i'r gladdedigaeth pan gymerwyd rhan gan Dr. F. B. Meyer, yr hwn a dystiai i Sir Francis radio gyda Duw. Cyffelybai Carey 'Bonner ef i St. Francis o Assissi. Yr oedd Dr. Cliffordd a llu eraill o arweinwyr Ymneilltuaeth yn bresennol ynghyd a cbynrychiolwyr symudiadau mawrion cymdeithasol a dyngarol y Brif- ddinas. Claddwyd ef Mai ;29, yn ei drel' enedigol. Ni allai'r capel eang Ile'r arferai addoli pan yng Nghaergraig gynnwys ond rhar. fach o'r galarwyr, a dywedir fod miloedd lawer yn yr heol er gweled yr orymdaith ar ei ffordd tua'r gladdfa. Hyderwn y bydd yr ychydig inodiadau Iiylji yn symbyliad i ami un isydd fel Enoc Francis yn hau mewn dagrau ddyblu eu diwydrwycld gan wybod na fydd eu llafur yn ofer yn yr Arglwydd. Ferryside. O. M. PRICHARD.

YR EMPRESS OF IRELANDi

YR "EMPRESS OF IRELANDi" Pery'r rhoddion i ddod i mewn wrth y miloedd i'r pDrysorfa a agorwyd er cynorth- wyo'r dioddefwyr mewn canlyniad i golli'r llong hon. Dengys y disgrifiadau torcal- onnus a To,(Idir or gyflafan arswydus mai math ar lail-adroddiad, a.r raddfa ychydig yn llai o alanas ddifrifol y Titanic tua dwy flynedd yn ol ydoedd. Collwyd dros fil o fywydau giverthfawr, a gwnaed can- noedd: yn amddifaid. Caed engreifftiau pryd- ferth o hunanfeddiant, gwroldeb, ac aberth, yn y trueiniaid a gwrdidodd a'u diwedd mor ddirybudd1, a da. yw gweled yr am- gylchiad prudd yn agor calonnau mewn tos- turi a chydymdeimlad a'r rhai a golledwyd. Datguddia troion chwerw o'r fath fod mwy o gariad ac ysbryd cynorthwyo yn y byd nag a dybir, nes y rhoddir cyfle teg iddo ddangos ei hun. Er clued fu'r cwmwl uwchben Senghenydd yn ddiweddar calonog- wyd llawer ysbryd trist yno gan gydym- deimlad ymarferol gwlad gyfan. Paratoir i wneud ymchwiliad; i achos y ddamwain. Beia'r naill gap ten y llall am a ddigwydd- odd. Diau y g-welir cyn y diwedd y bu peth diofalwcli '0"1' ddeutu. Pe olrheinid yr aohos i'w1 jwraidd diau y oeid mai awydd anniwall am ymgyfoethogi yw gwreiddyn y drwg. Ni jellir aros i'r niwl gilio am y golyga hynny g oiled, ariannol i rywrai. Trethir pob (athrylith er ceisio cynlluniau i groesi'r mor anewn iamser byr, a'r llong gyflymaf a en Iiilla'r iariaii anwyaf i'w pher- chenogion. Y ;canlyniad yw y rhuthir yn feiddgar i ganol peryglon heb ystyried gwerth y bywydau sydd ar y bwrdd.

TOLL YR AWYR

TOLL YR AWYR. Myn y mor ei doll ar y bywydau a anturia ar ei donnau, ac nid oes pdid i wythnos yn pasio na chlywir am yr awyr yn mynnu /ei doll yntau o'r bywydau a feiddiant aflonyddu ar ei fyd tawel. Ychydig ddyddiau'n ol gadawodil Gustav Hamel, yr cnwocaf a'r rowyaf anturiaethus o'r ehedwyr Prydeinig lannan Ffraino gan fedldwl croesi'r siannel i Loegr. Ni welwyd mohono mwy, a rhaid yw icredu'r gwaethaf erbyn hyn, iddo naill ai golli'r ffordd yn y niwl neu i rywbeth ddigwydd i'w beiriant ac iddo syrthio i ddyfrllyd fedd. Teimlid diddor- deb angherddol yn yr ymchwil a wnaed ar y siannel gan infer o longau rhyfel ac mewn ffyrdd feraill, a gobeithid y gellid ei waredu, ond !bu'n a?ha,id rhoi'r yindrech i fyny hel) Iwyddo. Cafodd miloedd oGymrv fod yn dystion o fedr rhyfeddol Ifamel yr haf diweddaf, gan iddo roi anddangosiadaxx ym Mhorthmadog ia Llanwrtyd a lleoedd eraill. Soniai am wneud yingais i oheideg dros y Werydd i'r America, ac yr oedd ei baratoadau at hynny bron wedi eu cwbl- hau, ond y tro hwn bu croesi o Firainc i Loegr yn ormod gorchwyl iddo. Adroddir am ddamwain arall bryiiliawii. ddydd Iau diweddaf, yn agos i Southampton, pryd y oollodd dau swyddog uchel yn y fydd in eu bywydau, trwy i'r llong yr ehedent ynddi syrthio i'r mor. Costus nodedig i'w nieis- troli yw'r gelfyddyd o ehedeg. I baradd- au y'i perffeithir yn y dyfodol ni wyddis, ond chwith yw gweled cynifer o fywydau gwerthfawr yn syrthio'n ebyrth yn y ffordd hon.

CARSON YN PARATOI EI RENGOEDD

CARSON YN PARATOI EI RENGOEDD Gwr a barodd fawr ofid i'r Llywodraeth eisoes yw. Syr Edward Carson, a dichon y llwydda i beri llawer o boen idldi yn y dyfodol agos. Traddododd araith ymfflam- ychol yn Mountain Ash yn ddiweddar, i ddeuddeng mil so bobl, a'r wythnos ddi- weddaf ymwelai a gwahanol adrannau ei fyddin yn Ulster, gan eu cymell i fod yn harod ar gyfer yr amserau adfydus eydd o'u blaen. Y mae iddo ddylanwad anfesur- ol ar filoedd o'i gyd-wladwyr. Ni aniheua neb ei onestrwydd. Cred yn angherddol yn nhegwch ei iachos, acni ellir ei berswadio. na fydd: 'rhoi Ymreolaeth i'r I werddon yn gyfystyr ag erledigaeth greulon ar Brotes- taniaid Ulster. Hysbysir fod ganddo fyddin o dros gan mil o d.an arfau, yn barod i wrthwynebu hyd at waed fwriadau'r Llyw- odraeth gyda gohvg ar Ulster. Ceisia Car- son ddysgu na feiddia'r Prif-weinidog gynghori'r Brenin i arwyddo Mesur Ymre- olaeth, oblegid y golyga hynny ryfel gar- olacth, oblooli,d y go l zn trefol yn Ulster. Hyderir y bydd y Mesur a gyflwynir yn Nhy'r Arglwyddi tua chanol y mis hwn, d gyfnewid rhai adrannau o Fesur Ymreolaeth, yn foddion i liniaru Hid Ulster. Dichon mai cael barn y wlad ar degwch y Mesur hwn fydd un o amcan- ion yr Etholiad Cyffredinol sydd yn ol pob tebyg yn dod arnom ymhen ychydig fisoedd. Fodd bynnag, y mae dau Fesur mawr y Llywodraeth, sef Datgysylltiad i Gymru, ac Ymreolaeth i'r Iwerddon yn ddiogel, er yr of nir y gall gwendid o du'r Llywodraeth beri rhai cyfnewidiadau ieto ym Mesur Dat- gysylltiad, os gwel yr arglwyddi'n clda roi Ail Ddarlleniad iddo gan awgrymu gwelliannau.

MARW ARTHUR MURSELL

MARW ARTHUR MURSELL. Tawodd tafod ihyawdl y gweinidog am- ryddawn uchod, ac efe'n dair a phedwar ugain mlwydd oed. Yn nyddiau ei nerth yr oedd yn eithriadol o boblogaidd fel pre- gethwr a darlithiwr, a dywedir, na fu gweinidog i'r Bedyddwyr erioed, a eliylcli ei gyfeillion mor eang ac amrywiol. Yr oedd yn gyfaill mynwesol i Mr. Spurgeon, Dr. Parker, a Dr. Maclaren. A plian y gweinidogaethai ym Mirmingham ffurfiAvyd cyfeillgarwch rhyngddo a Joseph Chamber- lain, a barhaodd yn wresog i'r diwedd. Pan y dechreuodd ei nerth ballu ychydig flynyddoedd yn ol anodd iddo oedd edrych ar wyr ieuengach nag ief yn dod i fri yn yr eglwysi, ac yng nghylch Undeb y Bedydd- wyr Seisnig. Oofiwn yn dda am dano yn difetha un o gyrddau'r Undeb ym Mryste yn y flwyddyn 1907, lle'r oedd yn un o'r siaradwyr, trwy droi oddiwrth ei bwnc i edliw1 i swyddogion yr Undeb y modd yr anwybyddid ef yn barhaus ganddynt, ac yntau wedi gwneud y fath wasanaeth i'r enAvad. Yr loecid y pryd hynny yn dechreu mynd yn ail faban. Bu adeg yr oedd iei enw mor hysbys yn Lloegr ac America, fel nad oedd eisieu ond cyhoeddi Arthur Mur- sell i ddariithio, na lenwid yr adeiladau eangaf o Avrandawyr. Ym Manchester ø, Birmingham y gwnaeth ei brif Avaith, lle'r arferai draddodi darlithiau i weithAvyr ar brynhaAvn Saboth, ac yr atdynid tyrfaoedd mawr i'w 'Avrando'n gyson.

BETHEL TREFFYNNON

BETHEL, TREFFYNNON. Ffurfiwyd Cymdeithas Lenyddol yn Bethel y gaeaf diweddaf, yn bennaf drwy offeryn- oliaeth y Parch. R. E. Williams, y gwein- idog, a Mr. H. Vaughan Lloyd, Y.H., yn cael eu cynorthAA^yo gan amryw o aelodau gAveithgar yr eghvys. Cynhelid cyfarfod- ydd dyddorol a, defnyddiol hyn bob nos Iau. Y chydig anhawster a gafwyd i lanw y rhaglen. Cafwyd anerchiadau gan y gweinidog, Mr. Lloyd, Mr. W. Lewis, a ,Mr. J. H. Francis, a dadleuon ar faterion, rnegis "DtlJdgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru," a Phleidlais i Ferched," gan Mri. J. Bellis, la J. Francis ar y cyntaf, a Misses Myfanwy Lloyd a Matilda Williams ar yr ail destyn. Cafwyd hefyd am bell i ddosbarth Beiblaidd dan arweiniad niedrUiS y gweinidog. Yn iilii o'r nosAveithiau kl if AM- caeel drama feclian—" Y par ieuanc newydd briodi," gan Miss Matilda Williams a Mr. Alun Jones. O'r cyfarfoclydd hyn yn ymar- ferol y cododd parti Mr. H. V. Lloyd, yr hwn a, fu yn llAAyddiannus i gipio'r wobr flaenaf n-iown eisteddfod lool am ddaganu'r emyn cynulleiclfaol "Trewen." Un o rag- orolion y cyfarfodydd yw Miss Myfanwy Lloyd, L.L.C.M. Y mae'r gymdeithas yn wir falch ohoni, ac yn ymhyfrydu yn ei Hwyddiant. Dirwynwyd y tymor i ben gydag araith benigamp ar Y gwelliant tirol" (Land Reform), gan Mr. Arthur Roberts, Lluesty. Ysgrifennydd y gymdeith as oedd y gwr ieuajic rhadlon Mr. Alun Jones, ac y mae llwyddiant y cyfarfodydd i raddau hela,eth i'w briodoli i'w ymdrech ddiflino. CyfeiliAvyd gan Miss Myfanwy Lloyd. Y trysorydd ydoedd Mr. John Morris, Bagillt St. Disgwylir am i'r cyfar- fodydd (,aeaf nesaf etc, ac ennill nerth.

DIM GORFFWYS AR OL ECZEMA

DIM GORFFWYS AR OL ECZEMA. 3, Linden Terrace, Hill St., Kingswood, Bristol, Lloegr.FlAA-yddyn yn ol y gwelais gyntaf arwyddion o eczema yn y ffurf o glwstwr coch ar fynghoes. Aeth yn eczema ar. fy nghoes gan achosi cosi ofnadwy a ffurfient glystyrau dyfriol newydd yn ddyddiol. Parhai i fyned i fyny yn uwch ar fy nghorff nes y cj-rhaeddodd fy wyneb, gan gau fy llygaid yn holloI. Yr oedd fy nghoes- au a'm breichiau yn chwyddedig iawn hefyd. Yna bu raid imi dalu i rywun am wneud fy ngwaith gan nad oedd gennyf galon na nerth i-Av Avneuthur fy hunan. Nid allwn gael aAvr o orffwysdra na dydd na nos gan y cosi a'r llosgi ofiiadwy yma. Caethiwyd fi yn y ty am lawn chwe mis, ac nid oedd fy wyneb yn gyniAvys i'w weled. Cefais driniaeth am beth amser ond methais a chael rhyddhad. Prynais Sebon ao Eli Cuticura, ac yr wyf yn falch o gael chveud i mi gael rhyddhad uniongyrchol oddiAvrth y cosi a'r llosgi. Parheais i ddef- nyddio y ddjau ac yn awr mae yr eczema Avedi eilio yn Ihyyr." (Arwyddwyd) Mrs. Emily Morgan, Ionawr 21, 1914. Er y gAvierthir Sebon ac Eli Cuticura gan fferyllwyr drwy yr boll fyd anfonir siampl o bob un gyda llyfr 32 tudalen yn rhad drwy'r llythyrdy ond anfon am danynt. Cyfeiriwch lythyr-gerdyn i F. [Newbery and Sons, 27, Charterhouse Sq., London, E.C,