Teitl Casgliad: Seren Cymru

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Undeb Bedyddwyr Cymru.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 10 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
1 erthygl ar y dudalen hon
CYMANFA CAERFYRDDIN A CHEREDIGION

CYMANFA CAERFYRDDIN A CHEREDIGION. Cynhaliwyd y Gymanfa eleni yng Ngharmel, Pontrhydfendigaid, Mehefin 8, 9, a'r 10. Ni arbediodd y gweinidog a'r eglwys draul na thrafferth mewn ymdrech i groesawtu'r oenadon a'r gweinidogion. Y cadeirydd ydoedd y Parch. M. T. Rees, Meinciau, a chyflawnodd ei waith mewn modd deheuig. Cyfarfyddodd rhai o'r pwyllgorau nos Lun, ao orholwyd yr ymgeis- wyr am y weinidogaeth yn Yî prynhawn a'r nos. Cynhadledid1 Boreu Dydd Mawrth. Canwyd emyn, ac yna arweiniwyd mewn gweddi gan D. H. Hughes, Machynlleth. Crybwyllwyd y cyfnewidiadau gweinidog- aethol canlynol: 1.' Symudodd T. Edmunds, B.A., o Alfred Place, Abterystwyth, i Garmel, Aberdar, Cymanfa Seisnig Morganwg a Cahaerfyr- ddin; W. Dyfan Thomas, o Waunclyndaf a Llandyfaen, i Seion, Blaenau Ffestiniog, Cymanfa Dinbych, Fflint a Meirion; B. Williams, o Tabernacl, Llwynhendy, iAb- ernant, Aberdar, Cymanfa Dwyrain Mor- ganwg. Mi 2. Ymsefydlodd D. Bowen (Myfyr Hefin) o Gymanfa Brycheiniog, yn Horeb, Pump Heol, ger Llanelli; W. T. Francis, o Gym- anfa Dwyrain Morganwg, yng Nghalfaria, Llanelli; J. A. Davies, o Gymanfa Penfro, yn Emmanuel, Llanelli. 3. Ymryddhaodd D. James, yn herwydd afiechyd a llesgedd, o ofal Ebenezer, Llan- dilo a Bethel, Pontbrenaraeth, ar ol blyn- yddoedd meithion o lafur diwyd a gonest. 4. Bu farw J. W. Tibbott, Talywern, un o'n gweinidogion cynorthwyol parchusaf. Collodd eglwysi gweiniaid Gogledd Ceredig- ion gynorthwywr ewyllysgar ym marwolaeth y brawid caxuaidd Thomas Ellis, Aberyst- wyth, diaconyn eglwys Moriah, yr hwn gynhaliodd am flynyddoedd achos cenhadol ym mhlith tlodion yn Aberystwyth. Hefyd teimla eglwysi cylch Aberystwyth golled fawr ax ol y brawd ffyddlon John Roberts, diacon yn eglwys Bethel. Derbyniwyd llythyr o Gymanfa Dwyrain Morganwg, ar ol Cymanfa Bethania, Llan- elli, yn tystiolaethu'n uchel am T. Davies, Drefach, fel pregethwr grymus, gweinidog llwyddiannOiS, a brawd parchus, ac yn dv- muno iddo dderbyniad cynnes i'n plith. Derbyniwyd hefyd lythyr oddiwrth Ysgrif- ennydd yr un Gymanfa yn sicrhau fod D. Ap Morgan, Castellnewydd Emlyn, yn wein- idog cynorthwyol rheolaidd yn y Gymanfa hono, ao iddo fyned yn llwyddiannus drwy Arholiad y Gymanfa. Penderfyniadau: 1. Cadarnhawyd cofnodion y Gymanfa ddiweddaf. 2. Fod llythyrau cymanfaol yn cael eu rhoddi i'r gweinidogion symudasant in plith, ar sail llythyrau o'r cymanfaoedd y perthynent iddynt. Darllenwyd llythyr o Gymanfa Brycheiniog yn clatgan colled ar ol D. Bowen (Myfyr Hefin), ac yn dymuno ei lwydldiant yn ei faes newydd. N-i dder- byniwyd llythyrau i'r brodyr eraill gan nad oedd y Cymanfaoedd wedi eu oynnal. 3. Cymeradwywyd Mynegiad y Pwyllgor Dirwestol: (1) Ein boklJ yn lannog yr eglwysi i weithio io blaid Dirwest a'r Gobeithlu- oedd, ac yn llawenhau fod Cymanfaoedd Dirwestol i'r plant yn amlhau. (2). Cym- eradwyir defnyddiad gwin anieddwol ar y Cymundeb', a chymhellir yr eglwysi i gef- nogi llenyddiaeth Ddirwestol yr enwad. (3) Annogir amaethwyr i beidio rhoddi diodydd meddwol yn adeg y cynhauaf ac mewn ar- werthiadau. (4) Ein tbod yn idiolch i Ddir- prwywyr Yswiriant Cenedlaethol Cymru am en cenad wri i Gynhadledd yr Odyddion yn A'berystwyth yn isicrhau na fwtieiclir t ynu'n ol y gwaharddiad i gymdeithasau ddaliant berthynas a'r Yswiriant Cenedlaethol i gyf- arfod mewn tafarndai. (5) Ein hod yn gof- ijdio na wnawid 'trefniant i gael pregeth ar Ddirwest yn y Gymanfa eleni. (6) Dewisir Hugh Jones, Bethel, Llanelli, i 'bregethu ar Ddirwest yn y Gymanfa nesaf. 4. Cyflwynwyd Mynegiad: y Pwyllgor Ar- holiadol gan R. E. Williams, Pembre, yr hwn a gadarnhawyd. Tynnodd aelodau'r pwyllgor allan ofyniadau yng ngwahanol adrannau'r maes, & threfnwyd dau eistedd- iad i'r ymgeiswyr. Aeth G. W. Williams o eglwys Rhydwilym idrwy'r Arholiad yn llwyddiannus, a ch-vmeradwvir ef fel ym- geisydd am dderbyniad i un o'n Colegau. Llwyddodd D. Price o eglwys Tabernacl, Pontyberem, yn rhannol, a ohymeradwyir lef i sylw1 eglwysi cylch cyiarfod ichwarter Rhan Uchaf Sir Gaerfyrddin. Cymeradwywyd awgrymiad y Pwyllgor Arholiadol i drefnu He canolog o hyn allan i gynnal Arholiad', ao fod treulion tren yr ymgeiswyr i'r Arholiad yn cael eu talu gan drysorydd y Gymanfa. 5. Rhoddwyd mynegiad cryno a diddorol ar ran- Pwyllgor yr Ysgolion Siul gan J. Lewis, Y.H., Ammanford. Llongyfarchodd y rhai ennillasant wobrwyon yr Undeb, sef Annie Jones, Penrhyncoch, goreu yn Safon II., ac M. Humphreys, Aberduar, cydradd oreu yn Safon V., Gahvodd hefyd sylw at y Cinema a, bywyd y Plant, a chymhellwyd ef i anfon cynnwys ei sylwad- au pwrpasol ac amserol i "Seren Cymru." Awdurdodwyd y Trysorydd i dalu treulion y pwyllgor. 6. Dangoswyd gwerthfawrogiad o lafur egniol a lielaeth Mr. John Lewis, Ysgol- feistr, Ammanford, tar ran addysg, yr Ysg- olion Sal, Llenyddiaeth Gymreig, Moes a Chrefydd, a llongyf'arohwyd ef yn wresog ar ei iddyrchafiad i'r Fainc Ynadol. 7. Ein fbod yn gofidio'n herwy,dd' y gef- nogaeth a roddir i'r Cinemas gan grefydd- wyr a'u plant, ac oblegyd eu dylanwad di- rywiol ar iein pohl ieuainc; a hefyd fod sylw difrifolaf yr eglwysi yn cael ei alw at y peryglon isydd ynglyn a'r cyfryw i fywyd crefyddol yr ieuenctyd. 8. Cafwyd mynegiad o weithrediadau Pwyllgor Cenhadaeth Gartrcfol y Gymanfa gan yr Ysgrifennydid, Daniel Jones, A.T.S., Llanbedr. Rhoddwyd y cyfrif ariannoI gan y trysorydd, Mr. Thomas Job, Llanelli, gan gryhwyll y symiau dderbyniwyd oddi wrth yr eglwysi, a darilenodd hefyd enwau yr eglwysi oeddynt he'b anfon eu cyfraniad- au. Crybwyllodd iddynt dderbyn £ 600 oddi wrth ewyllys y diweddar Mr. Joseph Thom- as, Hwlffordd; a X40 oddiwrth ewyllys y diweddar Mr. Edward Humphreys, Taly- wern. Terfynodd y Trysorydd ei adroddiad drwy gymhell yr eglwysi i gyfranu'n bry4- Ion at y Genhadiaeth -Gartrefol. Siaradwyd geiriau, parchus gan rai o adna- byddion Mr. Humphreys am ei haelfrydedd, fel gweithiwr enillai gyflog gymharol fechan, at achosion crefyddol yn ystod ei oes, a bod ei drefniant yn ei ewyllys i gyflwyno cyn- nyrch ei gynnildeb at achos y Gwaredwr, sef X40 i'r Genhadaeth Dramor, X40 i'r Gymdeithas Gyfieithiadol, a L40 i Genhad- aeth Gartrefol y Gymanfa, mewn cysond'eb a, holl gwrs ei fywyd. Cymeradwyodd y Gynhadledd weithred- iadau'r Pwyllgor, ac ymddiriedwyd y gwaith o wneud y trefniadau goreu ynglyn a'r arian dderbyniwyd drwy ewyllysiau iddoeth ineb swyddogion ao aelodau'r pwyllgor. 9. Penderfynwyd fod y Pwyllgor Gwleid- yddol ddewiswyd y llynedld, set E. U. Tho- mas, Tabernacl, Caerfyrddin; R. W. Davies, Calfaria, Pontardulais, a Hugh Jones, Beth- el, Llanelli, i ddarparu penderfyniadau ar gyfer y Gynhadledd. 10. Penodwyd Mr. W. Williams, Beth- ania, Llanelli; Mr. W. H. Bellin, tSeion, Llanelli; a Mr. J. E. Jones, Bethania, Aberteifi, at swyddogion eglwys Carmel, Pontrhydfendigaid, i ffurfio'r Pwyllgor Ar- ianol. 11. Cymhellir yr eglwysi i fanteisio ar Sul oyntaf yn Awlst i gydweddio am brof- iad,au helaethaoh o weithrediadau'r Yspryd Glan. 12. Dewiswyd y swyddogion eanlynol:- Cadeirydd, Mr. J. Llewellyn, Bethania, Ah- erteifi; Is-gadeirydd, Dr. Morgan, Carmel, Pontrhydfendigaid; Trysorydd, Arolygydd Samuel Jones, Llanelli. Archwilwyr, Mr. W. P. Rees, Seion, Llanelli, ía Mr. W. H. Owen, Bethel, Llanelli. 13. Gwrthdystiad yn erbyn ymddygiadau cynrychiolwyr Llywodraeth Portugal at y Cenhadwr J. S. Bowskill, a'i gydlafurwyr yn San Salvador, Congo. 14. Siaradwyd yn effeithiol gan y Parch. Leonard Tucker, M.A., ar ran yr Adran Feddygol perthynol i'r Genhadaeth Dramor. Bu'n cydlafurio a'r diweddar genadwr enwog W. R. James, a chyfeiriodd yn barchus at ei ymgyflwyniald hollol i'w waith fel oenadwr'. Sonioddam fbwysigrwydd gwaith yr Adran Feddygol, ac am y galwad sydd am ych- waneg o feddygon. Diolchwyd iddo am ei anerchiad1, a chym- eradwywyd yr adran hon ynglyn a'r gwaith cenhadol i ystyriaeth yr eglwysi. 15. Traddododd y Cadeirydd anerchiad grymuis, amiserol, ac ymarferol ar Grefydd a'r Cartref." Apeliai ateinteimladau tyn- eraf, a gorfodai ni i sylweddoli y dylai creiydd gael aanlygrwydd mwy yn ein car- trefi. Siaradodd yr Is-gadeirydd, Mr. J. Llewelyn, Aberteifi, a Dr. Morgan, Pont- rhydygroes yn uchel iawn am yr anerchiad. Diolchwyd yn wresog i'r Cadeirydd, M. T. Rees, gweinidog parchus y Meinciau, am ei genadwri bwysig, a chymeradwywyd y cyfryw fel llythyr at yr eglwysi. 16. Penderfynwyd fod Y,30 yn icael eu rho- ddi i eglwys Carmel, Pontrhydfendigaid, i gyfarfod a'r draul o gynnal y Gymanfa. 17. Penderfyniadau ynglyn a Phynciau Cyhoeddus.- (1). Ein (bod yn diolch i'r Llywodraeth am yr ymdrech i foddhau dyheadau'r genedl Gymreig yn ngyiad penderfynol a llwydd- iannus Mesur Datgysylltiad drwy Dy'r Cyff redin gyda mwyafrif o 77, ac yn hyderu na wneit. cyfaddlawd gyda Ty'r Arglwyddi drwy unrhyw ganiatad pellach. (2). Eift hod: ynamlygu ein siomiant mawr fod y Llywodraeth, yn herwydd dir- wasgiad y gwaith gyda'r Mesurau pwysig o Hunan-lywodraeth i'r Iwerddon, Datgys- ylltiad yr Eglwys yng Nghymru, a'r Bleid- lais Luosog, yn analluog i ddwyn Mesur Addysg drwy Dy'r Cyffrodin, a'n bod yn mawr hyderu Ylbydd M "Mesur Addysg sypd yn awr yn oael ei ddarparu tmor drwyaidl fel ag i ddwyn oddiamgylch un gyfundrefn addysg01 fydd yn foddhaol i Anghydffurfwyr y wlad. (3). Ein food yn teimlo'n ddwys yn her- wydd gwrthwynebiad yr Odyddion mewn Cynhadledd yn Aberystwyth, i idrefniaJdau Dirprwywyr yr Yswiriant Cenedlaethol yng Nghymru yn gwahardd i gymdieithasau gyf- arfod mewn (tafarndai, a'n biod yn axgy- hoeddedig y llywodraethir y Dirprwywyr gan y cymhellion puraf i sicrhau daioni yr aelodau ac i ddiogelu ieuenctyd Cymru rhag y temtasiynau (a'r difrod sydd ynglyn a'r diodydd meddwol, aoapeliwn yn y modd taeraf a difrifolaf at y cymdeithasau drwy'r Dywysogaeth i gydweithredu yn ol y gwa- harddiad er eicrha.u'r amcan daionus mewn golwg. Mewn achos o bar had y gwrth- wynebiad i'r gwaharddiad hwn teimlwn rwymedigaeth foesol i gynghori ein pobl ieuainc i ymuno ia'r cymdeithasau hynny sydd yn rhydd' o effeithiau peryglus tai trwyddedol. (4). Ein 'bod yn siomedig iawn yn herwydd y methiant i sicrhau Ail Ddarllen- iad yn Nhy'r Cyffredin i Fesur Cau Taf- arndai ar y Siul drwy ablsenoldeb aelodau Rhyddfrydig o'r Ty, a'n hod1 yn cymhell y Llywodraeth i gyflawni ei haddewidion rlrwy gyflwyno Mesur Trwyddedol 1908 eto y cyfleustra cyntaf posibl. Terfynwyd Cyn- hadledd y horeu Idrwy weddi gan James Davies, Salem, Llandyhie. Cynhadledd Prynhawsn Dydd Mawrth. Wedi canu emyn arweiniwyd mewn g-weddi gan J. E. Thomas, Caio. 18. Ainlygwyd cydymdeimlad dwfn a T. Williams, B.A., Aberystwyth, yn eibrofed-