Teitl Casgliad: Seren Cymru

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Undeb Bedyddwyr Cymru.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 7 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
5 erthygl ar y dudalen hon
Y Cynllun Gweinidogaethol a r Eglwysi Gweinion

ystyrid ef yn lie sanctaidd, a'r neb a ddygai ddarn o hoiuo ymaith yn gysegr-ysbeiliwr. Yr ydych wedi rnynod o'm blaen, ys dywed- odd yr hen bregethwr. Yspeiliwyd yr" eg- Iwyisi gweinion gan wiahanot amgylchiadau; ond pan ddel "Land Bill" Mr. Lloyd George yn ddeddf, fe ddaw y bobl yn ol o'r trefydd i'r wlad; a phan y sefydlir gwein- idogaeth gy,son yn yr eglwysi gweinion, ac y codir y groes uwchlaw pob peth, fe lenwir y capeli a phobl awyddus am fywyd. Y bychan a fydd yn fil a'r gwael yn genedl gref." Yn lie drain y cyfyd ffynidwydd, ac yn lie mieri y cyfyd myrtwydd, a hyn fydd i'r Arglwydd yn enw ac yn arwydd tragywyddol, yr hwn ni thorrir ymaith." Dywedodd Esgob Llanelwy dro yn ol fod yr egwyddor wirfoddol yn fethiant yng Nghymni. Dywedaf finau, nad yw. Yr eg- wyddor orfodol sydd yn fethiant. Tra bo awel yn casanu bryniau a mynyddoedd Gwyllt Gwalia, fe ofala caredigion yr lesu am oreuro arch ei Gyfamod.

ADRAN CWM RHYMNI

ADRAN CWM RHYMNI. Cynhaliwyd Cynhadledd yn Hanbury Rd., Bargoed, dydd Mawrth, Mehefin '23ain, am 5.30 o'r gloch. Cyfarfu y brodyr a'r chwi- orydd mewn cynhadleddau ar wahan. Daeth cynrychiolwyr eglwysi Cymreig a Seisnig Yllghyd yn gryno iawn. Llywyddwyd gan Mr. Walter Lewis, Gilfach, a chan Mrs. Hopkin Morgan, Pontypridd, chwaer sydd wedi dangos ei chydymdeimlad a'r mudiad liwn yn dra anrhydleddus. Yr oedd yn bresenol heblaw gweinidogion a chynrych- iolwyr eglwysi yr axlran, Mrs. Edwarlds, Prifathraw W. Edwards, D.D., a'r Parch. Charles Davies, Gaerdydd, a'r Parch. E. T. Jones, Llanelli. Dechreuwyd trwy weddi gan y Parch. T. E. Williams, Jerusalem, Rhymni. Yna pasiwyd a ganlyn: 1. "Fod y rhai a ganlyn yn cyfansoddi pwyllgor eglwysi Adran Cwm Rhymni i amcanion Cronfa'r Eglwysi Bychain-gwein- idog, a dau frawd a dwy chwaer o bob eg- I wys; cynrychiolwyr y:r eglwysi ar Bwyllgor cytlrediuol Adran Gaerdydd a Rhymni, cyn- rychiolwyr Adran Rhymni ar bwyllgorau Cymanfaoedd Mynwy a Dwyrain Morgan- wg; iswyddogion y Pwyllgor Cyffredinol ticho,d-Cadeiryd,d, yr Henadur N. Phillips, U.H., Mr. Howell Griffiths, Caerdydd; Trysorydd, Mr. W. T. Phillips, Caerdydd, a'r Parch. J. Roberts, Abertysswg, ysgrif- enyddion, ynghyid a'r Prifathraw W. Ed- wards, Parch. Charles Davies, Proffcswr J. M. Davies, M.A., a Mr. Evan Owen, Caer- dydd. 2. Fod pob eglwys i ddew'is ysgrifenydd a thrysorydd i bwrpas y Gronfa yn yr eg- lwys; ac fod ysgrifennydd yr Adran i ohebu a'r holl eglwysi yn gofyn iddynt wneuthux y dewisiad, a danfon yr enwau a'r cyfeir- iadau iddo. 3. Fod1 yr adran yn cael ei rhanu yn gylchoedd bychain i'r amcan o ymweled a phob eglwys ar yr adeg fwyaf cyfleus ar y Sabboth gan weinidog a lleygwyr, er eg- luro y cynllun a chasglu addewidion. Y cylchoedd:-(l) Hengoed, Llanbradach, Pen- gam (C.), Pengam (S.), Cwmfelinfach. (2) Gilfach, Gelligaer, Noddfa, Bargoed, Hanbury Rd., Bargoed. (3) Caersalem, a Moriah, Aberbargoed, C wmsyfiog, Brithdir. (4) Tabernacl, Deri, Deri (S.), Bedlinog, Fochriw. (5) Carmel, a Saron, New Tredegar, Pont- lottyn, Abertysswg, Troedrhiwfuwch. (6) Jerusalem, Beulah, Penuel, Rhymni, Ac fed y brodyr a ganlyn yn iTurlio pwyll- gor i drefnu yr ymweliadau a'r eglwysi: Parchii. D. Ll. Morris, Pengam; G. Bowen, Bargoed; M. Lewis, Cwmsyfiog; W. Moaton Bedlinog; R. G. Hughes, PontLottyn; T. E. Williams, Rhymni; Meistri. T. Llewelyn, Hengoed; Walter Lewis, Gilfach; T. B. Fisher, Aberbargoed; W. H. Rees, New Tredegar; T. R. Savage, Rhymni; Sergeant Williams, Fochriw; y Gadeirydd, Hen. N. Phillips, New Tredegar, a'r Ysgrifenydld, J. Roberts, Abertysswg. 4. Gwahoddwyd y Prifathraw i apelio am addewidion ac i'w darllen, a gwnaeth y gwaith yn ei ffordd fedrus ei hun; a chan- fyddwyd fod y swan o £312 19s. wedi eu haddaw yn y GynhaJdledd. Terfynwyd trwy weddi gan y Parch. Charles Davies. Y n yr hwyr am sartn o r gio-cia cyniiaiiwyci y cyfarfod cyhoeddus. Cymerwyd y gadair gan yr Hen. N. Phillips, gwr sydd wedi dangos ei gydymdeimlad a'r mudiad eisoes, ag sydd yn angelclidol awyddus i weled y mudiad hwn yn llwyddiant, ac yn barod i wneud pobpeth sydd yn ei allu i sicr hau hyny. Cafwyd areithiau penigamp gan y Parch. Charles Davies, Mrs. Edwards, Parch. E. T. Jones, Llanelli, a'r Prifathraw Dr. Ed- wards. Yr oedd oynulliaid lluosog wedi dyfod ynghyd, a phawb yn ymddangos with eu bodJd; ac eglwysi Cwm Rhymni yn par- hau yn ffyddlon i'r enwad, sydd wedi gwas- anaethu preswylwyr y owm hwn am ganrif- oedld. Cyhoeddwyd ar y diwedd fod yswm anrhydeddusar y cais cyntaf yn yr adran o X478 wedi ei adJdaw. Ardderchog i ddech- reu, ystyriwn hi yn ernes y gwna holl eg- lwysi Cwm Rhymni eu rhan yn odidog yn y mudiad hwn; ac erbyn y bydid yn Gronfa o £ 50,000 wedi ei gasglu, hyderir y bydid rhan Cwm Rhymni yn X2,500 o leiaf. Dylaswn nodi fod Cynhadledd y chwiorydd wiedi bod yn llwyddiant, fod cynrychiolaetli bron o'r holl eglwysi yn bresenol. Dewiswyd swyddogion adran y merched: Mrs. W. H. Rees, Bryn Awel, New Tredegar, yn ysgrifenyddes. Gwnawd trefniadau i'r merched ymweled a'r eglwysi a theimlid na fyddai y chwiorydd yn ol o wneud eu rhan. Abertysswg. J. ROBERTS.

BETHEL ABERYSTWYTH

BETHEL, ABERYSTWYTH. Gwyr pawb ynghylch Cymanfa Caerfyxdd- in ac Aberteifi y mawr zel ddygir gan y Prifathraw Roberts, M.A., Ll.D., dros y drysorfa uchod. I'w ddoethineb a'i ddyfal- wch ef yn rhannol yr ydym yn ddyledus, fel enwad, am gardod y Saeson i'r Gronfa. Pleidiodd y Prifathraw y Cynllun pan nad oedd gobaith cadarll am iddo lwyddo. Farha i'w bleidio. Diau i'w blaid fod o- fantais fawr i fywyd y cynllun. Nid mewn geiriau yn unig y oeir ei gymhorth. Siarada a llafuria drosto; a sicr ydym mai teilwng iawn fydd yr aberth er ei fwyn. Priodol iawn oedd gweled y Prifathraw yn annerch Cynhadledd ein Cymanfa yn Pontrhydfen- aid; ond cyn hyn, cafodd deadelloedd bych- ain, megys Penrhyncoch, a Thalybont, a Moriah, ger Aberystwyth, glywed ei lef o blaid y mudiad. Nos Sabboth diweddaf breintiwyd ni yn Bethel ag anerchiad ar- uchel ar "Werth y Weinidogaeth a'n dyled i aberthu drosti," yng ngoleuni yr Epistol at y Thessaloniaid." Os cyfarwyddir Bed- yddwyr Cymrii i ystyried yr ymdrech yn y goleuni osodir arni gan y Prifathraw, y mae yn sicx gennym y bydd i ni yn hwylus gyrhaedd ein nod, a dwyn ein gwaith i fuddugoliajeth.

CYNLLUN GWEINIDOGAETHOL UNDEB BEDYDDWYR CYMRU

CYNLLUN GWEINIDOGAETHOL UNDEB BEDYDDWYR CYMRU. Cynhaliwyd cyfarfod yng Nghapel Everton Village, Lerpwl, ynglyn a'r uchocll, nos Lun, Mehefin 29. Cadeirydd y cyfarfod oodd Owen Owens, Ysw., diacon parchus yn eg- lwys Everton Village, a brawd a hoffir gan bawb a'i hedwyn. Gweddiwyd am fendith Duw ar y cyfarfod, ac ar y mudiad gan y Parehedig P. Williams (Pedr Hir). Yna cafwyd anerchiad gan y Cadeirydd. Ar ol galw sylw at y ffaith mai'r 'means to an end" oedd yr ymdrech i gasglu cronfa o X50,000 pwysleisiodd yr angen am weinid- ogaeth i'r eglwysi gweiniaid, er mwyn y plant, yn ogystal a'r oedolion. Hawdl oedd deall fod ein brawd mewn cydymdeimlad llwyr a'r mudiad. Hyderwn y gwel ein brawd ei ffordd yn glir i fyned'a'i genadwri at eglwysi Lerpwl a'r cylch. Yna cafwyd araith lawn brwdfrydedd gan y Parchedig W. A. Williams, Pontypridd. Profiad pawb oedd, fod Mr. Williams wedi dangos yn glir, rheidrwydd yr enwad i wneuthur symudiad, er diogelu eglwysi gwei- niaid Bedyddwyr Cymru. Y miae ein brawd a'i galon yn y gwaith; a'n gweddi yw, am i'r Arglwydd fendithio ei lafur a'i ymdrech. Diolchwyd i'r Cadeirydd a Mr. Williams gan y Parch. D. Powell, ac ysgrifenydd y Pwyllgor Lleol, a therfynwyd y cyfarfod trwy fawl a gweddi. Y mae Undeb Lleol Lerpwl a'r Cylch yn gwybod trwy brofiad, yr angen am weinid- ogaeth i'r eglwysi gwan, ac y mae wedi gwneuthur llawer eisoes, yn y cyfeiriad o estyn cymorth i'r cyfryw. Credwn y gwna yr eglwysi eu goreu eto o blaid y mudiad hwn. Y mae yma Bwyllgor wedi ei ffurfio, a chredwn fod cynrychiolwyr yr eglwysi ar y Pwyllgor yn awyddus am lwyddiant y mudiad Cristionogol hwn. MYLES GRIFFITHS, Ysg. o

NODION 0 FIRMINGHAM1

NODION 0 FIRMINGHAM. .1 Gan Owain Tudur. Cyrddan Mawr John Bright Street. Wole Hernias' yn ei urddas fu tyst- iolaeth y llu d.iaoth i wrando y Parch. Hermas Evans, Manselton, Abertawe, yn yr wyl flynyjdJdpl a gynhaliwyd yn John Bright Street, nos Saldwrn ac hefyd y Sul, Meh. 20 a'r 21. Yr oedd y cynulliadau yn luosog. a mynd' ar y canu a'r pregethu. Traeth- ai'r pregethwr poblogaidd yn hyglyw a chydag arddeliad mawr, ac yn wirioneddol gellid dywedyd "mai da oedd bod yno.' Brynhawn Sul gwasanaethwyd gan y Parch. W. Williams, Heneage Street. Er ei fod yn bugeilio gyda'r Saeson ers cymaint 0, flyn- yddoedd, nid yw Mr. Williams wedi gollwng ei afael yn iaith y wlad a'i magodd; a phan yn tallu cipdrem yn ol dros ysgwyidd amser, gan ystyried y gwaith mawr y mae wedi, ac yn ei wneuthur yn y ddinas fawr hon, y mae yn gosod urddas ar Gymru am y brwidfrydedd a'r yni difefl a deifl i'w waith. Nid rhyfedd fod yr Arglwydd yn coroni ymdrechion gweinidogion o'r iawn ryw fel y cyfryw. Llwydd i'w ymdrechion eto yw ein dymuniad. Y mae Hermas' a Mr. Williams yn hen gyfeiUion, ac nid syn fod y ddau wedi gwneuthur morardderchog yn y cyrddau, am eu bod yn weithwyr yn yr un winllan, yn gweithio dros yr un Gwaredwr, ac yn gydwladwyr gonest a thrwyadl, a sel oyd wy bodolrwydidar eu holl weithredoedd. Motto aelodau John Bright Street ydyw: Mewn undeb y mae neittli," ac i'r perwyl hynny y mae pob un yn ymdrechu er llu- osogi nifer yr aelodau, ac ar yr un prydj ddyfnhau ysbrydolrwydd yr achos yn ylle. Y mae canu'r gymxlleidfa yn enwog drwy'r ddinas, o dan arweiniad Mr. Morgan Jones. Cariad brawdol ydyw'r uchaf ddelfryd a werthfawrogir g,an y naill tuag at y llall yma, a thra y parhao y cyfryw, y mae yn rhaid i'r achos lwyddo. Pan ymwel di- eithriaid a'r lie, y mae croeso calon yn cael ei estyn er mwyn eu gwneuthur yn berffaith gartrefol. Y mae Chief Supt. Morgan yn parhau yn ei ddiwydrwydd i wneuthur gwaith mawir dros yr achos yn y lie, ac y mae ei wyneb siriol a'i ymdrechion diffuant yn enyn brwdfiydedd yn yr aelodau eraill i wneuthur eu rhan meWll inodcl der- by niol iawn. Gwenai Duw ar yr achos, fel ag iddo fdd yn allu yn y ddinas, yn y, dyfodol fel yn y, gorffennol.