Teitl Casgliad: Seren Cymru

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Undeb Bedyddwyr Cymru.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 3 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
2 erthygl ar y dudalen hon
Pulpud y Seren

Pulpud y Seren. XIV. GAN Y PARCH. ISAAC JAMES, RUTHIN IESU'N GALW A DYN YN ATEB. Ac wedi myned rhagddo oddiyno, efe a welodid ddau frodyr ereill, Iago fab Zebedeus ac loan ei frawd, mewn Hong gyda Zebedeus eu tad, yn cyweirio eu rhwydau ac a'u galwodd hwy," &e. Mat. iv. 21, 22. "Ac wedi myned rhagddo oiddix).o" o'r fan lie y gwelsai yr lesu Pedr ac An- dreas, ac y galwai efe hwy. Myned rhag- ddo y byddai efe yn wastad. Cymharai Robert Hall ryw un i ddrws ar ei golyn. Nid oedd byth yn symud yn mlaen. Mae llawer fel gwraig Lot yn edrych yn ol tua- Sodom yn barhaus, ac Israel wedi hynny i'r Aipht. Myned rhagddo yr oedd lesu o hyd —fel yr haul. yr hwn sydd fel gwr priod yn dyfod allan o'i ystafell ac yn ymlawenhau fel cawr i ehedeg gyrfa. Wedi cael dau teimlai reidrwydd arno i fyned rhagddo i geisio eraill. "Rhaid i mi weithio," &e. "Yr hwn a gerddodd o amgylch gan wneu- thur daioni." Symudiad ymlaen (forward movement) oedd hi gydag ef 0< hyd. Efelyeh- wn ef yn hyn. "Yr hwn sydd yn dywedyd ei fod yn aros ynddo ef .a dylai yntau rodio megys ag y rhodiodd Efe." I.—Iesu'n galw: "Ac a'u galwodcl hwy." Yn gialw dynion. Nid angylion. Mwy na'r amyn un pum ugain nid aethant hwy erioed ar ddisberod. Cadwasant eu dechreuad; trigasant yn y porfeydd gwelltog a cherllaw y dyfroedd tawel; ond aeth dynion o'u lie ac yn grwydriaid yn foreu. Nyni oil. a grwydrasorn fel defaid, troisom bawb i'w ifordd ei hun." Bendigedig fyddo Duw, ym- ddiangosodd ei ddaioni a'i gariad tuag at ddyn mewn pryd. Daeth ei uniganedig i'r ddaear i geisio a chad w yr hyn a gollasid. "Arnooh oh wi wyr yr wyf fi yn galw ac at feibion dynion y mae fy llais." Y11 galw pob gradd a doebarth o ddynion; dosbarth y tlawd, yr anllythrenog, yr anwybodus, yr anwaraidd, y truenus. Mae lesu yn galw dynion y dosbarth hwn. Yr oedd y cenhad on i ddiweyd wrth loan yn y carchar fod y tlodion yn cael pregethu yr efengyl iddynt. Idawer o son sydd y dyddiau hyn am y Slums. Wel, y mae lesu yn galw dynion y Slums. Y rhai hyn mae efe yn alw gyntaf. Galilea y Geiihedloedd oedd Slums Palestina yn marn y Phariseaid, a chyfreithwyr, a doctoriaid, a phenaethiaid aristocrataidd Jerusalem a Judea. Tybient hwy nad oedd dim dia yng Ngalilea y Cenhedloedd. Yno y mae lesu yn dechreu ar ei waith yn Galilea. A phan glybu yr lesu draddodi loan, efea aeth i Galilea. A chan adaw Nazareth, efe a aeth ac arhosodd1 yn Caper- naum, yr hon sydd wrth y mor, y'nghyffin- iau Zabulou a Nephthali; fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy Esaias y proff- wyd, gan ddywedyd, tir Zabulon a thir Nap- thali, ffordd y mor, tuhwnt i'r Iorddonen, Galilea y Cenhedloedd: y bobl oedd yn eis- tedd mewn tywyllwch a welodd oleiini maWT; ac i'r rhai a oisteddant ym mro a chysgod angau y cyfododd goleuni." Y ty- wyllwch a bro cysged angau yn golygu y trueni dyfnaf a'r goleuni yn golygu y daioni niwyaf, a lesu oedd y daioni hwnnw. "O'r pryd hwnnw a'r lie hwnw y dechreuodd yr lesu bregethu, a dywedyd, Edifarhewch, canys nesaodd teyrnas nefoedd." Cychwyn- odd. yn y Slum. Yno yr oedd ei benllys (head-quarters). Yno y cyJIawnodd y rhan fwyaf o'i weithredoedd nerthol. Yr oedd yn galw y bobl a warthnodid a'r enwau Pub- licanod a'r pechaduriaid, yn eu derbyn ac yn bwyta gyda hwy. "Y mae hwn yn der- byn pechaduriaid." Capernaum ac nid Je- rusalem a elwid ei ddinas ei hun. Ai lesu at bobl y Slums ac nid aros i'r bobl ddod ato Ef. Yr un yw Efe o hyd, a'r hyn a ddywed wrth ei bobl yw, ewch i'r holl fyd a phregethwoh i bob creadur. Ddaw pobl y slums ddim atocli ohwi. Mae eich capelydd yn rhy ardderchog, yr eisteddleoedd yn cost- io gormod, eich gwisgoedd yn rhy wych i bobl y slums ddiod atoch. Ewch chwi atynt hwy os ydych yn earu eu heneidiau ac yn ewyllysio eu hennill i Grist. Yr oedd y tad- au Anghydffurfiol ac Ymneillduol yn myned atynt ac yn adeiladu addoldai yn eu canol, ac tyn eu cruellyn llawn. Aeth General .Booth allan i'r prif ffyrdid ar caeau a'r slums ac ym mhen hanner can mlynedd yr oedd wedi cynhyrfu y byd a'r gwledydd. Mae yr lesu yn galw dynion fel un a hawl ac awdurdod ganddo. Ac a'u gal- wodd hwy." Yr oedd y bechgyn yn brysur yng ngwiasanaeth eu tad; yr oedd gan eu tad hawl arnynt; ond yr oedd gan lesu hawl uwch arnynt; yna nid yw yn ymgyng- ori ag ef, nac yn gofyn ei ganiatad i gymer- yd ei feibion. Nid yw yn gofyn i Iago a ddelent ar ei ol Ef nac yn cynnyg telerau iddynt, ond eugalw. Yr oedd yr hawl yn rhoddi awdurdoid. Teimlodd y bechgyn aw- durdod a nerth yr alwad ar unwaith. Ni fedrent fyned ymlaen gyda'u gwaith. Goll- yngasant y rhwydau fel pe wedi cael tar- awiad. Ddarllenydd hoff, mae lesu yn para i ialw dynion; mae yn dy alw di; mae gan- ddo hawl i dy alw, ac nid oes gennyt ti hawl i wrthod. Mae lesu yn galw dynion i'w defnyddio. 'G Nid yw yn galw neb i fod yn segur. wae y rhai esmwyth arnynt yn Seion.' -rhai diog, diwaith, diffrwyth, anfuddiol. Mae rhai yn yr eglwys nad ydynt yn cael eu defnyddio; nid oes modd eu defnyddio. Maent yn debyg i arf nad oes min arno am nad yw o'r defnydd iawn. Mae lesu yn galw pawb gyda'r bwriad i wneyd rhywbeth o li,oiiyiit-,eu ,gwiieyd yn bysgodwyr dyn- ion. Mae Crist yn eioh galw i ogoniant, ond i'ch defnyddio yn gyntaf. Anrhydedd i un yw cael ei ddefnyddio gan yr Arglwydd lesu—anrhydedd mwy na chael ei ddefnyddio gan frenin neu AmeraAvd wr mwyaf y ddaear. Yr oedd Ann Griffiths yn teimlo hyn pan gan odd yr emyn anfarwol,- "Gwna fi fel pren planedig, 0 fy Nuw, Yn ir ar Ian afonydd dyfroedd byw; Ei wiriaidd ar led, a'i ddail heb wywo mwy, Yn ffrwytlio dan gawodydd niarwol glwy' A mi aoh gwnaf," &c. (Adn. 19). Ddarllenydd hawddgar, gwedlclia ar lesu i ddefnyddio ei bobl i gasglu dynion ato ei hun, eu bendithio a'u gwneyd yn fendithioai tragywyddol. II.-Dyn yn ateb: Hwythau yn ebrwydd gan adael y Hong a'u tad: a'u canlynasant of." 1. Giadawsant bob peth-y lloug a'r rhwy- dau. Dyna eu pob peth hwy. Y Hong a'i rhwydau oedd yntalti y rhent a r trethi, yn hilio y bwlrdcl a bara ac a physgod aca phob peth arall angenrheidiol, an yn eu dilladu. O'r llong a'r rhwydaLl yr oedd eu bywoliaeth. Ar ol. gadael y rhai hyn nid oedd ganddynt ddim i wneyd na dim cyflog i'w ddysgwyl fel yr ymddangosai. Sut i fyw ar ol gadael pob peth? Yr oedd yr al- wedigaeth yn un gyfreithlon; ac yr oedd -h_ hyn yn gwneyd ei gadael yn fwy anhawdd fyth. Yr oedd rhagfarn gref yn erbyn gal- wedigaeth Matthew wrth y dollfa, a gall ei fod ef ei hun yn petruso gyda golwg ar ei chyfreithlondeb, ac yna ei gadael yn hawdd- ach. Gadawodd IagiOi ac loan bob peth yn unig am fod lesu yn gorchymyn. Dvnaein dyledswydd ninau. Beth by nag, mae efe yn ei dldjweyd gwnawn pa un bynag a ydym yn gweled y priodoldeb ai nad ydym. 2.—Rhoddasant eu hunain yn llwyr i'r lesu: "Ac a'i canlynasant ef." Hyn yn fwy peth na gadael y llong a'r rhwydau. Y peth mwyaf sydd igan ddyn yw eihunan. Mae y pendefig yn fwy na'i ystad; yn fwy na'i orsedd a'i goiron. Rhoddi ei hun yw y peth anhawddaf iddo rhoiddi ei hun i arall i wiieyd fel y myn ag ef a'i anfon i'r lie a fyn ac i wneyd y gwaitli a fyn. Hawddach iddo yw rhoddi yr oil a fedd na rhoddi ei hunan. Nid wyf fi, meddai un ferch ieu- angc ag oedd wedi proffesu'r lesu, wedi rhoddi fy hun iddo, ac nid wyf yn bwriadu gwneyd. Pe rhoddwn fy hun iddo pwy wyr beth wnai o honof. Gall mae fy anion i India neu China wnai. Mae Iago ac loan wedi rhoddi eu hunain yn hollol i'r lesu i'w ganlyn lie bynag y gwnai eu harwain ac i wneyd yr hyn a fynai. Hyn yw dyled- swydd a braint pob dyn. 3.—Rhoddasant eu hunain i ganlyn yr lesu ar unwaith. "Hwythau yn ebrwydd," &e. Yn y fan heb ymgynghori a chig a gwaed. Gadawsant y rhwydau ar banner eu cyweirio. Addawa llawer ganlyn Crist yn eu hamser eu hunain; ar ol iddynt wneyd y peth hwn neu arall. Arglwydd, gad i mi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad,' meddai un. Medd un arall, "Gad i mi yn gyntaf ganu yn iach i'r rhai sydd yn fy nhy." Dywed Awstin y byddai eIe pan dan (argraffiadau dwysion ac efe yn fachgen yn gweddio, Arglwydd, aohub fi ond nid. yn awr. Yr oedd arno eisiau mwynhau pleserau icnawdol yn gyntaf. Cafodd fyw i ofldio yr oediadau. Ufuddhaodd Iago a loan yn y fan, ar unwaith, yn ebrwydd'. Cydnabydda y synhwyrol mai y diiyled- swydd bwysioaf sydd yn hawlio yr ystyr- iaeth gyntaf. Ufudd-dod i alwad yr lesu yw ein dyledswydd bwysioaf ni a'n braint uchaf. Mae parodrwydd a phrydlondeb yn uc h a f- Mae pai,ocl i-Ni y dyblu gwerth yr ufudd-dod. Ufudd-dod pa- rod i'r Ceidwad fel gair yn ei amser. 0 mor dda yw"! Ddarllenydd ieuanc, oofia fod ufuddJdod paro'd yn hawddach nag' uf- udd-dod ar ol hir oedi, am hynny, tyr'd at lesu yn iaivr ac yn yspryd y liinellau hyfryd- "Mi glywiaf Iesu'th lais, Yn galw arnaf fi, I'm golehi yn dy werthfawr waed A "gaed iar Galfari. Dyfod Arglwydd 'rAvyf, Dyfod atat Ti; Golch n'n burlaii yn dy waed, A gaed ar Galfari." o

No title

Horeb, Skewen.- -Sul, Meh. 7, caws am yr hyfrydwch o weled a chlywed yr Hybarch J. E. Griffiths, Birchgrove, yn pregethu yn ei hen bulpud yn Horeb. Yr oedd dda gan bawb ei glywed yn traddodi yr hen hanes mor felodaidd ag erioed. Caffed hwyrddydd tawel cyn noswylio1. Cyfarfod Hanner Blyn- yddol.S,ul a Llun, Mehefiu 21 a'r 22, caw- som y pleser eithriadol 00 glywed Ynad Heddwch yn traddodi oenad wri Tywysog Tangnefedd, sef y Parch. John Williams, Aherteifi. Cafwyd cyrddau bendithlawn.