Teitl Casgliad: Seren Cymru

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Undeb Bedyddwyr Cymru.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 8 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

INDIVIDUAL Communion Cups. Wr. for List of Patent Ideal" Outfits and Samples on appro., to the Makers,— TQWNSHENDS LTD., BIRMINGHAM. WYNFRVN SCHOOL, Ammanford (Established 1880) Headmaster—J. GWILI JENKINS, M.A. For terms and prospectus, and list of Successes, apply HEAD-MASTER. School Year commences Sept. 15, 1914. You should secure all your Benefits through WELSH RURAL WORKERS FRIENDLY SOCIETY. (CYMDEITHAS CYFEILLGAR GWEITH- WYR GWLEDIG CYMRU.) Registered 17, Quay Street, Cardiff AN "APPROVED SOCIETY" with several Branches, formed so that those compulsorily in- surable persons (both male and female) who now live in the country districts of Wales, including Monmouthshire, and are engaged in Agricultural and other Rural occupations (including Domestic Service in country districts) should not be grouped with employees following more hazard- ous work, but should become members of this Society. ALL AGRICULTURAL AND OTHER RURAL WORKERS, including DOMESTICS, are advised in their own interests to join this Society so as to secure for themselves by combination the advantages of their healthier occupations, and Employers are urged to co-operate with that object. PROMPT PAYMENTS. NO DELAYS. Letters answered in Welsh or English. No Rural District should be without a Branch. Forms of Application to be registered as Members may be obtained from, THE SECRETARY, Welsh Rural Workers' Friend- ly Societ, 17, QUAY STREET, CARDIFF. Yn awr yn barod Y DEYRNAS A'R AIL DDYFODIAD, gan y PARCH. R. S ROGERS, B.A., Mountain Ash. Pris Siwilt" (oddiwrth yr Awdwr) "Ymdxiniaeth ia dyn sylw meddwl diw- inyddol Cymru. "-GwiLi. D. VERNON DAVIES, Organydd a Chfirfeistr Soar, LLwynhendy. Arweinydd. Beirniad. Organydd. LLWYNHENDY, LLANELLY. _u_- Bwrdd y Golygydd. SYLW PWYSIG. egg- Dymunir ar i'n gohebwyr anfon eu holl gynyrchion i'r Golygydd-Paich. J. Jenkins, M.A. (Gwili), Ammanford, Carm. Titus.-Oni wyddoch chwi, ac oni wyr pawb o'n darllenwyr, erbyn hyn, fod yn rhaid i ni, ,wtrth yr enw priodol gyda phob gohebiaeth a fwriedir i'r "Seren." Gwyliwr.-Ni ellir cyhoeddi'ch nodiadau ar yr Undeb, er cywired llawer peth a ddy- wedw,ch, heb fod eich enw priodol wrthynt. Pan feirniedir personau dan eu henwau, rhaid i'r ysgrifennydd adael i'w enw priod- ol ymddangos. Y mae pethau yn eich nod- iadau y dylid eu gwyntyllu. A gawn ni roddi'ch enw wrthynt, yr wythnos nesaf? J. G.Nid i mi y mae'r clod am nodiadau gwerthfawr "Yr Wythnos. Da I gennym glywied eu bod wrth eich bodd. I

Guahanol Farnau am y Rhyfel

Gu/ahanol Farnau am y Rhyfel. Y mae'n wreddol eglur, erbyn hyn, nad oes ym Mlirydairi 1110'1' undod barn am y rhyfol ag a dybid ar y dechreu. (Jwyoh o beth yng ngolwg pob plaid', ar y eycli wj-n, oedd gWiekd diwed(I ar ymbleidio gwleid- yddwyr, eithr wedi wytlinosau o ystyriaeth, rhennir meddwl y wlad i ddosbarth mawr a dau ddosbarth llai. (1). I'r Dosbarth mawr y perthyn corff yr Yinhcr odraoth. Mynnant fod ein cweryl yn gyfiawn, a bod arfau Prydain yn loyw. Rhoddir mynegiad i'w cred yn ateb y diw- inyddi on Prydeinig i ysgolheigion yr A.1- miaen. Daliant nad eu hawydd am gon- ewest a'i hunan-les a orfododd Brydain i ymyrryd, ond mai ei ffyddlondeb i ym- rwymiadau, a'i hen bolisi traddodiadol o gynorthwyo'r gwan. Dyfynnant yn helaeth o Bapur Gwyn y Llywodraeth, adangosant, gyn llwyred yr ymroddodd Syr Edward Grey i gadw heddweh Ewrop. Cyfeiriant atddysg Nietksche a Treiteahke, a dywiedant mai pwnc o orfod yw i Brydain ei hamddiffyn ei hun yn wyneb philosoffi trechaf treis- ied," a rhaglen llyfr Von Bernardi. Nid ein gwaith yw goddef i Brydain beidio a bod, er maint yw awydd yr Almaen am le mawr yn yr haul. Gwthiwyd y rhyfel arnom fan Germani. Rhaijd oedd ei ddyfod yn hwyr neu'n hwyrach, ao er nas ceisiasom, rhaid ei wynebu, a rhoddi pen ar raib terfysgw y oenhedloedd. (2). Rhoddir Ilais i olygiadau'r blaenaf o'r dosbarthiadau llai cystal a chan neb gan y Prifathro T. Rees o Goleg Bala- Bangor. Cais y Prifathro gerdded canol llwybr barn, ao ymgadw rhag gweled dini- weid'rwydd a phu-rclob amcan lie nad ydynt. Nid yw am ddadleu ynghylch egwyddorion rhyfel. Yr ydym yn ei ganol" meddai "a goreu po gyntaf yn ddiau y gorchfygir y Germaniaid, fel y galler chwilio am lwybr heddweh draohefn. Ond un o amodan hedd- weh parhaol fydd i werin Ewrop gadw meddwl sobr ac ysbryd teg hyd y gellir trwy'r gyfliafan erchyll. Mao rhywrai yn y wlad hon yn brysur yn lledti syniadau a chynhyrfu teimladau nas gallant lai iiia chro- gi milwriaeth waeth na'r eiddo RWisia am ein gyddfau :ar ol i'r rhyfel ddarfod." Deil mai llurgunio syniadau Nietzche a Von Bernaridi a wneir yn ein gwasg, i ateb ein pwrpas ni'r Prydeinwyr, ac mai oartref mat- eroliaeth yw Prydain a Firainc. Anwir- eddau yw mwy na'r hanner o'r hanesion am greulonderau'r Almaenwyr, a mynn nad teg collfarnu oenedl ar gyfrif ei dihirod. Ein rhagrith yw s6n am ofal Prydain am y wlrud fechan Belgium. Paham na ddilfynnai Bersia, yn erbyn rhaib a gormes Rwsia? Pa beth yw hanes Ffraino yn Llydaw, a Rwsia yn Ffinland? Onid gwell fyddai dywiedyd yn onest, fel y gwnaeth Mr. Win- ston Churchill yn wir yn Lerpwl, fod budd- iannau Prydain, yn ol barn ei llywodraeth- wyr, yn galw ar iddi gymryd rhan yn y rhyfel "? (3). Deil y dosbarth llai arall na ddylid cefnogi rhyfel ar unrhyw delerau. Ni all y rhyfel hwn mwy na rhyfel De Affrica fod1 yn un cyfiawn. Ni fedr dilynwr i Grist bleidio rhyfel, na chymryd rhan, ar unrhyw gyfrif, ynddo. "Dwy grefydd sydd," medd- ai Dr. Salter, yr ymgeisydd Llafur dros Bermondsey—"y grefydd sy'n ymddiried yng ngallu a buddugoliaeth lwyr egnion miaterol, a'r grefydd a rydd ymddiried yn ngallu a buddugoliaeth lwyr yr egnion yabrydol. Ni all Cristion, meddai, ymddiried mewn bwledi plwm neu arian, ac ni ellir meddwl am Grist mewn Tchaki ar gadfaee Ewrop. Dysg yr Iesu yw na ddylid talu drwg am ddrwg, ao na ddylid gwrth wynebu drwg. Rhaid i Gristion garu gelyn, a gorch- fygu drygioni drwy ddaioni. Ni all gario cledd, a dwyn y groes. Difethir y neb a gymero gleddyf, ac ni ddilewyd mo'r goroh- ym yn Na ladd. Yr hyn sydd iawn sydd oreu, boed y gosb a fo, ac y mae lie mawr mewn hanes yn aros y genedl gyntaf a faidd ennill ei heinioes drwy ei cholli a faidd seilio'i bywyd a'i chyfath- rach ar wirioneddau Cristionogaeth fore. Diaubod y barnau gwahanol livn yn haeddu'n hystyriaeth, a bwiadwn rhoddi iddynt y sylw a deilyngant, yr wythnos nesaf, pan na fo cymaint galw ar ein gofod hwy raeh.

Canmlwyddiant Marw Charles or Bala

Canmlwyddiant Marw Charles o'r Bala. Gan mlynnedd i ddydd Llun diweddaf y bu farw un o gymwynaswvr pennaf ein cenedl, sef y Parch. Thomas Charles. Ni raid manylu ar hanes ai fywyd. Ganwyd ef yn y Pantd wfn, ger St. Clears, Sir Gaer- fyrddia, yn 175;-). Argyhoeddwyd ef wrth wrando Daniel Rowlands, Llangeitho, yn pregetlm oddiar Heb. iv. 15, yn v Capel Newyidd, Sir Benfro. Addyisgwyd ef yng Nghaerfyrddin, ac yn NghoLeg Iesu, yn Rhydychen. Gwrthodwyd urddau llawn iddo g-an awdurdodau Eg-lwys Loeg-r, oblegid brwdfrydedd ei galon newydd a chylchrhy eang ei wasanaeth, ac ymsefydlodd yn y Bala, wieddill ei oes, i wasanaeth ei genedl yn ol ewyllys Duw. Fe'i profodd ei hun, yng ngeiriau Daniel Rowlands, yn "rhodd Duw i'r Gogledd," a chofia Cymru byth yn ddiolchgar am ei fywyd diolilyn ac ymrodd- iad diball. Diau i Morgan John Rhys gych- wyn YiSgolion Sul o'i flaen, ond Charles a blannodd y sefydliadau g'werthfawr yn y Gogledd, a chydnabyddir yn rhwydd mai efe oedd achlysur sylfaenn'r Feibl Gym- deithas, drwy'r cais a wnaeth am Feiblau i'w genedl druan, dlawd. Gwnaeth fwy na neb i roi Surf i Gyf- undeb y Methodistiaid Calfinaidd, a bu ei Drysorfa a'i Eiriadur yn fwngloddiau llawn a gwerthfawr i oesoedd a fyfyrwyr y Beibl. "Efe oedd ganwyll yn llosgi ao yn goleno," ac ni cliyrhaeddasai'r trigaill mlwydd o'i oedran, pan ddaeth ei hoedl i'w therfyn, Hyd. 5, 1814. Nid oes well teyrnged i'w goffa na rhai o linellau Ceiriog: ,• Mae cyseg-redig Iwoh y saint Mewn culion feddau 'nghadw; Ond mewn llythrennol gwisg y maent, Y "dinod" sydd yn marw. Er taflu pridd a gosod maen Ar batriarchiaid Gwalia; Maent yn llefaru fel o'r blaen, Ac felly Charles o'r Bala. Nac wyla ar y beddrod cul, Sydd yn Llanyeil aew; Tyrd gyda mi i'r Ysgol Sul- Y dinod sydd yn marw. Ond byw mown mil o lannau mae Y gwr ym yn ei goffa; I'r byd o'i ol nid rnarwol glai Adawodd Charles o'r Bala. Ni raid wrth wasg nac argraff wan I goffa'i enw hynod; Mae. ganddo golofn ymhob man, Acymhob man ei feddrod. Mae g-ennyt Feibil yn dy law, Ac enw'r Gymdeithasfa; O oes, fy nghyfaill! dyna'r bedd Lle'r hunodd Charles o'r Bala.