Papur newydd y Methodistiaid Calfinaidd, a gefnogai'r blaid ryddfrydol. Sefydlwyd ym 1869 fel menter breifat, ond fe'i prynwyd gan y Cyfundeb yn 1911. Adlewyrchai ddiddordebau'r enwad a newyddion yn ymwneud รข'r Cyfundeb. Ymdrechai hefyd i hyrwyddo dirwest a chreu barn radicalaidd ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd. Ei olygydd cyntaf oedd John Davies (Gwyneddon, 1832-1904) ac fe'i olynwyd gan John Roberts (Ieuan Gwyllt, 1822-1877) ac eraill. Cylchredwyd y papur trwy Gymru gyfan ac hefyd i'r Cymry yn Lerpwl, Manceinion, Llundain a Bryste.

Gwylio manylion cyfan