Date: 1916-12

Collection Title: Wawr (Aberystwyth)

Institution: Aberystwyth University

Rights: Copyrighted

Abstract:

View full details

First Previous 23 of 44 Next Last Page Label: [page 1]

23 creadur; ond ni chafodd ei lladd. Digwyddodd hyn ar ddiwrnod y farchnad, ac felly yr oedd amryw o drigolion y wlad yn nhref Aberystwyth ; y noson honno daethant adref a newydd- ion hynod,—ar ryw awr arbennig, tra yr oedd Leisa'r Lofft yn y dref yn siarad a rhywun, cwympodd, a llifodd gwaed o'i chlust. Cafodd yr amaethwr a saethasai yr ysgyfarnog i hyn ddigwydd ar yr un funud ag y cafodd y creadur yr ergyd yn ei chlust, ac felly nid oedd amheuaeth nad un o ysbrydion Leisa oedd yr ysgyfarnog hon. Un ymhlith llawer chwedl o'r fath yw hon, ond y mae gan Landdeiniol draddodiadau ynglyn a bywyd uchaf ei thrigolion. Fel y gwyddys, gorwedd y plwyf hwn yng ngorllewin Ceredigion rhwng plwyfi Llanycha^arn a Llanrhystyd. Gylch y mor ei lannau creigiog, a chlywir murmur galarus y tonnau am filltir- oedd fel yn gruddfan wrth eu gorchwyl o ehangu Cantre'r Gwaelod—hen fro Gwyddno Garanhir—a ymestj-n is yr eigion tua machlud haul. Ar y traeth hwn, tua therfyn gogleddol y plwyf, ceir olion Twll Twrw—Monh's Cave y Sais. 0 fewn i'r pymtheg mlynedd olaf, cyrhaeddai'r ogof ym mhell dan y tir, ac o'i flaen aafai craig uchel fain a elwid y " GuWs Needle," ond gadawodd amser a'r tonnau eu hol arnynt,—nid yw y " Gull'a Needle " ond bychan, ac nid yw y " Twll " ond man garw yn y graig. Er hyn oll y mae gan yr ogof ei hanes,—hanes na ellir ei olchi ymaith gan y mor, gan ei fod wedi gwreiddio yn ddwfn yng nghalonnau'r hen drigolion :— Flynyddau maith yn ol cysgai mynach yn ei geîl mewn gwlad tu hwnt i'r mor; yn ei gwsg cafodd weledigaeth, a medd- yliodd iddo glywed llais ei Feistr yn erchi iddo fyned a'r efengyl i wlad ddieithr. Cyfododd, galwodd ei gyfeillion ynghyd, & mynegodd iddynt yr hyn a glywsai. Penderfynasant hwylio gyda'i gilydd mewn llong fechan i'r man y dymunai eu Har- glwydd iddynt fynd iddo. Hwyliasant ymlaen ddydd ar ol dydd; ambell dro, pan welent diroedd teg yn gwenu uwch y dyfroedd, ymdrechent eu cyrraedd, ond codai'r gwynt, a gyrrai hwy yn ol i'r mor drachefn ; felly gwyddent nad oedd Duw yn ewyllysio iddynt lanio yna. Ymlaen a hwy drachefn ar wyneb yr eigion ; o'r diwedd cododd y gwynt, udai a chwynfanai yn hwyliai'r llestr gwan, a rhuai'r dymestl o'u hamgylch ; hyrdd- iwyd y llong o don i don a llanwyd calonnau'r myneich a braw. Cyn hir gwelwyd creigiau uchel, serth yn cuchio uwch y tonnau,

Copyrighted

This material is copyright of Aberystwyth University. Unless the accompanying information states otherwise, you must ask permission from the rights holder before you can copy, modify, distribute or perform the material, even for non-commercial purposes.

For more information or if you wish to request a higher quality version of the file, please contact Aberystwyth University.

×