Collection Title: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

Image 1 of 16 Next Last
Full Screen
1 article on this page
NODION CYMREIG

NODION CYMREIG. Gan' mlynedd yn ol nid oedd dwsin o Bab- yddion yng Nghaerdydd. Heddyw rhifant tuag ugain mil. -+- -+- Pvvy yw y Gymraes hynaf sy'n darllen y CYMRO? Hoffwn gael ei darlun a phenod fer o'i hanes, a thelir hanner gini am hynny. -+- -+- Mae'r Brenin wedi rhoi i fyny y swydd o Ganghellor Prifysgol Cymru er rhwyddhau y ffordd i Dywysog Cymru gymeryd i fyny y swydd. -+- -+- Y rheswm paham na ddysgir Gymraeg yn ysgolion elfennol Gwrecsam ydyw fod yno brinder athrawon cymwys. Ond paham na fynir athrawon felly ? Mae digon i'w cael. inid oes ond tri ynad yug Nghaergybi, a 1 21 ehwynir fod hynny'n anhwylus iawn. Ceid- wadol iawn yw y rhaglawiaid, yn enwedig os bydd Vmneilltuwyr a Thoriaid yn y cwestiwn. D'ywed Dr. Thos. 'Roberts, meddyg- ysgol- ion Sir Ddinbych, nad oes ond 27 y cant o'r plant a dannedd iach ganddynt. Dyma sydd yn magu hadau gwenwynig yn y cyfansodd- iad. Ysgrifena gohebydd i ddweyd nad yw efe yn oofio ond am bedwar diacon mewn llys methdaliad. Felly nid rhyfedd fod y papurau dyddiol yn edrych ar "A Deacon's Bank- ruptcy" fel digwyddiad rhyfedd. Derbyniwyd tua dwsin Q ddarluniau hen" ddarllenwyr ac ysgrifau arnynt. Cyhoeddir darluniau hanner dwsin o'r rhai hynaf,—oil dros ibedwar ugain oed. Disgwylir cael darlun yr hynaf yr wythnos nesaf ac ysgrif ar ei hanes. -+- Diywed yr Henadur S. N. Jones fod awdur- dodau Mynwy yn talu mil 0 bunnau yr erw am dir mewn back street i helaethu swyddfa'r heddlu. Does dim rhyfedd fod Mr. Lloyd George yn gafael mewn pethau fel hyn," ebai Mr. Jones. -+- -+- -+- Gwerthwyd tua deugain mil o gnufiau 6-Nvlan yn Llanrhaiadr yr wythnos ddiweddaf, y pris yn amrywio o ddeg ceiniog i IS. 2-C. Yn y Drefnewydd gwerthwyd hanner can mil o gnufiau, y pris yn debyg ond yn uwch am wlan S'eisnig nag am un Cymreig. -+- A yw anfoesoldeb ar gyrmydd yng Nghym- ru.? Os gwir yr hyn ddywedwyd gan un o'r cynrychiolwyr yng Nghynhadledd yr Eglwysi Rhyddion yn Burry Port y dydd o'r blaen ynglyn a phriodas, y mae yn bryd i ni ddeffroi 0 gysgu, ac addysgu y bobl eto yn rhai o elfenau dechreuol moesoldeb. -+-- ♦ ♦ Os gwir y dadleniadau am ystad anedd-dai y trigolion yn Sir Gaer a Sir Benfro—ac nid oes neb hyd yn hyn wedi dod i'r maes i'w hameu—ni ddylai arweinwyr y Siroedd hyn roddi cwsg i'w llygaid na hun i'w hamrantau nes gweled mesurau effeithiol yn cael eu mab- wysiadau i sicrhau diwygiad. Yng- nghylchgrawn plwyfol yr Eglwys Sefydledig yn Lee, ger Great Miissenden, ucks, neilltuir tudalen i gofnodi hanes yr Anghydffurfwyr yn y phvyf. Gwna'r Primi- tive Methodists yr un peth gyda hanes yr Eg- lwywyr yn eu cylchgrawn hwythau. Dy- }vedir fod ficer LlanbeBlig am awgrymu rhyw- beth tebyg yng Nghaernarfon. Os yw Morgannwg- yn hawlio rheoli Cymru mewn rhyw bethau, hi ddylai ostwng ei llais ar ol clywed beth a ddywed y barnwyr am ei moesau. Ni welwyd erioed galendar difrif- olach nag oedd o flaen y Barnwr Atkin yng Nghaerdydd. Ac eto nid oes neb yn sylwi. Nid rhif sydd i reoli y byd nac i arwain gwlad. Tref gyfoethog mewn tafarndai yw Llanid- loes. 0 fewn 180 o latheni i'r Boar's Head y mae naw o dafarndai; ac a chymeryd y fwrdeisdref drwyddi mae yno dy tafarn ar gyfer pob 125 o'r trigolion. Chwareu teg i'r trigolion, fe ddywed y tafarnwyr eu hunain nad oes modd gwneud bywoliaeth wrth werthu diod yno. -+- Dirwywyd Iddew, sy'n gwerthu myglus i blant drwg a dynion da Aberystwyth^ i 5s. a'r costau am agor ei siop ar y Saboth. Er gwaethaf hyn fe ddywed ei fod am agor ar y Saboth Cristionogol, a dywedir nad yw yn parchu y Sul Iddewig ychwaith. Mae llawer un heblaw yr Iddew hwn wedi meddwl nas gallai fyw heb weithio saith niwrnod. Ond camgymeriad yw hynny fel y caiff weled yn y man. -+- Cyfaddefa pawb fod gwelliantau pwysig wedi cymeryd lie yn Nharian y Gweithiwr,' ond teimlo yn hytrach yn siomedig wna y Golygydd newydd nad yw y cynnydd yn y cylchrediad yr hyn ellid ei ddisgwyl. Gofid iddo yw deall fod llawer o'r rhai sydd yn canmol yn mynnu ei darllen yn y Ddarllenfa Gyhoeddus, neu yn eu benthyca oddiar ereill er arbed y geiniog. Na ddigaloned. Ceir y dosbarth hwn ymhob cylch. -+- -+- Penderfynodd Undeb Eglwysi Rhydd Gor- llewinbarth qymru uno a'r Undeb Cymreig, ac anfon cynrychiolwyr i'r Gynhadledd yn Llanymddyfri ar yr 17eg a'r iSfed o Fedi. Eglurodd y Parch. James Evans, M.A., yr ysgrifennydd, beth oedd asgwrn y gynnen gyda'r Cyngrair S'eisnig. O'fer disgwyl i Gymro gael ei ddewis ar bwyllgor nac arall, a hawlia Dir. M'eyer mai efe oedd i eistedd wrth ben y bwrdd ymhob man. Felly nid rhyfedd yw i'r Cymro bach wylltu a thanQ a bant ag e, a wel y Sais ddim ond ei gefn! -+- Mae gan rai pobl ym Mon syniad paganaidd iawn am hawliau landlord feddyliwn. 01 flaen ynadon y Valley fe wysiwyd Owen Roberts, Bodedern, am daro a gwthio Annie Humph- reys, un o'i denantiaid. Gwraig dlawd oedd Annie Humphreys, ac yr oedd yn nyled ei landlord o 8s. 6c. o rent. Aeth y landlord yno, a chymerodd yr awenau yn ei law, a gwthiodd hi i'r ffordd. Bu raid i'r gwr dalu £2 16s. 6c., a dysgodd wers am hawliau tenant nad oedd wedi meddwl am dani. Ym Mhwyllgor Cyffredinol y Presbyteriaid yn Chicago' mynegwyd fod 825 o ymgeiswyr am y weinidogaeth yn cael cynhorthwy arian- nol i gael addysg. Ac ebai y Parch. S. C. George,—sylwch ar yr enw, Yr wyf yn cynnyg nad oes yr un o'r ymgeiswyr sy'n I Z!1 defnyddio tybaco i gael help." Ar hyn bu cynnwrf mawr, ond yr oedd cynrychiolydd y Fire Brigade wrth law, ac ebai efe Yr wyf yn cynnyg rhoi y mater i Bwyllgor." A bu diwedd ar y tan yn y fan. Wel go dda, chwedl Puleston. Rhoi cwestiwn y 'baco i bwyllgor 0 bregethwyr! Clywais fod un a frodyr da'r Gogledd yn myned i gynnyg na bo'r un eglwys i gael help o'r Drysorfa Gyn- orthwyol os bydd y bugail yn arfer tybaco! Os daw hyn i fyny, cofiwch ddilyny esiampl pobl Chicago,-i bwyllgor a fo. A ydyw ein cenedl yn ynfydu ar fodurion. Rhed pawb i'w prynu, a rhed mwy i'w defn- yddio. Trip mewn modur yw pleser pennaf ein Hysgolion Sul, a thalant fwy i'r amcanion hyn nag a dalant i ddileu dyled y capeli. Modur neu beidio, gyr cymdeithas el goreu glas, a mwyaf fo'r arian mwyaf fo'r gyrru. -+- Diyddorol iawn i bobl o'r tu allan yw gwrando ar y meddygon yn siarad yn eu plith eu hunain fel yr oedd ym Mhenllech, Mon, yr wythnos ddiweddaf. Siaradai Dr. Drink- water, Wrexham, ar hirhoedledd meddygon enwog, "a dywedai fod y cyfartaledd oes yn eu plith 17 mlynedd yn hwy na chyfartaledd marwojion cyffredin. Sut y mae cyfrif am hyn?" gofynnai Dr. Drinkwater. Awgrym- odd ddau reawm,-fod y meddygon yn deall deddfau natur yn well ac yn plygu iddynt, neu ynte am nad ydynt yn yfed phisyg! Ni ran- nwn yr ymrafael rhwng y ddau reswm, a dy- wedaf wrth y darllennydd, Dos dithau a gwna yr un modd. -+- Yn mi o wythnosolion Cymreig y Deheudir dadleua rhywun yn bur frwd a chryf o blaid y dymunoldeb i'r C'anghellor ac ereill o gyffelyb feddwl i ffurfio plaid wleidyddol newydd—ac i gael ei galw yn Blaid y Rhydd- frydwyr newydd neu ryw enw arall y gellir cytuno arno. Y mae hyn, meddai, yn angen- rhaid er mwyn y mesurau pwysig sydd yn galw am ddeddfu arnynt, ac oblegid anallu y pleidiau gwleidyddol fel y maent i wneuthur ewyllys mwyafrif yr etholwyr. Tra yn cytuno a llawer o'r hyn ddywedir gan y gohebydd hwn, o'r braidd y gallwn gytuno mai angen plaid newydd sydd. Pe purid ychydig ar y Blaid Ryddfrydol, a phe gellid sicrhau i'w haelodau fod yn deyrngar a brwdfrydig, byddai yn ddigonol ar gyfer pob angen. --+- O'r 17eg hyd yr 22ain o Awst, cyferfydd Cymdeithas Hynafiaethol Cymru yn Nolgellau am y tro cyntaf er's 64 mlynedd. Mae pump o deithiau wedi eu trefnu. Dydd Mawrth heibio i Domen y Pentre i Fonachlog y Cym- mer ac Eiglwys Llanelltyd, ymlaen at Fedd Poris a Thomen y Mur; dydd Mercher i Eg- lwys Llanaber at Garneddau Hengwm, Craig y Dinas, at Gorsygedol a'r gro-mlech; dydd Iau i Gaergai, Llanuwchllyn, a'r Bala, a Nannau; dydd Gwener i Lys Bradwen, Llwyngwril, Peniarth, Castell y B'ere, a Thal- yllyn a dydd Sadwrn yn Nolgellau a'r cylch- oedd. Fu erioed deithiau mwy rhamantus a llawnach o ddyddordefo henafiaethcj, a dis- gwylir nifer dda o ymwelwyr. -+- Bydd nifer o enethod o Ysgolion Sir Cymru yn ymgynull yn Llanidloes a Threfecca am wythnos, o Orffennaf 25ain hyd Awst iaf. Y mae'r mudiad hwn yn ennill tir yng Nghymru er pan gychwynodd tua phum mlynedd yn ol. Bydd y genethod dan ofal chwech o athraw- esau canolradd, a dwy o efrydwyr. Unwyd y mudiad yng Nghymru a'r mudiad eangach yn Lloegr, y Werddon, a'r Alban. Y mae enw'r Student Christian Movement' yn adnabydd- us iawn yng Nghymru bellach. Y mae wedi eangu syniadau, codi delfrydau, a dwyshau profiad cannoedd o fechgyn a genethod yng ngholegau y wlad, gan ddang'os iddynt fawr- edd y gwaith o efengylu y byd. Amcan y Campau' hyn i enethod yr Ysgolion Sir yw dod a neges Mudiad yr Efrydwyr ger eu bron cyn iddynt adael yr Ysgol a chroesi trothwy'r Cbleg. Os enillir yr Ysgolion Sir enillir y Clolegau, a thrwTyddynt hwy y wlad a'r byd. Dyma amcan aruchel ac arddunol iawn. Rhoddwn i'r mudiad bob help a allwn.