Collection Title: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

Image 1 of 16 Next Last
Full Screen
1 article on this page
yNODION CYMREIG

-y. NODION CYMREIG. Dechrcu Hydref bydd y Inarch. Gwaym Davies, M.A., Caerfyrddin, yn cychwyn colofn yn y CYMRO ar Gwestiynau Cymdeithasol. Mr. Davies yw ysgrifennydd yr United School of Social Service for Wales," sydd yn gweithio yn egniol gyda chwestiynau cym- deithasol er ys blynyddoedd, dan lywydd- iaeth Syr Ei. Stafford Howard, K.C.B., gydag Archddiacon Buckley a Mr. Lleufer Thomas yn is-lywyddion. Er fod helyntion y rhyfel yn myned a bryd y wlad, mae yn rhaid talu sylw i gwestiynau cymdeithasol, a bydd gan Mr. Da vies faterion dan sylw fydd yn bwysig a dyddorol i bawb. Mae y Parch. J. J. Thomas, B.A., Ton Pent re, wedi ymgymeryd a goialu am Golofn ar yr Ysgol Sabothol, Dosbarthiadau Beibl- aidd, a Chyfarfodydd y Plant yn y CYMRO. vlae Mr. Thomas mewn cysylltiad agos a gwaith athraw a bug ail, a gellir disgwyl llawer o hyfforddiant yn y cyfeiriadau hyn oddiwrtho. -+- Bydd yn ddyddorol i lawer o'r chwiorydd sy'n darllen y CYMRO glywed fod Awen Mona, un o ferched athrylithgar Mon. wedi ymuno a Staff y CYMRO, ac y bydd colofn y Chwiorydd o clan ei gofal hi. Hyderwn y caiff gynhorth- wy gan lawer o'n darllenwyr. Ei chyfeiriad 1 Z7:1 yw Awen Mona, Dwyran, Anglesea. Yr oedd y dyrfa o gwmpas gorsaf y reil- ffordd yn Llandudno bore Saboth yn disgwyl am y papurau newyddion yn llawer iawn lli- osocach na'r nifer oedd yn y gwasanaeth cre- fyddol yn holl addoldai'r dref. --+- -+- Rhoddodd y Llefarydd ei dystysgrif fod (, v Mesur D'atgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eg- lwys yng Nghymru wedi ei basio yn unol a Deddf y Parliament; a dydd Gwener hysbys- wyd fod y Brenin wedi ei arwyddo. Dywedir fod mwy o Gymry ar Staff y Western Mail na'r un papur Saesneg arall yn y Dywysogaeth. Hyn o bosibl sydd i gyfrif am y cvfciriadau caredig at y CYMRO a wneir yng ngholofnau yM ail o bryd i bryd. Teimlo yn siomedig yr oedd rhai oherwydd (fod yr olf o adranauDieddf Datgysylltiad a y Dadwaddoliad i aros heb ddyfod i weithrediad ar unwaith. Disgwylid y buasai Dadgysyllt- iad yr Eiglwys yn cymryd lie ar unwaith; ond fel arall y bu. Dywedai Esgob Llanelwy fod Eghvyswyr "Cymru yn rhai mwy at drysorfa y rhyfel nag y mae yr Anghydffurfwyr. Mater o foddion ac nid haelioni ydyw hynniy. A da fyddai i'r Esgob wybod fod Syr Watkyn yn ehveyd ymhob ,raan mai Ang-hydffurfwyr sydd yn Z, rhoi mwyaf yn Sir Ddinbych. --+- -+- Mae llawer ffordd i ,gael offeryn at wasan- aeth addoldy. Ffordd bur ddymunol ac ysgafn i'r gynulleidfa oedd yr un a fwriadwyd t, y yr haf hwn ynglvn a. chapel bychan neilltuol ym Mon. Yr oedd nifer fawr o ymwelwyr yn yr ardal, ac yn eu plith gerddorion o radd Uchel. Penderfynodd y dieithriaid hyn gael cyngerdd yn y lie, a phrynu offeryn gyda'r a'i gyflwyno yn Aodd i'r capel bach. Ond daeth: y rhyfel, a gorfu i'r ymwelwyr ym- adael ar unwaith heb g-ael y cyngerdd. Yr i oedd y ddiadell fechan Fethodistaidd yn siom- edlg: ond gadawodd y cymwynaswyr addew'id ar eu hoi i ddisgwyl am danynt yr !haf nesaf. 1 _w. Ymreolaeth i Gymru ydyw mesur nesaf yr aelodau Cymreig. Bwriadant gyfarfod yn g'ynnar ym mis Tachwedd i baratoi a gosüd pethau mewn trefn ar gyfer y Senedd-dymor nesaf. -+- -+ Dadleua y Parch. E. Iv. Evans, gweinidog Undodaidd yn Aberdar, y dylai gweinidogion yr efengyl fyned allan i ymladd. Os ufudd- hant, addawa iddynt y gwelant fwy o'r gwir- ioneddau tragwyddol mewn un diwrnod yn y cwterydd gyda'r milvvyr nag a welant mewn oes wrth astudio llyfrau. --+. Mae cyngrair yr Eglwysi Rydd yn Aber- ystwyth yn parhau yn flodeuog, ac anfonas- ant y Parch. T. E. Roberts, M.A., a'r Ysgrif- ennydd yn gynrychiolwyr i'r gynhadledd yn Llaiidrindod. Yn eu cyfarfod diweddaf bu sylw ar y priodoldeb o algor y capelau i rai droi i mewn i weddio yn breifat. Dywedai yr Athro Diavid Williams ei ifod yn cael ei daro gan yr hyn a welai ar y Cyfandir gyda hyn, a chredai y dylai yr agwedd hon ar ddefosiwn gael rhagor o sylw yng Nghymru. Cyf- lwynwyd y mater i ystyriaeth y gweinidogion. -+-- -+- Tybed y bydd y to sydd yn codi o glerigwyr ieuainc mor ddieithriol a pihell o ran teimlad at Ymneilltuwyr a'r to presennol Go brin. Meddylier am yr eng-raifft ganilyn!ol:Yn un o g'apeli Mtetihodistiaid yn Sir Fon eleni yr oedd gwasanaeth Seisnig wedi ei drefnu ar gyfer yr ymwelwyr. Yn y gwasanaeth, un nos Saboth, yr oecld y 'curate,' a ofalai am wasanaeth Eiglwys Loegr yn y plwyf; ond oedd wedi 'rhoddi ei le i fyny yn ddiweddar. Y mddengys na fu i'w waith o bresenoli ei hunan mewn gwasanaeth Ymneilltuol mo'i lygru, o'r hyn lleiaf yr oedd yn ddigon cysegr- edig" i gymeryd y gwasanaeth yn yr Eglwys rhyw Saboth neu ddau wedi hynny. Tybed nad oes argoelion am fwy o undeb yn y dyfodol! Trefnodd eglwys Oarmel, New Tredegar, gyfarfod arbennig i .groesawu y Parch. T. Powell, B.A., B.D., ar ei ddyohweliad adref, wedi treulio yn agos i dair blynedd yng N^ghanolbarth Affrica, yn gweithio yn galed dros y Meistr fel athro yn Ysgol Kempese, dan nawdd Cymdeithas Genhadol y Biedydd- wyr. Yn Carmel y mag'wyd ef, yno y cafodd ei fedyddio, ac y dechreuodd bregethu. Dar- parodd y bo'bl ieuainc luniaeth mewn llawen- ydd er mwyn rhoddi cyfle i gyfeillion Mr. Powell gael siglo Haw a chael gair gyd- ag ef. Yn yr hwyr cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus i roddi croesaw i Mr. a Mirs. Powell a'r plentyn bach. Gwa'hoddwyd gweinidogion y cylch i'r cyfarfod i ymuno a'r eglwys yn ei chroeso i'w mab. -+- --+-- Geiriaunad anghofir yn fuan oedd eiddo Archesgob Canterbury yn Nhy'r Arglwyddi pan y beiddiodd ddywedyd yr wythnos ddi- weddaf nad oedd neb yn hawlio i Fesur Dat- g-ysylltiad a Dadwaddoliad gael ei osod ar Ddeddfliyfrau'r wlad ar hyn o bryd ond rhyw glique' bychan yng Nghymriu Bumewn ymgyng'horiad meddai y diwrnod cynt ag ar- weinwyr Ymneilituaeth yn Lloegr, a dyna oedd eu tystiolaeth unfrydol hwy. Gwir nas gall geiriau yr Archesgob erbyn hyn wneuthur ond ychydig niwed, ond ni ddylid gorffwys nes cael gwybod enwau yr arweinwyr tybiedig hyn. Pwy ydynt? Y mae gan Gymru hawl i wybod, a pha hawl oedd ganddynt hwy i siarad yn enw y g-enedl Gymreig? Anhawdd dychmygu am iymyraeth fwy bradwrus, ac nid dyma'r waith gyntaf i'r Saeson hyn geisio t-, y ysbeilio Ymneilltuwyr Clylmreig o'u hawliau tyfiawn. Gyda'i haelioni arferol mae M'r. David Davies, A.S., wedi penderfynnu rhoi sefydliad i weithwyr yn Barry. Bydd yn adeilad h'ardd, ac yn sefyll yn y lie amlycaf yn y dref. Y mae eglwys Moriah, Llanfyllin yn bwr- iadu gwahodd Sasiwn y gaeaf i'r fwrdeisdref Z!1 6 henafol chwareuodd ran mor bwysig yn hanes crefydd Cymru. Yn y dref hon y mae'r capel lle'r achubwyd Ann Griffitffihs. Yma hefyd y bu Vavasor Powell ddewr yn weini- dog. Hefyd yma yrerlidiwyd llawer ar y pregethwyr cyntaf feiddiasant ddeffro1 Cymru o'i chysgadrwydd. Tynwyd Capel Pendref i'r llawr gan hooliganiaid Eiglwysig y dref; symudodd y Barnwr ei lys i'r T'rallwm lie y mae hyd heddyw; a gorfu i'r Llywodraeth fyned i'r gost o ail-adeiladu y capel. Dang- oswyd ffyrnigrwydd ang'hyffredin yn erbyn yr Anghydffurfwyr am genedlaethau, ond erbyn hyn y mae'r blaidd a'r oen yn pori ynghyd,' ac ni synnwn na fydd rhai o'n pregethwyr adeg y Sasiwn yn cael llety dan nenbrennau Eglwysyddal. -+- -+ -+- Tra yn g"wasanaelhu yn Wilton Square, Llundain, y mis diweddaf, cafodd y Parch. 0. R. Owen, LJangynog*, ei gymryd fel German spy gan bobl ryw restaurant yn Chingford. Aethai Mr. Owen a Mir. Edward Jones i Elpping Forest rhyw brynhawn Sadwrn, a thra yno uwchben cwpanaid o de mae"n debyg* i'w hiaith beri i'r Saeson eu drwgdybio' am Germaniaid. Daeth y police atynt gan ofyn iddynt rhoddi cyfrif am eu hunain. Tystiai y ddau mae Prydeinwyr oeddynt, a gollyngwyd hwynt i fyned. O'nd cyn hir daeth y policeman ar eu holau dra- chefn, gan ofyn iddynt aros, fod merch o- Gymraes yn dyfod i siarad a hwy,, ac os dal- ient y prawf byddai popeth yn iawn." Daeth y ferch ar gefn bicycle,' a phwy ydoedd ond merch 0 Bontrobert, lie bu Mr. Owen gynt yn weinidog"! Mae'r praidd weithiau yn arwain y bugail o ddryswch. -+-- -+- -+- Mae Seven Cymru yn gofyn ac yn ateb cwestiwn dyddorol, "Pagysondeb sydd rhwng pleidio Dadwaddoliad Eiglwys Loegr yng Nghymru a'r cynnyg i waddoli ein Henwad ein hunain?" Dyma yr atebiad Y mae yr anghysoncleb yn ymddangos i bobl na welant wahaniaeth" rhwng pethau sydd yn 'wahan- 01.' Y mae pob Angrhydffurfiwr deallus yn gwybod mai meddiant cenedlaethol yw eiddo Eglwys Loegr, a fwriadwyd ar y cyntaf i lesoli yr holl bobl, pan y golygai yr eglwys yr holl Genedl yn ei chymeriad Eglwysyddol. N'id rhoddwyr duwiol,' ond mympwy frenhin- ol a1 chyfraith wladol ormesol yw tarddell y meddiant hwn. Y mae y Degwm yn engraifft darawiadol b hono. T'rwy y Mesurau gor- mesol hyn y ma,e un sect wedi trawsfeddiannu yr hyn a berthynai i bawl), a'r offeiriaid wedi ysbeilio ei eglwys ei hun, gan osod yr oill yn ei gwdyn ei hun. Felly dylasid defnyddio meddiant cenedlaethol i amcanion cenedlaeth- ol. Mewn ffaith, bydd gan yr Eglwys yng Nghymru dros ^200,000 o'r meddiant hwn ar 01 ei Dad w addoli ad at ei gwasanaeth. Felly y mae byd o wahaniaeth rhwng yr hyn a berthyn i'r Wladwriaeth ac a drosglwyddir i enwad, a meddiannau yr Anghydffurfwyr, y rhai a greir gan eu hoffrymau rhydd-ewyllys- crar eu hunain, ac a gysegrir i'r amcanion a farnant yn briodol. Hefyd, ni fydd ein C'ronfa ni yn Waddoliad (Endowment) yn wir ystyr y gair, oblegid ni waddolir unrhyw eg- lwys neu berson neilltuol, ond defnyddir hi gan yr enwad er cynnal gweiniclogaeth mewn gwahanol ffyrdd a lleoedd fel y barno oreu oadeg i adeg.