Collection Title: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 11 of 16 Next Last
Full Screen
12 articles on this page
Y FELIN LAWEN

Y FELIN LAWEN. Ac yn y wlad honno y mae melin a erys hyd' heddyw, ac a elwir y Felin Wen. Egiurodd yr hen wr imi mai y Felin Lawen ydoedd yr enw priodol, ac fe ddywedodd yr hanes fel ac y dysgodd ef gan ei daid. Fe dybiodd y melinydd glywed swn malu am hanner nos, ond gan wylbod fody dwr yn y llyn yn fas, ac nad oedd posibl cael dwfr i"r olwyn, buan y syrthiodd i gysgu. Y nos ganfynol deffrodd hanner nos, ac ie, dybiai glywed swn malu yn y felin dan unto a'r ty, ond penderfynodd mai llygod mawr oedd yn gwneud twrw. Y drydedd noson pan ddeff- rodd aeth i lawr i'r felin, ac wele goleu fel dydd ydoedd yno a'r felin vin malu, a dwfr lawer yn y llyn, ac yn rhedeg ar hyd y cafnau, a'r olwyn yn troi. Agorodd ddrws y felin, ac aeth i mewn yno, ac yr oedd hi yn oleu fel canol dydd yno, ond nis g'welai o ba le y delai y goleuni. 'Roedd popeth yn amlwg ddigon, ac fe welai dclynion bach bach at faint bawd melinydd yn brysur brysur o amgylch, ac 'roedd y felin ym malu'r araf araf. Safai un wrth yr hOipren gan ddweyd yn ddi-dor, M'ae'n hi'n malu'n araf, araf, ond mae hi'n iiialu'n fAn." Gofynodcl iddobeth oedd yn falu, ac fe ddywedodd Llawenydd. Ac fe wyliai yr hyn elai i'r hopren. Aur ac arian lawer, meddyginiaethau lawer, cym- wynasau lawer, llyfrau lawer, Beiblau lawer, geiriau caredig lawer, cariad lawer, gvveddiau lawer, a'r oil elent. i mewn oeddynt lan a da. Ac fe godwyd y cerrig iddo gael golwg arnynt. Nid cerrig cyffredin oeddynt, a rhychau rheol- aidd hyd-ddynt, ond rhychau oeddynt ar lun cyrff dynion, yn bennau, yn freichiau, ac yn goesau. Wedi hynny aeth at yr olwy^ ddwfr, ae yno yr oedd y dwfr yn canu yn. y cafn, ac yn disgleirio yn y goleuni. Dywedodd y dyn bach wrtho mai dagrau oedd wedi eu croni yn y llyn i droi y felin, ac mai dagrau hiraeth oedd y perlau oedd yn disgleirio yn y dwfr, ac mai hwynthwy oedd yn peri i'r d'wfr ganu yn y cafn. Ac aeth i lawr i'r rhannau isaf o'r felin. ac fe a'i gwelodd hwynt yn llanvv sachau lawer yno. Aeth oddiVDOI i'r man yr oeddent yn llwytho, ac yr oedd y waggoner ar fynd i ffwrdd hefo Uwyth, a ffwrdd a fo, ac aeth popeth yn dywyll ac yn dawel. Ond nid aeth y 'waggoner ymaith mor gyflym nag y gwelodd y melinydd rhyw ddau bwt o aden yn dangos dan ei si ace d. Mentrais ofyn iddo, Wei, o b'le 'roedd y goleu yn dod"? Ngwas i, mae pob man yn oleu pan maent ym malu llawenydd." w Brynmarian, O. P. HUGHES, Dolgellau, Medi 15, 1914.

MARW GOFFA

MARW GOFFA. ■MARWOLAETH Y PARCH. THOMAS PRICE, AMMANFORD. Drwg gennym hysbysu marwolaeth y Parch. Thomas Price, Ammanford, yr hyn a gymerodd le yr wythnos ddiweddaf, yn 77 mlwydd oed. Brodor o'r Gorwydd, Llanwrtyd, oedd Mr. Price; ordein- 1 wyd ef yn 1873, a bu yn 'fugail ar eglwysi Brechfa a Phontynyswen, Caerfyrddin, am 30am mlynedd. Ddeuddeng mlynedd yn ol daeth i fyw i Ammanford, a pharhaodd i bregethu bob Saboth hyd y llynedd. Gorfu iddo ymneilltuo oherwydd afiechyd. Yr oedd wedi claddu ei briod er ys tro. Gadawodd un mab a thair merch. ■_

Y PARCH THOMAS JONES LLANDUDNO

Y PARCH. THOMAS JONES, LLANDUDNO. Bydd yn chwith gan luaws cyfeillion y gwr y mae ei enw uehod ddeall ei fod wedi huno yn yr angau. Bu farw yn sydyn bore Sadwrn, ledi rgeg, yn ei breswylfod BGu^lwy, Llandudno, ac efe ar ben ei S3ain mlwydd o'i oedran. Byr fu ei gystudd. Tua pythefnos yn ol ca'fodd ymosodiad o'r 'Appendicitis,' ac esgorodd hynny ar glefyd y galon. Ym Mhentir, Arfon y dechreuodd bregethu tua thriugain mlynedd yn ol. Deugiain xalynedd yn ol symudodd i fvw i Llandudno-. Ordeiniwyd ef i gyflawn waith y we.ini- dogiaeth yn Sasiwn Dolgellau yn y flwyddyn 18S0. Dygwyd ef i fyny wrth draed a than ddylanwad y diweddar B'arch. John Owen, Ty'nllwyn. Yr oedd yn ddihysibydd yn'ei edmygedd o'r, a'i bia-i-ch tuagat y gwron o Dy'nllwyn, ac ni flinai adrodd am ddywediadau doeth a syniadau aeddfed ei hen athraw. Yr oedd yn ddiwinydd, Ilenor a bardd o gyrhae-ddiadau uwch na'r cyffredin, ond gwr a garai yr oencilion ydoedd efe, ac am hynny ni chafodd ei wlad rua'i enwad fantais i'w adiiab,od nali werthfawr- Otgi: Yr oedd yn gyfaill diddan, pur a charedig, a theiimla y Ifuaws oedd yn ei adnabod oieu chwith- dod nid bwchan ar ei oT. CIeddir ef yn breifat dydd Mercher, Medi 23ain, ym mynwent St. Tudno. Avallon. JOHN OWEN.

HEB NOD NAC ESBONIAD

HEB NOD NAC ESBONIAD Tai Cymru. Dengys adroddiad Cymdeithas Tai Cymru fod gennym eto dir lawer i'w enill cyn y bydd ein tai yn yn deilwng o wlad wareiddiedig. Y mae pethau yn "waeth, cyn belled ag y mae gorlenwi yn myned, yn y Gogledd nag yn y De. Yn siroedd y Gogledd y mae 3,500 o bobl yn byw yn ol o saith i ddeuddeg o bobl mewn dwy ystafell. Yn y De y mae 4^75 yn byw dan yr un amodau. Pan gymherir poblogaeth y De a'r Gogledd, gwelir ar unwaith fod y Gogledd yn waeth. Y mae y gorlenwi yng Nghymru yn waeth o lawer—o fwy na 60 y cant—nag yn Lloegr. Priodolir hyn yn rhanol i dlodi, ond yn bennaf i ddiffyg tai, a chan fod poblogaeth Cymru yn cyn- hyddu yn gyflym iawn, y mae'r cwestiwn o gael rhagor o dai, a hynny yn fuan, yn dyfod yn un pwysig iawn. GWVXFRYN JONES.

Golygydd y Darian a Syr WRN

Golygydd y 'Darian' a Syr W.R.N. Anffawd fawr i Gristionogaeth a'r rhwystr pennaf ar ffordd llwyddiant Teyrnas lesu o Nazareth, yw fod dynion fel Syr WR.!N yn ei dehongli. Yr ydym yn darllen y British Weekly er ys blynyddoedd, ac yr ydym wedi sylwi fod cydymdeimlad y gwr teitlog a'i golyga bob amser gyda'r bend,efigaeth ac nid gyda'r werin. Fel y gwisgodd Saul Dafydd yn ei ddillad brenhinol ei hun pan gychwynai i wynebu'r cawr felly y mae Gol. y British Weekly bob amser yn ceisio gwisgo'r lesu o Nazareth mewn gwisg o aristocrataeth gydnaws ag ysbryd pendefig- aeth y byd hwn i'w anfon allan i waredu'r byd. Ond ni Iwydda lesu Syr William mwy nag y llwydd- ai Dafydd mewn gwisg nas gallai gerdded ynddi. Mab y Saer oedd Mab y Dyn a'i ogoniant yn y cym- wynasgarwch, yr hunanaberth, y maddeuant i'w elynion oedd yn ddatguddiad o'r tragwyddol gariad, ac nid mewn teitlau daearol nac mewn llafn cledd a loewasid gan waed. Y mae ffug foneddigeidd- rwydd, balchter doethineb ddynol, a choegni diwin- vddiaeth Germanaidd wedi bod fel cap nos angeu, am ben Cristionogaeth er ys hir amser. Gadewir yr argraff ar y bobl nas gall y dyn cyffredin ddeall mo'i Destament Newydd nac hyd yn oed eiriau symlaf ei Waredwr. Y mae cymaint esbonio ar bethau hunaneglur nes y mae'r Testament Newydd wedi mynd yn ddiystyr ac yn ddiwerth i drafferthu yn ei gylch yng ngolwg llawer.

Yr Eglwys ar Werin

Yr Eglwys a'r Werin. Erbyn heddyw y mae ton a thymer y gogwydd gwerinol wedi newid yn ddirfawr. Y drychfeddwl arweiniol yn y symudiad yn awr yw'r drychfeddwl o gyfathrach, cymdeithasiad, brawdoliaeth, a chyfrif- oldeb. Nid pob un i gyrraedd ffon uchaf yr ysgol, ond y naill i helpu y llall. Tra yn cydnabod fod tymer y symudiad wedi newid yn hollol, nid yw yn rhydd oddiwrth ddau berygl arall: (r) Y perygl cyntaf yw pwysleisio'r materol.—Yn 01 datganiad un dosbarth uchel eu cloch yn y symudiad gwerinol, yr unig fater sy'n llanw eu meddwl ydyw problem tai, afiechyd, bwyd, cyflog, oriau gwaith, a thlodi. Gwir fod y materion hyn wedi eu hanwybyddu yn flEy hir. Dyma hanfodion cyntaf gwareiddiad iach. Ond y mae aros gydag ochr faterol bywyd yn rhwym o gyfyngu ar weledig- aeth y werin. (2) Y perigl arall yn gogoneddu dosbarth.—Ni all yr ysbryd gwerinol fforddio edrych ar gwestiwn iawnder oddiar safbwynt dosbarth. Athrawiaeth felltigedig oedd honno ddysgodd lianner can mlyn- edd yn ol fod y werin y crynswth o honi yn ddrwg. Athrawiaeth lawn mor gyfeiliornus yw tybio fod rhinwedd ac iawnder yn eiddo'r werin yn unig, a phob dosbarth arall wedi ei ddamnio eisoes. Nid yw'r werin o angenrheidrwydd ym magu seintiau fwy na dosbarth arall. Rhaid wrth ryw allu i ar- wain, cywiro, achub yr ysbryd gwerinol rhag rhedeg i ormod rhysedd. DYFNALLT.

Colegau y Bedyddwyr

Colegau y Bedyddwyr. Mater newydd pwysig fydd i'w drin yn yr Undeb yn New Tredegar yw mater y Colegau. Ni theimlwn yn rhydd i'w gyffwrdd yn y modd y carem, oblegid ein cysylltiad ag ysgol sy'n paratoi myfyrwyr ar gyfer y Colegau. Pe mynegem yn groew ein barn y dylai addysg ymgeiswyr am y weinidogaeth fod o'r cychwyn dan nawdd a gofal yr enwad, odid na thybid ein bod am ddadleu'n hachos ein hunain. Ni bvddai dim yn fwy o gam esboniad. Gall yr ysgol sydd dan ein gofal fyw, fel y gwnaeth, yn niffyg cefnogaeth y Bedyddwyr fel enwad eithr y pwnc yw, pa gynllun fydd oreu i weithredu arrio i fagu pregethwyr a gweinidogion cymwys i anghen- ion newydd ein gwlad. Dylai ystyriaeth o'r mater hwn beri i'r ymdriniaeth yn New Tredegar fod yn eofn ac yn weddaidd. Hysbyswyd ni droion mai teimlad llawer o frodyr yw y carent fod yng Nghyiarfodydd Blynyddol eu Coleg, ond nad oes modd iddynt sylweddoli eu hawyddfryd, flwyddyn ar ol blwyddyn. Teimlant fod y gwaith yn disgyn ar y pwyllgor lleol agos yn llwyr, ac nad oes gan gorff yr enwad ran na chyfran yn y gweithrediadau pwysicaf ynglyn a'r Colegau. Diameu fod peth gwir yn hyn, a dywedyd y lleiaf, ac er na fynnem ddileu'r pwyllgorau lleol, credwn yr enillid mwy o ymddiriedaeth a chefnogaeth i sefydliadau a wnaeth gymaint dros ein henwad yn y gorffennol, pe gosod- id eu rheolaeth yn y materion pwysicaf, megis dewis athrawon ■ a'r cyffelyb, dan nawdd a chyfarwyddyd Undeb Bedyddwyr Cymru. GWILI.

COLOFN Y BEIRDD

COLOFN Y BEIRDD. Golygydd: Y PARCH. T. MORDAF PIERCE, Iscoed, Dolgellau. I'R GAD! I'R GAD! 0 clywch! clywch yr alwad, daeth cenad o'r Ilys, I'r gad ew.ch Brydeiniaid, vmrpsfrwch ar frys Chwenychu mae'r gelyn, ein hynys fach ni, I'w llyncu'n felusfAyG ei gwaemaf ein cri; Ond gwylied y bradwr! cyfiawnder a fyn teyrn mor beryglus, mewn gefyn heiyrn tyn Yn gwgu mae'r nefoedd! dynesu mae'r awr, Y syrth y gormesdeyrn yn gelain i lawr. Ar faes y gelanedd, yr Ell.myn yn hyf, 0 gwpan creulondeb y rhyfel a yf Ond gwadaod llidiowgrwydd dialedd yr lor, Yn nghadw i'w yfed, sydd iddo'n ystar; Nac ofnwch ymiestru. mae Duw yn y gad, Dros hawliau cyfiawnder yr ymladd ein gwlad Tydi sydd yn ieuanc a heini dy droed, Bydd ffiyddlon j'th wlad, dos i'r gid yn ddioed. Medi 19, 19x4. EDWARD JENKINS.

MACIILUD HAUL 0 GEREDIGION

MACIILUD HAUL 0 GEREDIGION. Teifl haul eres mor esmwyth—dramor drem Ar draeth Aberystwyth, Nes fflam-wyleiddio'r mor mwyth— 'Hyd i Enlli mae'n'danllwjdh. Awst 18, 1914. M.

CWLWM CARIAD

CW,LW'M CARIAD. (Cyfiwynedig i Mr. a M is. Pettigrew, Pontwgan, Ro Yren, ar eu priodas). Yng n^ghanol haf a'i flodau Cyflwynaf ganig Ion I ddau aeth dan we,niadau I fyd y fodrwy gron Mae lunio cerdd foliannus Yn 'fraint i'r awen lan I ddau mor anrhydeddus— Eu byd :fo'n lawn o gan. :NLae !M!arlgaret Jane ac Andrew Yn enwau hoff i'r bardd, Er's llawer dydd cyn heddyw Ar sail eu bywyd hardd A dyna wnaeth i'r awen W neud priodasol gerdd Eu hoes fel olewydden F.o'n ir, yn hardd a gwerdd. Bu'r ddau yn ffyddlon rodio Hyd lwybrau serch yni-hyd, A hawdd i fardd ddymuno 0. galon-" Gwyn eu byd Bendithion eu byd newydd Fo'n ami iawn a glan, Hyn yw dymuniad dedwydd Ap loan," gwr y gan.

YN CHWEICH A DEUGAIN OED

YN CHWEICH A DEUGAIN OED. (Cyflwynedig i'r Parch. J.T.D.). Ein dymuniadau goreu Ar chwech a deugain oed, Ac ar y blwyddi eto Bendithion nefoedd foed Bu Ner yn dyner wrthych Ar hyd y dyddiau gynt, Ac erys eto'n fendith Ar eich dyfodol hynt. Mae cerrig milltir bywyd Yn myn'd o un i un, Ceir gwel'd y garrea: olaf Yn fuan wrthi ei hun Os: ar v daith ceir 'nabod Y uw,r sydd inni'n ffiynd, Cawn wyMyd i rodianna, A'r cerig wedi myn'd. Boed llaw yr lor i'ch arwain A',ch cadw ar eich taith, Nes gwneud yr yrfa.'n ddiogel, 'Boed honno fer neu faith Cewch ibara i ymiarwisigo Yn yr arfogaieih lawn, Cewch gymorih i gyhoeddi Yr Aberth mawr a'r lawn. Llanidloes. RICHARD GEORGE.

No title

,Afa.e capei CoedUai wedi 'ei ailagor ar ol cael ei lanihau a'i addurno. a petrol air gas,, ac edrycha yn hardd. Pregethwyd gan y Parch. Coningsby Williams, y gweinidog. Ailagorwyd capel y iM!ethodistiaid Mynydd Isa yr wythnos o'r blaen. Pregethodd ;y Piarcbn. W. S. Jones, M.A., John Roberts, Rhyl, a G. Parry Wil- liams, !M.A. Mae cyfarfbdydd cyllidol y Vvesleyaid yn y De a'r Goigledd yn caeI eu cynnal yr wythnos hon, a phre- gethir drwy'r dydd ddiwrnod olaf yr wyl. Y gweinidogion fu yn gwasanaethu yinjg nghyfarfod biynyddol Cwmbach, Aberdar, elcni oeddynt y Parchn. E., Myfyr Evans, Aberarth, ac E. P. Jones, B.A., Caerciydd. Tmddodwyd yr efengyl fawr yn ei phurdeb a'i gogoniant gan y ddau genad. Calf. wyd cynuUiadau ardderchfOig.