Collection Title: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 3 of 16 Next Last
Full Screen
10 articles on this page
NODIADAU WYTHNOSOL

NODIADAU WYTHNOSOL. +- Y Frwydr yn Ffrainc. Ar hyd yr holl wythnos i fyny i'r arnser yr ysgrifenwn, nid oes ond ychydig o nevvvddion wedi cyrraedd o galon y rhyfel yn Ffrainc. Nid arwydd yw hynny mai ychydig sy'n cymeryd lie neu mai dibwys yw'r cyfwng. Yn hoUol fel arall, pan y tynnir y lien i lawr, ac y cedwir ni heb ond ychydig o newyddion ffurf- iol ac ystrydebol, dyna'r pryd ag y mae'r brwydro mwyaf a'r gyflafan erchyllaf. NVecli"r elo'r cyfwng gvvaedlyd a phwysig heibio y icodir cwrr y lien ac y rhoddir allan i'r byd rhyw gyniaint o hanes a helynt a chanlyniad yr ymladd. Y mae'r frwydr fawr sy'n avvr ym mynd ymlaen wedi parhau er ys tros wythnos, ei chylch yn cyrraedd bron i gan' milltir, a'r gwyr gymer ran yn yr ymladd yn rhifo, yn ol pob tebyg, tua thair miliwn o eneidiau. Mae byddinoedd Germani yn gwneud gwrthsafiad cadarn, ac wedi cymryd ii fvny safleoedd manteisiol a ffafriol; ac ychydig iawn a lwvddwyd i'w gwthio yn c- I yn ystod yr wythnos ofnadwy o ymiadd. O'r ochr arall, ychydig y maent yn ei fentro gymryd yr ymosodol; a phob tro y gwnaeth- ant hysbysir i'r Cyngrheiriaid ddal eu tir a'n cadw yn ol. Disgwylir bob dydd am y ncwydd fod y frwydr wedi ei therfynu a'i hennill. Ar yr un pryd yr hyn sy'n bwysig' i'r Cyngrheiriaid yw dal eu tir ac ennill amser. Bydd hynny ynddo ei hun cystal a buddugoliaeth.

Disgwyl y Fyddin Newydd

.Disgwyl y Fyddin Newydd. Eto, mae llawer o ddisgwyl, a llawer o ddarogan, am gyfnerthion o gyfeiriad y gor- llewin, i wneud safle'r Geriiiaiiiaid yn beryglus ac i ysgafnhau tasg y Cyngrheiriaid yn Ffrainc. Mae rhai o'r papurau yn cyhoeddi'n fynych fod y waredigaeth yma wrth y drws neu'n wir wedi cyrraedd rhyw gwrr o'r maes. Edrydd gohebydd ddechreu'r wythnos hon am frwydr waedlyd yn St. Quentin, rhwng byddin o'r Ffrancod a'r gelyn; ac am enciliad y Germaniaid o Amiens a'r trefydd o amgylch yn Ffrainc. Os y gall y fyddin hon glirio'i ffordd ymlaen, gall ychwanegu perygl aden ddeheu byddin fawr Germani, dan von Kluck. Dyma fan gwannaf y Germaniaid a'r perygl mwyaf. Y rhan hon roddodd ffordd gyntaf gerllaw Paris, ac a gychwynodd yr enciliad mawr; ac un o'r ffyrdd effeithiolaf i wthio'r holl linell yn ol o'u safle bresennol fyddai bygwth troi ac amgylchu byddin von Kluck. Yn Belgium parheir i iiino'r Germaniaid o wahanol gyfeiriatlau; ac nid ymddengys eu bod mewn digononerth yno i allu gwneud dim yn effeithiol. Bu sibrydion eu bod yn gadael Brussels, ond nid ymddengys fod sail i'r stori. Mae'r Belgiaid wedi gorlifo rhannau rhwng Malines ac Antwerp. Nid oes un arwydd fod modd anfon byddin gref i gyd- weithredu a'r Belgiaid ar hyn o brvd, gan fod yn rhaid am yr holl nerth i gadw'r tir sydd wedi ei ennill yn Ffrainc.

iDinistr Creulon a Gwarthus

iDinistr Creulon a Gwarthus. Bob wythnos, a phob dydd bron, daw newyddion am farbareidd-dra dieflig y Ger- maniaid; a'r anfadwaith olaf adroddir yw dinistr Eiglwys Gadeiriol Rheims, un o adeil- adau ardderchocaf cyfandir Ewrop, ac un o gofgolofnau gogoneddus celf y canol-oesau. t, 1-1 Mae'r Germaniaid wedi encilio o'r ddinas, ond yn parhau i'w magnelu oddiar y llethrau a'r, bryniau cyfagos; ac yn ol pob tystiolaeth gwnant yr hen eglwys ardderchog yn nod eu peleni dinistriof. Y newydd diweddaf pan iysgrifennwn ydyw ei bod ar dan ac yn cwympo'n falurion i'r llawr. Bwriada Llyw- odraeth Ffrainc anfon eu protest yn erbyn y gwarth melltigedig hwn at y Galluoedd. Mae'r Cbmisiwn !benodwyd gan Lywodraeth Belgium i wneud ymchwiliad i'r cyhuddiadau yn erbyn y Germaniaid wedi cyhoeddi ei drjdydd adroddiad. Am Aerschot a'r cylch yr oedd y cyntaf, a'r ail am Louvain. Cwbl- hau'r olaf y mae'r adroddiad presennol, ac y mae ei ddarllen yn cyffroi'r galon i'w dyfn- deroedd. Ni raid manylu ar y creulonderau a'r ffieidd-dra annynob Da fyddai i wlad amhleidgar fel yr Unol Daleithiau gael ei rhoi J cistedd mewn ymchwil a barn ar yr holl gy- huddiadau, a chyhoeddi i'r hollfyd ddedfryd gyfiawn a theg ar Germani.

Rwsia ac Awstria

Rwsia ac Awstria. Yn wyneb ei cholledion aruthrol a'i chwymp diadfer ar faes y gwaed, nid rhyfedd fod son y bydd Awstria ar fyrder yn ildio ac yn gadael i Germani wynebu ei holl elynion ei hunan. Mae ei helynt ar y maes yn resynus i'r eithaf, a'i cholledion mewn lladdedigion, clwyfedigion a charcharorion, yn gannoedd o filoedd. Erbyn hyn y mae'r Rwsiaid yn cau am Pryzemysl o ddau gyfeiriad, ac os y gall Rwsia ail-adrodd ei gorchestion blaenorol yma, bydd y ffordd i Berlin yn weddol agored i'r fyddin fawr o- Poland. Yn ol y newyddion diweddaraf mae'r llanw eto'n dechreu troi yn nwyrain Prwsia, a General Rennenkampf yn ail-ddechreu gwthio'r Germaniaid o'i flaen.

Ar y Mor

Ar y Mor. Ymosodiadau gwasgarog a cholledion yma a thraw o'r naill ochr a'r Ilall sydd yn cymryd lie ar y mor. Hysbysir mai'r esboniad ar y llestri ddaeth i Kiel wedi eu niweidio dro yn ol oedd i ddwy adran o'r llongau Germanaidd yn y Baltic gamgymeryd eu gilydd am lestri g-elynol a thanio'r naill ar y Hall. 0 Zanzibar daw'r newydd i'r Koenigsberg ymosod ar y llong Brydeinig Pegasus pan oedd yr olaf yn mynd dan adgyweiriad yn yr harbwr. Ni- y weidiwyd hi'n ddifrifol, a chollwyd 25 o fywydau. Daeth y wiblong Germanaidd Em- den i'r gohvg, wedi bod yn guddiedig am chwech wythnos. Ym Mau Bengal y gwnaeth ei hymddangosiad, a daliodd chwech o longau masnachol Prydain. 0'1' ochr arall suddodd y Carmania long Germanaidd arfog ar lannau De America.

Ymreolaeth a Datgysylltiad

Ymreolaeth a Datg-ysylltiad. Mae i'r wythnos ddiweddaf bwysigrwydd gwleidyddol yng nghanol yr holl helynt filwr- I I ol i gyd. Ddydd Gwener daeth Ymreolaeth i'r Iwerddon a Datg-ysylltiad i Gymru yn ddeddfau ar lyfrau y deyrnas dan Deleddf y Senedd. Gwir nad ydynt i ddyfod i weithred- iad am flwyddyn, neu hyd derfyn y rhyfel os na bydd y rhyfel wedi ei derfynu ymhen y flwyddyn. Trwy basio'r ddau Fesur hyn yn Ddeddf y mae y Llywodraeth wedi sicrhau ffrwyth cyntaf y Ddeddf fawr a gariwyd yn erbyn yr Arglwyddi, ac wedi sicrhau nad yw holl lafur anferth y blynyddoedd diweddaf i fynd yn gwbi ofer. Ac wrth wneud hynny mae wedi estyn i'r Iwerddon a Chymru y di- wygiadau y maent wedi galw am danynt am genedlaethau. __4

Chwerwedd Mr Bonar Law

Chwerwedd Mr. Bonar Law. Nid dyma"r adeg i son llawer am chwerwedd ysbryd plaid, gan fod yr vshryd hwnnw er cychwyn y rhyfel wedi ei roi o'r neilltu i radd- tBU canmoladwy iawn yn y Ty ac yn y wlad gan y naIl hlaid a'r Ilall. Ond gan fod y Tori- 11 y nall blaid aid, trwy enaii eu harweinydd yn y Ty, wedi mynnu gwneud arddangosiad o'r fath fwyaf annheilwng ohono, nis gallwn ei adael yn ddi- sylw hyd yn oed yng nghanol argyfwng y rhyfel. Dro yn ol gallesid meddwl fod Mr. Bonar Law yn barod i gyfarfod y Llywodraeth hanner y ffordd, ac yn benderfynol o beidio gwneud na dweyd dim allai mewn un modd roi argraff yn unman o raniad na gwendid. Ond daeth araith wenwynig Mir. Balfour yr wythnos o'r blaen, a gwelodd Mr. Law fod yn rhaid iddo, chware eto, i ddwylaw Syr Ed- ward Carson a Mr. Balfour. Yr oedd v Tor- iaid wedi cyfarfod yn y Carlton Club y dydd blaenorol, ac yno wedi condemnio'r Llywodr- aeth a'i chyhuddo o fradychu"r cytundeb o amhleidgarwch tros ystod y rhyfel. Ym- hellach penderfynasant adael y Ty yn un cwmni, wedii Mr. Bonar Law draddodi ei arawd a lluchio llaid ar Mr. Asquith. Eu hamcan hwy oedd cael gohiriad ac oediad ar y M.esurau nes elaiy rhyfel trosodd. Ond fel y danghosodd Mr. Asquith, buasai'r Llyw- odraeth a'r Mesurau yn waeth allan felly ar ddiwedd v tymor ilag y buasent pe heb doriad allan y rhyfel, tra nad yw'r Toriaid ac Ulster vronyn gwaeth allan. Nis gellid cario'r Amending. Bill yn awr, ond pasid ef cyn i Ym- reolaeth ddyfod i weithrediad. Gwarth i Mr. Bonar Law oedd ei ymosodiad personol ar Mr. Asquith, a chywilyddia goreuon ei blaid ohono.

Terfynur Tymor

Terfynu'r Tymor. Daeth un o dymhorau mwyaf nodedig y Senedd i ben dydd Gwener. Bu o bryd i bryd yn ystod y blynyddoedd diweddaf, gryn lawer o ddyfalu a phroffwydo pa fodd y troai y frwydr rhwng y Llywodraeth a'r Wrthblaid allan yn y diwedd, a than ba amgylchiadau y dirwynid y Senedd-dymor cofiadwy i ben. Ond yr oedd pob darogan ymhell iawn oddi- wrth y nod. Hyd o fewn ychydig wythnosau i'r terfyn, nid oedd neb wedi breuddwydio fod cwmwl rhyfel Ewropeaidd heb ei fath i daRu ,ei p-ysigod ar y Senedd ac ar y deyrnas oil. Fel y sylwyd parodd y trychineb mawr yma gyfnewidiad pwysig yrnhob peth; anghofiwyd gwleidyddiaeth plaid o'r bron, a chladdwyd: man wahaniaethau rhwng dynion oedd wedi bod ar hyd y blynyddoedd yn ymiadd gyda chwerwder mawr. Oiiibai am eiriau ac ym- ddygiad Mr. Balfour, Mr. Bonar Law, a Syr Edward Carson, gallesid dweyd fod yr ysbryd wedi ei gadw yn bur dda i'r diwedd. Ond bu raid i'r hen draha Toriaidd gael dangos ei hun yn ei liw priodol. Gwnaeth yr Arglwyddi eu protest, a dywedodd Arglwydd Curzon rywbeth i'r un ystyr a Mr. Bonar Law, ond nid gyda'r un gwenwyn. Ond daeth y gweith- rediadau oil i derfyn ddydd Gwener. Ar derfyn y seremoni derfynol yn Nhy'r Arg- lwyddi, torwvd allan i ganu yr Anthem Genedlaethol, ac yn y ffbrdd eithriadol a di- eithr hon y daeth y tymor rhyfedd a phwysig « ben; gyda'r oil oedd yn bresennol a'r swyddogion a'r aelodau o un galon yn dy- muno ac yn gweddio am nawdd Duw dros y Brenin a'r deyrnas.

Areithiau ac Apeliadau

Areithiau ac Apeliadau. Nis gallwn yma ond cyfeirio'n fyrr at ychydig o'r prif areithiau draddodwyd yn ystod yr wythnos. Yr un yw amcan pob araith yn awr, pa un bynnag a draddodir hi gan Ryddfrydwr neu Geidwadwr; gan un o Weinidogion y Goron neu un o'r Wrthblaid; yn wir gan un o weinidogion Efengyl y tang- nefedd, neu un o swyddwyr milwriaethus y fyddin. Utgorn rhyfel a chorn y gad yw pob araith oddiar ba lwyfan bynnag y traddodir hi. Erbyn diwedd yr wythnos yr oedd Mr. Asquith a Mr. Lloyd George wedi eu rhydd- hau oddiwrth rai o'r gofalon diderfyn fu arn- ynt yn wythnosau cyntaf y rhyfel, a thra yr oedd y Senedd ar waith, a nos Wener ymwel- odd y Prifweinidog ag Edinburgh i wneud apel y Llywodraeth at ddynion ieuainc Scot- land. Ar yr un llwyfan a Mr. Asquith yr oedd Arglwydd Rosebery, a chafwyd dwy apel hyawdl a nerthol, fel y gallesid disgwyl gan ddau areithydd mor enwog ac mor wahan- ol i'w gilydd. Gosododd y Prifweinidog" allan yn glir sa,fle"r Llywodraeth neu'n hytrach safle'r deyrnas ynglyn a'r rhyfel, gan bwys- leisio ar gwestiwn amhleidganvch ac annibyn- iaeth Belgium. Y dvdd dilynol yr oedd Cang- hellor y Trysorlys yn apelio at ei gydwladwyr yn y brifddinas, ac y mae ei eiriau wedi ad- seinio trwy'r deyrnas o gwrr i gwrr. Er holl ferw a galanas y rhyfel, amhvg yw nad yw Mr. Lloyd George yn colli ei ddelfrydau nac yn colli ei ffydd, ac y mae'n werth aros gyda'i araith i gadw"n fyw mewn amser tywyll ein gobaith a'n hyder am y wawr. Nos Lun bu Mr. Winston Churchill yn Liverpool, a chaf- wyd ganddo yntau araith fawr oedd a'i hapel yn amlwg yn cynhyrfu calonnau'r gwranda- wyr. Dyma glywir y dyddiau sydd yn dyfod etc, galwad ar hufen ein gwy-r ieuainc i roi eu. cyrff—eu hunain-yn aberthau byw ar allor eu gwlad. Yn ddiau, dyma awr na freuddwydiasom ei gweled byth, a gweddiwn na welir ei thebyg eto.

Diweddaraf

Diweddaraf. Nid oes dim newydd swyddogol 0 bwys cyrraedd o'r maes pan ydym yn mynd i'r wasg fore M'awrth. Ond ceir gair o Paris yn hysbysu i swyddog Prydeinig gyrraedd yno o'r ffrynt ddydd LIun; a'i dystiolaetb ef oedd fod y Cyngrheiriaid wedi gwella eu sefyllla yn fawr er y Sadwrn. Buwyd yn ymladd am ddyddiau, heb Jwyddo i gyrraedd dim mantais neilltuol. Ddydd Sul, fodd bynnag, llwyddwyd i yrru'r gelyn yn ol amryw filltir- oedd er gwaethaf eu gwrthsafiad ffyrnig yn y nos. Ceisiodd y Germaniaid ein gyrru'n ol, trwy gymryd yr ymosodol, ond trechwyd hwy a lladdfa fawr.