Collection Title: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 6 of 16 Next Last
Full Screen
1 article on this page
CYMRU AR RHYFEL

CYMRU A'R. RHYFEL. Mae. chwech 0 blant Mr. Craven, Berry St., Conwy, dan y faner, a'r tebyg yw y gelwir y tad allan hefyd yn fuan. Dydd Llun cynhaliw-yd cyfarfod sefydlu y Parch, Christmas Jones yn fugail Northop, So-ughton, a Mynydd Frflint. Mae Anghydffurfwyr T'reffynon yn cynnal cyfarfodydd gweddi iindebol ddwywaith yn yr wythnos i ofyn am heddwch. Mr. James Porter, Conwy, sydd wedi ei benodi yn glerc ynadon Comvy fel olynydd i'r diweddar Mr. J. E. Humphreys. Bu'r Kaiser yn gwrando ar gor meibion y De yn canu Cymraeg ym mhalas Windsor. Pa bryd y caiff glywed Cymraeg eto tybed? Deallaf fed Mr. David Davies, A.S., dan ddisgyblaeth neilltuol er cymhwyso ei hun i fod yn arweinydd i'r gatrawd ym maes y frwydr. Gofyna ynadon Caernarfon am gymeradwy- aeth yr Ysgrifenydd Cartrefol i orfodi cau y tafarndai a chlybiau y dref o chwech hyd wvth o'r gloch yn y bore. Diywedir y cymerir llawer iawn mwy o ofal am y Marconi Stations yn Nhowyn a Waenfawr o hyn allan. Deallwn fod cad- long- yn dyfod tuallan i Towyn bob dydd i weled a yw popeth yn iawn. Nid yw yr enw "English Navy" i gael ei ddweycl yn Nhy y C'yff redin o hyn allan. British Navy, &c., sydd i fod yn ei le. Chware teg- i'r Gwyddelod, y Sicotiaid, a'r Cymry. Gwnaeth plant capel y Mlethodistiaid yn Nhreffynnon g-asgliad o 3p. y Saboth o'r blaen at gynorthwyo plant bach Belgium. Anfon- wyd y rhodd i'r Belgium Aid Society yn Llundain. Mae Cymdeithas Lyfryddol Cymru, oedd i gyfarfod ym M'angor adeg yr Eisteddfod, wedi penderfynu cynnal ei chwrdd hlynydclol yn Llyfrgell Gyhoeddus Abertawe am 2 o'r g'loch dydd lau, Hydref 22ain. Anfonodd Syr Osmond Williams allan (gylchlythyr yn apelio am gyfraniadau er gwaddofi Gwely Meiri-on" yn yr Ysbyty Gymreig sydd yn cael ei hanfon allan i faes y hyfel. Z250 sy'n eisieu o Feirion at wneud hynny. Dywedir nad oes ond un g'wasanaeth yn cael ei gynnal ar y S'aboth yn Eglwys Aber- hafesp yr wythnosau hyn, oherwydd fod y rheithior wedi gorfori mynd i Norfolk i was- anaethu fel Caplan i'r meirchfilwyr sydd yno dan ddisgyblaeth, Penderfynodd cyngor gwledig Treffynnon godi 22 o dai g-wei th wy r ym Mbstyn ar gos t o ^5,230 ar dir a brynwyd gan Arglwydd Mostyn, a 30 o" dai gweithwyr yn Bagillt. i gostio; £ 7,695. Gofynir am fenthyg £ 13,500 gan- y Llvwodraeth at y gwaith. Gohiriwyd cyfarfodydd Cymanfa Ddirwestol Gwynedd "oherwydd y rhyfel." Yn Liver- pool yr oeddynt i'w cynnal y mis nesaf. Mae cyfeillion Liverpool wedi penderfynu, hefyd, i ohirio cyfarfodydd blynycklol yr Y sgolion Sabothol am yr un rheswm. Dywedodd y Milwriad Mostyn yn Ilys ynad- ol Conwy y dylai y gweinidogion bregethu o'r pulpudau ar y ddyledswydd o ymuno a'r fyddin. Pe gwnelai gweinidogion hynny yn ardaloedd y chwarelau cawsai effaith dda. Yr oedd rhywun wedi dweyd na huasai y gweith- wyr yn waeth allan dan y Kaiser nag ydynt yn awr; ond ni buasai dim ond ffwl yn dweyd peth felly. Dywedai y Milwriad, hefyd, fod eisieu i Mr. Lloyd George ddyfod i lawr i siarad ytig Nghymru, a'i fod wedi addo dyfod ymhen tua thair wythnos. Barna lisgob Bangor ei bod yn ddyled- swydd ar y clerigwyr i annog pawb cymwys i ymuno a'r fyddin, ac am i'r rhai nas gallant fyned allan i ddysgu saethu er mwyn bod yn barod pe gwnelid ymgais i oresgyn y wlad. Mae llawer o baratoi dillad, &c., gan ferched Maldwyn ar gyfer y milwyr. Cyferfydd nifer o honynt amryw weithiau yr wythnos i wnio, gwau, &c., yn y gwahanol ardaloedd. Pwysig yw co-fio wrth wneud y pethau hyn y dylid eu gwneud o ddefnyddiau da a chynnes, mae y milwyr yn haeddu cael hynny. Dywedodd Mr. Vaughan Davies, A. S., pan y daeth efe i lawr o Lundain i Sir Aberteifi, nad oedd yno ddim yn cael ei wneud er cael milwyr i fyddin Arglwydd Kitchener. Mae pethau yn well erbyn hyn; ond cwynir mai an nog" eraill i fyned yw prif nodwedd yr areithiau a glywir. Ac y mae v wlad yn gweled drwy beth felly. Dywedodd Mr. William Jones, A.S., y dydd o'r blaen fod y Llywodraeth yn bwriadu pen- odi pwyllgor i ystyried y cwestiwn o roi blwydd-dal i wragedd a phlant y rhai a gollant eu bywyd yn y rhyfel. Diau fod hwn yn cyffwrdd ag anhawster gwirioneddo-1 yng" 21 Nghymru, lie y mae ymlyniad at rwymedig- aethau bywyd priodasol yn gysegredig iawn. Mae'r Daricm yn erbyn y rhyfel, ac erlidir hi am hynny. Ond ai nid oes ganddi hawl i fod felly heb gael ei herlid? Creda llawer fod y golygydd wedi colli, ei ben, ond nid oes rheswm ar ei erlid o achos hynny. Un o fell- dithion Cymru yw yr ysbryd erlidgar sydd yn meddiannu ewinedd rhai o'n dynion blaenaf. Nid oes fawr o amser er pan yr erlidid Mr. Lloyd George. Galwyd ar Mr. R. J. Owen, un o athrawon Ysgol Sir Treffynnon, i fyned allan gyda'r fyddin. Yng nghyfarfod diweddaf rheolwyr yr ysgol, gofynodd Mrs. Owen am gael cym- ryd lie ei phriod tra y byddai efe gyda'r fyddin. Gan ei bod hi wedi bod yn dysgu mathematics a gwyddoniaeth cyn priodi, yr oedd yn abJi gymryd gofal y do-sbarthiadau uvvchai, a chaniatawyd ei chais. Er gwaethaf y newydd galarus am farwol- aeth ei fab, bu Arglwydd Plymouth yn llyw- yddu cyfarfod yng Nghaerdydd er cymell efrydwyr yng Ngholeg y Brifysgol a'r ys- t, Z, golion cyhoeddus i ffurfio catrawd ym myddin Arglwydd Kitchener. Rhaid i ni," ebai ei arglwyddiaeth, dderbyn calondid oddiwrth y dyddordeb gymer yr holl wlad ym muddugol- iaethau ein 'byddin dewr ar y maes, ac yn y balchter o weled fod ein meibion yn gallu marw fel yma dros eu gwlad." Adroddir hanes tarawiadol o Lanilar ynglyn a'r rhyfel. Ar ol cyfarfod a fu yno penderfyn- odd Mir. Willie Parry, Meliny Dyffryn, ym- uno, ond pan aeth dan archwiliad meddygol, caed nad oedd ei lygaid yn ddigon perftaith. Aeth yn ol adref yn dra siomedig, ac adrodd- odd yr hanes i'w frawd John. Effeithiodd siomedigaeth ei frawd ar John gymaint: fel y penderfynodd ymuno a'r fyddin. Mae John wedi pasio yr archwiliad ac yn myned allan dros ei wlad,—a thros Willie ei frawd. Y mae Cymdeithas y Beiblau wedi dos- barthu 84,569 o Destamentau, a 26,735 0 rannau eraill o'r Ysgrythyrau, i filwyr Pryd- einig, gartref ac ar y maes, er pan dorrodd y rhyfel allan. Daeth 35,000 o'r copiau uchod o Canada; 10,000 o Dde Affrica; a thua 18,000 o- Awstralia a New Zealand. Hefyd, anfonwyd 100,000 i Germani; 20,000 i Awstria; 10,000 i Hungary 25,000 i Ffrainc a Belgium; yn gwneud cyfanrif o 266,301. Methvvyd a chael yr ystadegau lun yn y byd am Rwsia hyd yma. Y mae 45 o Feiblglud- wyr, a gwasanaethyddion eraill y Gymdeitn- as, wedi cael eu galw i'r rhyfel, heb gyfrif yr hyn sydd wedi digwydd yn Rwsia. Ac fe ddosbarthwyd mwy lawer o Y sgrythyrau o storfa'r Gymdeithas, yn y ffordd gyffredin, yn ystod y cyfnod hwn o'i gymharu a'r un adeg y llynedd, yr hyn a ddengys nad gwiw gadael i gyllid y Gymdeithas at ei gwaith ar- ferol leihau dim. Penderfynwyd ym Mangor fod yr holl feirniadaethau sydd mewn ilaw gogyfer a'r Eisteddfod i'w rhoi dan. g-lo yn y bane, ac na bo dim i'w ddatguddio hyd adeg Eisteddfod y fiwvddyn nesaf. Mae'r pwyllgor wedi pen- derfynu wynebu yr anhawst-erau yn gefnog. Dywed Miss Annie 'M. Davies, Treborth, fod mwy a mwy o alw am nurses Cymreig. Cyn toriad y rhyfel allan ni doedd digon yn paratoi i ,yfarfr),d yr alwad; ac yn awr yr oedd mwy o alw nag erioed. Gellir cael pob inanylion oddiwrth Miss Davies, Treborth, Bangor. Galwad i'r gad yw y llais mwyaf cyffredin, ac uchaf ei ef glywir yn holl gyffiniau y Goror y dyddiau hyn,; ac y mae cryn nifer yn g-wrando ac yn ufuddhau i'r alwad. Mae un gatrawd o fechgyn Meirion a Mlaldwyn wedi eu hanfon o'r D'refnewydd er ys mis yn ol, ac yn awr o- dan ddisgyblaeth yn. Northampton. Bellach y mae ail gatrawd yn cael ei ffurfio- a'i disgyblu, yn yr un lie. Mae eisoes rai ugein- iau o fechgyn wedi ymuno a hon, a rhai newyddion yn dyfod i mewn bob dydd. Heb- law hyn y mae ail gatrawd o feirch-filwyr yn cael ei ffurfi-o yn y Trallwm. M'ewn cyfarfod ym Mhenmaenmawr ad- roddodd Proff. Lewis Jones, o Fangor, ystori am ffermwr ym Mon pan yn igweithio ar y cae yn adrodd wrth ei was am yr anfadwaith yn Louvain. Ydi hyna yn wir, meistd gofynai y gwas. Ydyw, yn hollol wir," atebai y ffermwr. Wei, dyma fi yn mynd," ebai'r gwas, i lawr a'r rhaw, ac ymaith ag ef i Borthaethwy i roi ei enw i lawr. Dvnla'r ysbryd ddylai feddiannu ein pobl ieuainc ebai'r athro. Ond ar ddiwedd y cyfarfod, er pob apel, a dylanwad trydanol adroddiad y Parch. Dewi Williams, B.A., o I bias Gogerddan heb dy dad, -ni ymunodd neb. Gwnaethpwyd cais gan yr Awdurdodau am gael 'benthyg Coleg newydd Caerleon fel Iloches i garcharorion Germanaidd. Ond safodd yr Henadur S. N. Jones a'i gydlyw- odraethwyr ar eu sodlau, a g-wrthodasant yn bendant goleddu y syniad. Hw-yrach y ceisir eu perswadio eto, ond sicr yw mai ofer fydd pob ymgais, ac ni ddylid eu beio. Meddyliant yn uchel o'u C'oleg, teimlant yn falch o hono, ac nid hawdd iddynt. yw dygymod a'r syniad o'i weled yn cael ei halogi yn y cychwyn wrth ei ddefnyddio i'r amcan hWll. Mae gwrych y cyfeillion ym Miynwy i fyny. Dyddorol fydd g'wylio canlyniad y frwydr rhyngddynt a'r Swyddfa Ryfel. Gohebydd a ysgrifenna :Gwr ag y mae y rhyfel wedi chwydd-o ei waith yn aruthrol yw y Parch. John Williams, Brynsiencyn. Teimla yn ddwys, ac nid arbeda ei hun yn ei ymdrech glodwiw i (lelsio perswadio eraill i ymdeimlo a'u eyfrifoldeb i'w gwlad a'u teyrnas yn y cyfwng eithriadol hwysig hwn. Nid peth dieithr yw ei weled yn anerch dau a thri chyfarfod y dydd, a chysur meddwl mai nid ar greigleoedd y. disgyna ei anerchiadau. Dygant ffrwyth toreithiog, ac nid oes angen i Ymneilltuwvr Cymru gywilyddio o'u pobl ieuainc. Llosga tan eu gwladgarwch yn llawn rnor frwd ag eiddo pobl ieuainc Eglwys Loegr, a daliant i'w cymharu a hwy unrhyw ddiwrnod. Her i Esgob Llanehvybrofi ei en- syniadau forwnt. Un o hanesion prudd maes y rhyfel ydyw hanes marwolaeth yr Anrhyd. Archer Wind- sor-Clive, mab Arglwydd Plymouth. Lladd- wyd ef yn mrwydr fawr Mons. Anfonwyd ef a nifer o'i gydfilwyr i g-adw'.r Germaniaid draw tra yr enciliai y fyddin Birydeinig. Min 110s pan y dechreuodd dywyllu daeth nifer o ddyn- ion mewn dillad milwyr Ffrainc ymlaen at y Prydeiniaid gan ofyn iddynt beidio tanio, fod yno gatrawd o Ffrancod yn dynesu. Y foment hono daeth y fyddin Germanaidd vill- laen, a deallwyd mai rhwydo y Prydeiniaid oedd yr amcan. Ymladdodd v gatrawd Brydeinig- o saith hyd ddau o'r gloch y bore, a lladdwyd tri a niweidiwyd 17. Yr oedd mab Arglwydd Plymouth ymhlith y lladded-. igion, ond cyn iddo syrthio yr oedd tua mil o'r Germaniaid wedi eu lladd.