Collection Title: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 7 of 16 Next Last
Full Screen
7 articles on this page
Meirion ar Glannatt

Meirion a'r Glannatt Nid oes ond un neu ddau o fechgyn Dolgellau wedi ymun-oi a'r fyddin ar ol y cyfarfod a gafwyd yma nos lau diweddaf. Dywedir fod Meirion ar ol bron bob sir arall yn anfon dynion allan. Oafwyd darTith arddendhog yn yr Abermaw dydd Llun diwedaf gan Dr. Frank Biallard. air "Y Ffydd Gristionogol." Mae Dr. Ballard yn adnabyddus fel dadleuydd dros Trristionogaeth ar lineHau gwyddon- iaeth ac athroniaeth. Digwyddodd dam wain yn Bontddu prynhawn Gwener, y iofed', pryd y daeth cerbyd modur mawr Llandudno i wrthdarawiad a cherbyd bychan o Gaer. Lhvyr ddinystriwyd yr olaf, ond, yn ffortunus, ni chafodd neb niwed. Ymadawodd y Parch. Meirion Davies (W.), yr Abermaw, ddydd Iau diweddaf am Brymbo. Teim- lir colled fawr ar ei ol. Dilynir et gan y Parch. E. J. Parry. Cynhaliwyd driwrnod o ymostyngiad yn Dyffryn Dyfi yr wythnos, hon. Dydd Llun yn Dinasmaw- ddwy a'r cymoedd, a dydd Iau yn Aherangell a Chwmlluman. Daeth cynulliadau lluosog er fod yr hin yn wy'byrog, ac yr oedd acwedd y cynulliadau yn dangos nad ydys wedi colli ffydd yn Nuw fel Duw rhagluniaeth. Pasdodd y rhai canilynol Arholiad Bwrdd Canol Cymru eleni o Ysgol Ganolraddol Dolgellau. Honours: Gwilym Pari Huws, Dolgellau Richard Jones,, Trawisfynydd, a W. M. Williams, Do>]gella.u. Senior: G. J. Arthur, Fifestindog; J. N. Ho worth, Southport; Watcyn Griffith, Dolgellau; D. G. Jarvis, Hanley Ger.aint Parry, Caernarfon; Benj. Roberts, Rhydymain; T. Wynne Williams, Dolgell- au. Exemption from Welsh Matriculation Richard Jones W. M. Williams D. G. Jarvis., a T. Wynne Williams. Junior: P. W. Brewer; T. S. Davies; Griffith Edwards; G. Basil Edwards; Ellis Hughes:; R. Ernest Jones; Griffith Roberts, a Percy Roberts. Pasiiodd y rhai canlynol arholiad Bwrdd Canol Cymru o YsgoI Dr. Williams, Dolgellau. Higher Certificate Mary Fennell, Southport; Mari Lewis, Dyffryn Peggie Morgan, Dolgellau hefyd cafodd y Welsh Matriculation Miay Price. Pennal. Senior certificate: Nelly Craig, Londonderry; Keri Ed- wards, Dolgellau, hefyd y Welsh Matriculation Jane Evans, Dolgellau Majel Fennell, Southport; Mary John, Shanghai; Olive Jones, Llandudno Laura Jones, Llanfachreth Betty Roberts, Dolgell- au. Junior Certificate Nancy Brown, Browsgrove Amy Davies, Llangollen Mary Davies, Llangollen Edith Dawson, Pwllheli Jennie Evans:, Bont- newycld Helen Jackson, Alberdyfi Claire Peacock, London O'lwen Pierce, Slatington, U.S.A. Louisa Pugh, Llanelltyd Gladys Roberts., Dolgellau. Newydd ddrwg sydd yn dyfod o Chwarel Lechi Maenofferen. Rihoddwyd hysbysiad allan ddydd Mercher fod rhaid i nifer y gweithwyr gael eu liei- hau oherwydd y rhyfel. Bu rhaid gahirio agoriad Ysgol Dr. Williams, Dol- gellau, am wythnos, gan nad oedd yr adeiladwyr wedi gorffen eu (gwaiith. Aigorir yr ysgol ddydd Iau nesaf. Dyn ieuanc gwrol yw Mr. Evan Davies, Abermaw. Xis ,gwn pia faint o fywydau a achubwyd ganddo. Gwelodd ddyn ieuanc o'r enw Anderson o Drallwm mewn perygl yng nghanol y tonnau, a rhuthrodd allan yn ei ddillad, a dygodd y truan i'r lanyn ddi. ogel. Miae y Parch. J. Radcliffe, B.A., B.D., wedi dyfod i fyw i Ddolgellau fel bugail yr eglwys Saesneg. Bydd y cyfarfod sefydlu ffurfiol ar y 7fed o Hydref, ond nos lau yn y seiat croesawyd Mr. Radcliffe i gylch yr eglwys. Hetfyd, yn y seiat, cyfeiriwyd at y golled a gafodd yr eglwys drwy symudiad un o'r swyddolgion ffyddlondaf, .Mr. J. E. Story, L.C. & M'. Bank, yr hwn sydd wedi ymuno a Byddin Arglwydd Kitchener Pasiwyd i anion llythyr ato ef a Mr. Osborne Jones (mab y diweddar Dr. Edward Jones) yntati gyda'r un fyddin, i ddymuno pob bendith ac amddiffyn arnynt, a,c i ddatgan y gohaith y cant ddvchweliad diolgel i'w cartrefi wedi yr elo yr aflwydd hwn heibio. Da genny.ni weled fod y cyfaill ieuanc Mr. J. 0. Jones, Rhydymain, wedi ei ordeinio yn fugail ar eglwys y IGæen, per Dinbych. Traddodwyd y siars. i'r gweinidog ieuanc gan y Parch. D. M. Harries, gweinidog eglwysi Rhydymain a Brithdir, ger Dol- gellau. Dywediai Mr. Harries i Mr. J. 0, Jones gael ei ddwyn i fyny yn eglwys Rhydymain, a thalodd deyrnged uehel iddo fel dyn ieuanc o gymeriad hardd, ac yn meddu cymhwysderau neilltuol ar giyfer y weinidogaeth. Ar ran yr eglwysi yr. oed-d ganddo i hysbysu fod rol1-tp.des-k, Beiibl a llyfrau eraill, yn cael eu ha-nrhegu i Mr. Jones, (gyda'r dymuniad- au goreu am ei lwyddiant. Dechreuodd P. S. Davies, Doligellau, a P. C. 'Morgan, Maentwrog, eu gwaith fel drill instructors' yn y Lluest milwyr, Wrecsam, ddydd LIun diweddaf. !Byd-d naw o blai-it, ysigol y cyngor, yr Abermaw, yn Ciael medal aur am beidio colli'r ysgol yr un waith Yn ystod y flwyddyn dd-iweddai. Anfonodd Ganon Rowlands, Aberdyfi, gopi o'r Testament Newydd i bob un o diriogaethwyr Alber- dyfi, sydd yn awr yn Northampton. Dr_- Parr}', Durham, gynt o Sir Fon, sydd wedi ei ddswis yn feddyg i ardal 'Corris.

Advertising

Or "W R- EXCURSIONS. SATURDAY, SEPTEMBER 26. 10 LONDON for 3 or 5 days. Leave Dolgelky ^•15 a.m., Bilaenau Festiniog 7.4s, Festiniog 7.58, Bala 8.50, Corwen 9.27, Llangollen 9.46 a.m. or details, see bills or send postcard to Stations or uffices. I FRANK POTTER, General Manager.

Nodion o Gacrdvdd ar Deheudi r

Nodion o Gacrdvdd a'r Deheudi r. (GAN EIN GOHEBYDD). Cynhaliwyd cyfarfodydd diolchgarwch yng nghapel Cathedral Road, Methodistiaid Saes.neg, dydd Sul. Pregethwyd gan y gweinidog, y Parch. Samuel Jones, B.A. Cynhaliwyd cyfarfodydd diolchgarwch eglwys y Symudiad Ymosodol, Clive Road, Caerdydd, dydd .y Sul. Pregethwyd y bore a'r hwyr gan y gweinidog, y Parch. R. M. Richards. Yn y prynhawn cafwyd dadganiad o 'Story of the Cross," gan gor capel Severn Road (P.M.). Yng nghyfarfod yr hwyr caf- wyd canu arbennig gan Miss Merrett. Yn eglwys Plasnewydd, Methodistiaid Saesneg, Caerdydd, priodwyd y Parch. W. Andrews, gweini- dog eglwys Trinity, M.C., 'Merthyr Vale, a Miss Lizzie James, merch Mr. a Mrs. James, Oaklands, Merthyr Vale. Rhoddwyd y cwlwm priodas gan y Parch. E. P. Jones, B.A., gweinidog Plasnewydd. Y morwynion priodas ydoedd :Miss Maud James a Miss Winnie James; tra mai y gwas priodas ydoedd Mr John Andrews, brawd y priodfab. Ar derfyn y gwasanaeth cafwyd brecwast priodasol yn y Dutch Cafe, Caerdydd. Treulir y melrawd yn Bourne- mouth. Yr oedd y llu anrhegion dderbyniwyd gan y dau yn arddangoseg o'u poblogrwydd ac o'r teiin- ladau caredig ddangoswyd tuag atynt ar ddechreu eu gyrfa Haerir fod ymrestriad fel milwyr ymhlith Ymneill- tuwyr yn gyffredin, ac ymhlith Cymru yn enwedig, ar ol am y gadawant i Eglwyswyr Seisnig fyned allan i ymladd drostynt. Yr F-glwyswr balch, Esgob Edwards, ddvwedodd felly. Mi allaf wrthbrofi y cyhuddiad fod Ymneilltuaeth wedi amddifadu y Cymry o'u gwroldeb. Ymneilltuwyr yw y mwyafrif sydd wedi ymrestru yn imorgannwg. Drwg gennym gofnodi marwolaeth Ifan Dafvdd, mab bychan y Parch. D. R. Jones, M.A., gweinidog CEpel Cymrexg Annibynol, Splott. Caerdydd. Es- tynwn i'r Parch, a Mrs. Jones ein cvdymdeimlad dyfnaf. Medd y South Wales Daily News Wonders never cease. As a rule North Wales sneers at Cardiff, but this week the North Wales Cymro actually praises the City authorities for being the first in Wales to order the early closing of public houses."

CAERFYRDDTN

CAERFYRDDTN. Lion iawn gennym fedru hysbysu fod dau o fyfyr- wyr Ysgol yr Hen Goleg yng Nghaerfyrddin wedi bod yn llwydiannus yr wythnos ddiweddaf yn Ar- holiad mynediad i mewn i Goleg Diwinyddol Bangor. Dyma eu henwau yn y drefn y daethant i law (1) Mr. D. J. Howells, Llanfyrnach; (2) Mr. W. D. Evans, Carmarthen. DLSGWYLFA CLWTYBONT. Hanner Canmlwyddiant yr Eglwys.—Nos Lun, Medi 14eg, ynglyn a'r Cyfarfod Misol, cynhaliwyd cyfa,rfod i dd.athlu hanner canmlwyddiant yr achos yn Nisgwylfa. Cafwyd cyfarfod difyr a buddiol; ac yr oedd gwrando ar gronicl yr eglwys er ei chychwyn hyd heddyw yn dra dyddorol. Teimlem wired geir- iau'r Arglwydd Iesu: Eraill a lafuriasant, a chwithau aethoch i mewn i'w llafur hwynt." Dylas- ai clywed hanes y gorffennol a'i weithwyr diflin ein symbylu ni sy'n fyw yn awr i gyffelyb ymgais, gan gofio mai ein braint a'n dyledswydd ninnau ydyw gadael i'r oes a ddel etifeddiaeth deg. Dechreuwyd trwy fawl a gweddi, a darllen cyfran o'r Gair o dan arweiniad Mr. Thomas W. Thomas, un o'r blaenor- iaid. Llywyddai'r gweinidog presennol, y Parch. W. Griffith, M.A. Cafwyd 'hanes yr achos' o'i gychwyn gan Mr. T. David Williams, un arall o'r swyddogion. Synnem glywed medrused "hesydd o'r hen oesoedd" ydyw Mr. Williams. Chwiliodd allan a chafood inni bethau newydd a hen, gan beri inni wenu we-ithiau ac wylo weithiau. Difyr oedd clywed hanes yr hen Faqpelali." Dycbmyg- em weled yr hen adeilad a'r platiau ei.rch o gwmpas., a hawdd gennym gredu mai mwy pleser i ambell faichgen byw direidus oedd darllen am y meirw oedd yn y fynwent gerllaw na, (gwrando'r bregeth neu ddilyn y wers yn yr ysgol. Dylai'r hanes ym.a fod ar gof a chadw i'r dyfodol. Di,.gwydda.i un o blant enwog Disigwylfa fod yn ein plTih y noswaith hon ar dro yn ei hen ardal, sef y Parch. Ellis James Jones, M.A., Rhyl. Un ydyw ef o'r naw pregethwyr god- wyd o'r eglwys hon, clod nid bychan iddi mewn cyf. nod byr. iMelus oedd ei atgofion enillodd y plant ar unwaith trwy ddywedyd am v bot.el o dan y pul- pud a'r Drysorfa am y mis, a'r I Herald Cymraeg,' a darn arian o'r flwyddyn yr adeiladwyd yr addoldy ynddi. Cofiai am yr hen enwogion bregethai ar ago.riad y oapel--Henry Rees, David Jones, Caer- narfon, Roger Edwards,—yr oedd y Parchn. Robert Ellis a WTm..Rowlands wedi preg.ethu ynddo cynt. Cawsom hanes yr hen fiaenoriaid David Pritchard, Wm. Jones, Henry Jones ac eraill. Siaradwyd hefyd gan Mr. Henry D. Thomas-,yr olaf o'r blaen. oriaid fel y g.alwodd rhywun ef-y ddolen gydiol rhyngom ni a'r hen gewri cyntaf. Ac yr oedd y Parch. Richard Jones (Glan Allaw) yn ei hwyliau goreu yn traethu ei atgofion ef, a hanes rhai o'r oedfaon gafodd yn Nisgwylfa. Disgrifiai un oedfa mewn storm o fellt a tharannau, ond y pregethwi wrth eifodd yn traethu ei genadwri, a chwarddem yn gailonnog at hanes yr oedfa galetaf erioed-oed. fa laddodd bregeth iddo! Canodd y plant hefyd deirgwaith o dan arweiniad Mr. T. S. Roberts, a therfynwyd cytarfod gwir dda. IMor amlwg fu'r am- ddiffyn am hanner can' mlynedd parhaed eto "Byth na 'mad oddiwrth dy bobl."

Cyngrair Eglwysi Rhydd Canolbarth Cymrti

Cyngrair Eglwysi Rhydd Canol- barth Cymrti. Yllg nghanolbarth Cymru y ganwyd Anghydffurf- iaeth ein gwlad. Nid oedd dim yn fwy cydweddol felly ag anianawd y rhanbarthau hyn na Chyngor a Chyngrair yr Eglwysi Rhydd, a chawn yma rai o'r cynta,f yng Nighymm. Cynhaliwyd y cyfarfodydd blynyddol y tro yma yn Lla.ndrindod Wells, Llun a Maw.rth, Medl 14, 15, ac er gwaethaf yr amgylch- iadau sydd wedi lluddias eisteddfod, undeb a chym- deithasfa, cafwyd cynrychiolaeth grc-f a chyfarfod- ydd rhagoroliawn. Yn y bore cyfarfu Pwyllgor y Cyngrair, ac ymdrin- iwyd a phynciau .pwysig megis yrymgyrch i adennill esgeuluswyr crefydd yn ein gwlad, Cadsvraeth y Sab- ath, dirwest, hapchwareu, purdeb a moes, egwyddor- p 0., ion ein heglwysi-meithriniad o honynt ymhlith ein pobl ieuanc, a chynlluniwyd mesurau pwysig er hyrwyddo, y materion hyn sydd o'r fath bwys nid yn uni,g i Gymru a Lloegr ond i Brydain oil. Cialwyd sylw at ein milwyr hefyd yn y cam.ps, yn ogystal a'r rhai ddychwel yn glwyfedig, a gwnaed trefniadau ar eu cyfer yn dymorol ac ysbrydol. Etholwyd sw37daoigdon am 1914-15 Yn Llywycld, Parch. Stephen George, B.A., Llandrindod; yn Drysorydd Mir. Jeffrey Jones, Y.H., Llandrindod, ae yn Ysgrifennnydd y Parch. Lewis James, Builth Wells. Er i'r Ysgrifennydd gynnyg ei ymddiswydd- 11 iad penderfynwyd yn unfrydol ei fod i ddal y swydd a'i gweinyddu fel. arfe,r ac nad oedd i ymddiswyddo. Yn y prynhawn cafwyd cyfarfod pregethu. Y gweinidog ydoedd Llywydd y Cyngrair Cenedlaeth. ol, sef y Parch. F. J. Wiseman, B.A., Llundain. Prege-thodd gyda nerth a dylanwad mawr. Seiliodd ei bregeth ar ymddygiad y tri llanc yn Babylon— dynion a jmiddiriedai yn eu Duw pe yr elai popeth yn ulw drwy dan! Dangosodd y pragethwr mai dyma y dynion neu y genedl, nid yn unig a freint- iwyd a rhyddid ond a phresenoldeb Duw ei hun. Dyma ddynion nid yn unig a fedr achu.b eu hunain ond a fedr achub cenedl. Dynion fel-hyn yw angen gwlad. ac eglwys. Yn yx hwyr cafwyd cyfarfod lluosog iawn yn yr Albert Hall-y neuadd fawr yn orlawn. Llywyddai William Lewis, Ysw., yr ymgeisydd Rhyddfrydol dros Maesy-fed yn yr etholiad nesaf, a llefarodd y Parchn. F. L. W7iseman, B.A., aic F. B. Meyer, B.A. Eu testun oedd, Neges y,r Eiglwysi i'r genedl yn yr argyfwng presennol. Cyfarfod ardderchog oedd hwn eto, a da mewn gwirionedd oedd bod yno. Croesaw calon i ddynion mor rhagorol ar ein llwyfanau, a theimlem yn falch o'r undeb sydd rhwng Cymru a Lloegr, ac a fedr ddarpar y fath gydtgyffyrddiad hapus a bendithfawr o oreuon y ddwy genedl. lelus moes. eto. Ar ol y cyfarfod hwn cafwyd yehydig ymgynghor- iad a'r Parch. F. B. Meyer, parthed natur amcan ac awdurdod y 'Welsh Executive' Myn v Rhwyg- wyr sydd am rwygo yr undeb fodola rhwng Anghyd. ffurfwyr Cyrmu a Lloegr nad yw yr Executive' ond Is-Bwyllgor o'r Cyngor Cenedlaethol. Sicrhawyd. y cynrychiolwyr gan Dr. Meyer fod hyn yn ang- hywir. Nid Is-bwyllgor mo. bono, ond Executive yn ystyr lawnaf y gair, ac ni fedr y Pwyllgor yn Llundain ddirymu neu wanhau ei benderfyniadau. Ef ac ef yn unig fydd gyfrifol am 'bolicy' y cyng- hünau Cymreig. Bydd yn gynwysedig o gynrych. iolwyr Cymreig yn unig gyda'r eithriad o'r Ysgrif- ennydd yr hwn fydd ddolen gydiol rhwnigJ Anghyd- ffurfiaeth Cymru a Lloegr. Felly aethom adief wedi ein llwyr argyhoeddi fod bellach gynllun wedi ei ddyfeisio i hyrwyddo pynciau Cymreig mewn dull- wedd Gymreig ac i'r amcanion uchaf, a hynny mewn undeb a'n cyd-anghydffurfwyr yn Lloegr. Wele Home Rule i Giymru ac eto. undeb a Lloegr bydd hyn o werth mawr a phwysig i'r ddwy genedl yn ddiwahaniaeth. Undeb sydd nerth a chryf- af yr undeb mwyaf felly ei nerth a thebyca yw i siorhau ei ddelfrydau. Er mwyn ein gwlad a theyrn- as ein Harglwydd eled yr undeb yma yn ddyfnach ac yn gryfacli o flwyddyn i flwyddyn neSi ysgubo o fodolaeth y pechodau sydd yn awr yn llesteirio yr eglwys ac yn anurddo ein cenedl. Prydain Ian fyddo ein hamcan a'n gweddi a'n hymdrech cyhyd ag y bendithia Duw ni a bywyd, a dyma offeryn ar- dderohog i hyn—Cyngrair yr Eglwysi Rhyddioii.

LLANRWST

LLANR.W.ST. Yn eisteddfod y Twr, New Brighton, ddydd Sad- wrn diweddaf, cipiwyd y llawryf gan Gor Meibion enwog Llanrwst, dan arweiniad y cerddor galluog Mr. T. R. Williams, A.C., oddiar naw o bigion cor- au y Staeson. Ardderichog yn wir Y mae y fuddug- oliaeth yn anrhydedd i Gymru.

TREHARRIS

TREHARRIS. Teyrngarwch Eglwys Bethania.—Yr wyf am ofyn i'r Cymro am roi gwybod i'w dderbynwyr lliosog fod yr eglwys uchod wedi rhoi triarddeg o'i haelod- au i gynorthwyo y Llywodraeth yn y cyfwng pres- ennol. Yr wyf fi wedi gweled cryn lawer yn ystod fy ngyrfa gyda chrefydd; cofiaf yn dda am ryfel y Crimea, y gwrthryfel yn India, a'r rhyfeloedd a gymerasant le wedi hynny, ond ni welais beth fel hyn erioed o'r blaen yn dyfod i gylchoedd yr eg- lwys rhaid fod rhyw alwad gyfriniol i'r rhyfel hwn, a bod yr eglwys yn clywed, ac yn barod i ufuddhau iddi. Credaf yn rhwydd y wna yr eglwysl drwy y wlad weddio drostynt am 1 Arglwydd byddinoedd Israel fod gyda hwy, ac am iddo Ef fod yn nerth a chadernid iddynt. Cyfarfod Pregethu.—Nos Fercher a dydd Iau, Medi 16 a'r 17, cynhaliodd eglwys Nelson ei chyfar- fodydd blynyddol, a'r Parchn. J. Williams, Bryn- sien-cyn, a Jones, B.A., Trefforest, fu yn gwas- anaethu ynddynt. Yr oedd y cynulliadau yn lliosog er fod y tywydd yn anffafriol. Hyderwn y bydd mwy na chasglu arian wedi cymeryd lie ar eu hol,- BJ.