Collection Title: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 10 of 16 Next Last
Full Screen
4 articles on this page
TAITH DRWYR CYFANDIR AR DORIAD Y RHYFEL

Yr oeddem ni yn well allaiio lawer yn Lauter- brunnen, gan y sicrheid ni fod yno ddigon o Z: fvyd i bara hyd y Nadolig. Gwawr Gobaith. Bore dydd Mawrth, Awst i8fed, dyma air yn dod i ni o Berne yn ein hysbysu fod y Llywodraeth Brydeinig yn trefnu tren arben- nig i fynd a ni adref, ac fod hwnnw yn cychwyn am 6.30 bore dydd Sadwrn, Awst 22 am. Xi raid dweyd i'r newydd beri llawen- veld mawr i ibawb o hortom. Bore Sadwrn wawriodd, ac erbyn 5.30 yr oedd pawb o honom yn ei le, a ffwrdd a ni i Interlaken., lie yr ymunwyd a ni gan rhyw 160 o Grindel- wald, 160 o Interlaken, a rhyw 100 o Murren. Erbyn cyrraedd Berne yr oedd adran arall o ryw 200 o Lucerne vn ymuno a ni, ac yn Geneva tua 250 eraill o Lugano a glannau Llyn Geneva, fel erbyn hyn yr oedd y cwmni rhwng 8001 a gco. Cychwynwyd o Geneva tuag" II 0'1' gloch yng nghanol dymun- iadau da cannoedd o'r Swisiaid oedd yn y Station, ac yn ffenestri eu tai. Yr hall ffordd o Geneva i Lyons yr oedd ochrau y railway yn frith o rai wedi casglu i roi send off i ni. Cycliwjm Adref. Cyrhaeddwyd Lyons tua 6 o r gloch nos Sadwrn. Nis gall geiriau ddesgrifio y der- n a cl byniad gawsom vma. Yr oedd baneri P'rydain a Ffrainc yn chwifio ymhob ffenestr, ac ar bennau y tai, ac ar holl gerbydau y reil- ffyrdd, a chlvwid bloeddio ar bob llaw "Vive r Angleterre," "Vile la Suisse," "Good luck. a bloeddiern ninnau yn ol "Vive la France." Arhoswyd vma am dros awr. Dy- wedir fod dros 5,000 yn y Station y jioson honno, a chawsom dderbyniad a hir gofir Z, gennym. Canwyd God save the King," ac Anthem Genedlaethol Ffrainc. Yno vr oedd llu o foneddigesau Lyons yn gosod ysnoden- au bychain ar got pob un o honom, a baneri bychain yn nwvlaw pob un o'r merched. (r%v barhan).

PERSONOL

PERSONOL. Mae y Parch. J. Owen Jones, B.A., Bala, wedi dychwelyd adref o America, wedi cael taith gysurus. -o- Miss Lewis, B.A. (Cymru), o High School, Newcastle, sydd wedi ei dewis yn athrawes yn Ysgol Sir Llandudno. .{}. Alac Mr. G. \V. Stephen, efrydvdd o Goleg Diwinyddol Aberystwyth, wedi derbyn galwad Z, i fugeilio eghvys Jerusalem, Ystalyfera. --()- Cyflwynodd Dr. W. Evans Hoyle, ei lyfr- gell yn anrheg' i'r Amgueddfa Gymreig yng N ghaerdydd. Cynhwysa dros ddwy fit o gyfrolau, a mil o bamffledau. -0- Mr. C. M. Green, f>. Sc., mab y diweddar Mr. Mortimer Green, Aberystwyth, a benod- wyd yn gynorthwydd yn adran llysieuaeth Z> yn Amgueddfa Genedlaethol 'Cymru. -0- Siaradodd Mr. J. H. Edwards, A.S., yn Briton Ferry mewn cy far fod gwladgarol, a chyfeiriodd at sylwadau Mr. Keir Hardie ar y rhyfel. Gwell i rai oedd yn canmol y Ger- maniaid fyned clrosodd atynt. --0- Yn llys oofrestriadol P'restatyn, dydd LIun, dywedodd y trethgasglydd plwyfol fod dyn neilltuol wedi marw, ac iddo ei weled yn cael ei gladdu. Sylwodd y bargyfreithivvr, Nid yw claddedigaeth yn unrhyw brawf fod dyn wedi marw. Gallesid claddu dummy.' Yr unig' brawf o farwolaeth ydyw tystysgrif y cofrestrydd, ond yr ydym bob amser yn derbyn claddedigaeth fel prawf." --0-- Mae'r Parch. Tecwyn Evans, B.A., wedi cael ei groesawu i fugeiliaeth Claughton Rd., Birkenhead. Daeth gweinidogion y cylch yno yn gryno, a goiwg- frawdol iawn ar bawb. Yr oedd y Parchn. W. M. Jones a W. 01. Jones yno dros v Methodistiaid; G. J. Williams dros yr Annibynwyr; Joseph Jones dros y Wesleyaid, a Golygydd y Brython dros y wasg. Rhwng pawb fe gaed cyfarfod da. Mac Dr. A. D'avies, Aberystwyth, wedi ei benodi yn feddyg i'r Gowerton Steel Works, ac felly wedi rhoddi i fyny ei swydd o feddyg i glafdy Aberystwyth. Dr. J. R. Jones, Caersws, a benodwyd yn olynydd i Dr. Davies yn Aberystwyth. -0- Daeth y newydd i Ddinbych yr wythnos ddi- weddaf fod yr Is-gadben Peter R. Foulkes- Roberts wedi ei gymryd yn wael yn North- ampton, lie yr erys gyda'r gatrawd o Fusiliers C'ymreig. Nos lau, aeth dan weithred llaw- feddygol, a deallwn ei fod yn gwella yn fodd- had. -0- Brodor o Rhydlewis, Ceredigiop, yw Mr. David Powell, sydd newydd gael ei benodi yn athraw yn ysgol sir Dolgellau. Cafodd B.Sc. I I Z, gydag anrhydedd yr ail ddosbarth ym Mihrif- ysgol Cymru, ar ol efryclu yng N, h-oleg Aber- ystwyth. Bu am dymor yn athraw yn Cavan, Iwerddon. Croesaw icIdo. yn ol i Gymru ac i Feirion. -()- Dydd Sadwrn bu farw y Parch. David William Morris, Abertawe, yn goain mlwydd oed. Efe oedd y gweinidog hynaf gyda'r Bedyddwyr yng Nghymru. Ganwyd ef yn LIanstephan, a maib ydoedd i weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Yr oedd yr ym- adawedig yn Ilenor o gryn fri, ac hefvd vn fardd. —o-— Ddydd lau diweddaf, allan o nifer fawr o ymgeiswyr, dewiswyd Mr. J. L. John, B. Sc., Drefnewydd, yn gyfarwyddwr mewn Amaeth- yddiaeth yn Sir Drefaldwyn. Athraw mewn Gwyddoniaeth yn yr Ysg-ol Sirol yw Mr. John, ond wedi rhoi sylw neilltuol i'r adran hono o wyddoniaeth sydd yn dwyn perthynas ag am- aethyddiaeth, ac y mae ei hoff fryd yn y gwaith hwn, ac nid oes amheuaeth nad yw wedi ei nodi i'r gwaith y mae gymhwysaf iddo, ac y bydd y sir ar ei mantais o'r penodiad. Mae y cyflog yn ^250 yn y tlwyddyn, a £100 at gostau. -0-- vVrth son am y diweddar Mr. B. Francis Williams, y bargyfreithiwr, dywedai un gwr ddylai w ybod. mai uchelgais pregethwr cyfoethog' bob- amser yw cael mab yn far- gyfreithiwr. A oes sail i hynny? Clywais mai dwyn y plant i fyny yn dwrneiod yw uohel. gais yr ail ddosbarth o bregethwyr. Ychydig iawn yw rhif y pregethwyr sydd wedi eu magu yn y Manse." Pa nifer o'r rhai hynny svdd yng Nghymru tybed *? Mab i weinidog" gyda'r Bedyddwyr ydoedd Mr. Francis Williams, yr hwn fu farw yn werth ugain mil o bunnau yn rhagor nag oedd gan ei dad. —o— Teimlir chwithdod dwys ar ol Mrs. Jones, Treforest, gweddw y diweddar annwyl Barch. D. M. Jones. Gwraig hynaws a charuaidd ydoedd, pwyllog ei hymddiddanlon a thang- nefeddus ei hysbryd. Dioddefodd ei chystudd gyda thawelwch yr Efengyl, mewn ymostyng- iad llwyr i ewyllys y nefoedd. Fel tywysen addfed yn ei phryd, galwyd hi o'r bywyd brau hwn i adael byd a'i drallod pan oedd yn gwbl barod, ac er y bydd ei choili yn golygu bwlch nid bychan, ni ddylid tristau ar ei hoi, canys teimlir sicrwydd iddi fyned i mewn i'r llawren- ydd tragwyddol yn ardal lonydd yr aur delvn- au. Nodded y nefoedd fyddo dros ei phlant, y rhai gawsant y fraint o weini mor dyner arni. -0- Bydd bwlch yn Sir Gaer ar ol y diweddar annwyl weinidog, adnabyddid yn gyffredin fel y Parch. Thomas Price, Brechfa. Hawdd cydnabod nad oedd yn syniad y byd yn breg- ethwr mawr," ond yr oedd yn bregethwr defn- yddiol, goieu, a difrifol. Yr oedd yn fyw iawn i bwysigrwydd ei swydd, a chyfrifoldeb aruthrol y gwaith o bregethu, ac ni bu yn ol o wneud y goreu o'i amser a'i fanteision. Disgynodd gwlith tyneraf gras Duw lawer tro arno gan ireiddio ei alluoedd, a theim- lwyd awelon bryniau iachusol tragwyddol- deb yn chwythu mewn 11awer i oedfa fel:us gafodd. Pan y daw y dydd i wneud i fyny y cyfrif, diau y bydd yr hen weinidog hwn ymhlith y doethion a ddisgleiriant fel disgleir- deb y ffurfafen ac fel y ser byth ac yn dra- gywydd.

Gwrecsam ar Cylch

Gwrecsam a'r Cylch. iCwna cau'r tafarnau o naw o'r gloch y nos hyd naw' y bore wahaniaeth igglur a bendithiol yn y dref a'r oylch. GwrEKdystia rhai yn erbyn hyn fel peth anamserol a ctiangenrhaid yn awr pan na wna dinas- oedd fel Lerjpwf gau cyn un ar ddeg y nos. Teim- Iwn yn ddiolchgar i ynadon Gwrecsam am ddangos fod lies gwltad yn fwy yn eu golwg na budd person- ol y darllawyr a boddio blys anwar dyrÚon nas gall- ant lywodraethu eu hunain. Tra y mae Rwsia wedi gwahardd yn hollol werthu'r diodydd meddwol yn ystod y rhyfel, yn sicr dylai Prydain leihau yr oriau i yfed os nad cau y tafarnau yn hollol. Deallwn fod y Parch. R. E. Morris, M.A., Seion, wedi cynnyig ei was,anaeth fel chaplain i'r fyddin gartref neu oddi- cartref, ond nis gwyr eto i ba Ie v penodir ef. Y male maes- angenrheidiol acean,g i weithio ynddo yim- hlith ein milwyr, a gwyn fyd yr hwn a'i gwna yn Uwyddiannus. Trwy ymadawiad y Parch. Evan Williams, tros- glwyddir achosi Seisnig Simithfi'eld Road i fod dan arolyigiaeth y Symudiad Ymosodol. Dewiswyd y Parch. M. R. Owen yn weinidog i'r eglwys, a bwr- iada ddechreu ar ei waith yn Smithfield Road ddechreu Hydref. Y mae yma le da i wneud gwaith cenhadol, a dymiunwn i Mr. Owen a'i briod Dduw yn rhwydd yn eu maes newydd. VERITAS.

Caernarfon ar Cylch

Caernarfon a'r Cylch. Hyfryd oedd gwrando ar y Parch. Gwynoro Davies yn preigethu yng Nghaernarfon y Sul diweddaf, ar ol ei brofiad ar y Cyfandir—yn ffaelu dyfod oddiyno am beth amser. Bore dydd Iau diweddaf yng nghapel Erugedi (M.C.) COlwyn Bay, priodwyd Mr. David Edwards, Gwyndy, St. David's Road ('Humphreys & Edwards, Waterloo House, Caernarfon), a Misis Margaret Moss Francis (merch Mr. a Mrs. Francis, Erddg, Ux- bridge Square). Rhoddwyd v briodasferch ymaith gan ei thad. Y forwyn briodas ydoedd Miss Nesta Francis (chwaer y briodasferch) tra mai y gwas priodas ydoedd Mr. Llewelyn Edwards, Glasinfryn, ger Bangor. Caed boreubryd yn Hotel Metropole, Colwyn Bay. Treulir y mis md yn Sir Gaerhirfryn a Llundain. Yr oedd yr annhegion. yn niferus a gwerthfawr. ("■ wasatuiethwyd gan y Parch. T. E. Jones, M.A., Cefnywaen (perthynas i'r priodfab). G'yda gofid y derbyniwyd y newydd am farwolaeth annisjgwyliadwy y Parch. D. E. Davies, Pwllheli. Bu yn trigo yng iNTghaernarfon am rai blynyddau, ac yn aelod o eglwys Moriah. Tra ymacyflawnodd waith mawr, yn arbennig ynglyn a'r Temlwyr Da. Efe oedd yr unig weinidog gymexai ddyddordeb yn y deml. Erbyn hyn nid oes yng Nghaernarfon yr un deml ddirwestol—lie y bu pedair ar un adeg. Beth ddywed Plenydd a swyddogion yr Uwch Deml am hyn ? Yn Ysgol Sabothol Siloh Bach (Medi 13), rhodd. wyd anrheg o Feibl, Llyfr Emynau a phyrsiad o arian i Miss Annie Roberts, Hill St. (un o'r athraw- esau ) ar ei hymadawiad i'r America, er ymbriodi. Cyflwynwyd yr anrheg gan Mrs. Thomas, Llanberis Road. Siaradwyd ymhellach gan y Parch. D. J. Lewis, B.A. (Wiaenfawr), Mri. Thomas Jones (arol- ygwr), William Jones (Tithebarn St.), Hugh Williams Edward St.), a J. Wynne Parry. Diolchodd Miss Roberts. Hwyliodd ddydd Sadwrn. Yng nghanol y caledi masna,chol a igweithlaol y mae yn gysur meddwl fod rhai diwydiannau yn hynod o brysur. Er eaigraifft cafodd. y Mri. Lake & Co., Caernarfon, archeb fawr gan y Llywodraeth am blancedi i'r milwyr, a gwe-ithiant ddydd a nos er ei chyflenwi. Y mae llawer wedi ei ysgrifennu ar annibendod a difrawder y chwarelwyr ynglyn a'r rhyfel hon. Ceir nodiadau da ar y mater ,gan awdwr yr ethygl "O'r ffenestr," yn y 'Cymro' diweddaf, ond nid yw wedi dihysbyddu y pwnc o lawer. Beth am y rhesymau hyn, hefyd? (I) Anwybodaeth y chwarelwyr ynglyn â threfnadau milwrol y deyrnas. .Dydd Sadwrn diweddaf bum yn siarad a gwraig o Ddyffryn Nantlle, ac yr oedd yn newydd iddi hi Y caffai gwragedd a rhai yn dibynnu ar y milwyr arian tra y byddtai y gwyr, &c., yn absennol yn amddiffyn eu gwlad! Credai y wraig hon, fel can- noedd eraill, ped elai y dynion y.maith na chaffai y thai fyddai yn dibynnu arnynt yr un ddimai goch. Yr oedd wedi dychryn pan eglurais iddi gynllua Mr. Asquith (sydd i ddyfod i rym ar y iaf o Hydref). Yn ol hwnnw caiff gwraig'a phedwar o, blant ganddi 22s. yn wythnosol yn absenoldeb y gw.r. Hefyd, nid oes gorfodaeth ar neb i fyned i flacs y gwaed (ac eithrio y fyddin reolaidd (regular army). Os aelod- au o'r Tirioigaethwyr ydynt dliau yr anfo-nir hwynt i'r Aifft, Malta, &c., er galluogi y milwyr rheolaidd sydd yn y lleoedd hynny i fyned i faes y gwaed. Buasai yn well i gannoedd o honynt ymuno a'r Tiriogaethwyr na newynu gartref. Y mae Chwarel y Cilgwyn, Dyffryn Nantlle, wedi ei chau am amser amhenodol—tra y pery y rhyfel o leiaf. Yn sicr, y mae y rhyfel yn cael effaith ni- weidiol ar fasmach y chwareli. Yn y rhifyn diweddaf o'r Pioneer Missionary Notes,' ceir ysigrif ragarol gan Mrs. Fraser (priod Dr. Fra.ser, y cenhadwr), ar Mr. R. Dala—cenhadwr brodorol o Fryniau Lushai, a fu yn y wlad hon am beth amser, ac a hoffid yn fawr 19ian baw'b ddaeth- ant i gyffyrddiad ag ei. Dyohwela Mr. W. R. Roberts, Bryn Deulyn, D'in- orwic St., Caernarfon, i lafurio gyda y Thado- Kookil" yn India. Hwylia ar y 3oain o'r mis pres- ennol. Bwriada Mr. R. Jones Hughes Post Office, Rhos- tryfan, roddi, ei fasnach i fyny, a threulia 6f a'r teulu eu hymneillduaeth yn Colwyn Bay. Caed elw o dros £25 at Gronfa'r Dioddefwyr oddi. wrth berfformiiad o'r ddrama Beddau'r Proffwydi yn y Neuadd Drefol, Caernarfon, yn ddiweddar gan Gwmni Dramayddol y Ddraig Gooh.