Collection Title: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

Image 1 of 16 Next Last
Full Screen
1 article on this page
NODION CYMREIG

NODION CYMREIG. Y DDAU GLADSTONE, Un rodd oes faith-grym calon a imcnydd; Arall, ddyrnod danllyd for ieuenctyd Dros Ryddid :—p'r'un yr ennill fwyaf rydd? Y duwiau a etyb mewn arall fyd. Caer. J.O., -+- -+. M ae Cymdeithas Lien Cymru yn cyhoeddi ad-argraffiad o Strena Vavasoriensis A New Year's Gift for the Welsh Itinerants, or a Hue and Cry after Mr. Vavasor Powell,"— un o bamffledau prinlon cyfnod y Weriniaeth. -+- -+- -+- Dechreua'r rhyfel bwyso' yn drwm ar swyddfeydd ,argraffu Cymru. Clywais fad dwy neu dair yn y farchnad, a bydd rhagor yn fuan. Gyda'r rhyfel daeth llenyddiaeth Saes- neg i mewn fel yr aforn, ac yn ystod y deng mlynedd nesaf bydd pethau rhyfedd yn digwydd. A'r wasg grefyddol fydd yn teimlo gvntaf. -+- Clywais fod llawer o amaethwyr Cymru ) 11 esgeuluso gosod stamps ar gardiau yswirio eu gweision a'u morwynion. Am fanvlion pellach gweler hanes llysoedd ynadol rai or dydd'iau nesaf. Mae'r dirprwywyr ym meddwl fod yn bwysig stampio y cardiau yn brydlon fel y gofyna'r gyfraith. Felly, chwi esgeuluswyr, cymerwch rybudd. -to- Mae dad'l frwd yn y Brython ar awdur- acth Geiriadur Charles. Mr. Shankland yn ceisio dangos fod rhywun neu rywrai eraill a rhan fawr vn y gwaith. Mr. Hugh Lloyd air Parch. D. E. Jenkins yn dangos mai lol i gyd yw dwcyd hynny, a bod gan Charles gystal hawl i'r Geiriadur ag a all fod gan ddyn ar unrhyw beth. Y cwestiwn sy'n taro i'm medd'wl yw hwn, Aoes rhywun yn wreiddiol? Yn y Welsh American," Pittsburgh, cwyna'r Golygydd nad yw y Cymry yn rhoddi iddo y gefnogaeth ddylent, ac oddieithr i'r derbynwyr ddiwygio y bydd yn rhaid iddo ys- tyried y priodoldeb o wneuthur cyfnewidiadau pwysig yn ffurf y newyddiadur. Gresyn yw hyn, ond nid yw pob Golygydd yng Nghymru heb fod yn gwybod am yr anhawsterau, a chyfyd yn fynych o ddiffyg ystyriaeth yn y darllenwyr. -+- -+- -+- Wrth ysgrifennu ar Undeb yr Enwadau yn Sereii Cymru," ni phetrusa un gohebydd fynegi ei feddwl yn bur blaen. Meddai," Y mae son am undeb crefyddol, a phob un i wneud yn ol ei fympwy ei hun, yn wrthun i'r eithaf, ac y mae eadw cyfarfodydd pregethu a gweddio undebol o Fedyddwyr a thaenellwyr yn bechod; ydyw, yn bechod mawr, am fod gorchymyn pend'ant yr Arglwydd Iesu yn cael ei anwybyddu. Y mae ufudd-dod i'r Bedydd Cristionogol yn amod bywyd tragwyddol." Nid oes angen dywedyd yr un gair am syniad fel hwn. -+- -+- -+- Ai tybed fod y sylw ddywedwyd yn ddi- weddar yn gywir fod pregethu Cymru yn y blynyddoedd diweddaf yn rhy dawel a llyfn, ac mai bendith fyddai cael mwy o fellt a tharanau yr hen bregethwyr yn ol iddo? 0 leiaf haedda'r sylw ystyriaeth bwyllog. Hoff oedd y diweddar Barch. D. Lloyd Jones, M.A,( Llandinam, o adrodd yr hyn fynegwyd gan wraig o'r Gogledd. Gofynodd rhywun iddi, Pa fath bregethwr oedd1 yma ddoe? Well," meddai, "he preached very well, but there was no aching, "doedd neb yn teimlo oherwydd ei bechod. Gwyn fyd na ellid cael y peth, hv/nnw yn ol barai fwy 0 hunan-ymholiad a phoen oblegid drwg. Cyfarfu Cyfeisteddfod Trysorfa Fenthyciol Cymdeithasfa y Die yn y Capel Seisnig, Llan- elli, dydd Mawrth, Mai 18, o dan lywyddiaeth Mr. D. C. Roberts, Y. H., Aberystwyth. Gwnaed cais gan nifer fawr o Eglwysi am fenthyciadau, yn cyrraedd y swm o -4-4,710, ond nis gallai y D'rysorfa roddi mwy na £ >2)35° eleni. Da oedd clywed fod yr Eig- hvysi yn dechreu teimlo eu rhwymedigaeth i chwyddo'r Drysorfa. Yr oedd y Casgliadau tuag ati eleni yn dangos cynnydd sylweddol. Gwir ddywedodd Mr. D. R. Daniel am William Jones iddo o'r diwedd orchfygu. Dto, -ar of marw Yr oedd' iddo gyfeillion calon yn Goginan ac Aberystwyth; yn Rhydychen a Llundain; yr oedd iddo, hefyd, elynion. Gly.wsoch chwi gler y graddedigion yn bwrw llysnafedd am nad oedd William Jones wedi graddio pan yn Rhydychen? A'r chwedlau adroddir yn ystafelloedd y mwg, glywsoch chwi y rhai hynny? Dc, fe orchfygodd William Jones, a gobeithio na bydd i'r chwedleuwyr godi eu pennau byth. --+- Parheir i iedaenu'r ystori drwy'r wlad fod cwestiwn prifathraw Coleg Diwinyddol y Bala wedi ei benderfynu, ac mai tipyn o farce yw anfoniad y mater i'r Cyfarf-odydd Misol. Mae gwynt wedi el roi d'an edyn y chwedl gan waith yrorg-an swyddogol yn dweyd wedi'r cwbl, peth digon diniwed ydyw gadael i Gyfarfodydd Misol enwi brodyr, er y gwyddis yn burion na phenodir hwy; ystyriant fod cael eu henwi yn rhywbeth, a phwy bynnag a enwir, y pwyllgor fydd' yn dewis, ac felly mae yn dod i'r un peth y 11 y diwedd." .+-+- Rhyfedd mor fychain a gvvciniaid yw esgus- ■odion pohl dros gadweu plant adref o'r ysgol. Dyma rai o honynt roddwyd i un athrawon y Drefnew} (id yr wythnos ddivveddaf :-( I) Dy- wedai y bachgen ei fod wedi bod yn siop barbwr yn cael torri ei wallt. (2) Wedi bod yn hel cerrig yn yr ardd. (3) Ceisio cig at ginio o siop y cigydd. (4) Danfon oinio i'w d'ad. (5) Adref, i aros am ddyn yr Insur- ance i alw. Penderfynodd rheolwyr yr ysgol gyflwyno y rhesymau (?) a'r enwau i bwyllgor presenoldeb y dosbarth. Nid yw Undeb y Cymd'eithasau Cymreig heb ei berygl, ac yn ol y Darian cyfyd o ddau gyfeiriad. Yn gyntaf o gyfeiriad gwlad- garwyr llygad-y-geiniog, nas gwnant ddim droseu cenedlaetho,ldeb heb sicrhau'r tal yn gyntaf dim. Yr ail o gyfeiriad y cyfaddod- wyr, a garant eu gwlad a'u hiaith, ond a rodd- ant y cyfan o'r neilltu pan ddaw cysgod Sais i'w presenoldeb. Mae moesgarwch y rhai hyn wedi diffrwytho asgwrn eu cefn. O fel hyn y mae, nid heb achos yr anogir yr aelodau i wylio rhag y gelynion hyn. -+- Yn ddiwedd'ar yr oedd un o blant y Sir, sydd allan o honi, ar ymweliad a Chyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd. Dywedodd y Llywydd fod yn dda ganddynt ei weled yno, a gofynodd icldoi ddweyd gair. 'Dbes gen i ddim neilltuol i'w ddweyd," ebai yntau, "mae'n dda iawn g-en i fod yma am d'ro yn eich mysg unwaith eto, i wel'd llawer o'm hen ffryndiau. 'Rydw i yn gweled yma lawer o flaenoriaid fu yn garedig iawn wrthyf, yn rhoi cyhoeddiadau imi pan oedd yn dda iawn gen i eu cael, ac yr yd,w' i yn gweled ami un yma befyd fu yn ddi-gon craff i beidio rhoi'r un." Crafiad go, gas, onide 1 Ond 1101101 wir. Fe geir y rhai craff' yma ymhob man. Ac nid yn unig y maent yn ddigon craff i beidio rhci cyhoeddiad i fyfyriwr tiawd; ond yn craff i beidio rhoi un i fugail a gweinidog tlawd. Dyfed oedd yn cadw gwyl bregethu Ton- yrfeail yr wythnos o'r blaen, efe yn dal yn gryf, ac yn pregethu yn rhagorol. -+- Cymraes, Ann Williams wrth ei henw, dwy ar hugain oed, oedd y d'ydd o'r blaen o flaen ynad Caerdydd am y chweched tro ar hugain, am derfysg a chqdi yn erbyn yr heddlu. I garchar am TIS gyda Ilafur caled," ebai'r ynad. DioJch i chwi," ebai Ann Williams, ac i lawr .a hi i'r He sydd wedi ei cldarpar i rai nas gall efengyl na chyfraith eu cyffwrdd1. Yn y Church Times ceir adroddiad lied gyflawn o Bwyllgor yr Eglwys Sefydledig yng Nghymru a gyfarfu yn yr Amwythig i baratoi ar gyfer Dadgysylltiad. Nid oedd Esgob Llanelwy nac Esgob Tyddewi yn siarad yn glir ynghylch y dyfodol. Siaradent yn ochel- gar, a'u llygaid ar ydyfodol a rhyddid ewyllys. Mae'r ddau Esgob fel gweithwyr Nehemiah yn ceisio adealadu gyda chleddyf ar eu clun. Xid ydynt yn barod' i d'dweyd eu bod yn derby n dadgysylltiad, a cherddant wysg eu hochrau er mwyn bod vn barod i droi yn 01. Mor debyg i hanes y ddau Esgob! -+- Mae'r rhifyn diweddaf o weilhrediadau Cymdeithas y Cvmrodorioai yn un eithriadol o werthfawr. Ceir ynddo darlun 01 Arglwydd Merthyr ar y dechreu a Syr Marchant Williams ar y diwedd. Rhwng' y ddau mae 310. o dudalenau, yn cynnwys "The Celtic C'hurch,A, Tragedy in History," gan Dr. Spence-Jones, deon Gloucester; Dafydd ap Gwilym ar Gler," gan yr Athroi Ifor Wil- Iiams, M.A., Bangor; a Hardismand Rom- ance: A Study of the Welsh Literary Tradit- ion,' 'gan T. G\vynn Jones, Aberystwyth. Am waith trwyadl a gonest fel yma y bydd graddau anrhydeddus Prifysgol Cymru yn cael eu rhoi yn y dyfodol. --+-- --+- P'erthyna i G.M. y Methodistiaid yn Liver- pool unarddeg o weinid'ogion graddedig, a hanner dwsin o 'flaenoriaid sydd yn ynadon heddwch. A vw hyn yn arwydd fod safle y y weinidogaeth yn codi vng nghyichoedd addysg fod y lleyg'wyr yn disgyn yng nghyichoedd cymdeithas 1 Sut bynnag am hynny, da gweled fod yr eglwysi yn cadw mor ragorol o ran rhif a chasgl. Nid yw pethau fel yr oeddynt ym mhulpud Liverpool, ond hwyrach fod enniil mewn ryw gyfeiriadau eraill. Mae cyfartaledd casgliad y weinidogaeth yn 13s. 8c. yr aelod, a chyfartaledd yr holl gasgliadr au yn £ 2 is. 9c. Mae lleihadx>< £ 131 12s. 6'Û, yng nghasgliad y Genhadaeth Gartrefol, a £ 204 yn yr un at y Genhadaeth Dramor, tra y mae cynnydd 01 C,2,813 10s. i-c. yn yr oil o'r casgliadau Rai blynyddoedd yn ol, dywedai un 0' weinidogion amlycaf Morgannwg fod dylan- wad Eglwys Crist ar y byd agos a bod yn holl all u-og, ond idd'i fod yn unfryd unfarn ac ymdeimlo a'i nerth. Ond yr anhawster yw ei chael i'r tir hwn, a'r diwedd yw taro1 nodyn anghydsain. Onid oes angen dwys am yr unfrydedd hwn yn y dyddiau hyn ? Cymerer pwnc y Saboth fel enghraifft Y mae yna berygl i'r dydd sanctaidd hwn fynd yn sathrfa i fydolrwydd, a cheir nifer 01 gyfoethog- ion digydwybod yn y wlad yn cymryd1 mantais ar y rhyfel i ddwyn allan argraffiadau arben- nig o'u newyddiaduron, a hynny nid o un- rhyw barch at y wlad, ond er mwyn chwyddo eu budr-etw. Gresyn na ellid deffro cyd- wybod1 yr eglwys unwaith eto, a'i chael i ddat- g'an ei chondemniad yn ddifloesgni yn erbyn y peth hVIn, a buan y rhoddid atalfa ar y llifeiriant.