Collection Title: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 3 of 16 Next Last
Full Screen
9 articles on this page
Yr Argyfwng Gwleidyddol

Yr Argyfwng Gwleidyddol. Testun mawr dyddordeb a siarad yr wyth- nos fu'r argyfwng gwleidyddol a'r cyfnewid- iad yn y Llywodraeth. Pan ddechreuwn ys- grifennu, nid oes ond dychmygion a damcan- iaethau am y cyfnewidiadau yn y Weinydd- iaeth o,nd gwnaed hysbysiad swyddogol gan Z, Z, Z, y Prifweinidog cyn i'r Ty ohirk> dros wyliau'r Sulgwyn. Dywedodd Mr. Asquith fod mud- iad ar droed i ad-drefnu'r Llywodraeth ar linellau eangach yn bersonol a gwleidyddol. Er nad oedd dim wedi ei wneud yn derfynol hyd y pryd y siaradai—dydd Mercher—dym- unai wnejud tri phwynt yn glir:—(i) Nad oedd y cyfnewidiadau i effeithio' ar swyddi'r Prifweinidog na'r Ysgrifennydd Tramor. Bydd y ddwy swydd yn aros fel o'r blaen. (2) Nad oedd y cyfnewidiad lleiaf o un math i'w wneud ym mholisi'r wlad o berthyn- as i gario ymlaen y rhyfel gyda phob ymroad a phob adnoddau posibl. (3) Fod yr ad- drefniad yn cael ei wneud i bwrpas y rhyfel yn unig, ac nad oedd yn golygu fod neb, o'r T naill ochr na'r llall, yn rhoi i fyny yn y mesur lleiaf eu hamcanion a'u delfrydau gwleidydd- ol, nac yn gwneud unrhyw gyfaddawd ynglyn a hvvynt. Dyna'r oil allai Mr. Asquith gy- hoeddi ar y pryd, a chadarnhawyd y myneg- iad gan Mr. Bonar Law, dros yr hyn adnab- yddid gynt fel yr Wrthblaid, ond sydd yn awr yn dyfod yn Gyd-blaid.

Llywodraeth Gydbleidiol

Llywodraeth Gyd-bleidiol. Er ys cryn amser bellach ymae rhai o'r papurau Toriaidd wedi bod yn ceisio. gwthio'r Llywodraeth i dderbyn gwaed newydd I mewn, trwy ymosod ami a'i bcirniadu. Nid oedd Mr. Bonar Law nac arweinwyr cyfrifol y Blaid mewn cydymdeimlad a'r erlidwyr nac yn cymryd unrhyw ran yn yr erledigaeth. Yn wir yn ddiweddar yr ocdd y gynnau o'r diwedd wedi eu troi ar Mr. Bonar Law ei hun, am ei fod yn ddigon gwladgar a mawrfrydig i roi pob help a allai i'r Llywodraeth, er heb fod yn aelod 0 honi. Yr oedd Mr. Balfour, Mr. Austen Chamberlain, ac eraill o'r arwein- wyr Toriaidd, yn ogystal a Mr. Law, yn par- hau. i roi eu gwasaneth yn ddirwgnach i'r Llywodraeth ac i'r deyrnas yn yr argyfwng ofnadwy; ac yr oeddynt yn dal o'r un farn a'r Prifweinidog, nad oedd dim yn galw am ymyrryd a'r Llywodraeth. Nid felly y teim- lai gwyr goludog y wasg felen Dbriaidd. Yr oeddynt hwy yn anfoddlon i'r rhyfel gael ei gario ymlaen heb fod i'w Plaid hwy fod' a rhan swyddogol yn ei reolaeth, yn enwedig pan welsant ei fod ym mynd i barhau yn hir. Nid oes yn y galon ddynol yr un awydd cryf- ach na'r awydd am awdurdod.

Anhawsterau

Anhawsterau. Ofer fyddai inni honni gwybod pa mor bell yr oedd yr erlecligaeth Doriaidd a phenderfyn- iad y Llywodraeth yn sefyll yn y berthynas o achos ac effaith. Teimlad cyntaf lliaws mawr o'r Aelodau Rhyddfrydol yn y Ty oedd digofaint fod y Llywodraeth wedi ei blinü a'i gyrru i ildio gan gyfarthiadau'r cwn wrth ei sodlau. Cyfarfu tua chant ohonynt yn un 0 ystafelloedd y Ty, a dywedir fod y brotest yno yn gref ac yn unol. Oind cyn y diwedd aeth Mr. Asquith i fewn atynt, a thrwy ei apel doddedig ac effeithiol, llwyddodd i'w tawelu. Buasai'n wyrthiol i'r dasg enfawr 0. gario1 y rhyfel ymlaen gael ei gwneud heb gamgymer- iadau. Cyfyd anhawsterau yn barhaus, a rhaid eu cyfarfod oreu y gellir. Cododd anhaws- terau yn y Morlys, lie y methai' Mr. Churchill ac Arglwydd Fisher gytuno. Oher- wydd gwahaniaeth barn ynghylch y gweith- rediadau yn y D'ardanels, ymddiswyddodd Arglwydd Fisher, a gosodwyd y Llywodraeth mewn penbleth sut i setlo'r mater heb beryglu'r holl sefyllfa'r naill ffordd neu'r Hall. Codwyd cwestiwn dyrys hefyd ynglyn a. phrinder cyfarpar rhyfel ar y maes. Dy- wedodd gohebydd y Times fod prinder ar y maes yn peryglu ac yn niweidio'n byddin. Pan ofynwyd cwestiynau ar hyn yn y Ty, atebodd Mr. Asquith nas gellid yn ddiogel drafod materion o'r fath yn awr. Y pethau hyn fu cyfle y rhai ahvent am i arweinwyr y Blaid Dcriaidd eu cymryd i 'mewn i'r Llywodraeth, i gyfranogi o'i chyfrinion a'i 0" chyfrifoldeb. Argyhoeddwyd y Llywodraeth, hefyd, mai dyna'r ffordd ddiogelaf i'w chym- ryd dan yr amgylchiadau.

Cyfansoddir Llywodraeth

Cyfansoddi'r Llywodraeth. Y sgrifennwn cyn fod unrhyw hysbysiad swyddogol am y cyfnewidiadau wedi ei wneud. Yr unig- beth sicr yw'r hyn ddy- wedodd y Prifweinidog' am dano'i hun a Syr Edward Grey. Yn ol yr arfer mewn cyfwng fel hyn, yr oedd yr holl Weinidbgion eraill yn cyflwynoi eu hymddiswyddiad i'r Prifweini- dog, ac yn rhoi eu hunain yn gwbl yn ei law ef. Mae'r papurau o'r dychwyn yn brysur iawn yn llenwi'r swyddau a digon posibl y try llawer o'r daroganau yn gywir. Mae Plaid Llafur wedi penderfynu cymryd ei chyn- rychioli yn y Llywodraeth newydd, a chredir y bydd Mr. Arthur Henderson yn y Cabinet. Sicrheir hefyd y cawsai Mr. John Redmond groeso ynddo, pe dewisai; ond nad oes arwydd ei fod am dorri ar draddodiadau ei Blaid yn y gorffennoil. Ardderchog o. beth ffuasai ei weld yn Ysgrifennydd y Werddon dan Lywodraeth unedig! Amrywia y rhestr- au roddir o'r Gweinidogion sy'n troi i dir neilltuaeth. Enwir Arglwydd Haldane, Mr. Birrell, Mr. Harcourt, Arglwydd Lucas, Arg- hvydd Beauchamp, Mr. Pease, ac eraill, ac n y rhestr sydd i gymryd swydd o'r newydd ceir enwau Mr. Balfour, Mr. Bomar Law, Mr. Austen Chamberlain, Arglwydd Derby, Arg- lwydd Curzon, &c. Mae'r cyfnewidiadau awgrymir hefyd yn hynod o amrywjol a dydd- orol. C'ytunir i roi swydd newydd bvvysig i Air. Churchill, ac ymysg y cyfnewidiadau mwyaf cithafol y mae'r awgrym ar i Mr. Lloyd George fynd i'r S\vyddfa Ryfcl.

Itali yn ymuno

Itali yn ymuno. Yng iighanol brwdfrydedd angerddo'l y b cyfarfu Scnedd yrEidalddydd lau, ac wedi i Signor Salandra ddarllcn datganiad y Llyw- odraeth, evmeradwywyd ef gyda mwyafrif o 367 vn erbyn 54. Yn y datganiad oll-bwysig hwn, adolygid y sefyllfa o adeg bygythiad tra- haus Awstria i Serbia. Yr oedd Awstria, gyda Germani y tu ol iddi, trwy ei hymddyg- iad at Serbia, wedi torri y Triple Alliance.' Ni ofynwyd barn Itali o gwbl ar y mater, ond gweithredwyd gan y ddau Allu arall fel pe na buasai y trydydd mewn bod. Trwy hynny fe ryddhawyd Itali 01 bob rhwymau a chyfrifol- deb i'w chyn gynghreiriaid. Yr un pryd ceis- iodd Itali eglurhad gan Awstria ;ond gwel- wyd fod yr olaf yn wirfoddol yn ei hanwy- byddu a'i throi draw. Wedi trafod y cyn- hygion diweddar a wnaeth Awstria, dan ddir- gymhelliad Germani, torrodd Itali'r drafod- aeth i fyny ar y 4ydd 0 Flai, a phenderfynodd y Llywodraeth ar ryfel. Gwyddis i ymgais Signor Giolitti lwyddo i ddwyn oddiamgylch argyfwng yn y Llywodraeth; ond yn fuan galwodd y Brenin ar Slalandra yn ol. Daeth yn 01 gyda'r un polisi, a chariodd ef trwy'r Ty ddydd lau gyda'r mwyafrif mawr a nodwyd. Yn awr, bydd gwlad newydd, gyda byddin gref a ffres, yn cymryd y maes yn erbyn yr ymherodraethau barbaraidd; ac nid oes lie i amheuaeth na phar hyn gyfnewidiad pwysig yn y sefyllfa cyn hir.

Trychineb y Reilffordd

Trychineb y Reilffo,rdd. Cymylwyd gwyl y Sulgwyn gan y trychineb mwyaf arswydlawn gymerodd le erioed ar reilffyrdd y deyrnas. Tua chwe-ch o'r gloch bore Sadwrn, aeth tren yn 4eludo, milwyr i wrthdarawiad a thren lleol mewn gorsaf ar y terfyn rhwng Lloegr a Scotland. Trwy'r gwrthdarawiad taflwyd rhannau helaeth o'r trens anffodus ar y brif linell, a chyn pen munud neu ddau rhedodd tren cyflym y nos o Lundain i Glasgow i ganol yr hyn oedd eisoes yn falurion. Biu'r alanas yn ofnadwy, yn bennaf ymysg y milwyr Ysgotaidd. Torodd tan allan yn y pientwr cerbydau, ac ymledodd gyda chyflymder aruthrol, nes gwneud yr olyg-fa yn annisgrifiadwy yn ei hofnadwyaeth. Llosgwyd ugeiniau yn lludw yng ngolwg yr edrychwyr, y rhai oedd yn g'wbl ddiymadferth i estyn unrhyw gymorth nac i waredu'r truein- iaid. Ar yr un pryd gwnaed gwrolwaith mewn achub yr oil a ellid. Trist oedd yr alwad ar y Royal Scots ar 01 y trychineb. Rhifent 500. pan yn cychwyn allan, ond nid oedd ond 58 0: honynt yn ateb i'w henwau pan alwyd y rhestr mewn maes g-erllav/'r gvflafan. Hysbysir fod agos i 20-0, o fywydau wedi I .iIS1!'II;1WI mynd yn aberth, ac y mae rhestr y rhai niweidiwyd yn agos yr un nifer.

Y Twrc yn Jerusalem

Y Twrc yn Jerusalem. Pwy ga feddiannu Gwlad Canaan, a Jeru- salem, a Mynydd yr Olewydd1, a'r Bedd Sanct- aidd, ar derfyn y Rhyfel? Dyna hen gwest- iwn y canoloesoedd. I adennill gwlad Canaan o law'r Sarasen inffidelaidd y trefnwyd y Croesgadau mawr yn y canrifoedd a fu. Y Twrc bia Gwlad Canaan heddyw, ac o Jeru- salem y cadymdeithia ei fyddinoedd yn erbyn Prydain ar Gamlas Suez. Cydnebydd pawb y rhaid i'r Twrc golli holl vVlad Canaan pan gyll e'fe ei diriogaeth yn Ewrop. Gobaith mawr pob Iddew dros y byd yw gweled ei genedl eto ym meddiannu Gwlad yr Addewid. A sylweddolir ei obaith ai peidio, amlwg1 yw fod teyrnasiad y Twrc Mahometanaidd dros Wledydd y Beibl yn gyflym dynnu tua ei derfyn. Cael ei guro y mae y dyddiau hyn ar hyd holl lannau Mor y Canoldir, o'r Dar- danells hyd gyfliniau Tir yr Aifft. Dywed Arglwydd Kitchener fod Byddin Prydain yn ysgubo'r Twrc allan ohü11 Ddyffryn yr Euphrates, He gynt yr oedd Gardd Eden. Buan y gyrrir ef ar ffo o Wlad Canaan, o Dan hyd yn Beersheba. Eisoes clywir cyflegrau y Rwsiaid yn taranu ar lethrau Mynydd Arar- at-ar gopa yr hwn, meddir, y cafodd Arch Noah dir sych. Y Twrc sydd ym meddiannu ar hyn o bryd holl y Beibl hyn. Ond mac Byddin Rwsia yn gweithio o'r Caucasus ar y dwyrain, Llynges Prydain a Ffrainc hyd lannau Mor y Canoldir i'r gogledd orllewin, a Byddin Prydain yn gweithio- ei ffordd i fyny drwy Mesopotamia ac Ur y Caldeaid, yn addaw rhoddi terfyn buan ar y camdriniaeth a ddioddefodd Cristionogion ar hyd yr oes- oedd yn y parthau hyn oil. P'wv a deyrnasa ar ol y Twrc fydd un 0 broblemau Ewrop ar derfyn y Rhyfel.

Yr Ymosodiad ar Kitchener

Yr Ym,osodiad ar Kitchener. Nid oes un hysbysiad swyddogol am y Cabinet a'r Llywodraeth newydd wedi ei wneud hyd yn hyn, a pharha'r sefyllfa wleid- yddol yn destun dyddordeb ac ymddiddan a disgwyl ymhob cylch, Mae'r holl wlad yn gryf yn ei hymddiried yn Arglwydd Kitchener, yn enwedig wed'i'r dadleniad ar y cynllwyn yn ei erbyn yn y wasg felen. Yn y Daily News ddydd Sadwrn, gwnaeth y Gofygydd, Mr. A. G. Gardiner, y dadleniad mwyaf didderbyn- wyneb ar yr holl vstryw, a'r ymosodiad mwy- af llymdost ar Arglwydd Northcliffe am ei erledigaeth ddigydwybod ar Arglwydd Kit- chener, yn y Times,' y Daily Mail,' a'i bapurau eraill. Erbyn hyn mae'n eglur mai'r ymosodiadau ar Arglwydd Kitchener, yn ei gyhuddo o fod yn gyfrifol am goll bywydau lawer oherwydd ei fethiant i anfon y pelenau ffrwydrol priodol i Syr John French, fu prif achlysur yr argyfwng gwleidyddol. Ond am unwaith aeth Arglwydd Northcliffe yn rhy Z, bell, a throdd miloedcl o rai o'r blaen a dyng- I Z!1 ent wrth y Daily Mail.' Llosgwyd y papur- au yn gyhoeddus ar y Gyfnewidfa yn Llundain a dinasoedd eraill fel protest yn erbyn y groes- gad ddigydwybod a pheryglus, a rhoed ban- liefau i Kitchener a gruddfanau i Northcliffe. Mae'n amlwg nad yw Kitchener i adael y .Swyddfa Ryfel, er y traefnir yn ddiau iddo gyhorthwy i ddelio a'r cyflenyvad.

Diweddaraf ar y Maes

Diweddaraf ar y Maes. Mae ymholi a disgwyl mawr wedi bod am yr ergyd gyntaf rhwng Itali ac Awstria. Cyhoeddodd Itali ryfel yn ffurfiol ddydd Llun, a'r un dydd gwnaeth Awstria ymosodiad diniwed gyda rhai o'i man longau rhyfel ar lannau Itali yn yr Adriatic, a chyda'i pheirian- nau awyrol ar yr arfdy yn Venice. Yr oedd Itali'n disgwyl am bethau o'r fath ac wedi paratoi, fel y gallwyd troi'r ymosodiadau'n ol yn ddiymdroi. Yn y newyddion diweddaf o'r ochr orllewinol, dywed Syr John French fod y gelyn, gyda chymorth y nwy gwenwynig, wedi llwyddo i dorri ein llinell mewn tri lie ac wedi cymryd rhai o'n ffosydd. Fodd; bynnag, dywed fod yr ymladd yn parhau, a bod rhan o'r tir gollwyd eisoes wedi ei ad- feddiannu. Daw; hysbysrwydd o'r Balkans fod Roumania'n cydymgynghori a'r Cyng'- hreiriaid, ac yn paratoi ei byddinoedd yn barod i'r maes. D'iau mai'r newydd cyntaf eilir d-d-isgwyl bellach fydd ifÓd Roumania v, edi cyhoeddi rhyfel yn erbyn Awstria,