Collection Title: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 3 of 16 Next Last
Full Screen
10 articles on this page
Y Sefyllfa Wleidyddol

Y Sefyllfa Wleidyddol. Mae'r Senedd: eto'n a go red, ac er dydd yr agoriad y mae'r sefyllfa wleidyddol wedi dat- biygu gyda chyflymder cyffrous. Nid yw'r wlad eto wedi deall na sylweddoli yn glir iawn pa Ie yr ydym yn sefyll gan mor amrywiol a chymysglyd yw'r lleisiau yn y wasg, ac mor Nvylit a gwibiog yw'r sibrydion sy'n llenwi'r I awyr. Cyn diwedd yr wythnos soniai'r goheb- wyr Seneddol am "Argyfwng yn. y Cabinet," a bygythient chwildroad o'r ladd flaenaf yn y Llywodraeth. Nid oes weledigaeth cur ia\» n ar y sefyllfa pan ysgrifennwn, ond diameu fod seiliau i rai o'r sibrydion ynghylch y gwahan- iaeth barn sydd ymysg aeiodau'r Cabinet ar fater Gorfodaeth. Ni raid ond clarllen: clatgan- iadau diweddar gwahanol Weinidogion i weld b zll eu bod yn cymryd golwg" gwbl wahanol ar y n b b sefyllfa. Rhydd hynny vnddo'i hun sail dda i rai o'r tuallan feirniadu a chwvno a chon- demnio, a sail hefyd i ddyfalu llawer am yr hyn raid fod yn cymryd He y tu ol i'r llenni, yn eisteddiadau'r Cabinet a lleoedd eraill.

Cwestiwn Gorfodaeth

Cwestiwn G-orfodaeth. Pan y mae'r amgylchiadau mor amrywiol ac mor eithriadol, a'r sefyllfa wladwriaethol mor newydd ac mor gymhleth, gDrchwylanodd a phervglus yw ccisioohhaintarddiad y sefyllfa Avresennol. Gellir dweyd fod cyfuniad o achos "ion ac o achlysuron i'r sefyllfa, ond yn amlwg chwery cwestiwn gorfodaeth ran helaeth ynddi. Gwnaed yn amlwg,ar gyfarfyddiiad y Senedd fod nifer o'r aeiodau yn benderfynol o gael trafod- aeth arno ac o geisio argyhoeddi'r Ty fod y sefyllfa lilwrol, os nad gweithfaol hefyd. yn galw am roi gorfodaeth ar waith YI1 ddiocd. Ymhlith v rhai sydd. wedi eu dwyn .i gredu hyn,, ceir amryvv o'r aei- o< .0 odau Rhyddfrydol, a rhai o'r aelodau Cymrcig. Cymerodd Mr. Ellis Griffith ran yn y ddadl, .a siaradodd yn gryf dros orfod- aciii. Dadleuwyd y cwestiwn gyda llawer o Wres ac nid heb beth chwerwder ar lawr y Ty, ac adgyfod wyd yr holl hen ddadleuon, ar y mater, i'w iz,osod ochr yn ochr a dadleuoi: eithriadol amser rhyfel. Yr oedd y Gwyddel- od a'r Aeiodau Llafur, fel arfer, yn elynion anghymodlawn i orfodaeth. Fel y cyfeiriwyd yr wythnos ddiweddaf, yr oedd Cyngres yr Un- debau Llafur wedi datgan yn bendant yn erbyn gorfodaeth ychydig ddyddiau'n flaenorol, a chafwyd rhai o'r areithiau mwyaf awgrymiad- ol a chofiadwy oddir feinciau Llafur. Yr oedd Mr. J. H. Thomas yn chwerw a chignoeth iawn. Ymholai ai cynllwyn yn erbyn v Prif- Weindog oedd o dan yr holl helynt. Bygythiai hefyd chwildroad ymysg y gweithwyr os y ceis- Jd rhoi gorfodaeth ar waith. O'r ochr arall, dywedodd Mr. Stephen Walsh, er ei fod yn vvrthwynebydd pendant i orfodaeth, v ceid y gweithwyr yn barod i'w dderbyn, ar gais unol Y Llywodraeth—os y profid ei fod yn anorfod.

14r Lloyd George

14-r. Lloyd George. Cysylltir enw Mr. Lloyd George, yn benn.af ° bawb, a'r symudiad i ddwyn oddiamgylch orfodaeth, a throdd yr hyn a elwid yn y papur- au yn, "Argyfwng yn y Cabinet" o gylch bwr- ladau am amcanion briodofid iddo ef. Dywed- ai y rhai a honnent wybod cyfrinachau'r Cabin- et fod y gorfodwyr yno- yn cael eu harwain gan r. Lloyd George gydag Arglwydd Curzon fel 'eI brif gefnogydd. En,wid hefyd Mr. Winston Churchill, Mr. Austen Chamberlain, Mr. Walter Long, a chan rai Arglwydd Lansdowne Mr. Bonar Law, fel aeiodau o'r Cabinet a ddilynent ac a gefnogent Mr. Lloyd George yn groesgad: newydd. Nid yw'r gair croesgad' yn rhy gryf i ddarlunio'r hyn briodolid i'n cyd- wladwr enwog; gan y dywedid fod y cwmni. hod, dan ei arweiniad, yn mynd i gario'" I z, Cabinet gyda hwy ar y mater neu ynte hnwr etholiad cyffredinoi er m,,i,yn. -i r wlad roi ei Ileus ar gwestiwn gorfodaeth Gwelir fod lliw n y Wasg felen ar ei goreu, neu ar ei gwaethaf, ar y stor*, au cyffrous ac ymfflamychol hyn a'r gresyn yw mai nid y was,- honno oedd yn fwyaf ^yfrifol am y gwallgofrwydd y tro hwn. A ^ybia rhywun yn ei synwyr fod yn mryd Mr. Lloyd George weithredu fel uchod, a rhwygo'r wlad i "w sylfeini, ac yntau newydd fod yn sym- ud nefoedd a daear i gael gan. weithwyr y wlad i ymgroesi rhag ymddygiad tebyg yn eu cylch eu hunain? Rhaid i ni ddweyd ei fod yn an- hygoel, ac yn waeth na gwrthuni, am ei fod t, yn athrod ar y gwladweinydd sydd a baich trym- af y rhyfel wedi ei roi ar ei ysgwyddau.

X Rhagymadrodd

"X Rhagymadrodd." Ar yr un pryd, gwyddis fod Mr. Lloyd George yn cymryd golwg fwy digalon, os nad diobaith, ar y sefyllfa, ac ar ragolygon y rhyfel, na'r mwyafrif o'i gyd-weinidogion. Mae ei areithiau ar hyd yr amser wedi taro nodyn dyfnach o bryder ac o ansicrwydd: ynghylch tynged y rhyfel, a'i rybuddion wedi bod yn fwy taranllyd a bygythiol na'r un gwladwein- ydd o'i safle. Erys ei eiriau difrifol yng Nghyngres Llafur yn ein clustiau fyth. Ond ddechreu'r wythnos ddiweddaf, mewn rhagym- adrodd i gyfrol swllt o'i areithiau a gyhoeddir, y mae ei eiriau yn gryfach a'i rybuddion yn ddifrifolach nag erioed. Dywed fod ei brofiad yn ei swydd: newydd yn dangos iddo fod dar- pariaeth y gelyn yn aruthrol fwy nag eiddo'r Cynghreiriaid; ac nas gellir disgwyl i'r llanw droi o'n plaid nes y ceir cyflawnder o offer rhyfel. Gwna Ffrainc bron gymaint ag a ddichon wneud; a rhodda'r Eidal ei holl nerth yn y frwydr. Nis gall Rwsia helpu am fisoedd eto. Bydd i'r tri mis nesaf benderfynu tynged y rhyfel; ac ystyria Mr. Lloyd George ein gorchfygiad yn anocheladwy oni cheir cyfnew- idiadau yn y ffactris, y rhai a nododd cyn. hynny wrth gynrychiolwyr yr Undebau Llafur; ond ychwanega, "Os y petrusa'r genedl, pan y mae'r angen yn glir i gymryd y camau angen- rheidiol i alw allan ei nerth mewn dynion i am- ddiffyn anrhydedd a bodolaeth; os yr oedir pen- derfyniadau oll-bwysig nes yn rhy ddiweddar; os yr esgeuluswn baratoi ar gyfer popeth all ddigwydd; os mewn gair, y rhoddwn. sail i'r cyhuddiad ein bod yn lliprynu i drych- ineb fel pe baem yn cerdded ar hyd llwybrau arferol heddwch, heb elyn yn y golwg-yna nis gallaf weld unrhyw obaith; ond os yr aberth- \\n yr oil a feddvvn a'r oil a hoffwn dros ein gwlad, os y nodweddir ein paratoadau a grym, penderfyniad a pharodrwydd prvdlon ymhob cylch, yna mae buddugoliaeth yn sicr."

Effeithiaur Datganiad

Effeithiau'r Datganiad. Teimlir fod yr apel a'r rhybuddion uchod yn dyfod o ddyfnder argyhoeddiad ac yn syth o galon sy'n caru ei wlad yn angerddol ac yn pry- deru am y dyfodol wrth wield1 arwyddion o ddi- ffyg sylweddoliad o fawredd ein perygl. Cym- erwyd hwy ar unwaith gan un dosbarth i ol- ygu fod Mr. Lloyd George yn troi holl ffrwd ei hyawdledd i ddychrynu'r wlad i freichiau gor- fodaeth tra y defnyddiwyd hwy gan apostolion gorfodaeth i'w hamcanion eu hunain. Gwyddis fod y wasg" felen wedi bod yn rhoi ei holl ys- trywiau ar waith i geisio dwyn gorfodaeth oddi- amgylch; ac yr oedd eu gorfoledd yn, fawr pan dybient fod: Mr. Lloyd George wedi dyfod o'u tu hwy. Yn awr, mae uwchlaw pob dadl fod y cynhyrfwyr hyn ymhlaid gorfodaeth wedi codi anhawsterai^dybryd ar ffordd ei roi ar waith pe gwelid y rhaid am dano. Drwgdybir hwy am fod ganddynt amcanion eraill. Dyna ystyr awgrym Mr. J. H. Thomas am y cynllwyn i symud Mr. Asquith. Gresyn cymysgu dim o'r cynllwynion hyn a rhybuddion difrifol Mr. Lloyd George, na phriodoli iddo ef unrhyw gyd- ymdeimlad a'r rhai sy'n gwaeddi am orfodaeth er mwyn gorfodaeth, neu er mwyn cael gwared a rhai o aeiodau'r Llywodraeth sy'n wrthnaws iddynt hwy.

Mr Lloyd George yn Ateb

Mr. Lloyd George yn Ateb. Ddechreu'r wythnos hon cyhoeddodd Mr. Lloyd George lythyr mewn atebiad i un o'i eth- olwyr, yn egluro ei safbwynt; ac yn ei oleuni gwelir pa mor ddisail oedd toreth y straeon gy- hoeddKvyd yn y papurau ddiwedd yr wythnos. Dywed fod y Llywodraeth yn ystyried cwestiwn gorfodaeth yn ddifrifol; ac y byddai ei bender- fynu heb y^yriaeth ddigonol cyn waethed ag oedi gormod. Cwestiwn o ffaith, ac nid o eg- wyddor ydyw, nieddai; ac nis gwyr am neb a wrthwy nebai .orfodaeth pe ceid allan na fyddai dim arall yn ddigonol. Ymhola paham yr am- lygir yr holl ddigofaint, a gofynna am .i'r Llyw- odraeth gael amser teg i benderfynu. Yna rhostia y rhai a fynnant greu per- sonol, a dywed yn bendant y bydd ei gasgliad- au ef yn hollol ddiystyr o'i safle bersonol. Gellir barnu pa mor awyddus yw rhywrai i hau drwgdeimlad, pan gofir fod rhai yn gweld yn y z;1 I frawddeg uchod fygythiad Mr. Lloyd George i ymddiswyddo Terfyna'r llythyr gyda dat- ganiad nad yw'n tynnu dim yn ol o'i rybuddion blaenorol.

Airaith y rrifweinidog

Airaith. y rrifweinidog. Ar agorlad y Senedd cafwyd golwg ar rai o agweddau y rhyfel gan Mr. Asquith. Dywedai ein bod yn awr yn gwario tua thair miliwn a han ner y dydd ar y rhyfel, ac mai'r tebyg yw y bydd y swm yn codi'n uwch eto. Yr ydym fel teyrnas, hefyd, wedi ymrwymo am y swm en- fawr o 250 0 filiynau i wledydd eraill, yn cyn- nwys ein Cyngrheiriaid a'n Trefedigaethau; ac ystyriai y chwyddid y swm hwnnw hefyd. Heb- law y many lion ariannol, taflodd Mr. Asquith beth goleuni ar bwyntiau eraill. Dywedodd fod y nifer sydd wedi ymrestru hyd yn hyn yn rhifo yn ymyl tair miliwn, a chymeryd i'r cyf- rif y rhai wasanaethent yn, y fyddin a'r llynges ar gychwyn y rhyfel. Yr oedd yr ymrestru wedi bod yn ardderchog; ond am y pryd yr oedd y llif wedi arafu. Cyweirnod araith Mr. Asquith oedd fod ymdrech ac ateb y wlad yn wyneb galwad ddigyffelyb yn destyn syndod a chan- moliaeth.

Adolygiad Arglwydd Kitchener

Adolygiad Arglwydd Kitchener. Yr un dydd yn Nhy"r Arglwyddi, yr oedd Arglwydd Kitchener yn adolygu gorffennol y rhyfel. Calonogol a gobeithiol oedd ei gyweir- nod yntau, er mai'r agwedd filwrol oedd ei faes arbennig ef. Nid oedd yn yr adolwg fawr o ddim nad ydym yn gyfarwydd a hwy trwy'r papurau; eto tynnodd dau osodiad o'i eiddo sylw cyffredinoi, sef ei ddatg'aniad fod Ger- mani bron ymhen ei thennyn yn y dwyrain; ac y gall ei holl fuddugoliaethau yno droi allan yn y pen draw i fod yn ddim ,gwell na gorch- fygiadau mewn rhith. Mae"r newyddion di- weddaraf o'r rhan ogleddol o'r ymgyrch yn ad- rodd am ychwaneg o lwyddiant i'r Germaniaid, fel yr ofna rhai fod hyd yn oed Kitchener yn rhy obeithiol. Ond arhoser cyn barnu; gall y sefyllfa newid yn raddol, fel y mae eisoes wedi gwneud yn Galicia. Drachefn, wrth son am y Dardanels, dywedodd fod arwyddion, fod gwrthsafiad y Twrc yn gwanychu, a'u hysbryd yn amlwg yn torri .i lawr. Hyderwn y profa dwy broffwydoliaeth Arglwydd Kitchener yn wir.

Y Rhyfel

Y Rhyfel. Yrydym yr wythnosau hyn yn mynd trwy gyf- wng eithriadol o dywyll yn hanes y rhyfel. Er fod Rwsia wedi llwyddo i roi atalfa ar rwysg y gelyn yn Galicia; edrych pethau yn ddrwg iawn mewn rhannau eraill o'r llinell. Mae Vilna wedi ei gadael i'r gelyn; ac amlygir pryder mawr am dynged byddin Rwsia yn y rhan hon o'r maes. Bygythir ei hamgylchu gan, ddwy fyddin elynol. Byddai hynny yn drychineb mawr a difrifo1 iawn. Llwyddodd y Grand Duke lawer gwaith i dynnu allan ei fyddin- oedd o gonglau cyfyng iawn; a hyderwn fod y swyddogion sy"n aros yn y rhan hon, yn feistr- iaid ar yr un gelfyddyd1. Profa'r hyn gymer le yn y gorllewin ac yn y Dardanels wirionedd datganiad Mr. Lloyd George,—nad yw ein dar- pariaeth eto mewn offer rhyfel yn ddigonol i roi inni'r oruchafiaeth. Er fod y cyflegrau yn Ffrainc wedi ysgubo ffosydd y gelyn am wyth- nosau, a'n rhyfel-longau ninnau wedi bwrw tan ar lannau Belgium, nid yw'r effaith yn c tnigoii, i roi agoriad i'r milwyr i ruthro ymlaen.

Wythnos y Gyllideb

Wythnos y Gyllideb. Cyn y darllennir y sylwadau hyn, bydd llawer wedi rhedeg eu llygaid dros ffigyrau anferth cyllideb gyntaf Mr. McKenna. Mae'r gyf- rinnach wedi ei chadw yn well nag arfer, ac nid oes neb yn honni gwybod nemawr am gynyg- ion newydd y Llywodraeth. Ond gwyr pawb f-od baich aruthrol i'w roi ar y wlad mewn toll- au; ac ymddengys pawb yn sylweddoli'r sefyll- fa'n ddigon byw i beidio protestio—ymlaen llaw o leiaf. Diameuy bydd beirniadu a chondem- nio ar lawer o'r cynygion.; ac nid oes disgwyl amgen nag i'r Gyllideb fod yn un amhoblog- aidd, am ei bod yn sicr o fynd yn ddwfn 1 kgell- au pawb.