Collection Title: goleuad

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 11 of 16 Next Last
Full Screen
4 articles on this page
IY CYFUNDEB

cleni yn cynal yr wyl flynyddol, ac yn traethu gydag r., f- i i aA yr anchwiiiadwy olud sydd yn Efengyl yr lor. DR. RAWLINCS. Bu y brawd da hwn, sydd wedi cymeryd Than flaenllaw dros gadw y Sabboth yn sanctaidd, a Dirwest, er's blynyddoedd lawer yn y Deheudir, mewn helbul yn y Scetty, ger Abertawe, y Sabboth o'r bLaen. Yr oedd wedi addaw i'r "Brotherhood" yno i fyned i anerch y cyfarfod iiawn Siil, ond bu dewisiad ei destyn yn anffodus iawn, sef "Dyled y byd i'r Almaen." Cafodd y Dr. lonyddwch 1 ddech- Teu y cyfarfod, ond cyn gynted ag y dechreuodd siarad ar y mater dyma gynwrf drwy y gynulleidfa, a chynyddu wnaeth y cynwrf hyd nes y gorfuwyd dyfod i derfyn heb lawer o drefn ar bethau. Beth bynnag yw ein dyled i'r Almaen, doetbineb fyddai peidio son am dano yn yr argyfwng ofnadwy yr ydym ynddo. Drwg genym am y tro, gan fed y Dr. Rawlings ynddyn da iawn.

No title

ABERARTH. -==- Yr wythnos ddiweddaf fu farw Cadben John Michael, y Llythyxdy, Abemrth. Bu yn fiaenor ffyddlon yn Bethel am amser hir, a theimlir gwagder a hiraeth mawr ar ei ol. Yr .oedd yn ddyn Ilawn— yn hynod o amlochrog ei dalent, ac yr oedd yn llawn sel a gweithgarweh dros aohos lesu Grist yn y lie. Efe oedd arweinydd y gan vn yr eglwys, a chymex&i gryn ddyddordeb yng nghymanfa ganu y cyieh. Fi enw ef oedd ar lawr i lywyddu yn un o gyfarfodydd y gymanfa nesaf. Gweithiodd yn hir ac yn galed yn y winllan, a melys fo'i orffwys. Gedy dair merch ac un chwaer ar ei ol mewn galar get Miss Ann Michael, Mrs. Daniel Edwards, a Mrs. John Evans i (priod y Parch. John Evans, Llangwyryfon), a Miss Esther Michael (chwaer). Ddydd ei angladd gwasanaethwyd yn y ty gan ei weinidog, y Parch. E. Myfyr Evans, ac ym mynwent Llanddewi, o dan y drefn newydd, gan y Parchn. D. L. Rees, B.A., B.D., Aberayron; Evan Morgan, B.A., Penarth, a D. Moses Da vies, Llanon. Nos -Sul traddodwyd pregeth angladdol iddo ym Methel, gan y gweinidog, gerbron tyrfa fawr. Dechreuwyd y gwaeanaeth gan Mr. J. M. Howell, U.H., a chwareuwyd y "Dead March" gan Miss Davies, Trenova. LLEYN AC EIFIONYDD. Dydd ILlun diweddaf, cynhaliwyd y Cyfarfod Misol am y waith gyntaf erioed yn Golan. Perthyn i'r Wesleyaid yr oedd Golan ar y cyntaf, ond daeth yn eiddo i'r Methodistiaid er's ychydig dros haner cant o flynyddoedd yn ol. A dywedir na bu gwell golwg ar yr achos, er ei gychwyniad, a chymeryd pob peth i ystyriaeth, nag a geir yn bresenol. Pasiwyd cenadwri i'w hanfon i'r eglwysi, yn dymuno ar i'r holl aelodau wneyd eu rhan yn gyd- wybodol er cynorthwyo eu gwlad yn yr argyfwng presenol. Caed geiriau llawn o synwyr a phwyll gan amryw o'r brodyr ar y sefyllfa, ac arweiniwyd mewn gweddi gan y Parch. Henry Hughes, Bryncir, a Mr. Owen Owen, Tyddyn-y-graig. Iilongyfarcliwyd Mr. Owen William Owen, Capel Mawr, Criccieth, ar ei (safle anrhydeddus yn rhestr yr ymgei&wyr llwyddianus yn yr arholiad cyntaf am y weinidogaeth. Derbyniwyd Mr. Robert Williams, Tydweiliog, yn aelod o'r Cyfarfod Misol ar derfyn ei flwyddyn brawf. Caed bias neillduol wrth wrando ei brofiad crefyddol, a dymunwyd ei lwyddlant yn iawr yn y dyfodol. Darllenwyd llythyr cyflwyniad y Parch. Pv. 0.. Williams, Amlwch, o Gyfarfod Misol l-Ion i Leyn ac Eifionydd, ar ei sefydliad yn weinidog yn y Garn a'r Dinas. Dywedid geiriau canmoEaethus am dano, fel dyn, Cristion, a phregethwr, oedd yn codi disgwyliadau y frawdoliaeth am yrfa lwyddianus iddo yn ei gylch newydd o wasanaeth. Pregethwyd ynglyn a Chyfarfod Misol Golan gan y Parchn. J. Puleston Jones, M.A., Owen Pritch- ard, David Robertis, J. Henry Williams, W. R. Jones, Uanfrothen, a R. 0. Williams, Porth Am- lwch. Ymrestra, nifer o wyr ieuainc Lleyn ac Eifionydd a'r fyddin y dyddiau hyn. Dywedir nad oes llai 113 deg a'r hugain wedi rhoddi eu henwau yn Tyd- weiliog a'r cylch. Meibion amaethwyr a llafurwyr amaethyddol yn benaf, a'r mwyafrif mawr ohonynt yn gymeriadau disglaer iawn-defnyddiau "Iron- .sides" yr oes hon y mae yn ddiamheu. LERPWL. iNos'Sadwrn diweddaf, i ddathlu agoriad yr organ newydd ac ail-agoriad y capel, wedi ei harddu a'i addurno, cynhaliwyd "organ Tlecital" gyda Dr. Caradog Roberts, Rhos, wrth yr organ. Clywsom .fod y capel yn orlawn, a phawb wrth eu bodd yti swn yr '6rgan, a diau genym y bydd yn gaffaeliad mawr i wasanaeth y ty yn Anfield. Y mae yr addurno yn gwneyd y capel yn un o'r haa-ddaf yn y dref. Gwasanaethai Dr. Roberts wrth yr organ y iSul, a'r Parch. J. Owen, y gweinidog, yn pregethu. ..Drwg genym gofnodi marwolaeth un o aelodau hynaf Cyfarfod Misol lerpwl--isef Mr. David 'Adams, Trefdawel, Walton Park. Bu yn swyddog ffyddlawn yn eglwys Walton Park am 34 o flynydd- au, yn ysgrifenydd yr eglwys am dros dOain o flyn- yddau, ac yn athraw ffyddlon ynyr Y sgolSul am -:Uynyddau Iawer. Gweithiwr diwyd, tawel ac egniol ydoedd, llawn cariad at achos lesu Grist, Hon ei ysbryd, cynghorwr doeth, ac ni chlywsom nemawr ;erioed ei- well am groesawu dieithxiaid a pheri idd-. ynt deimlo yn gartrefol yn yr eglwys. Yr oeddyn gymeriad gwir ^duWiol, yn parchu y ty a'i ordin- hadau, ae yn hynod groesawus o weinidogion y Gail". Cyrnerodd yr angladd Ie prynhawn ^Sadwrn, ym mynwent Yew Tree Rckd, y Pavcbn. R. R. Hugh«» ae E. S. Miles yn gwasanaethu yn y ty a'r Parchn. E. J. Evans a G. R.Jones wrth y bedd, a chanwyd yr erayn "Bydd myrdd o ryfeddodau." Daeth tyrfa fawr i'r angladd, yn eu plith weinidogion y cylch ac aelodau y Cyfarrod Misol. ARFON. Y STil ttiweddaf yr oedd Mr. Hugh Jones, Siloh, Caernarfon, yn dechreu ar ei waith Fei gweinidog eglwysi Bont Uchel a Clocaenog ,sir Ddinbych. Nos Fercher, yn iSiloh, Mr. John Owen, Gwynant, yn llywyddu, cynhaliwyd cyfarfod i'w anxhegu. Cyf- lwynwyd pwrs o aur i Mr. Jones. Caed sylwadau gan y iParch. J. E. Hughes, M.A., B.D., Mri. John Williams (Vaynol Road), E. Lloyd Williams, Rd. Williams, T. C. Dowell ac Owen Williams. Diolch- odd Mr. Jones. Ysgrifesau y mudiad oedd Miss L. A. Williams, New Street, ac L. M. Jones, Bod Idris. Dydd Sul diweddaf cynhaliwyd Cyfarfod Ysgol Doisbarth Caernarfon, yng N-Ighroesywaen. Llyw- yddwyd gan Mr. W. Gwenlyn Evans (Engedi). Hysbysvvyd y cynhelir y Gymanfa nesaf yng nghapel Moriah, Caernarfon, Mehefin 10, 1915. Llywydd cyfarfod y prynhawn fydd Mr G. H. Griffiths, (Pontrhythallt), cyn-lywydd y Cyfarfod Ysgol, a'r !Parch. D. Hoskirks, M.A., fydd yn llywyddu cyfar- fod yr hwyr. Holir y plant gan y Parch. D. Hughes, M.A. {Caernarfon), ac anerchir hwy gan y Parch. D. J. ilewis, B.A., W&enfawr. Dewiswyd y toiiau canlynol:-Engedi;'Ilermoi (D. T.Davies) Berlin i(!lil(2); 1:1,1; Glan Elyrch (19); Calfaria (ton anghyhoeddedig o waith y diweddar Mr. Wm. Davies (Rhydychain); Pren Afalau (Wm. Owen, lprysgol); Motgomery; Chant No. 40 (y rhan gyntaf); yr anthemau "Wylwn" (Dr. Paarry), a "Mi edrychaf ar i fyny" (Ilyfr tonau); Tonau plant o'r eiddo Mr. Orwig Williams (organydd Moriah), a T. O. Hughes i(organydd Siloh); hefyd "0 am nerth i ddilyn lesu"; "Pwyso ar ei fraich," &c. Bydd y daflen allan gyda hyn. Dewiswyd y Parch. D. Perry Jones, Rhyd-ddu, yn arholwr am y ddwy flynedd nesaf. Disgwylir i Mr. H. T. Griffitlis, B.A., roddi anerchiad ar adroddiad yr ysgrifenydd yn y gymanfa nesaf. Cafwyd agoriad rhagorol i'r mater, "Nerth gwedai," gan Mr. Rowland AViIIiams, Llanrug, a chaed sylwadau pellach gan y Llywydd, ac ereill. Yn ystod y cyfaxfod hwn adroddwyd rhan o'r Ys- grythyr gan bump o enethod, .a chanodd cor (dan arweiniad Mr. H. J. Roberts, Cae Main). Pasiwyd i gynrychiolwyr yr ysgolion canlynol gyfarfod i drefnu mater gogyfer a'r flwyddyn nesaf: Siloh, Bodfan, Bontnewydd, Beulah, Salem, a Nazareth. Gofynir i'r ysgolion ddewis un o'r tri canlynol yn arholwr am 1915-16—Parchil. R. Thomas, IRA., (Bontnewydd); R. T. Williams, S. A. (Llanxug) a D. J. Lewis,B.,A. (Waelifawi). Owrthododd y Parch. John Owen i'w enw fyned eto o flaen yr ysgolion. Yn drysorydd am 1915-16 dewiswyd Mri. John Owen (Siloh); W. Williams-Jones (Moriah), a J. H. Jones Penygraig). Rhoddwyd hanes yr ysgol yng Nghroesywaen gan Dr. iHughes {yr arolygwr). Yn y prynhawn holwyd y p' a,nt a'r bobl mewn oe I gan y Parch. John Owen !(arholwr). DYFFRYN CLWYD. idydd Gwener. diweddaf cynhaliwyd eyfarfod 1 sefydlu Mr. Hugh Jones, Caernarfon, yn fugail ar eglwysi y Methodistiaid Calfinaidd yn.Bontuchel a Clocaenog, Dyffxyn Clwyd. Yn y prynhawn bu'r plant a chynulleidfa y ddau gapel yn cyfranogi o wiedd ddanteithiol a arlwywyd gan y chwiorydd selog. Yn yr hwyr cynhaliwyd cyfarfod unedig ynghapel Bontuchel. Daeth cynulliad mawr yn nghyd, a llywyddwyd gan Mr. Williams, Plas y Ward—un o frodorion y lie sydd wedi ennill safle aiv.-hydeddus iawn yti y 'crv-lchoedd erefyddol a gwladol. Wedi i Mr. E. Lloyd Williams, Caen-iar- fon, ddarllen ac arwain mewn gweddi, rhoddwyd hanes yr alwad gan ddau o'r blaenoriaid, Mr. David Jones, Bontuchel, a Mr. John Jones, Clocaenog. Siaradwyd yn nesaf gan Mr. E. Lloyd Williams, ar ran eglwys 'Siloh, Caernarfon, He y dechreuodd Mr. H. Jones bregethu. Wedi i'r cadeirydd draddodi araith ddydoorol, rhoddwyd croesaw cynnes i'r gweinidog ieuanc gan y Parch. James Richards, Gyffylliog, a Mr. F. Dowell, Rhuthyn, ar ran Cy- farfod Misol Dyn'ryn Clwyd, a chydnabyddwyd mewn ychydig eiriau jpwrpasol gan Mr. Jones. Siaradwyd ymhellach gan Mr. Joseph Davies, Clawdd Newydd, ac eraill. Adroddodd Miss Hughes, Pare, ddernyn ffraeth o farddoniaeth a gyfansoddwyd ar gyfer yr amgylchiad, a gwnaeth cantorion Clocaenog eu rhan mewn datganu yn rhagorol—yn ol eu harfer. Diolchwyd i'r dieithr- iaid a'r chwiorydd fu'n^parotoi yte ar gynnygiad Mr. Robert Lloyd, Hengoed. Cafwyd cyfarfod gwir dda, a dymunwn bob bendith i MY. Jones yn y dyfodol.

No title

Y mae'r Parch. J. Owen Jones, S.A., y Bala, wedi cyraedd adref i'w hen gartref ym Methesda, wedi bod am daith o rai misoedd yn yr America. Ba ei fam farw tra yr oedd ef yn yr America. Llwyddodd Mrs. Ellis Griffith, priod Mr. Ellis J. Griffith, A.S., a Mrs. Davies, priod Mr. Timothy Davies, A.S., i gyrhaedd adref yn ddiogel o'r Yswis- dir. IDaethant gyda'r trendiwoodaf a basiodd trwy Boulogne. Y mae Lewis Euron Davies ac Arthur Peredur Noel 'Roberts, o Goleg Llanymddyfrt'Baf??d bo'r arholiad am dysty?grif Bwr?dRhydyen, a C!Iiaer4- grawnt. Yn ddiweddar eniHodd (?ramtr Grn?dd J?bei?, o'r un Coleg, ysgolonaettt ???0 .?f f?w"???ddyn. i. y YC b en. Melbn ydyw'f.'t'nt?? J?- Roberts, Mand?dno, arolygyod yag(SM? ? .?.?— ?

CYMRY YNG NGHANADA

CYMRY YNG NGHANADA. (CAN Y PARCH. J. LEWIS, ABERAMAN). V Crow's West Pass. Dychwelais yn 01 drwy y Crow's Nest Pass, ac awn drwy nifer o drefi, mwy a llai eu mhaint; cylch gweithfaol ydyw hwn gan mwyaf. Cerir hefyd ym mlaen gryn lawer 0 waith yn y coed, mewn "lumber camps." Ansefydlog yw llawer o'r boblogaeth, ac y mae llawer o honynt yn perthyn i ddosparth di- fatter iawn. Treuliais noson yn Fernic, a des i gyffyrddia,d a nifer o Gymry yno. Tarewais arnynt mewn lie y cynnelid cyfarfod gan y glowyr nawn Sul. Daeth tri attaf i'r lie yr oeddwn yn aros ynddo, a bu'm yn ymddiddan a. hwy yn hir. Nid oedd yr un o honynt mewn nemawr gydymdeimlad a'm neges. Yr oeddynt yn hollol giaredig, ond addefent nad oeddynt yn meddwl llawer o unrhyw ymgais i ddarpar ar gyfer y Cymry yn eu hiaith, os yn wir i ddarpar ar eu cyfer o gwbl, mewn ystyr giefyddol. Teimlais ar unwaith, os oedd rhywbeth yn boÚbl yn y cylchoedd hyn, mai sefydlu cenhad- aeth yn y Pass oedd yr unig nordd i'w sylweddoli. Prin y gellid gobeithio gwneyd dim mewn unrhyw ffordd arall. Difynnaf o nifer o lythyrau gefais o'r cyffmiau hyn oddiwrth bersonau y daethum i gyff- yrddiad si hwynt- pan yno. Mae y cyntaf yn rhan o lythyr Mr. J. O. Jones, Llywydd yr Alberta Fer- eration of Labour. Ysgrifenna, fel nifer o rai eraill, yn Saesneg:—"As to the coal mining district of Crow's iNest Pass, J do not think it would be ad- visable to go to much expense there, as the people often move from one camp to another. A mission- ary could do a lot of good work, and in time he could centre his work in some camp, and establish a church there. I think that Coleman would be the meet favourable camp as a missionary station. It is in the centre of the mining district, and in that place there has always been a great number of (Welshmen, and the Welsh sentiment fairly strong. It would be well if a young man took this field and made Coleman his headquarters. In a town called! Hill Crest, about six miles east of Coleman, there is a fine Mission Hall built, as I understand, from a fund provided by one Glyn Vivian from Swansea, for foreign mission work amongst miners. This build- ing is of no use in Hill Crest, as they have a Pres- byterian Church there. Were it possible to get this hall removed to Coleman, and a missionary sent there, something could be done. The cost of mov- ing the building would be very small, and a part of it could be so arranged as to make a comiortablek home for the minister." Difynnaf a. ganlyn o lythyr Mr. David Davies, Passburg :Y mae yma yn y parthau hyn luaws o Gymry, ond anhawdd ydyw rhoddi cyfrif manwl a. chywir o'u nifer, gan fod yma gymmaint o fyn'd a dyfod. Mae yma hefyd gynnifer o wahanol genhedl- oedd nes peri i'r nifer fechan o Gymry ddichon fod, fyn'd o'r golwg. Bydd y Cymro, pan allan o'i wlad, yn tueddu i gydffurfio a dullwedd y wlad a'r bobl y daeth iddi ac i'w mysg, ac ni buaswn ym mhell o'm lie pe dywedwn fod mwyafrif Cymry Canada, yn fwy o Canadians na phobl y wlad hon. Ychydig ydyw- nifer y Cymry yn y rhannau hyn sydd yn hollol gartrefol yn Ý Gymraeg, a dewisant. y Saesneg yn ei Me, yr hon iaith sydd wedi cydio gafael dyn iawn hyd yn oed yng Nghymry Cymru, fel yr wyf yn deall. Fy marn ydyw mai braidd yn anhawdd fydd cynnal achos Cymraeg mewn lleoeddi fel y Pass yma, oherwydd cwestiwn yr iaith. Rhwystr arall ydyw y gwahanol enwadau. Nid yw y Cymry yn medru gosod eu henwad o'r neilltn pan yni mhlith eu gilydd. Gwn hyn trwy brofiad, ac y mae sel dros enwad yn peri rhwygiad mewn cynulliad o Gymry yn y paxthau hyn. Fel en- graifft, oddeutu pum' mlynedd yn ol, yn Coal Creek, yr oedd cynnulliad o Gymry yn cyfarfod bob nos Suf yn nghapel y Methodistiaid Wesleaidd, am awr o flaen y gwasanaeth Saesneg. Aeth pethau ym mlaen yn hwylus am beth amser, ond daeth yspryd 'e??wadaeth i mewn, a'r canlyniad oedd i ,Va. fyn'd yn chwalfa." Y dref nesaf y des iddi oedd Lethbridge. Ychydig o Gymry gyfarfyddais yma, er fod cryn nifer. yno pe gellid cael ffordd i ddod o hyd iddynt. Un o ddinasoedd Alberta ydyw Lethbridge, ac y mae hithau, fel ei chwiorydd, yn tyfu yn bur gyflym. Llwyddaie i gael adroddiad byrr oddi yma gan Mr. R. H. Roberts ,sydd yn swyddog o dan y Canadian, Pacific Railway. Dyma fel y dywed Mr. Roberts: "Yr oeddych yn gofyn am adroddiad. Wel, 'does gen i yr un can belied ag y mae Lethbridge yn y cwestiwn. Nid wyf wedi cyfarfod a Chymro er pan adawsoch, ond bu'm yn bwrw Sul yn Calgary, y tro cyntaf i mi fod yn y ddinas fawr hanno. Es i'r moddion Cymraeg nos iSul-Cyfarfod Diolchgar- wch oedd yno, a chynnelid "service of song," ac O'r pangfeydd "hiraeth Cymro am ei wlad," pan glyw- ais y canu hymnau! Mor wahanol i'r Saeson—pawb yn canu, pawb a'i laie ei hun, ac nid rhyw "unison monotonous." Yr oedd yno oddeutu cant mewn nifer, ac yn eu mysg hen gydnabyddion oeddwn wedi colli golwg arnynt er's blynyddoedd, rhai o honynt yn "social wrecks" yn yr Hen Wlad, ond ar eu gliniau yma, y gwahanglwyf wedi syrthio oddiwrth- ynt, ac yn flaenllaw gyda'r achos. Garw ydyw newid "environment" wyddoch. Mae yn Calgary. addoldai hardd, yn wir mae Knox Church yr hardd. af welais etto, ac y mae yno bregethwyr ardderch- og, ond yr oedd y dyrnaid Cymry yn troi eu cefnat* ar yr oil, am yr oruwch-ystalell yn Garbutt (School. Ond cael- bugail da, daw eglwys gref yno. Nict tlodion sydd yno. Yr oedd y casgliad y Sul hwnnw er., a'r iSul cyn hynny yn 42 doler. Rhaict cael capel go gryf yn yr Hen iWl&d i gael casgliadau fel hyn. Yr oedd "diffyg bngail yn amlwg. ,Dood rhyw ddwein o ferched. yn y gwa^naetli»