Collection Title: goleuad

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 3 of 16 Next Last
Full Screen
6 articles on this page
No title

Y PERYGL NEWYDD. Y mae'n ddiameu mai'r peth pwysicaf a ddigwvddodd er's pan ysgrifenasom o'r blaen ydyw ymddanghosiad y cwch tan for Ger- manaidd yn y Sianel Gwyddelig ddydd Sadwrn. Ymosododd ar cair o longau ma.3- nachol Prydeinig a suddodd hwy, wedi rhoddi deng mumid o amser i griwiau dwv ohonynt gymeryd at y cychod, a galw ar long arall oedd gerllaw i gymeryd criw y llall. Llong- au glo oedd dwy ohonynt, sef y Ben Cruachan" o Shields, a'r Ki'icorn," o Belfast. Y "Linda Blanch, un o longau Arglwydd Penrhyn, o Fangor, oedd y ilall. Y submarine oedd yr U 21, un o longau newyddaf a vhryfaf y gelyn yn y dosbarth yma, ac hyd yn hyn nid ydyw wedi dyfod i'r ti-dalf Digwyddoad yr oil o fewn rhyw ddeunaw milltir i enau afon Lerpwl. 1 mae llawer o bethau yn peri fod hwn yn un o'r digwyddiadau pwysicaf yn holl hanes y rhyfel hyd yn hyn. Yn un peth, dengys fod y sub- marines yn medru teithio ymheEach nag y tybid, canys os cychwynodd yr U21 o Wil- helmshaven yr oedd pan ar gyfer --eetwood, tua1,070 o filltyroedd oddicartref, a chaniatau iddi deithio trwy For y Gogledd a heibio Ysgotbnd. Os o Zeebrugge y daeth—ac y mae'n wybyddus fod y gelyn wedi bod yn paratoi submarines yno, ac os trwy'r Sianel Seisnig yr hwyliodd—yr oedd 7;JU o filltyr- oedd oddicartref. Dywedir y gallent deithio, trwy nros yng ngwaelod y inor trwy'r dydd, rhyw clair mil o filltyroedd, ond y mae'n debyg, yn enwedig os nad yw yr U 21 eto wedi cyrliaedd adref, fod yn rhaid iddi gael petrol yn rhywle, ac y mae si, lieb ddim, hyd • y gwyddis, i gadarnhau'r peth eto, iddi fedru cael peth. trwy dwyll mewn pentref glan y mor yng Nghymru*. Drwgdybid ei bod yn rhywle heb fod ymheJtl oddiwrth lannau Cymru rai dyddiau yn ol. Ond y peth sy'n.gwneuthur y digwyddiad yma yn bwysig iawn i ni yn y wlad lion ydyw ei fod yn dangos fod polis; Von Tirpitz o ymosod ar longau masnach wedi dechreu. Trwy hyn ymdrecha'r Ger- maniaid wneuthur yr un peth a'n trafnidiaeth i ni ag a wnaethom ni a'r eiddynt hwy. Pe llwyddent, golygai hynny na ddeuai ond ychydig iawn o longau i'n porthladeloedd ac na hwyliai dim llongau oddiyma; ystyr hynny fyddai prinder bwyd a 'llawer iawn o beth au ereill cyn bo hir a sefyllfa pur ddifrifol. Cyn belled ag y mae ymddygiad y gelyn ger Fleet- wood yn myned, nid oes genym le i gwyno, ond yn hwyr yr un diwrnod suddwyd dwy long arall odcliar Havre, yn hcllol ddirybudd, ac nid oedd ond ffawd a alluogodd y dwylaw i ddianc. Wrth gwrs nid yw peth felly ond llofruddiaeth noeth. Ar y cyfan nid yw y digwyddiad yma., er y cydnabyddir ei bwysig- rwydd gan bawb, wedi cael cymaint o effaith ag a. ornid ar berchenogion llongau mewn porthladdoedd mawr fel Lerpwl. Llongau bychain ac araf oedd y rhai a suddwyd gan yr U 21, a'r syniad cyffredinol eto yw y gall llong fawr a chyflym, os byddis yn fedrus yn fei thrin, ddianc rhag y perygl hwn. Cyrri- harol araf ydyw y submarine ac nid yw ei harfogaet-ii ag eithrio'r torpedoes, ond ysgafn. iWrth gwrs nid yw'n amhosibl y gallasai, trwy ddamwain, suddo llong "fawr gyda tliorpedo, ond pe gwneid hynny gan foddi'r criw cyfodai y fath deim'lad ymhob gwlad forwrol trwy'r byd fel nad allai hyd yn oed wyneb galedwch yr Almaen sefyll yn ei erbyn. Y mae terfyn- au ereill i allu'r submarine hefyd; nid oes yr un ohonynt eto wedi llwyddo i daro yr un o r ilongau sy'n cludo milwyr o'r wlad yma i Ffrainc o'r braidd yn feunyddiol. Y mae'n sicr eu bod wedi ceisio gwneuthur hynny, am resymau digon amlwg, ond y mae'n debyg fod iy llongau hynny yn cael eu bamddiffvn cystal an destroyers fel nad 'ellir cvrhaedd atvut. Pe cynyddai'r perygl oddiwrth y submarines i'n llongau masnachol i raddau mawr, y mae'n bosibi y gellid rhoddi confoi i r rhai pwysicaf ohonynt, fel yn adeg y rhyfel a'r Ffrancod, gan' mlynedd yn ol.Prun bynag, gall y Llywodraeth gvfarfod y perygl newydd trwy yswirio'llongau, ac y mae'n arwydd dda nad yw graddfa'r yswiriant wedi codi agos cyn uched yr wythnos yma ag a wnaeth adeg dechreu y rhyfel, pan oedd y cruisers Ger- manaidd yn gwncuthur pob mor yn beryglus. Y mae'r datblygiad newydd yma yn un difrifol, ond y ma-e modd ei wrthweithio. Ynfydrwydd ydyw son am yr Almaen, gyda hynny o submarines mawr sydd ganddi hi, yn blocadio holl borthladdoedd Prydain.

No title

YNO AC YMA. Naill ai mae prinder mawr yn yr1 Aiinaen neu y maent yn paratoi ar gyfer rhyfel hir iawn. Y mae'r Llywodraeth yno- wedi medd- ianu holl ydau'r wlad, ac yn awr gospdir holl drigolion Berlin ar ddogn o fara. Gan- iateir tua phedwar pwys o fara yn yr wythnos i bob un, heu ychydig tros hannerpwys yn y dydd. Dywedir fod yr awdurdodau wedi eu siomi yn y cynhaeaf y llynedd, a bod y Rwsiaid yn Nwyrain Prwsia a'r Ffrancod yn Alsace wedi difa neu feddianu llawer o yd. Y mae copr yn brin yn y wlad hefyd, ond credwn mai camgymeriad fyddai tybio na Iwyddir i gael digon i ddwyn y rhyfel ymlaen. 0 ddiffvg blawd y cyfycl anhawster penaf y wlad; ac y mae'n rhaid cofio y golyga hynny hefyd ddiffyg bwyd ianifeihaid ac, mewn can- lyniad, ddiffyg cig. Ar hyn o bryd gwneir paratoadau mawr ar gyfer y cynhaeaf nesaf. Y mae llawer o dir newydd yn cael ei aredig ar gyfer yd a phytatws, a throir tir adeiladu yng nghyffiniau'r trefi yn dir ar am y Dibyna gallu'r Almaen i wynebu rhyfel hir ar y cynhaeaf nesaf.—Yn ein gwlad ni y mae prisiau yn parhau yn uchel, ac nid yw'n an hebyg yr ant yn uwch os nad ymgymera'r Llywodraeth a rhyw gynl'lun i'w rheoli. Yn v "Manchester Guardian" am ddydd Gwener cyhoeddwyd tablau dyddorol iawn yn. dangos gwahaniaeth sefyllfa pedwar o deuluoedd yn Manchester cyn ac yn ystod y rhyfel. Mewn un teulu o chwech yr oedd y cynydd yng nghost byw yn 33i y cant, ac yn yr isaf, teulu o dri, yr oedd yn 25i y cant-sef o 10/1 yr wythnos i 12/8|—gwahaniaeth difrifol iawn i deulu yn byw ar gyflog bach. Ac eto nid oes arwyddion amlwg ein bod yn dysgu cynhilo, a chre-dwn pe gwneid' ymchwiliad gan rywrai cyfrifol yn ein trefi, mawr a man, y ceid fod y gwastrafT ar fara yn aruthr.

No title

Y BRWVDRO. II Yr wythnos hori eto nid oes dim newydd i'w ddywedyd am y brwydro, ond. ni ddylai hynhy beri i neb feddwl nad oes ymladd, ac ymladd gwaedlyd a phenderfynol iawn, yn myned. ymlaen o hyd. Ond ychydig a-enillir ar y naill ochr na'r llall, ac, fel y dywedasom yr wythnos ddiweddaf, ni wneir fawr fwy na chadlw'r illinellau heb eu tori nes daw'r arnser i symud yn y gwanwyn. Fe ddaw hynny yn bur fuan bellach, ac y mae'n debyg mai yn Ffrainc y bydd y symudiad cyntaf. Daw'r gwa-nwyn yn gynarach yno nag yn y dwyrain, a dywedir fod y gelyn eisoes yn symud lluoedd o'i filwyr i Flanders, gan dybio, y mae'n debyg, fod y ffosydd ym Mholand yn weddol ddiogel. Y gred gyffredinol ydyw mai trwy Flanders y gwneir yr ymosodiad mawr nesaf y mae amddiffynfeydd y Ffrancod ar hyd ffm Alsace-Lorraine yn rhy gadarn a'u ffyrdd haiarn yn rhy hwylus i'r Almaeniaid fedrll gwneuthur llawer o'u hoi y ffordd honno. Yn Flanders, ar y Haw arall, y mae ganddynt w lad agored yn eu meddiant-, gyda ffyrdd haiarn hwylus. Nid oes modd rhoddi gormod o bwys ar y rhai hynny, canys trwyddynt hwy y galluogir cadfridogion i grynhoi milwyr yn gyflym yn y fan lie bo'u heisiau, ac y mae eu. ffyrdd haiarn gwych wedi bod o gymamt mantais i'r gelyn yn y rhyfel hon a dim sydd ganddynt. Cwestiwn y gellir ei ofyn yn awr ydyw prun ai yr Almaen ynteu'r byddinoedd unedig sydd i ymosod nesaf ? Ni wyddom ni faint o filwyr sydd genym yn Ffrainc yn awr ni wyddom faint o'r fyddin newydd sydd eisoes wedi croesi. Yr oil a wyddom hyd sicrwydd ydyw fod tynged Ewrob yn dibynnu ar yr hyn a wneir ddechreu'r gwanwyn nesaf.

No title

COSB. Gadawyd i Rwsia, gymeryd y mesurau angenrheidiol gyda barbareidd-dra.'r Almaen. Fe gofir i'r Rwsiaidddal Zeppelin a'i chriw wedi i'r rheiny fod; yn tan-belenu Libau, tref ddiamddiffyn, ac yn awr v maent wedi hys- bysu yr Almaen eu bod yn ystyried y dynion ey'n euog o ymosod ar drefi diamddiffyn yn ddrwg-weithredwyr cyffredin. Nid ystyrir hwy yn garcharorion rhyfel eithr yn llofrudd- ion,—ac y mae'n debyg mai tynged llofrudd- ion sy'n eu haros. Yr oedd yn bryd gwn- euthur rhyw brotest fel hyn yn erbyn gwaith yr Almaen yn tori pob L-èddf trwy ymosod ar drefi fel Libau a Scarborough a lladd dynion a gwragedd a phlant diamddiffyn. Y mae'r farn gyhoeddus yn dywedyd fod y Rwsiaid yn eu lie; ceir gwelel a rydd. hyn atalfa ar waith creulon a ffol. iTi S:. cfc

No title

T T ii y DACIA." Wedi hir oedi a llawer o siarad, y mae r Dacia" wedi hwy*lio o Galveston, gyda llwyth o gotwm i'r Almaen, trwy Rotterdam. Yuiddengys nad oes amheuaeth beliach nad ei chymeryd a wna Prydain ac, os bernir hynny yn ddoeth, ei chadw, gan dalu am ei llwyth. Ac nid yw'n debyg y byckl gan y farn gyhoeddus yn America, unrhyw wrth- wynebiad i hynny. Ar y cyfan gellir barnu mai y farn yno ydyw mai cynllwyn ydyw achos y Dacia. i ddwyn y wlad hon a'r America, yn ben-ben. Gwyddis mai A'lmaen- wr o darddiad ydyw Mr. Breitung, a'i pryn- odd, ac y mae ei gydymdeimlad a'r Almaen yn awr; prynodd y llong am lai na haner ei gwerth, ac fe ddywedir ei fod wedi ymrwymo i beidio trosglwyddo ei llwyth i unrhyw wlad arnhleidiol. Gellir barnu fod barn y mwyaf- rif yn yr Uno'l Dalaethau yn erbyn Mr. Breitung, ac na bydd yno rhyw lawer o alax nac o gynwrf pan ddelir y Dacia." Ar yr un pryd. y mae'n fater y dylid symud yn ofalus ynddo. Y mae Llywodraeth yr Unol Dalaethau yn awr yn ceisio pasio mesur i wi euthur prynu llongau tramor yn gyfreith- lon, ond dywedir na fwriedir rhoddi hwnnw mewn grym yn ystod. y rhyfel, hyd yn oed pe pesid ef. &

No title

Y SENEBD. Cyfarfu'r Senedd ddydd Mawrth, a bu yno dipyn o siarad heb fod i unrhyw bwynt neÜltuol, ar y rhyfel. Hysbysodd iNIr Asquith fod ar y Llywodraeth eisiau holl amser y Ty, a mynegodd Mr. Bonar 1.'8w ti syniad am ddyledswydd yr Wrthblaid dan yr amgylchiadau. Dywedodd eu bod yn barod bob amser i hyrwyddo'r ffordd i'r Llywodr-' aeth ond nid olygai hynny nad oeddynt yn cadw eu hawl i feirniadu. Y mae hynny, wrth gwrs, yn hollol iawn. Peth peryglus i wlad fuasai Llywodraeth—boed hi yr oreu mewn bod-heb fod gan neb hawl i'w beirn- iadu a'i holi, a phan y mae'r wasg mewn ^llyffethair i raddau pell, fel y mae'n rhaid iddi fod adeg rhyfel yn ol barn rhai, y mae hawl unrhyw blaid yn y Senedd i ryddid llafar yn dyfod yn bwysig iawn. Sylwn fod rhai pobl ar hyd a llecl y wlad sydd a'i Toriaeth yn dreeh na'u gwybodaeth yn teimlo awydd gosod yrho11 gyfrifoldeb am ein trefniadau arfog ar ysgwyddau'r Llywodraeth. Gwyr jpawb sy'n aros i feddwl uwchben y peth mai y Defence Committee sy'n gyfrifol am amlin- ellu'r trefniadau hynny, ac y mae rhai o bob plaid yn aelodau ar hwnnw—Mr. Balfour yn engraifft. Rhoddwyd dipyn o syllw hefyd i bris bwyd, ond ni wnaethpwyd dim e-.r na phendant ynglyn a hwnnw, ag eithrio addewid Mr. Asquith y ceir diwrnod yn fuan i drafod y mater. Y mae'n bosibi iawn mai dyma- y mater pwysicaf. a ddaw gerbron y Ty. Mater arall pwysig iawn ydyw adroddiad cyntaf y Pwyllgor sydd wedi bod yn ystyried pensi wn- au i wragedd milwyr ac i'r milwyr a anal'lu- ogir i weithio. Codir lleiafswm y pensiwn i weddw heb blant o 7s. 6c. i 10s., 12s. 6c., a 15s. yn ol yr amgylchiadau. Ca gweddw ac un plentyn 15s., neu ragor os bydd dros 35 oed. Cymhellir rhoddi' 25s. yr wythnos am oes i'r milwr a, anaMuogir, gyda, 2s. 6c. yn yr wythnos ar gyfer pob plentyn. Cymhellir codi'r swm a ganiateir i wraig milwr a fo'n gwasanaethu o 12s. 6c. i 17s. 6c. yr wythnos. Ca gwraig ac un plentyn 21s. yn lie 15s.; a dau bJentyn 23s. yn lIe 17s. 6c. a tri phlen- tyn 25s. Gwneir darpariaeth hefyd ar gyfer plant, a adewir yn amddifaid ac ar gyfer plant milwyr os yn amddifad o f am.. Dylai y ffigyr- au hyn wneuthur llawer o les i ymrestru