Collection Title: goleuad

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 4 of 16 Next Last
Full Screen
3 articles on this page
0 r I NODIADAIJR DYDD

.=,.<="<> 0= _r' _<-<- I NODIADAIJ'R DYDD. Chwith fydd gweled yr Eisteddfod heb Eoj Bar. 1 mae'n debyg mai efe, jedd canwr periiil on inwyaf adnabyadus Cymru. a bu ei gysyJtÜd a'r Eisteddfod Genedlaethol yn un nmith ac agos. Brodor o Gaerfyrddin oedd Mr. Daniel Evans, ac yr oedd yn 68 mlwydd oed. Bu'n aelod o gor enwog Caradog, ac ymhlith ei gyfeillion penaf yr oedd y diweddar .Watcyn W ynn. Watcyn Wynn a gyfans- cddodd y rhan fwyaf o'r penillion a ganai'r Eos, a medrai yntau wneud 11awn chwareu teg a 'r larawiadau lleol .ac amserol. Anaml iawn v gellid dweyd, fel y dy wedodd. Dyfed umvaith ockiiar y lvlaen Llog yng Nghaernar- fon, "Eos Dar maes o diwn." 0 un i un y mae cewri'r Orsedd yn cilio. Ym Mangor eleni rhaid cynai Gorsedd heb Marsiant nac Eos Dar, dau wr a, fu'n amhvg iawn gyda'i defion. Amddiffynodd Marsiant y sefydliad a'i gleddyf llym-llawer mwy effeithiol na chleddyf yr orsedd ei hun-bob cyfle a gaffai, ond nid ydym yn sicr nad oedd dawn a swyn Eos Dar yn fwy effeithiol i gadw'r tyriaoedd yn ffyddlon. Y mae gan ganu gyda'r tannau swyn neilltuol i bob Cymro; y mae rhyw arwedd ar y teimlad cenedlaethol yn cael mynegiant trwyddo nad eitir ei gaei mewn un ffordd arall. Perygl yr Orsedd yn awr yw gormod o siarad ac areith- inn meithion, ymfflamychol. Ei phrif am- ,ddiffyniad rhag hyn yw'r Archdderwydd ei hun X mae ti farn a'i synwyr ef bob amser yn werthfawr. Cynhyrfwyd y papurau Saesneg gan y cwestiwn a ddylid rhoddi'r goreu i redegfeydd ,ceflylau yn ystod y rhyfel. Llanwyd""tudal- ennau gan lythyrau o blaid ac yn erbyn a chan adroddiad o drafodaeth y Jockey Club ar y mater. O'r diwedd penderfynwyd myned yrnlaen. Y rnae'n anodd gwybod beth i'w ddweyd am bevh fel hyn. JMallai, fel y dad- leuai rhai, y huasai rhoddi'r goreu i'n holl chwareuon yn rhoddi lie i'r gelyn dybio ei bod hi'n waeth arnom nag ydyw. Ar y llaw arall y mae rhywbeth anaturiol mewn chwareu pan yn ymladd dau fywyd a gelyn cryt a pher- yglus. Y mae cryn lawer o feirniadu'n awr ar y fxwydr ym Mor y Gogledd pan suddwyd y "Blucher.Dywedir na chafwyd eglurhad boddhaol eto paliam y trodd Admiral Beatty yn 01, ac awgrymir fod rhywun wedi cam- gymeryd mewn barn. Os felly, y mae'n rhaid bod yn ofalus rhag condemnio'n drwm. Peth anodd ydyw barnu'n gywir dan bob am- gylchiad. Rhaid fod hynny yn olaadwy o anodd mewn brwydr ar y mor, pan fo'n rhaid penderfynu mewn munud a gwybod y gall bywydau miloedd ddibynu ar y pendertyniad. —*— Codwyd cwestiwn y Cymraeg unv/aith eto pan fu Pwyllgor Iechyd sir Ddmbych yn penodi gwemyddesau yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd Miss Gee yn ol ei harfer yn gadarn dros yr laitb. I)a iam, meddai hi, "a gvmerai ei dysgu gan nyrs na fedrai siarad Cymraeg wrthi?" Yr oedd pobl ereill yn credu mai mewn rhan yn unig o'r sir yr oedd medru Cymraeg yn angenrheidiol. Y diwedd iu ethol dwy Saesnes ac un Gymraes, a phen- derfynu hysbysu am Gymraes arall. Cyn y ceil" trefn a chwareu teg y mae'n rliaid gwn- euthur gwybodaeth o'r iaith Gymraeg yn han- fodol i swydd yng Nghymru, fel y mae medru Saesneg yn hanfodol yng Nghymru. Nid ydym yn gofyn am Gymry ond am Gymraeg. —— Y mae gwaed yn dweyd rhywbeth yn y rhyfel hon, fel ymhobman. Chwaer y Caiser ydyw brenhines Groeg, a dywed y rhai sv n ei hadnabod ei bod yn debyg iawn iddo o ran ei chymeriad. Almaenwr ydyw brenhin Bwl- garia, ac y mae yntau wedi ceisio ei lunic) ei hun ar ddelw'r Caiser hyd y medrai. Y mae'n bosibl iawn y bydd gan hyn rywbeth i'w ddywedyd ar gwrs y rhyfel, canys y mae i frenhinoedd a gorsedd-feinciau fwy o ddyl- anwad o lawer nag yr ydym ni yn ei sylwedd- oli yn ami. 4" =. Yrnddengys fod rhyw gymaint o duedd amheu bwriadau dirwestol y Elywodraeth ym Mhwyllgor Gweithiol Cymdeithas Ddirwestol Gwynedd a gynhaliwyd ym Mangor y dydd o'r blaen, a chadwyd y cadeirydd, Syr Herbert Roberts, yn brysur. Gofynodd y Parch. Ellis Jones, Bangor, a oedd yna wir a-rgyhoeddiad ar y mater yn Nhy'r Cyffredi-i-i ? Y mae hyn yn ein hadgofio am gwestiwn Arglwydd Mersey i ryw, dyst mewn ymchwil- iad. Yr oedd y tyst yn awyddus iawn i blesio pawb ac yr oedd ei atebion yn hynod amhwys. Bu bron iddo a, llewygu pan ofynodd Arglwydd Mersey, yn ei ddull mwynaf: "A ymaethoch chwi eich meddwl i fyny ar y mater yma,—neu ar unrhyw fater arall?" Gallai ysgrifenydd niedrus, sydd yn cofio hanes gwleidyddiaeth ddiweddar yng Nghymru a Lloegr, ysgrifennu yn ddyddorol iawn ar ddatblygiad gyrfa Mr. Lloyd George ar hyn o bryd. Oddiwrth y datblygiad hwnnw gellid dyfalu'r dyfodol-ond. nid ydym yn sicr a fyddai llawer o sylfaen i'r dyfaliadau hynny. Nid yw Mr. Lloyd George yn dat- blygu ar hyd- y llinellau ystrydebol, ac y mae'n rhaid cael dyn craff iawn i wybod pa agwedd a, ddaw i'r amlwg nesaf. Pa le y mae'r bobl oedd yn credu fod dyfodiad Sosialaeth yn gyfystyr a "diwedd popeth" ? Heddyw y mae Sosialaeth ymar- ferol mewn grym i raddau pellach nag y tyb- iasai y Sosiatlydd rhoncaf yn bosibl flwyddyn yn oJ. Eiddo'r Wladwriaeth yw'r ffyrdd haiarn, y melinau, a'r ffatrioedd. Hi sy'n trefnu gyda'r gweithwyr a hi sy'n siarad a'r meistriaid. Daeth cyflafareddiad gorfodol i fod. Trefnir cyflogau ac elw. Ac y mae dynion goludog yn edrych ymlaen, a hynny heb deimlo fod diwedd y byd ar eu gwarthaf, at dreth incwm a fydd yn .rliywle o haner coron i goron y bunt. Ein hunig wrthglawdd yn erbyn y llifddyfroedd hyn vdyw'r fasnach ddiod. Protestiti, hi'n uchel ei hawl i'w rhyddid i ddinystrio'r wlad. —3^— Am yr wythnos hon yn unig gadawvd, y "Nodmdau Wythnosol" allan i wneuthur lie i'r adroddiad am Seiat Cymanfa Manchester. Credwn y bydd ein darHenwyr o'r un farn a liinnau, sef fod yr anerchiadau a, gafvvyd yno yn neilltuol ddyddorol yn y cyfwng hwn yn hanes y wlad. Anogwn bawb i'w darllen. Daw'r "Nodiadau" yr wythnos nesaf fel arfer; diolch i'n darllenwyr sydd wedi rnvnegu eu gwerthfawrogiad ohonynt. —*— Y mae pregethwyr Cymru yn swyno'r Saeson. Dyma a ddywed y "Christian Com- monwealth" am bregeth y Parch. T. Charles Williams o flaen Cynhadledd yr Eglwysi Rhyddion ym Manchester:— The sermon of Rev. T. C. Williams was not less remarkable. As a serimon it was a work of art, as carefully oonstruct-ed as it wa-si finely delivered. Mr. Williams Jhias made preaching the vehicle of a very pleasing person- ality. He stood before the audience an at- tractive figure, and spoke with a melodious, well modulated voice of the lingering love of God, of the terrilble possibility of God leaving his .people and of his unwillingness to sever himself ,finally and irrevocably from men. In develop- ing these points Mr. Williams used some hu- morous, ibut strictly 'Scriptural illustrations or C.,od's, slow methods of judgment;, as, for instance, that t'ae walls of Jericho did not fall until they had ibeen oompassed about seven days, though they could (have been "scattered with a blast from ¡his \ll1<üuth"-and Mr Williams quoted the quaint remark of a Puritan divine to the effect that it took God one day longer to destroy the walls of Jericho tfaan it did to create' the world. All this illl enforcement of the warning that God may be leaving Europe. Civilisation has marched' on, leaving great em- piresi behind:, like broken ships upon the sands; and it may be so again. The sermon did not lack definite references to. the present situation. Rpeaking of "landmarks"—the things that de- fine and defend—Mr. Williams said that the nation which cuts itself adrift from God is an international meril. Pwy yw'r "Aelod Cymreig*' sydd wedi ysgrifennu i amryw bapurau Cymreig ar y mater? Nid yw'n anodd dyfalu. Fe frad- ychir gwr gan ei arddall cyn gynted a chan ei Vferydd. i.

Y GYNHADLEDD

Y GYNHADLEDD. MESUR OEDI DATGYSYLLTIAD. (At Olygydd y Goleuad "). Syr,—Dymunwn hysbysu y cynhelir Oyn:>o hadledd yn Ysgoldy Clwyd Street, Rhyl, am 1.30 nawn Llun, Mawrth 29ain, i drefnu moddion i wrthwynebu y Mesur uchod sydd yn awr gerbron y Senedd. Taer erfynir ar i holl, Gymdeithasau Rhyddfrydol ac Eglwysi Ymneilltuol Gogledd Cymru, eglwysi Cym- reig L'erpwl, Manceinion, Llundain, a rhanau ereill o Loegr, anfon cynrychiolwyr i'r Gyn- hadledd, a, gwahoddir yno hefyd yr holl wein- idogion Ymneilltuol o bob enwad, a phawb arall a fo'n cydymdeimlo a-g amcan y Gyn- hadledd. PARCH. JOHN WILLIAMS, Brynsiencyn. PARCH. THOMAS HUGHES, Felinheli.

BARN A RHAGFARN

BARN A RHAGFARN. Diarhebion y Dydd. OCHR YR ECLWYS. Pan y gwna dyn anghyfiawnder a cham mawr ag arall, daw bodolaeth yr ihwn gafodd y cam yn gerydd gwastadol ar ei orthrymydd, yr hyn yn y pen draw a'i dwg ef i ddymuno marwolaeth yr hwn y gwnaeth efe y cam ag ef. Felly gyda'r datgysvllt- wyr—ni wna dim llai na, llwyr ddifodiad yr Eglwys y tro iddyn't.—R.C-W., yn "Y Llan." I DI-DDY ODOROL. Ond nid oes dim yn galw am gyhoeddi cynheb- rwng llenyddiaeth yng Nghymru. Y mae'r ysga,-f, mesoedd sillebol yn bur ddi-ddyddorol, ac yn eithaf rfi-niwed, o ran hynny. Ond os tybia rhyw- rai mai y pethau yna sydd yn cynhal colofti yr iaith,' y mae yn bryd iddynt ganu y don Diniwsid rwydd.Anthropos, yn Y Faner." __¥_ RHYW DDRWG. -I F Dyweder a fynner, y mae rhyw ddrwg yn rhywle, naill ai yn ein cyfundrefn addysg neu rywle arall, pan welir plant y pentrefydd amaethyddol yn cefnu yn llu ar fywyd y tyddyn ac yn heigio i'r ardaloedd poblog. Meibion ffermwyr a llafurwyr amaethydd- ol yw torreth ein hysgolheigion heddyw, ond eithr- iad fawr yw gweled un ohonynt yn troi ei sylw i waith fferm.-Cemlyn, yi-i y "Weekly Mail." —^ PWY, HEFYD? Pwy oedd awdur y Ilyfr rhagorol uchod? [Geir- iadur Charles.] Os mai'r Parch. T. Charles, B.A Bala, profer hynny; eithr os arall, profer hynny hefyd. Os digwydd i rywun a ddarlkno hyn ddi- ystyru'r gofyniad fel peth islaw sylw, meddianned ei hun mewn amynedd hyd nes i'r chwilotwyr draethu eu lien, obllegid dichon y daw goleu newydd a bar chwyldroa.d nid bychan ac y'n dysgir i ochel bod yn rhy chwannog i gymryd pethau "yn gan- iataol Ymofyriydd," yn y "Brython." —J jc—> CALARMAD. Mae'r Blaid Doriaidd yng Nghymru wedi attafaelu yr awenau milwrol ac wedi crochfloeddio mai hwynthwy yw'r unig bersonau sydd wedi gwneud unrhyw aberth tros eu gwlad. A chymaint ydyw llwyddiant eu bost a'u lief fel mae hvd yn nod y Canghellor ei hun wedi ei hudo ganddynt; a chv- hoeddi ar Iawr y Ty mai Eglwyswr oedd yn gyfrifol am ddwy gatrawd o'r Fyddin Gymreig! Mor hawdd y syrth y cedyrn ac mor ddiniwed y trv'r cyfiawn yn nydd ei gyfyngder!—" Celt Llundain. — ■ Y CADEIRYDD. Also, nothing may happen the Welshmen are all the weaker (instead of being stronger) be- cause some of their best men are in the Government. It is, moreover, the irony of fate that in this crisis the responsibility for anghting leadership should be ■placed on the shoulders of Sir Herbert Roberts, for a milder warrior never drew a sword or threw away a scabbard. Of real worth and ability, and of un- doubted earnestness, he is above all things a man of peace, and at this moment he cannot be feeling much happier than would a hen on a hot griddle.— "London Opinion." AMOD CYMUNDEB. Gosodiad arall yn y gredo grybwylledig ydyw fod Bedvdd yn amod 'cymundeb.' Nid oes awdur- dod vn y Testament 'Newydd dros y fath honiad. Yn ol rhediad naturiol ymddiddanion lesu Grist gyda'i ddisgyblion," ynos y bradychwyd ef," imeddii cariad diragrith tuag ato—dyna amod cym- '¡tnëEëb. ■" Gwnewch hyn cv caff a am danaf." Cariad, nid Bedydd, sydd i taaenori cymundeb, a dyna amod cadw'r holl orch'ymynion. "0 .cherwch fi, 'chwi a gedwch' fy ngorchymynion." Ond i'r Bedyddiwr a'r Maban-fedyddwyr—bob un fel ei gilydd—newid eu sa.tle o edrych ar y cymundeb,— edrych Mno o safbwynt Cristnogaeth, ac nid o saf- bwynt credo ac arferion yr Eglwys, ni byddai'r cymundeb yn dramgwydd i'r un Bedvddiwr.— Llais o'r Gogledd," yn Seren Gymru."