Collection Title: goleuad

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 5 of 16 Next Last
Full Screen
3 articles on this page
I0 FON I FYNWY Io

0 FON I FYNWY. I o MARW GWEINIDOG. Drwg genym hysbysu am farwolaeth y Parch. W. R. Jones, F.R.G.S., C'onwy, (Llanfairiechan gynt), yr hyn a ddigwyddodd bore ddydd Mawrth, yr wythnos hon. Byrr fu ei waeledd, canys y dydd Mercher blaenorol y tarawyd ef yn wael. Cleddir yng Nghonwy, angladd preifat, heddyw (ddydd Gwener). Ordeiniwyd Mr. Jones i gyflawn waith y weinidogaeth yn 1875. Deallwn nad oedd y paragraff yn y Goleuad diweddaf parthed symud swyddfa Cymdeithas Ys- iriant Cenedlaethol y Cyfundeb o Gaernarfon i Wrecsam yn hollol gywir. Nid cangen-swyddfa Caernarfon yn unig a symudir i Wrecsa-m, eithr un Caerdydd hefyd. Wedi'r symudiad yma, yn Wrec- sam y bydd y brif swyddfa. Ystyrir hynny yn fwy cyfleus. —O— Hyfryd yw gweled y gwahanol enwadau yn gwerthfawrcgi gweinidogiotn eu gilydd'. Difynwn y paragraff a ganlyn o'r "Nodion o A.,bei,-Pi,raw" yn "Y Gwykedydd Newydd," liewyddiadur y Wes- leyaid am yr wytihnos hon:—"Drwg genym golli y D rw! g genym golli y Pareh. R. R. Jones (M.C.) o'n plith, yr hwn sydd wedi ymgymeryd1 a bugeiliooth eglwys Llanaligo. Bu Mr. Jones yma am dros ddeng mlynedd,, ac yr oedd yn fawr ei ibareh yn yr holl audal. Cafodd ein gweinidogion yn Mr. Jones wr hawdd cydweithio ag ef, a, phasrod ei gymwynas. Byiminwn uddo ef a'i deului :bob dedwyddwch yn eu cartref ne- wydd. -0-- Ar glawr adroddiad eglwys Gorphwysfa, Sciwen, ceir rh-ai o ddyddiadau pwysig yr achos. Cychwyn- wyd yr Ysgol Sul yn 1810; agorwyd capel Seion yn 1843; c-orfforwyd yr eglwys yn 1845; agorwyd Gor- phwysfa yn 1894, a bu'r ail agoriadi yn 1907. Ar ddiwedd y flwyddyn yr oedd rhif yr aelodau yn 317, rhif y plant yn 137, a'r cyfanrif, a chyfrif y gwrandawyr yn 750. Casglwyd at y weinidogaeth £ 104 14s. 1tc., a gwnaed ymgais arbenig i dalu'r ddyled. A,t yr amcan yma casglwyd dros £338, heb gyfrif arian y seddau, a rhodd haelionus Mr. D. T, Sims, U.H., un o flaenoriaid yr eglwys, o £ 200. Nid oes yno fugail ar hyn o bryd gan i'r Parch. J. R. Lvans gael ei daro gan afiechyd ac aros yn nhir neilltuaeth yn hir. Da genym ddeall ei fod yn gwella yn foddhaol. Y mae yno un-ar-ddeg o flaen- oriaid gweithgar a ffyddlon, ac y mae'n amlwg oddi- wrth yr anerchiad ar ddechreu yr adroddiad yma eu bod yn gwir ofalu am yr Achos. Y mae'r adrodd- iad wedi ei drefnu yn ddestlus ac yn ddealladwy,— yr hyn na fedrir ei ddywedyd am bob un a ddaeth 1'n llaw. Yn adroddiad blynyddol Eglwys M.C. y Bala ceir hanes dewisiad y gweinidog newydd, y Parch. R. R Williams, M.A. Dyna, y mae'n ddiameu, y digwyddiad pwysicaf yn hanes yr eglwys enwog hon yn ystod y flwyddyn. Enillodd weinidog, ond coil- odd, hefyd, aelod enwog iawn, sef y Prifathraw Ellis Edwards, D.D. Yr oedd y cynawn aelodau ar derfyny flwyddyn yn rhifo 485, y plant 130, aelod- au y Capel Saesneg 30, a'r gwrandawyr 90, fel y mae'r cyfanswm yn cyrhaedd 735. Casglwyd at y weinidogaeth a'r fugeiliaeth gyfanswm o £ 300 5s. 9c., a chasglwyd L233 17s. 6c, o'r swm yna yn y casgliadau wythnosol. Yn ei anerchiad dywed y gweinidog Ni chefais yn bersonol gyfleustra i edrych i mewn i lyfrau casgliad y Weinidogaeth, yn y rhai y cedwir cyfrif wythnosol o gyfraniadau yr aelodau, ond dywedodd yr Ymwelwyr fod y colofn- au gwynion a gweigion yn myned yn llai eu nifer o flwyddyn i flwyddyn, a'r aelodau yn dangos mwy o gysondeb hefyd yn eu cyfraniadau. Y mae pawb sy'n earu'r Achos o lwyrfyd calon yn sicr o fod yn gwerthfawrogi y gras olaf hwn. Gwell genym swm llai, wedi ei gyfranu yn gyson—dyweder, bob wyth- nos neu bob mis,—na swm mwy wedi ei roddi ar ddiwedd blwyddyn; gwell, oblegid ei fod yn ddang- osiad cyw:rach o'n cariadi at yr Achos, ac yn brawf sicrach ein bod yn meddwl yn gyson am Ei Enw Ef. Y mae gwerth ysbrydol y cyfranu i'w weled yn fwy, fel rheol, yn ei gysondeb nag yn ei gyfanswm." --0- I'r rhai sy'n casglii adroddiadau ac yn eu rhwymo, rhoddasai adroddiad blynyddol capel Pem- broke Terrace, C'aerdydd, beth anhawster, canys y mae ei blyg yn fwy na'r rhan fwyaf o'i frodyr. Y mae'n adroddiad trefnus ac ymhlith ei nodweddion arbenig sylwn ar raglen y Gymdeithas Lenyddol am y tymor-a rhaglen ragorol vdyw. Rhif yr eglwys ar ddiwedd y flwyddyn oedd 349. y Cyfanswm y casgliadau misol at y weinidogaeth oedd £ 315 3s. 7c., a dengys y fantolen fod amgylchiadau arianol yr eglwys yn dra boddhaol a'r cyfranu yn helaeth. Sylwn fod cyflog y gweinidog yn cael ei roddi ar wahan yn yr adroddiad hwn,—esiampl y gellid gyda mantais ei dilyn gan eglwysi ereill. Casglwyd L64 12-s. 2c. at gasgliadau Cyfundebol, &c., a C-901 16s. 8c. at yr adeilad a'r organ. Ymhlith aelodau'r eglwys hon y mae'r Parchn. J. Morgan Jones, Evan Rees i(Dyfed), ac E. C. Evans. Yr organydd ydyw Dr. David Evans, ac y mae efe hefyd yn flaenor yno. Yn ei anerchiad dywed y gweinidog, y Parch. John. Roberts, M.A.Er nad oes, ar yr olwg gyntaf, lawer o ddefnydd cysur yn hanes 1914 i ddilynwvr Tywysog Tangnefedd, rhaid i ni fod ar ein gwyliad- wriaeth rhag i'n ffydd wanhau; ac o ystyried ei hanes yn ddyfnach credaf y deuwn i deimlo fod ar- wyddion ynghanol creulonderau a difrod ofnadwy rhvfel am bethau gwell i ddod, ac mai o ganol y tywyllwch hwn y tyrr gwawr dydd gwynnach a gwell, yn yr hwn y bydd cyfiawnder a thangnefedd yn fceyrnasu, a'r deyrnas nad yw o'r byd hwn yn myned rhagddi yn gyflymach." Y mae'r Parch. D. Lloyd Griffith, Llandyfaelog, wedi derbyn yr alwad i fugeilio eglwys, Ebenezer, Llanedi, sir Gaerfyrddin, fel olynydd i'r Parch. R. J. Jones. Dymunwn ei lwydd yn fawr. -0- Dvdd. Gwener cvii y diweddaf bu farw1 Mr. Wil- liam Jones, Llys Aled, Cerrig y Drudion, yn 81 mlwydd oed, a'r dydd Llun dilynol bu farw ei bricd, yn chwech a phedwiarngaiu. Hwy oedd tad a mam Mr. R. H. Jones, y bardd adnabydctua, awdwr "Dnvy Gil y Drws" a'r "Drws Agored", a chydymdeimlu- yn fawrag ef yn' ei brofedigaeth. Yt* oedd Mr. Wiklliam Jones yn flaenor gyda'r Methodist i a id yn eglwys Llanifihangel Glyn Myfyr, ers dros ddeugain mlynedd. —o— Rhif cymunwyr capdl Seion, Llanrwst, ar ddi- wedd y flwyddyn oedd 427. Yr oedd cyfanswm y casgliad eglwysig yn E214 13s. lO^c., a chyfanswm derbyniadau y gronfa eglwysi, gan gynwys yr uchod, yn -1,349 9s. 7c. Heblaw hyn a chasgliadau ereill, casglwyd k45 15s. 9c. at gasgliada-u Cyfundebol. Cynhaliwyd y Gymdeithasfa yno yn ystod y flwydd- yn. Ar hyn o bryd y mae y ddyled ynl P,2,185, a gwneir ymdrech egniol a llwyddianus i'w Ileihap. Yn yr adroddiad hwn ceir anerchiad gan y gwein- idog, y Parch. William Thomas, a dyfyniadau dydd- orol iawn o hen lyfr cofnodion yr eglwys, wedi eu trefnu gan 'Mr. William Williams, Plas Llecheidd- ior. Cyfeirir at hwnnw mewn lie arall. Yn yr anerchiad y mae gan Mr. Thomas neges at yr eglwys ac, yn wir, at yr holl eglwysi. Mewn am- seroedd enbyd a thvwyll fel hyn, beth yn well allwn ni wneud nac atgoffa ein gilydd o eiriau yr Argjwydd lesu, Na thralloder eich calon, credweh yn Nuw a chredweh ynof finau hefyd." -0'- Ðeallwn fod y Parch. T. J. James, Penmachno, wedi derbyn yr alwad unfrydol a gafodd i fugeilio eglwysi Llanelwy a Chefnmeiriadog. Brodor o Nantglyn ydyw Mr. James, a ganed ef yn 1875. Cafodd yrfa ddisglaer yng Ngholeg y Bala, ac yn 1900 aeth y? fugail i Lanbedr, Meirionydd. Yn 1903 y symudodd i Benmaehno, fel olynydd y Parch. H. Harris Hughes (Princes Road yn awr), a chym- erodd ran amlwg ym mywyd yr ardal yno. Gweitb- iodd dros addysg, ac y mae'n aelod o'r Cyngor Plwy', y Cyngor Dosbarth, a Bwrdd y Gwarcheid- waid. Yr oedd yn llywydd ei Gyfal'fod: Misol yn 1913, ac y mae ei wasanaeth fel arholwr ysgolion yn y cylch wedi bod yn werthfawr iawn. Y mae yn gerddor pur dda, a bydd hyn yn fantais fawr iddo gyda'r dosbarth ieuanc yn neilltuol; ac yn y ffaith ei fod yn anterth ei nerth, fe all eglwysi Llanelwy a'r Cefn obeithio am ei oreu. Wele rai o gyferbyri- iaidaii y ddwy eglwys yn Llanelwy (gan gynwys Cefn Meiriadog ac Ysgol y Waen) ar Penmachno: y mgyrau cyntaf yn golygu ei ofalaeth newvdd er blwyddyn sefydldad yr eglwysi, 1796-81801. Yr holl 295-269; yr holl wrandawyr, 490-373; cyfanrif yr Ysgol, 324-304; dyled bre- sennol, £ lao—- £ 1,034. Cyfartaledd y casgliad eg- lwysig ar gyfer ipob cyflawn aelod—Llanelwy, lis. '5!e.; Cefn Meiriadog, 8s. 4-1,c.; Peamachno, 7s. O.lc. Yr ydym yn hyderu y bydd bendith yr Arglwydd yn gorphwys ar ei weinidogaeth a'i lafur "vn ei faes newydd.—D.H. —-O—— DYDD YR YMWELIAD. Bu diwrnod y chwareu, Yn ddifyr ei oriau, A ninau fu lawenein lIef; Ond dilyn ei gamrau Wnaeh dydd y sylweddau— Dydd bywyd ac angeu yw ei. Mae'n ddydd tynu arfau, A chwifio banerau- Ymrestru i rengau y gad; Dydd sefyll neu .syrthio, i Nid dyd-d y petruso, I roddi gwael esgus nacad. Mae'n ddiwrnod i daro, Ac Ilid i freuddwydio, A siarad am dano, o draw; Clyweh ruad tabyrddau, A swn y magnelau- Mae'r gwron a'i gledd yn ei law. Nid ffydd heb weithredoedd All symud mynyddoedd, A sefyll tymhestnoedd y byd, Tra bloedd y gorthrymwr, A chri y dyngarwr, Daw'r arfau yn esmwyth i gyd. Mae'n ddydd y chwyldroad, A ehorn y deffroad Sy'n galw ei rengoedd yn nghyd; Nid gweddus y delvn, Tra chechwen y gelyn, A'i fygwth mewn ymffrost. o hyd. Mae'n ddydd yr aberthu, A'r hunan-ymwadu, ,J brofi ein eariad a'nffydd; Pa fodd caed ni'n deilwng, I afael heb ollwng, Dan bwysau ystorm y fath ddydd! Ein Tad yn y nefoedd! Wyt Frenin brenhinoedd, A. llywydd byddinoedd y byd; Boed glir Dy arwedniad, Yn nydd Dy ymweliad, I ddeall*dv alwaa i zvd. J. J. DREFNEWYDD.

NODIADAU SENEDDOL

NODIADAU SENEDDOL. SAFLE CYMRU. Y SOSIALAETH NEWYDD. Diangenrhaid i mi ydyw ysgrifenu ar Ddatgys- ylltiad yr wythnos hon. Y mae y wasg Gymreig yu llawn o'r hanes. Fe gofia eich darllenwyr i mi aW- grymu rai wythnosau yn ol beth oedd y safle a beth oedd y perygl. Y mae yr aelodau yn teimlo fod eglurha,d Mr. Asquith ar ei ran ei hun yn bur fodd- haol, ond gwrthodant ddweyd pwy sydd i'w feio; dyddorol fyddai clywed barn Mr. MoKenna am y Canghellor, a barn Mr. Lloyd George am yr Ysgrif- enydd C'artrefol. Yr oedd amryw Gymry adnabydd- us yn y Gallery ddydd Sadwrn, ac y mae mynediad iddi erbyn hyn yn rhydd, heb eisieu caniatad un- rhyw aelod. Gwelais y Parch. Elvet Lewis yno, a'r Paxeli. R. Richards, Cerrigydruidion, ac amryw eraill. Teimlai yr aelodau Rhyddfrydig o'r bron yn fwy ffyrnig na chynrychiolwyr Cymru, ac ymfal ii- iant J,n y ffaith fod yr aeloidau Cymreig wedi gor- fodi y Llywodraeth, yn ngwyneb llawer o anhaws- terau, i ohirio pob trafodaeth ar y Mesur. Anawdd gwybod beth i'w ddweyd am araeth y Canghellor. Yr oedd yn anisgwyliadwy i'r mwyaf- rif, ac yn awgrymiadol i eraill, ond ai teg iddo aw- grymu fod ei gyd-genedl yn analluog i gymeryd, golwg eang ar bethau oherwydd eu bod yn gwrthod. derbyn ei syniadau ef ar gwestiwn ag y mae wedi gwneyd mwy na neb arall i godi teimladau uchel yn ei gyleh? Nid oes a fynwyf a'r ddadl ynghylch ystyr y Mesur, ond gwell genyf fam yr aelodau sydd tu allan i'r Weinyddiaeth na rhai sydd yn or-brysur a gwleidyddiaeth y byd. DISTA. WRWYDD. Un petii, iodd bynag, sydd yn achosi peth siarad yn y brifddinas, yw distawrWydd rhai o'r aelodau Cymreig, ac yn enwedig rhai o'r gweinidogion Yir neilltuol jug Nghymru. Ai gwir eu bod wedi derbyn Ilythyr cyfrinacliol oddiwrt'h y Canghellor? Artgofia hyn n am ystori glywais y diwrnod o'r blaen, nid ganFethodist ac nid am Fethodist. Y c westiwn oedd, paham yr oedd newyddiadur neilltuol mor ddistaw, a'r eglurhad a gynygid oedd fod y Cang- hellor wedi bod yn gwrandaw ar y golygydd yn siarad, ac wedi ei wahodd i frecwast yn Downing St. Dyjia'r stori. CYMDEITHAS NEWYDD. Un o r cymdeithasau sydd yn raddol enill dylan- wa.d yn Lloegr yw yr Union of Democratic Con- trol," er na welar fod ond un aelod Cymreig, sef Mr. E. T. John, yn aelod o honi. Amcan y gymdeithas yw sicrhau mai y werin sydd i benderfynu polisi tramor y gwledydd fel y penderfynant bolisi cartref- ol Prydain. Tybiant, o bosibl yn anghywir, y buasai polisi tramor gwahanol ar ran y wlad hon yn ystod y deng mlynedd diweddaf wedi osgoi y rhyfel. Pa un bynag am hynny, hawliant y dylai'r werin gael datgan ei barn ar amodau heddwch, ac ar hyn o hryd y maent yn cynhal cyfarfodydd drwy'r wla;d, er pwyo hynny i sylw y Llywodraeth. Y mae -y Pwyllgor yn cynwvs Mr. Arthur Ponsonby, A.S., Mr. Charles Trevelyan, A.S., o blith Rhyddfryd- wyr; Mr. Henderson, A.S., a Mr. Ramsay Mac- donald ar ran Llafur Mr. Norman Angell. Mr. J. A. Hobson, Mi. Israel Zangwill, o fysg ysgrifenwyr ad- nabyddus. CYFNEWIDIAD. Un o'r pethau mwyaf awgrymiadol o'r cyfnewid- iad mawr sydd wedi cymeryd lie yng ngogwydd y. Llywodraeth. at gwestiynau arianol a llafurawl yw eu gwaith-drwy y mesur ddygwyd i mewn gan Mr. Lloyd George—yn eymeryd meddiant o weithfeydd cwmniau a phersonau unigol heh hyd yn oed ym- gymeryd a rhoddi hawl gyfreithiol iddynt hawlio ad- daliad. Yn ygorphenol dadleuid fod rhyw ddeddf- 'au a elwid yn economic laws yn gweithio mewn cymdeithas ac yn penu, ar unriiyw ymyriad o'r tu allan, beth oedd l'han cyfalaf a thai Laafur i fod o'r- budd. Yr oedd y deddfau hyn, yn ol a ddywedid, mor sicr a diwyriad yn eu gweithrediad a deddfau natur ei hun. Deddf gofyn a chynyrchiad oedd i benderfynu pob cwestiwn rhwng cyfalaf a. llafur; ond, fel y dywed y Manchester Guardian," ddydd ISadwrn, yr ydym yn awr dan Sosialaeth rhyfel. Mae y Llywodraeth wedi cymery.d meddiant o'r rheilffyrdd, o'r llongau, o'r gwageni, o dir ac adeil- adau o bob math, ac ynawr y maent yn cymeryd meddiant, heb ofyn caniatad y perchenog, o ffactri- oedd a pheiriannau, ac yn gorfodi ei weithwyr i fyned i wasanaeth y Llywodraeth. Amcan hyn. wrth gwrSi yw hyrwyddo cynyrchiad yr hyn sydd yn angenrheidiol at y rhyfel. Gwna hynny trwy sicrhau mwy o gynildeb a llai o wastraff ar amser ac arian, ond fe gofir mai dyma ddadl y Sosialiaid ar hyd y blynyddoedd, a dyddorol fydd gweled ffrwyth y symtidiad hwn o eiddo y Llywodraeth. Deallaf mai i Mr. Lloyd George a Mr. Balfour y mae y cynllun i'w briodoli. Yn wir dychymyg y Cymro sydd yn rhoddi ffurf i ddyheadau y Sais araf ac ymarferol. Gy,da I l a-w, Gyda Haw, y Golygydd, ac nid G., oedd yn gyfrif- ol am gysyiltu enw 'Mr. John Owens, Caer, a Sir Fon. Etholaeth arall oedd mewn golwg genyf fi. G.

No title

Cymro, y Parch. iSirhowy Jones, ydyw llywydd Undeb Annitoynol Kent am y flwyddyn. oedd yn croesawu Archesgob Caergrawnt i'r Undeb yn Maidstoiue, y dydd o'r blaen.