Collection Title: goleuad

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 7 of 16 Next Last
Full Screen
3 articles on this page
CYMDEITHASFA LLANIDLOES

waith, ac ychydig iawn a welodd ef yn y canteens yfed, tra yr oedd y lie bwyd ynjlra phrysur. Dywedodd y Parch. John Ovftff, Caernarfon, iddo fod y noswaith flaenoroi mewn 'cyfarfod gweddi yn Park Hall gyda Mr. iHoskins ,ac yr oedd yn amlwg oddiwrth y gwasanaeth eu bod. ymhlith bechgyn gweddigar. Yr oedd hefyd yn amlwg fod yr adeil- ad oedd yn awr gan y Cymry yn llawer rhy fychan i wneyd chwareu teg a hwynt, a hyderai ef y rhoddai y Gymdeithasfa ei chefnogaeth i apel Mr. Hoskins. Y Parch. John Williams, Brynsiencyn, a ddymun- at wybod paham yr oedd yn rhaid i'r adeilad oedd gan Mr. Hoskins yn awr fod mor bell o gyrhaedd y bechgyn Cymreig. Wrth gwrs, gallai yr awdurdod- au milwrol eu trin fel y mynont os y caniateid ddynt. Gwneid ymgais i sathru ar ormod o bethau ^erthynol iddynt fel C ymry. Nid oedd synwyr mewn fod caplan Cymreig yn gorfod byw mor bell oddiwrth y milwyr oedd o dan ei ofal., Engraifft arall ydoedd o ormes y Saeson o dan y rhai yr oedd- ym wedi byw er's rhai misoedd yn awr. Pe gwy- buasai ef am sefyllfa pethau yn gynt buasai wedi myned i Groesoswallt, a gwneyd ei oreu i geisio eu gwella. i(Cymeradwyaeth). Haeddai Mr. Hoskins bob cefnogaeth oddiar eu llaw, ond yn sicr ni ddylai y Cyfundeb wneyd yr hyn a ddylai y Llywodraeth ei wneyd ei hunan, a'r hyn a wneir i enwadau ereill. Paham y dylai yr Eglwys Sefydledig, er engraifft, gael popeth bron y gofynir am daiio, tra y gofynid gan y Methodistiaid wneyd pethau drostynt eu hunain? Y Parch. D. Hoskins a ddywedodd, mewn ateb- iad, nad oedd y Llywodraeth yn darparu ar gyfer yr un enwad mwy na'i gilvdd yn Park Hall, ac ni • wnaent hynny ar gyfer yrEglwys Sefydledig. Yr oil a ddarperid oedd adeilad i'r caplan. Yr hyn a wneir gan yr Eglwys .Sefydledig oedd myned i ad- eilad Cymdeithas Gristionogol y Gwyr Ieuainc, ac yn hynny yr oeddynt ar y blaen ar yr enwadau eraill. Yna hysbysodd Mr. Hoskins iddo yn ddi- weddar geisio cael ffigyra,u yn dangos nifer y Meth- odistiaid Calfinaidd oedd ymhlith y milwyr yn Park Hall. Gofynodd i ddechreu i'r Brigade-Major, ond nid oedd hwnnw erioed wedi elywed son am danynt. iChwerthin). Ysgrifenodd wedyn i brif swyddfa yr adran, a'r ewbl a gaiodd oddiyno oedd. rhestr o wahanol enwadau heb fod yn cynwys y Methodist- iaid.. Yna anfonodd at yr awdurdodau i egluro fod y Methodistiaid yn gangen ar ben ei hun, ac fod y Swvddfa Ryfel yn eu cydnabod felly trwy benodi caplaniaid iddynt. ;Erbyn hyn, deallai ef i(Mr. Hos- kins) fod gorchymyn swyddogol wedi ei roddi i ddarparu y ffigyrau. Cadwai yr Eglwys 8efydledig ei parade yn yr awyr agored, ac am fod hynny yn fwy eyfleus ai ugeiniau, os nad cannoedd, o Fethod- istiaid yno. Dymunai y Parch. 'H. E. Griffith i'r Gymdeith- asfn. beidio bod o dan gamargraff fod bechgyn perth- ynol i'r Cyfundeb yn cael yehwaneg o anhegwch nag eraill. Er fod yr adeilad oedd gan Mr. Hoskins ym mhell oddiwrth y milwyr Cymreig, eto safai yn y rhan canolog o'r wersyllfa. Nid oedd llawer o drais na gormes yn y cyfeiriad hwnnw beth bynag. Ar gynvgiad Mr. John Owen, penderfynwvd cyf- lwyno yr holl fater i bwyllgor Cenhadaeth y Milwyr, gydag awdurdod i weithredu.

Ail Cylarf od y Gymdeithasfa

Ail Cylarf od y Gymdeithasfa. ( Y CENHADAETHAU CARTREFOL. Nos Fawrth bwriedid cael cyfarfod Cymreig a hyfarfodSaeisnig i drafod mater ynglyn a'r Cen- hada,ethau Cartrefol, ond tybiwyd mai doethach fyddai uno y ddau. Qyuhaliwyd hwnw yng nghapel Bethel, ac yr oedd bron yr oil o'r anerchiadau yn Saesneg. Cymerwyd y gadair gan Mr. Edward' Jones, Maesmawr Hall, trysorydd y Genhadaeth Gartrefol, a dechreuwyd y gwasanaeth gan y Parch. iR. G. Jones. Bwriodd y Cadeirydd olwg dros ddechreuad a chynvdd y Genhadaeth Gartrefol. Amcanwyd hi i ddechreu i wasanaethu Maldwyn, ond erbvn hyn yr oedd wedi estyn ei changenau i O.ledd Lloegr, ac hyd yn oed dros y mor i'r Iwerddon. Llawenydd iddynt oil oedd fod cymaint o lwyddiant wedi dilyn ymdrechion y Genhadaeth a'i gweithwyr yn y gwa- hanol ganolfanau. 'Da oedd hefyd ganddo hysbysu fod y Genhada.eth mewn ystyr arianol, er wedi bod ttewn dvled am lawer o amser, wedi gwella yn fawr yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, gan fod.gweddill o 92p. mewn llaw. fCymeradwyaeth). Anerchwyd y cyfarfod yn gvntaf gan v Parch. H. eu hapel am gynorthwy nid i gymdeithas ddifraw a chysglyd ond un oedd yn weithgar ac yn parhau i lwyddo. Yn vstO-l v chwe' blynedd diweddaf casglodd eglwvsi cenhadol cyleh Manchester 175p. at y Genhadaeth", sef 40p. yn fwy nag a wnaeth eglwysi ereill v Cyfundeb yn yr un ,cylch. Yn yr un eg- hvysi "cenhadol yn ystod yr un cyfnod dychwelwyd 94 o bersonau o'r byd tra yn y lleill yr oedd y iiifer yn llai o 18. Yn nghylch ilJerpwl hefvd dychwel- wyd 179 i'r eglwysi cenhadol. Gwaith mawr y genhadaeth opdd achub dvnion, ac o hyn cafwyd ftifer o engreifftiau tarawiadol ynglyn a chvmeriad- au oeddynt wedi disgyn yn ddwfn mewn llygredig- aeth. f Dywedodd y Parch. J. Huehes Morris, iLnrnwl, ei fod ef yno mewn gwirionedd fel cynrychiolydd y genhadaeth Dram or, ond erbyn hyn cydnabyddid fod sel at y Genhadaeth Dramor yn enyn sel yn yr in bobl at v rhan "irtrefol ofr p-waitb. Nid gwrth- Wynebwyr i'w gilydd, ond cyd-weithwyr. oedd y ddwy genhadaeth. ac ni chyfla,w)-.ia; yr un Chrfundeb  genhadaeth OP na helaethai ei derfynau yn dramor- o ac y cyfunai hwv gartref. Angenrhaid oedd wrth y Genhadaeth Gartrefol i'w badcrofio o'r dy- Jedswvddau a orphwysent wrth ea drysau. Natur- lollGWll oedd tybied fod mwy o ramant yn perthyn i'r gwaith mewn gwledydd tramor nag oedd gartref, ondyn sicr nid oedd mwy o reality yn perthyn iddo. Eu perygl wrth siarad am y miloedd oedd anghofio yr enaid unigol gartref. Ond ni wneid hynny gan y Genha,daeth Gartrefol. Am bob un y cant a enillid 0'1' byd yn yr eglwysi Methodistaidd yng nghylch Cyfarfod Misol Lerpwl, yr oedd tri neu beawar y cant ynglyn a'r eglwysi cenhadol yn yr un cylch, ac er dangos mor arwyddocaol oedd y ffaith hono, nid oedd ond eisieu cofio y buasai ychwanegiad cyffelyb trwy eglwysi y Cyfundeb yn golygu cynydd o 5,000 o aelodau mewn un flwyddyn. Bendithiwyd yr eglwysi yn Lerpwl a diaconiaid ardderchog, a'r unig beth a'u cadwai rhag ymneillduo i fyw yng Nghymru oedd eu hymlyniad cryf wrth yr achosion cenhadol. i(Cymeradwyaeth). Onibai am ofal y cenhadon buasai cymeriadau cannoedd o Gymry Ler- pwl wedi myned yn ddrylliau, ac yr oedd gwaith felly gymaint ar linellau Duw ag oedd cynorthwyo y miliynau mewn gwledydd tramor. Trist iawn oedd gweled difaterwch rhai o'r tuallan i'r eglwysi gyda golwg ar achubiaeth y byd; ond llawer mwy trist oedd gweled difaterwch y rhai oedd o'r tu fewn. Cyn yr achubid y byd rhaid oedd puro yr eglwys. Rhoddwyd ffeithiau ychwanegol am hanes y Gen- hadaeth Gartrefol, a'i chysylltiad neilltuol a- Mald- wyn, gan y Parch. W. S. Jones, C'aer. Dywedodd yn ddibetrus y byddai cymeryd ymaith y gwyr da a arolygant y cenhadaethau yn Lancashire a Sir Gaer yn golled anrhaethol i'r mannau hynny, yn foesol a chymdeithasol. Gwnant waith mawr pe ond yn unig y symbvliad a roddent i'r iaith Gymraeg ac i wladgarwch Gymreig. Dilynwyd gyda anerchiad aiddgar gan y Parch. R. R. 'Roberts, Caerdydd, ar Pob dyn yn gen- hadwr." Cyfnod ydoedd hwn. meddai, o bryder am gyftwr cymdeithas a dyfodol yr eglwys. Nid Oedd llawer allan o'i le yn eu pregethu, ond ni chredai.eu bod yn gosod y pwyslais yn yr un man ag y gosodai y tadau ef. Hyd o fewn cof y gwein- idogion ieuengaf vn y cyfarfod hwnw yr oeddynt i raddau wedi colli cyffyrddiad a'r back-ground mawr, tragwyddol. Yr oedd o bwys mawr i wybod pa fodd i ymwneyd a'r unigolyn. Haws o lawer pregethu. wrth fil o bobl na siarad wrth y wraig o Samaria, neu wrth Zacheus. a rhaid i ddyn feddu y profiad o achubiaeth ei enaid ei hun cyn myn'd allan i geisio achub ei gyd-ddyn. CYFARFOD Y BLAENORIAID. CYNHALIAETH Y WEINIDOGAETH. Cynhaliwyd cyfarfod y Blaenoriaid nos Fawrth, i drafod cwestiwn cynhaliaeth y weinidogaeth. Llyw- yddwyd gan Mr. Robert Evans, Cefnddwysarn, a dechreuwyd gan Mr. W. Jones-Hughes, Aberdyfi. Agorwyd trafodaeth ar gynygion y pwyllgor gan Mr, Jonathan Davies. Amcan y cynllun oedd cyf- uno eglwysi fel na bo unrhyw ofalaeth o dan 200 o aelodau, a chodi'r casgliad. Rhaid cael yr aelodau i roddi mwy o ystyriaeth i'r casgliad a theimlo eu cyfrifoldeb yn briodol. Gallesid dilyn esiampl yr Ysgotiaid drwy i'r blaenoriaid ymweled a. phob aelod. Pwysleisiodd y Llvwydd yr angenrheidrwydd o wneyd rhywbeth yn uniongyrchol i gyfarfod a gal- wadau trymion heddyw. Yr oedd gwaith addfedu mawr ar yr eglwysi. Dywedodd Mr. W. Hughes Jones fod yr eglwysi yn y gorphenol wedi meddwl mwy am fries a mortar nag am y weinidogaeth. Y peth cyntaf ddylid wneyd oedd argyhoeddi'r swyddogion eglwysig. Yr oedd myrdd ohonynt na welid hwy byth mewn Cy- farfod Misol, a thybient y gwnai ychydig iawn o gydnabyddiaeth y tro i weinidog. Amheuai hefyd a oedd yr arian a gyfrenid at y weinidogaeth yn cael eu gwario bob arnser i'r amcan hwnw. Dylid am- canu at gael is-swm o 50p. fel cyflog am fugeiliaeth. Dylid hefyd arbed arian trwy wneyd y weinidogaeth yn fwy sefydlog. Dywedodd Mr. R. J. Williams, Dyffryn, mai eisiau pregethwyr oedd arnom, ac ond cael pregeth- wyr fe geid yr arian. Ymgymerai ef ag ymweled & phob aelod yn ei ardal ef, ac nid amheuai na chai groesaw ym mhobman. Siaradyd ymhellach gan Mr. William Morris, Rhuddlan: Mr. W. Venmore. ac ereill. Mabwysiadwyd y penderfyniad a garilyn :(1) Ein bod yn llawenhau fod mater hwn yn ei wahan- ol agwedidau yn derbyn sylw y Cyfarfodydd Misol, ac yn gofyn iddynt roddi ychwaneg o ystvria,eth er mwyn aeddfedu barn gyda golwg ar y moddion goreu i gyrraedd yr amcan mewn golwg. (2) Ein bod yn argyhoeddedig y dylid cyfuno gofalaethau a sicrhau i weiuidogion fanteision a'u galluogent i gysegru eu hunain i'w gwaith. (3) Yng wyneb yr amrywiaeth mawr sydd yn ein plith yn y gydnabyddiaeth a rodd- ir i weinidogion, ein bod o'r farn na ddylid talu llai na 45p. am fugeiliaeth, na llai na, 30s. am bob Sab- both. t(4) Ein bod yn argymell y Cyfarfodydd Mis- ol i ystyried pa, fodd i ychwanegu y casgliadau Cyf undpbol. (5) Fod- y CVfarfodvdd Misol i benodi pwvllgor i ddwyn y gwelliantau a awgrvmir i weith- redia.d. (6) Fod Ysgrifenydd Cyfarfod y Blaenor- iaid i agor y mater yng Nghymdeithasfa Bangor. —————.

Trydydd ICyfarfod y Gymdeithasfa

Trydydd ICyfarfod y Gymdeithasfa. GWASANAETH ORDEINIO. Y PARCH. THOMAS CHARLES WIL- LIAMS AR "NATUR EGLWYS." Y CYNGOR GAN Y PARCH. W. WILLIAMS. Cynhaliwyd v gwnsanaeth ordeinio boreu Mercher, o dan lywyddiaeth Llywydd y Gymdeithasfa. Daeth cynulleidfa hardd ynghyd, ar yr achlysur, i gapel China Street. Aed trwy y rhan agoriadoi gan. y iJarch. W. J. Williams, Llanfair P.G. A ganlyn yw y rhestr o'r brodyr a gymeradwy- wyd gan y Gymaeithasfa i'w hordeinio, ac yr oedd- ynt oil yn bresenolMon Hugh (Humphrey Jones, B.A., Brynyrefail a Chaersalem; Arfon: Thomas William Thomas, Llanddulas a Llysfaen; iDyffryn Conwy David Morris Jones, M.A., B.D., Athrofa'r Bala Meirion ;Roberts, E'glwysbach a Bryndaionyn 'Dyffryn 'Clwyd Thomas (Henry Williams, Llanfair- tallutiarn a Thabor; Fflint: William Penrhyn Wil- liams, Crewe; Dwyrain Dinbych: William John Jones, Bethel (Coedpoeth) a'r Nant; Gorllewin Meir- ionydd: Hywel Parry, Rhiwspardyn, Brithdir a Siloh, (Robert Jones, B.A., Engedi a Chwilog; Tre- faldvvyn Uchaf: John Wallace Thomas, Y Graig a Dvlife; Henaduriaeth Trefaldwyn, &c. Robert Morris Roberts, B.A., Tabernacl, Groes a Maes- gwyn; Henaduriaeth 'Lancashire, &c.: David James, B.A., Fflint a Bethania, Watcyn Meredith 'Price, Mancott a Sandycroft; Liverpool: Enoch Rogers, Ash t on in M a k e r fi e 1 d. Traddodwyd yr araeth ar "Natur Eglwys gan y Parch. T. Charles Williams, M.A., yr hwn a seil- iodd ei sylwadau ar loan XVII., 21, Fel y bydd- ont hwy oil yn un," &c. Un o awgrymiadau yr Yspryd Glan, meddai Mr. Williams, oedd y syniad o gael anerchiad ar natur eglwys fel rhan sefvdlog o'r gwasanaeth ordeinio. Nid oedd son am dano yn yr ordeiniad cyntaf. Ar un llaw naturiol oedd dis- gwyl i'r tadau egluro y sefyllfa, ond ar y llaw arall yr oeddynt o dan ddwyfol arweiniad i beidio ey- ffwrdd a. dim a allai beryglu cydweithrediad a hedd- well yr cglwys. Eithr credai i'r tadau wedi hynny, o dan arweiniad yr Yspryd Glan, farnu y dylai ein pobl gael eu dysgu unwaith yn y flwyddyn am hawl- fraint arbenig Eglwys Crist gyda golwg a-r weinidog- aeth y 'Gair. Yn oedd yn wir am Ymneillduwyr yn gyffredinol fod y syniad o ehwad yn prysur farw. Ond yr oedd Eglwys yn fwy nag enwad, ac i'r graddau yr oedd un syniad yn colli tir.dylid rhoddi arbenigrwydd ar bwysigrwydd eglwys. Nid oedd un rhan o wybodaeth ag yr oedd y mwyafrif yn fwy dieithr iddo na hanesiaeth eglwysig—yr un gangeii ag yr oedd gweinidogion yn gollwng eu gafael yn gynt ohoni. Carai ef yn fawr pe y gellid rhywbetb i ail-er.yn eu dyddordeb y ny pwnc hwnnw. Un. effaith o hynny fyddai eu gwneyd yn FethodistiaicT mwy diolchgar, oblegid nid oedd dim yn hanes y byd heddyw yn fwy tebyg i drefniant yr Eglwys foreuol ag oedd y Methodistiaid. Un rheswm, feallai, paham yr oedd y syniad o Eglwys yn colli tir yn ein plith oedd fod y Cyfun- deb Methodistaidd yn gynyrch tri diwygiad mawr, Cristioriogaeth, Protestaniaeth, a Methodistiaeth, a. phob yn olionynt yn brotest nid yn gymaint yn erbyn byd annuwiol ag yn erbyn Eglwys lygreaig. Nid rhy fed d fod y syniad. o .Eghvys wedi myned i golli. Nid oeddym wedi adeiladu. dim yn lie yr athrawiaethau yr ymosodwyd arnynt. Peth arall oedd yn gyffredin yn y tri diwygiad oedd, nid oedd eu harweinwyr wedi dysgu ar y cyntaf eu bod yn sefydlu cangen wahaniaethol o Eglwys. Y syniad ar y Cyiandir oedd diwygio, ac nid gwneyd i ffwrdd ti r Eglwys, ac ar dechreuad Methodistiaeth ni fwriedid gwneyd dim ymhellach na pharhau yn gangen o'r Eglwys Sefydledig. Dyna un on1 peryglon heddyw—y perygl oddiwrth svniadau de- fodol. -Barnai y byddai i'r rhyfel bresenol roddi bywvd newydd i ddefodaeth y Babaeth. Ac os y dywedwn ar un llaw mai nid hono oedd yr Eglwys,. yr oedd gan y byd hawl i ofynJPa beth yw yr Eg- lwys? Y mae cyfeiliornad a ddatgenir yn bend ant yn rhwym o enill tir ar wirionedd a draddodir gyda, difaterwch. Y mae offeiriad byw yn sicr o gael y blaen ar broffwyd diofal. Yr oedd yr oil yn un yn wirionedd a, bwysleisid yn fawr y dyddifeu hyn, a. dyn.-i paham y dewisodd ef ddweyd rhywbeth arno. Edrychid ar undeb yr Eglwys o bedwar cyfeiriad-. yn ei gynwys, ei sylfaen, ei gynllun, a'i amcan. EI GYNNWYS. Yn ei gynwys—" Fel y byddont oil yn un." Tyb- iai hyn amrywiaeth diderfyn heb ddinystrio yr un rhywiaeth. Yn yr Ysgrythyrau cysylltiad undeb a'r Eglwys fel rhywbeth oedd eisoes yn bod; fel rhyw- beth yn perthyn i hanfod yr eglwys ei hun, rhyw- beth o roddiad Duw, ac nid o'n creadigaeth ni. Edryckid arno, ar y llaw arall, fel nod pell i'r Eglwys amcanu ato heb obaith allu ei sylweddoli. Tybiai yr undeb hwn mai cymdeithas oruweh-natur- 101 oedd yr eglwys, ac nid tyfiant naturiol. Galwyd: yr Eglwys gan Dduw, a'r cwestiwn a awgrymid gan- hyn oedd, A oedd lesu Grist, trwv yr alwad hon, yn golygu sefydlu Eglwys weledig? Tybiai rhai nacl oedd Cristioiiogaeth ond dylanwad aiielw;c, ym. mywyd y byd. i'r gwrthwyneb, credai ef (Mr. Wil- liams) fod Crist o'r dechreuad a'i fryd ar sefydlu- Eglwys" weledig..Awgrymiad o hynny oedd yr alwad a roddwyd i'r disgybion ar wahan i'r tor- feydd, a gwelid yr un peth yttglyn ag athrawiaeth y sacramentau. Nid pethau i unigolion ond i Eglwyw yw y sacramentau. Ganwyd yr Eglwys ar Ddydd y Pentecost, a pherthynai yr athrawiaeth o. Eglwys i'r Yspryd Glan, ac nid—a siarad yn fanwl—i Grist. Pfurfiai yr Ysbryd Glan gorph dirgeledig ■Crist yn y byd, a dyna oedd yr Eghvys. Yr oedd o leiaf ddau reswm dros gredu pahamvr ymfKirfiodd y saint cynteng yn Eglwys. Un ydoedd" vr elf en gvm- de:thasol sved mor anhebgorol i natur dyn, a'r Hall oedd y syniad cenhadol. Yn nyddiau yr- A'postolion cymdeithas genhadol yn gyfangwbl oedd yr Eglwvs, nid y genhadaeth yn gangen- ynddi. Yr oedd Paul a Phedr wedi gosod o'n blaen y syniad o Eglwys eang, gyfunol, ysbrydol, ddwyfol, ag oeddI yn un corph trwy holl oesoedd y byd. (Parhad ar tudalent 10),.